26.1.09

Organyddion yn dathlu

Mae Mrs Gloria Lloyd yn dathlu 25 mlynedd fel organydd Capel Gellimanwydd eleni, ac mae Mr Cyril Wilkins yn dathlu 35 mlynedd fel is-organydd.
Hoffai holl aelodau Gellimanwydd ddiolch i’r ddau ohonynt am yr holl wasanaeth maent wedi ei roi i’r eglwys.
Mae eu hymroddiad i’r holl weithgareddau yn enfawr, o’r gwasanethau wythnosol, y Suliau Diolchgarwch, a’r Nadolig - pryd yn aml bydd mwy nag un côr yn canu - i’r cyrddau teuluol a’r Gymanfa Undebol. Mawr yw ein diolch i’r ddau. Rydym yn hynod ffodus o gael dau mor dalentog a pharod eu cymwynas.
Cyflwynwyd rhodd i’r ddau gan aelodau’r eglwys, yn ystod Gwasanaeth Nadolig Plant ac Ieuenctid yr Ysgol Sul, yn arwydd o’r diolch am eu gwasanaeth clodwiw.


Testun dathlu yn wir.

Cyri i Godi Arian i Ty Maggie


Roedd Apêl Nadolig Eglwysi Rhyddion Brynaman i godi arian i helpu’r gwaith sy’n digwydd mewn canolfan newydd yn Ysbyty Singleton Abertawe – Ty Maggie. Fe wyr pawb am yr adran oncoleg wych sydd yn yr ysbyty gyda chleifion sy’n diodef o ganser yn teithio o bell ac agos er mwyn derbyn triniaeth yno.
Mae Ty Maggie yn ychwanegiad at y driniaeth feddygol a gynigir. Mae’n ganolfan sy’n annog cleifion i alw heibio am sgwrs gan fod trafod gydag eraill yn gallu bod yn therapiwtig i’r dioddefwr.
Yr hyn a wnaeth Cymdeithas Capel Moriah oedd trefnu noson gyri yn y Sunderban yn Rhydaman. Diolch i bawb a gefnogodd. Roedd yn noson hyfryd gyda llu o ffrindiau wedi cefnogi’r aelodau. Fe gafodd bawb lond bola i’w fwyta ac roedd y cymdeithasu yn
fonws. Llwyddwyd i godi swm anrhydeddus ac mae’r capel wedi trosglwyddo £675 i gronfa’r apêl.
Ar nos Iau 5 Chwefror bydd cyfraniadau’r holl gapeli yn cael eu trosglwyddo, gyda Liwsi Kim Davies (Protheroe gynt) yn derbyn y siec ar ran y ganolfan. Mae Liwsi sy’n aelod yng Nghapel Hermon yn enetegydd (geneticist) yn Ysbyty Singleton ac yn gweithio gyda chleifion sy’n dioddef o ganser a’u teuluoedd. Gobeithio y daw torf dda i wrando - 7 o’r gloch, Capel Hermon.

Merched y Wawr Cangen GwaunGors

Ym mis Tachwedd Mr Gareth Hopkins Craigcefnparc oedd ein gfir gwadd, a chroesawyd ef yn gynnes atom gan ein Llywydd Mrs Rita Morgan. Cafwyd sgwrs ddyrys a dehongliadol ganddo ar Olwg a’r ystod o wahanol fathau o weld. Ar ddiwedd y noson diolchwyd iddo gan ein Llywydd.
Diolch i aelodau o gangen Y Gwter Fawr am y gwahoddiad i ymuno â nhw ar y daith i Sain Ffagan yn yr hwyr unwaith eto. Cawsom noson hwylus iawn, a’r tywydd wedi dal yn sych.
Yng nghyfarfod ola’ 2008 yn ôl ein harfer cafwyd gwasanaeth i ddathlu’r Nadolig. Y Llywydd sydd yn trefnu’r noson a’r aelodau yn darllen a chanu. Diolch i Rita am wneud y trefniadau. Yna cawsom gyfle i gymdeithasu a bwyta ychydig o’r danteithion mewn awyrgylch hyfryd a chartrefol. Diolchodd Rita i bawb am eu parodrwydd i gymryd rhan.

Y Parchg Gwynfor Phillips -Dathlu 90 oed



Llongyfarchwn y Parchg Gwynfor Phillips ar ei benblwydd yn 90 oed yn ddiweddar. Bu Mr Phillips yn weinidog ar Eglwys Bethesda o 1972 hyd 1984 ac y mae ef a’i briod yn parhau yn aelodau ffyddlon yn yr eglwys. Dymunwn yn dda iddynt ar ddechrau blwyddyn newydd fel hyn.


Yn ystod mis Ionawr caiff dwy eitem eu darlledu ar raglen ddyddiol Wedi 3 a recordiwyd pan fu’r Parchg Felix Aubel sy’n arbenigwr ar hen greirie yn ymweld â’r Undeb. Cafwyd noson hwylus yn Aelwyd Amanw a chafodd ambell un sioc o ddarganfod pris ambell hen beth sy’n drysor iddyn nhw. Ar y llaw arall mae gwerth rhai nwydde, er enghraifft pres, wedi disgyn yn ddifrifol. Diolch i Felix am noson ddifyr.

25.1.09

Dathlu 90 oed

Llongyfarchiadau i Mrs Sarah French ar ddathlu ei phenblwydd yn 90oed. Yn y llun mae Mr Wynallt Richards yn cyflwyno cloc i Mrs French ar ran aelodau Gerazim. Cyflwynwyd y cloc iddi ar gyrraedd ei phenblwydd yn 90 oed ac hefyd am ei ffyddlondeb i Capel Gerazim. Cafodd Mrs French ei bedyddio yn y bedydd agored yn 1937. Mae wedi mynychu Gerazim am 71 o flynyddoedd, pryd hynny yn cerdded nôl ac ymlaen dair gwaith yr wythnos, hefyd mae wedi mynd i
Noddfa am dros 54 o flynyddoedd.

Côr Meibion Llandybie a Chôr Merched Tybie

Gwenodd yr haul yn ystod Ffair Aeaf A b e rg l a s n ey. Oherwydd hyn, er gwaetha’r oerfel, roedd yn ddigon braf i gorau Llandybie ganu yn yr awyr agored. Daeth tyrfa sylweddol i ymweld â’r ffair ac yn gefndir i’r holl weithgareddau fe ganodd y ddau gôr amrywiaeth o garolau i ddifyrru’r ymwelwyr. Mawr oedd canmoliaeth y dorf a’u gwerthfawrogiad wrth iddynt grwydro o amgylch y gerddi yn swn y carolau hyfryd gan werthfawrogi ar yr un pryd tirlun godidog Dyffryn Tywi.

CYLCH CINIO LLANDYBIE

Noson o hud a lledrith oedd ein cyfarfod ym mis Rhagfyr yng nghwmni hawddgar y Parchg Eirian Wyn o Frynaman. Mae Eirian yn ddyn aml-dalentog, - yn weinidog gyda’r Bedyddwyr, yn gyflwynydd gyda’r BBC, cyhoeddwr yn y Gymraeg yn Stadiwm Liberty Abertawe (cartref newydd y Gweilch a thîm peldroed yr Elyrch), yn ogystal â bod yn gonsuriwr dawnus. Noson ysgafn yng nghwmni’r consuriwr Rosfa a gafwyd, a diolch am ein diddori mewn modd mor ddoniol.
Roedd y noson o dan ofal Gareth Jones, Ron Isaac offrymodd y fendith cyn y pryd bwyd, a diolchwyd i’r gwr gwadd gan Arwel Davies.
Yng nghyfarfod Ionawr y Parchg John Walters, ficer Pontarddulais oedd y gfir gwadd. Cewch yr hanes y tro nesaf. Dylsai’r aelodau gysylltu â’r ysgrifennydd Hywel ar 01269 850748 yn ystod y penwythnos cyn ein cy farfodydd os nad yw’n fwriad ganddynt fod yn bresennol. Mae hyn yn holl bwysig gyda trefniadau’r bwyd.

21.1.09

MIRI NADOLIG

Daeth Siôn Corn unwaith eto eleni i weld plant bach Dyffryn Aman mewn Miri Nadolig arbennig.Cynhaliwyd y bore o hwyl i'r teulu ar 29 Tachwedd yn Neuadd Pensiynwyr, Rhydaman ac
fe ddaeth llu o blant a'u teuluoedd ynghyd i fwynhau bore o hwyl yng nghwmni Rosfa y consuriwr ac wrth gwrs i weld y dyn pwysig eu hunan Siôn Corn!
Yn ogystal â’r sioe ac ymweliad gan Siôn Corn roedd yna amrywiaeth o stondinau ar gael a threfnodd y fenter amryw o weithgareddau ar gyfer y plant yn ystod y bore yn cynnwys cornel golff, paentio wynebau a thwba lwcus. Diolch i bawb a gefnogodd y bore hwylus yma a braf yw gweld y digwyddiad yn tyfu’n flynyddol. Edrychwn ymlaen nawr at drefnu Miri’r Nadolig 2009!

Prosiect Fideo Cerddoriaeth Ieuenctid


Prosiect Fideo Cerddoriaeth Ieuenctid Dyffryn Aman Mae fideo cerddoriaeth Partïo’n Saffach i fynd ar daith o gwmpas clybiau ieuenctid yr ardal. Yr wythnos ddiwethaf, yng Nghlwb Rygbi Brynaman, cafwyd lansiad glitsi mawreddog o fideo cerddoriaeth ieuenctid lleol ‘Higher - Uchela’, wedi’i ysgrifennu, ei gynhyrchu a’i berfformio gan yr artist lleol Tom Hamer a 23 o bobl ifanc Dyffryn Aman. Daeth dros 100 o westai arbennig o amrywiol grwpiau a mudiadau lleol i’r digwyddiad ysblennydd yma. Cyflwynodd Claire Mansel Lewis, Uchel-Siryf Dyfed, wobrau a thystysgrifau i’r holl bobl ifanc a fu’n cynhyrchu ac yn perfformio yn y ffilm.
Cyflwyno tystysgrifau ym Mrynaman Cafodd y prosiect dwyieithog arloesol hwn, a arweiniwyd gan ieuenctid, ei drefnu ar y cyd gan Gymunedau yn Gyntaf Dyffryn Aman Uchaf, Cwmni Theatr Mess up the Mess, Menter Bro Dinefwr, Cwmni Teledu Tinopolis a Chyswllt Sir Gaerfyrddin. Cafwyd cymorth caredig i’r prosiect oddi wrth Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gâr, Partneriaeth Bobl Ifanc Aman a Gwendraeth a Fforwm Ieuenctid Aman. Daeth bobl ifanc o Ddyffryn Aman gyfan, o Landybie i Frynaman, at ei gilydd i fod yn rhan o’r prosiect, a diolch am gymorth oddi wrth brosiect amgylcheddol UNA Cyfnewid yng Nglanaman.
Mae’r ffilm yn cynnwys pobl ifanc o bellafoedd byd - o’r Eidal a hyd yn oed Fietnam – pawb yn gwneud eu rhan yn y ffilm!
C a fodd y fideo cerddoriaeth, sy’ wedi’i gynhyrchu mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg, ei greu dros gyfnod o saith mis gan aelodau ifanc BASE a Theatr Ieuenctid Mess Up The Mess ac mae hefyd yn cynnwys aelodau ASBO (All Skate Boarding Outcasts) ac unigolion ifanc eraill.
Wedi’i lleoli mewn parti mewn ty, mae’r ffilm yn mynd i’r afael â’r broblem o bobl ifanc dan oed yn goryfed mewn pyliau, a’r canlyniadau sy’n dilyn hy n . Dywedodd Peri T h o m a s, Rheolwr Celfyddydau Ieuenctid cwmni theatr Mess Up The Mess “ roedd y broses o wneud y fideo yn llwyddiant mawr ac roedd yn cynnwys nifer o bobl ifanc brwdfrydig ac ymroddgar rhwng 13 ac 19 oed. Erbyn hyn, ’dyn ni’n cydweithio ar godi
proffil y fideo cerddoriaeth er mwyn ei ddefnyddio fel offeryn trafod mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid i godi ymwybyddiaeth a d e a l l t w riaeth o sut mae’n bosib mynd ati i
bartio’n saffach”.
Os hoffech chi fwcio’r DVD ar gyfer eich grwp ieuenctid chi neu hoffech gael gwybod sut y gallwch gymryd rhan mewn unrhyw brosiect fideo cerddoriaeth yn y dyfodol, cysylltwch â Peri ar 07966 294 188, e-bostiwch info@ messupthemess. c o.uk neu y dolenni g we fan i’r prosiect trwy www.messupthemess.co.uk

TIM RYGBI YSGOL GYMRAEG RHYDAMAN



Bu bechgyn dewr blynyddoedd 5 a 6 yn cystadlu yng nghystadleuaeth rygbi’r Urdd, Llongyfarchiadau i’r tîm hyn a fydd yn cynrychioli’r ardal yn y rownd sirol yn y flwyddyn newydd. Da iawn bois!

YSGOL GYMRAEG RHYDAMAN


Bu côr yr ysgol, ynghyd â Sara Mai Jones a Martha Angharad O’Neil yn canu deuawd. yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd ar 14 Rhagfyr yng nghwmni Corws a Cherddorfa’r BBC yng Nghymru.
Swynwyd y gwrandawyr gan eu lleisiau swynol. Fe’u dewiswyd wedi iddynt gwblhau clyweliad l lwyddiannus yn ystod mis Tachwedd. Llongyfarchiadau i’r ysgol. Efallai i rai ohonoch glywed y perfformiadau ar Radio Wales dros y Nadolig.
Trefnwyd y digwyddiad i godi arian tuag at gronfa Plant Mewn Angen.

Shane Williams yw chwaraewr gorau'r byd

Mae’n swyddogol mai Shane Williams o Gwmaman yw c h waraewr rygbi gorau’r byd wrth iddo gael ei ddewis yn Chwaraewr y Flwyddyn 2008 gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol. Mae Shane sy’n 31 mlwydd oed wedi cael blwyddyn arbennig gan sgorio 6 cais ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn.
Mae’n rhaid fod yna rhywbeth yn y dwr yn ardal y Glo Mân oherwydd 35 mlynedd yn ôl roedd un arall o frodorion yr ardal yn chwaraewr gorau’r byd sef Gareth Edwards.
Llongyfarchiadau Shane a gobeithiwn am flwyddyn debyg yn 2009
.

20.1.09

TRI TENOR

Cynhaliwyd Cinio Nadolig Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yng Nghanolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, 4 Rhagfyr o dan lywyddiaeth Alun Richards, Tycroes.
Y llywydd a groesawodd y gwragedd a’r ffrindiau a oedd wedi dod ynghyd ar yr achlysur arbennig hwn ac ef hefyd a groesawodd ein diddanwyr am y noson – y tri thenor – John Davies, Llandybïe, Crwys Evans a’i fab Robin Lyn Evans, enillydd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni, ynghyd â’u cyfeilydd medrus, Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre. Cafwyd noson arbennig ganddynt ac fe’n hysbrydolwyd i mewn i naws a hwyl y Nadolig.
Diolchwyd iddynt am wledd o ganu gan yr is-lywydd, Edwyn Williams, Capel Hendre
.

19.1.09

PRIODAS DDA

Gyda holl fwrlwm a pharatoadau’r Nadolig mae’n rhyfedd meddwl fod rhywrai wedi cael amser i drefnu priodas ym mis Rhagfyr!
Ond ar Sadwrn 6 Rhagfyr yng Nghapel Hermon Brynaman priodwyd Liwsi Kim Protheroe o Waun Cae Gurwen a Gareth Davies o Gapel Ifor, Llandeilo.
Roedd y gwasanaeth yng ngofal y Parchg Eirian Wyn a chafwyd darlleniad pwrpasol gan Joan Slaymaker ac unawd addas gan frawd y priodfab, Eirian Davies, sy’n enillydd cenedlaethol. Hyfryd oedd clywed canu un o’r hen garolau mewn gwasanaeth priodas. Yr organydd oedd Walford Morris. Roedd y neithior yn y Ty Newydd, Penderyn.

Dymuniadau da i Liwsi a Gareth.

Dwy galon, un dyhead,
Dau dafod, ond un iaith,
Dwy raff yn cydio’n ddolen,
Dau enaid ond un daith.
Dic Jones

BLWYDDYN NEWYDD DDA

Wrth ddymuno cy farchion cynnes y flwyddyn newydd i holl ddarllenwyr Glo Mân rwyn ymwybodol, fel pawb ohonoch chi, i’r flwyddyn ddechre gyda’r tymheredd yn is o lawer nag y bu am sawl blwyddyn.
Braf cael dwyn ar gof un o’r hen benillion y byddem yn arfer ei ganu fel plant yn sôn am godi’n y bore a rhesi’r tân – ai cyfeiriad at y tân glo agored gyda’r cnape glo yn rhesi sgleiniog arno? Wel tân agored neu wres canolog gwnech yn siwr eich bod yn gofalu am eich hunain yn y tywydd gaeafol yma.
Wrth groesawu 2009 mae mwy na’r arfer o anhwyldere. Mwy yn dioddef o anwydydd neu hyd yn oed y ffliw ac mae adranau brys ein hysbytai tu hwnt o brysur gyda phobl wedi cwympo gan gracio neu dorri asgwrn.
Mae’r hen bennill o’r gyfrol Telynegion Maes a Môr yn real iawn i ni ar hyn o bryd –

Wyt Ionawr yn oer
A’th farrug yn wyn;
A pha beth a wnaethost
I ddwr y llyn?
Mae iâr fach yr hesg
Yn cadw’n ei thy,
Heb le i fordwyo
Na throchi ’i phlu.

Ga’i eich hannog i gadw’n gynnes – gwisgwch ddillad addas a sawl haenen pan fydd yn rhewi. Yfwch ddigon o ddiodydd twym a da chi’r henoed peidiwch a mentro mâs i gerdded pan fydd llwydrew’n drwm o dan draed.
Mae hefyd yn galedu economaidd a bydd y wasgfa ariannol yn gadael ei hôl ar ein dyffryn fel pob ardal arall. O bosib fod y cyfan yn dod yn realiti gyda chau Siop Woolworth yn Rhydaman. Pan yn yr ysgol ramadeg roedd galw yn Woolworth yn digwydd yn weddol amal gan mai fanna oedd y cownter pick & mix. Atgofion melys am daffys blasus.
Eto, ar yr un pryd ry’ ni fel papur yn cofio am bawb sydd wedi neu’n debygol o golli ei waith yn y cyfnod anodd yma.
Pob bendith yn ystod 2009 – Golygydd
Help / Cymorth