28.2.09

Cwrs Coginio Menter Bro Dinefwr

Dros y misoedd diwethaf mae un o swyddogion prosiect Menter Bro Dinefwr wedi bod yn brysur iawn yn creu pecyn bwyd sydd yn gwrs chwe wythnos i blant ysgolion cynradd. Yn y pecyn yma fe fydd y plant yn dysgu sut i osod bwrdd ar gyfer gwledd ac yn dysgu amryw o dechnegau coginio, yn ogystal fe fydd negeseuon bwyta’n iach yn cael eu trosglwyddo trwy gydol y chwe wythnos. Nod y cwrs yw codi hyder plant er mwyn iddynt deimlo’n gyfforddus yn paratoi pryd o fwyd iachus i’w teulu. Ar ddiwedd y chwe wythnos fe fydd y plant yn coginio pryd o fwyd ac yn gwahodd rhiant neu warcheidwad mewn i’r ysgol i flasu'r bwyd.
Cynhaliwyd peilot o’r cwrs coginio yn Ysgol Parc y Rhun gyda phlant Blwyddyn 6 ffrwd Cymraeg yr ysgol cyn y Nadolig.
Roedd y Wledd Fawreddog ar ddiwedd y chwe wythnos yn llwyddiant ysgubol ac roedd y gwesteion wedi mwynhau eu bwyd yn fawr iawn. Y mae cyfres o gyrsiau wedi eu trefnu mewn ysgolion eraill yn yr ardal.

26.2.09

TRENAU YN OL YN Y CWM


Golygfa ddieithr erbyn hyn, ond un a arferau fod yn gyfarwydd i bentrefwyr y Waun oedd ar y sgwậr ddydd Gwener 16eg o Ionawr am hanner dydd. Daeth injin yn tynnu 25 o dryciau gwag lan o’r Cwm ar eu ffordd i waith glo brig East Pit i gasglu glo i fynd i’r Onllwyn, (truenu i’r ‘washery’ lleol gael ei gwaredu). Mae’n debyg y bydd hanner y glo yn cael ei gario ar y rheilffordd, 2 dren yr wythnos ar hyn o bryd. Gobaith Cymdeithas Rheiffordd Dyffryn Aman yw bydd yn bosib i redeg trenau i deithwyr yn y dyfodol. Lleisiwyd gofid am ddiogelwch ar y sgwậr gan nad yw’r clwydi wedi cael eu hail osod, na’r goleuadau yn gweithio, dau bar o ddynion yn dal rhyw raff ậ ‘Stop’ yn unig oedd yno. Syndod oedd hyn o wybod am reolau llym iechyd a diogelwch.

Merched y Wawr Cangen GwaunGors

Yng nghyfarfod cynta’r flwyddyn nos Lun Ionawr 19eg, dymunwyd blwyddyn newydd dda i bawb gan ein Llywydd Mrs Rita Morgan. Llongyfarchodd Mrs Sal Samuel ar ennill llyfr, y wobr am ddatrys posau yn rhifyn y Gaeaf o’r Wawr. Hefyd llongyfarchodd Mrs Mary Jones ar ddod yn fam-gu. Pleser iddi oedd croesawu ein siaradwraig wadd atom unwaith eto sef Mrs Ann Walters o Frynaman. Fy nheulu ac anifeiliaid eraill oedd ei phwnc, ac fel roeddem yn gobeithio a disgwyl, cawsom noson o atgofion a chwerthin. Fel dwedodd mae mor bwysig i gael synnwyr o ddigrifwch, a chwerthin yn dda i’r corff. Mae ganddi ddawn gynhenid i weld yr ochr ddoniol a chof da i gofio helyntion ei theulu. Diolchwyd yn gynnes iddi gan ein Llywydd

24.2.09

PLYGAIN CAPEL NEWYDD


Yn ôl yr arfer cynhaliwyd y gwasanaeth Plygain am 7 o’r gloch ar fore’r Nadolig. Roedd yno naws ryngwladol eleni wrth groesawu Menna a’i theulu o Ganada, Mallt o’r Amerig a Richard ac Anna o Lundain. Cafwyd oedfa fendithiol o dan arweiniad y Parchg Morgan Llewelyn Jones, a chymerwyd rhan
gan Menna, Mallt, Richard, Huw, Delyth, Gerallt a Carwyn.


23.2.09

BLWYDDYN YN FFRAINC


Hyfryd oedd gweld a chyfarfod â nifer o blant y pentref a oedd wedi dychwelyd i Landybie i ddathlu’r Nadolig a’r flwyddyn newydd, - gyda rhai wedi dod hyd yn oed o Awstralia!
Dychwelodd Sara Jones, sef merch Timothy ac Anne Jones, ac wyres Doug a Iona “Y Royal Oak” a Gwyneth Jones, o heulwen Môr y Canoldir! Cynddisgybl Ysgol Gynradd Llandybie ac Ysgol Tregib, Llandeilo, ydyw Sarah ac mae’n dilyn cwrs Busnes Rhyngwladol a Rheoli ym Mhrifysgol Aston, Birmingham. Fel rhan o’r cwrs roedd rhaid treulio blwyddyn yn Ffrainc. Ble gwell nag Antibes, ger Cannes ar y French Riviera?
Mae wedi bod yn Ffrainc ers mis Awst 2008, ac mae’r rhan yma o’r cwrs pedair blynedd yn dod i ben ym mis Awst 2009. Gweithio i gwmni o’r enw Amadeus mae Sarah, cwmni byd-eang sy’n arbenigo yn y busnes teithio,yn arbennig gyda chwmniau awyr ac asiantau teithio. Ar ôl gorffen y cwrs bydd Sarah yn gweithio yn y byd marchnata a gwerthiant.
Mae Antibes, lle mae Sarah yn gweithio, yn un o drefi nodweddiadol ecscliwsif Riviera Ffrainc, gyda harbwr yn llawn llongau drudfawr. Daw miloedd o dwristiaid drwy gydol y flwyddyn i Antibes i fwynhau’r tywydd, y prydfrethwch a’r ffordd o fyw. Gofynnais i Sarah beth oedd hi’n ei fwynhau fwyaf, a’i hateb oedd y diwylliant “laid-back” – gweithio’n galed, ond hefyd mwynhau bywyd hamddenol ar ôl gwaith, - y traethau
godidog yn yr haf a sgïo yn Yr Alpau gerllaw yn y gaeaf. Mae bwyd y môr a’r “baguettes” ffres bob dydd yn rhywbeth arall!
Gofynnais i Sarah beth oedd hi’n gweld ei eisiau fwyaf a dywedodd ei bod yn gweld eisiau’r teulu, yn enwedig coginio’i mam, Pobol y Cwm, Molly’r ci, a siarad Cymraeg. Mae wedi gwneud ffrindiau da, ac mae’r Ffrangeg yn gwella’n araf deg.Wel, diolch i Sarah am ateb y cwestiynau, dymunwn bob lwc iddi yn y dyfodol, ac edrychwn ymlaen i’w gweld hi unwaith eto ’nôl yn y pentref

20.2.09

GWION - YR OLIVER NEWYDD


Mae Glo Mân eisoes wedi cael cyfle i l o n g y f a r c h Gwion Jones o Landybie ar ei lwyddiant enfawr yn cael ei ddewis i chwarae rhan Oliver yn y sioe enwog yn y West End. Bu’r rhan fwyaf ohonom nôl yn yr Hydref yn gwylio’r rhaglen wythnosol “I’ll do anything” mewn edmygedd a gobaith. Ac yn wir, yn llawn haeddiannol, dewiswyd Gwion i fod yn un o’r tri Oliver!
Wel, erbyn hyn, mae’r sioe wedi agor, a Gwion yn barod wedi ymddangos mewn nifer fawr o berfformiadau. Mae ymateb cynulleidfaoedd ac adolygwyr wedi bod yn rhai da dros ben. Ces i’r fraint o weld y perfformiad yn y Theatre Royal, Drury Lane yn ddiweddar, ac mae’n sioe ragorol!
Roedd gweld enw Gwion ar y bwrdd poster yng nghyntedd y theatr, gydag enw’r enwog Rowan
Atkinson, yn dod â lwmp i’r gwddf! Meddyliwch, o Landybie i’r West End! Dyna daith a llwyddiant ysgubol!
Rydym i gyd wedi gweld gwahanol gynyrchiadau o’r sioe boblogaidd, mewn ffilm ac ar lwyfannau bach a mawr. Mae’r cynhyrchiad yma yn sefyll gyda’r goreuon. Mae’n fywiog ac yn fyrlymus, gyda phob agwedd o’r cynhyrchu, - dehongliadau’r prif gymeriadau, yr isgymeriadau, y gerddoriaeth, y coreograffi, y set drawiadol, i gyd yn gelfydd iawn. Ac yna, yn goron ar y cyfan oedd gweld Gwion, y seren leol (ac mi OEDD e’n seren hefyd!) yn chwarae rhan Oliver mor effeithiol, mor naturiol, mor dda. All neb o’r ardal weld y sioe heb deimlo’r balchder mwyaf yn ei berfformiad, yn ei lwyddiant mawr!
Llongyfarchiadau gwresog i ti, Gwion!!

17.2.09

CYNGERDD CAROLAU'R WYL BBC CYMRU 2008





Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 13eg, bu llawer ohonom yn ddigon ffodus i fod yn bresennol yng Nghyngerdd Carolau BBC Cymru yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Aethom fel rhieni a ffrindiau Ysgol Gymraeg Rhydaman i’w gweld yn cymeryd rhan yn y gyngerdd a recordiwyd ar y dyddiad yma ac a ddarlledwyd ddwywaith ar “Radio
Wales”, noswyl a dydd Nadolig.
Dewiswyd corau o bedair ysgol yn Sir Gaerfyrddin – Ysgol Gymraeg Rhydaman, Ysgol Dewi Sant, Llanelli, Ysgol Teilo Sant, Llandeilo ac Ysgol Y Dderwen, Caerfyrddin ynghyd â thri chôr o Ysgolion Baglan, Creigiau a Machen. Hefyd, wedi clyweliadau ym
mhob un o’r ysgolion, dewiswyd Sara Mai Davies a Martha Angharad O’Neil o Ysgol Gymraeg, Rhydaman i ganu’r ddeuawd “Dawel Nos”. Roedd yn gyfraniad hyfryd a gwerthfawr i’r gyngerdd.
Roedd cynulleidfa o dros ddwy fil yn bresennol, ac fe gyflwynwyd rhaglen wir odidog gan Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Ffanfferwyr y Gwarchodlu Cymreig a’r Côr
Ysgolion. Cafwyd unawdau a darlleniadau gan enwogion o fyd teledu a radio yng Nghymru – Lucy Owen, Gareth Lewis, Dafydd Du, William Rees, Garry Owen, yn cael eu cyflwyno gan Louise Elliot, gydag anerchiad effeithiol iawn gan Y Parchg Roy Jenkins. Roedd yn gyngerdd o’r safon uchaf, a braint oedd cael bod yn bresennol. Mae’r llun yn dangos Y Côr Ysgolion a maint yr achlysur. Llun Sara a Martha yw’r un bach. Llongyfarchiadau i bawb gymerodd ran
.
Help / Cymorth