30.4.09

CLWB HWYL HWYR



Ar ddiwedd mis Mawrth i gloi gwerthgareddau'r tymor cafodd aelodau Clwb Hwyl Hwyr Rhydaman barti mawr yn lle chwarae Funtasia yng Nghapel Hendre. Fe ddaeth bron i 20 o aelodau i’r parti ac fe fuodd y plant yn sglefrio, chwarae a mwynhau pryd o fwyd. Fel y gwelir yn amlwg o’r lluniau fe wnaeth pawb fwynhau yn fawr iawn.

29.4.09

EISTEDDFOD YSGOL DYFFRYN AMAN

Eleni Llys Llwyd oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Ysgol Dyffryn Aman. Yn y llun gwelir capteiniad y Llys yn cael eu gwobrwyo gan Mr Steve Perks, Pennaeth yr Ysgol.

28.4.09

CYMDEITHAS YR HENOED

Yng nghyfarfod mis Mawrth, y cyntaf eleni, o achos y tywydd anffafriol, dywedodd y Llywydd Mr Morlais Pugh, ei fod a chwant dymuno ‘Blwyddyn Newydd Dda’ i’r aelodau! Pasiwyd yn unfrydol i ail ethol Mr Morlais Pugh yn Llywydd, a chytunodd yr ysgrifennydd Mr Clive Pritchard a’r trysorydd Mrs Enid Evans i barhau yn eu swyddi. Llongyfarchiadau a diolch yn fawr i’r tri.
Croesawodd y Llywydd Brif Athro’r Ysgol Gynradd Gymraeg ar y Waun, Mr K. Morgan a Mrs S Rees un o’r athrawon, a rhai o ddigyblion yr ysgol atom. Cawsom amrywiaeth o eitemau gan y plant o ganu, adrodd, unawdau ar offerynnau a dawnsio disgo. Cyflwynodd Mr Morgan Cerys Haf Smith i ni, hi oedd yn fuddugol ar ennill y gadair, a hynny am yr eilwaith.. Mae’n debyg taw dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn hanes yr ysgol. Llongyfarchiadau a diolch yn fawr iddi hi ac i’r plant i gyd am ein diddannu. Roedd pawb yn amlwg wedi mwynhau a dyna oedd testun sawl sgwrs yn y pentref drannoeth eu hymweliad. Gobeithio y gellir ei wneud yn achlysur blynyddol. Diolchwyd yn gynnes iddynt gan y Llywydd.
Mae Cerys yn ferch i Geraint a Gail Smith Heol Llwyn, ac yn wyres i Morfydd a Lyn Smith Heol Cae Gurwen, a Linda a Martin Evans Heol y Barri.

27.4.09

CAPEL MOREIA


Dathlu Gŵyl Dewi

Cafwyd noson hwylus yng nghapel Moreia, i ddathlu Gŵyl ein Nawddsant. Mi roedd yna gawl blasus wedi ei baratoi gan y gwragedd o dan arweiniad Mrs. Eiry Davies, ynghyd â phice bach a tharten afal ac ati. Gwledd o fwyd maethlon. Mrs. Einir Jones, Rhydaman oedd y gwestai a gyflwynwyd i’r festri llawn gan y Parch. Dyfrig Rees, Y Gweinidog. Rhoddodd Mrs. Jones ychydig o hanes Dewi Sant a hynny yn eu ffordd ddihafal eu hunan. Pwysleisiodd bod yn rhaid i ni gofio yr hyn a ddywedodd Dewi sef,


‘byddwch lawen, cedwch y ffydd a’ch cred a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i.’


Gellir dweud mai da iawn oedd bod yno. Gwnaed elw o bron £400 ar y gweithgaredd hwn sydd i’w gyflwyno fel rhan o gyfraniad Moreia tuag at Apêl Undeb yr Annibynwyr – Apêl De Affrig

26.4.09

EISTEDDFOD YSGOL Y BEDOL

Cynhaliwyd Eisteddfod ein Nawddsant yn Ysgol y Bedol ar ddydd Gwener, y 27ed o Chwefror. Wedi cael croeso twymgalon gan y Brifathrawes, Mrs Donna Williams, fe ddechreuwyd ar y cystadlu gyda chanu gan unigolion, corau a phartion, ac adrodd gan unigolion o safon uchel dros ben. Yr oedd pedwar llys yn cystadlu yn erbyn ei gilydd a chafwyd hwyl fawr. Arweinyddion y dydd oedd Mr Gareth James a Mr Cefin Campbell. Y beriniaid ar y canu oedd Mr Ian Llewellyn a Mrs Marjorie Rodgers, a’r beirniaid adrodd oedd Mrs Marlene Thomas a Mrs Mair Wyn. Y gyfeilyddes oedd Ms Elen Lord-Rees. Tynnwyd lluniau yn ystod y dydd gan y ffotograffydd amryddawn, Mr Adrian Thomas. Diolch o galon Adrian, ac mae eich lluniau o hyd o’r ansawdd uchaf.
Uchafbwynt y prynhawn oedd y Cadeirio yng nghofal Mrs Mair Wyn a’r enillydd eleni oedd disgybl Blwyddyn Chwech sef Jessica.

Roedd cyn-brifathrawon ysgolion Cwmaman yn bresennol am gyfnod yn y prynhawn a chawsant amser braf iawn yn yr Eisteddfod. Yna fe’u gwahoddwyd i achlysur arbennig iawn gan y Brifathrawes pan fu’r Cynghorwr Dafydd Wyn, Maer Cwmaman, a’r Cynghorwr Sir, Kevin Madge, yn rhoi anerchiad i gyn-Brifathrawon ysgolion Cwmaman, sef Ysgol Gynradd Glanaman, Ysgol Babanod y Twyn ac hefyd Ysgol Gynradd y Garnant. Dadorchuddiodd y Maer y Plac gydag enwau’r holl gyn- Brifathrawon arno a diolchodd o galon am eu llafur caled dros y ganrif. Diolch yn fawr iawn i Mr Darrell Campbell hefyd am wneud y plac yma ac y mae’n bleser i’w weld yng nghyntedd Ysgol y Bedol. Cafwyd bwffe ardderchog a diolchwn i bawb a fu wrthi yn ei baratoi. Mae’n dyled yn fawr i’r Brifathrawes, Mrs Donna Williams a Staff Ysgol y Bedol. Yr oedd yn bleser bod yn bresennol a dymunwn bob hwyl i’r dyfodol.

CYLCH CINIO RHYDAMAN

Hyfryd oedd i ni gael cwmni’r Prifardd John Gwilym Jones, Peniel yn ein Cinio Gŵyl Dewi a gynhaliwyd yn y Mountain Gate, Tycroes nos Iau, Mawrth 5ed. Brodor o Gastellnewydd Emlyn ac yn un o dri brawd enwog Parc Nest yw ein gwestai. Wedi cyfnod byr yn weinidog yn y Tymbl Uchaf symudodd y Parch. John Gwilym Jones i Fangor lle y treuliodd ddeugain mlynedd yn weinidog ar gapel Pen-dre. Yn y cyfnod hyn bu’n darlithio yn y Brifysgol yno ac yn Arholwr gyda’r Cyd-bwyllgor Addysg. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Maldwyn a’r Cyffuniau yn 1981. Bu’n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996 ac mae nawr yn Gofiadur Gorsedd y Beirdd yn olynydd i’r Prifardd Jâms Nicolas.

Soniodd y Parch. John Gwilym Jones am y gwahaniaethau rhwng geirfa’r Gogledd a’r De. Er iddo dreulio deugain mlynedd yn y Gogledd roedd ei eirfa a’i acen yn dal i fod fel brodor o’r De. Mae’n rhyfedd fel mae gwahanol ystyr i ambell air rhwng y Gogledd a’r De ac hefyd y pwyslais ar ambell sillaf o fewn gair yn wahanol rhwng y Gogledd a’r De.

Llywyddwyd y noson gan Alun Richards, Tycroes ac ef a groesawodd y gwragedd a’r ffrindiau a oedd wedi dod ynghyd ar yr achlysur arbennig hwn. Offrymwyd y gras bwyd gan Calvin Davies, Rhydaman ac fe ddiolchwyd i’r prif westai am ei anerchiad diddorol dros ben gan y Parch. Dyfrig Rees, Tycroes.

20.4.09

GELLIMANWYDD, RHYDAMAN

Fel yr arfer ers sawl blwyddyn bellach Cwrdd teuluol oedd gennym ar fore Sul 1 Mawrth.Sara Mai Davies oedd yn ein harwain mewn gweddi i agor yr oedfa. Yna daeth Elan Daniels i gyflwyno emyn. Wedi'r cyhoeddiadau a'r casgliad Mari Llywelyn oedd yn ein harwain yn y Gwasanaeth. Cawsom ddeialog rhwng Dewi Sant ac un o'i ddilynwyr gan Harri Jones a Dafydd Llywelyn. Adroddodd Sara Mai Davies "Neges Dewi".Cyflwynodd Manon Daniels ddarlleniad o'r beibl, sef Mathew18: adnodau 1-6 ac 10-11. Yna gweddiodd Nia Rees ac Elan Daniels. Trystan Daniels rhoddodd yr emyn nesaf allan ac yna daeth y plant lleiaf sef Macy a Catrin ac adrodd "Dewi Sant".


Gadewch i ni gofio

Ein neges bob un,

A gwneud pethau bychain

A charu pob dyn.


Tro Hanna Williams oedd hi wedyn ac adroddodd "Salm y Genedl".Cawsom air gan y Gweinidog drwy ddefnyddio Cenninen fel arwydd i ddangos gwaith pobl yr eglwys.Cyn gweinyddu'r cymundeb rhoddodd Rhys Daniels emyn allan. Yn ystod y Cymundeb cafodd y Gweinidog y plant i gyd i fyny i'r sedd fawr ac esboniodd ystyr ac arwyddocad y bara a'r gwin iddynt.I gloi oedfa fendithiol dros ben cawsom ein harwain gan Nia Jeffers yn yr emyn "Dros Gymru'n Gwlad".Braf oedd gweld cymaint o blant a pobl ifanc yn y cwrdd. Yn wir dydwedodd ein gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees pa mor galonogol oedd gweld y pobl ifanc yn y gwasanaeth ac mai nhw yw'r dyfodol. Hefyd dywedodd Mr Rees mai'r her i ni gyd yw ceisio sicrhau bod pob gwasnaeth yn wasanaeth deuluol

CYMANFA GANU BRYNAMAN

Ar Sul 29 Mawrth yng Nghapel Moriah cynhaliwyd Gymanfa Ganu Brynaman a'r Cylch, pan ddaeth capeli Presbyteraidd yr ardal a chapeli Annibynnol Brynaman at ei gilydd i ganu mawl. Cafwyd dwy oedfa yn ôl ein harfer o dan arweiniad Helen Wyn. Braf oedd gweld oriel y capel yn orlawn yn y bore ar gyfer oedfa'r plant. Y Llywydd oedd David Davies o'r Tabernacl, Glanaman, a chymerwyd at y rhannanu arweiniol gan Megan Lind a Carys Haf o Gapel Moriah a Cerys o Gapel Hermon.Cyflwynwyd dwy gân bwrpasol gan GôrYsgol Gynradd Brynaman o dan arweiniad Alison Stevenson. Mae pwyllgor y gymanfa yn ddyledus i'r ysgol a'i phennaeth Nick Jones am ddod yn flynyddol i gefnogi'r wyl.Mair Thomas (Gibea) oedd llywydd yr hwyr. Roedd y rhannau arweiniol yng ngofal Glesni Euros (Ebeneser ) a Sarah Hopkin (Gibea). Cafwyd eitemau gan ddau o ieuenctid y pentref — adroddiad gan Owain Morris (Hermon) a chân gan Rhian Wyn Thomas (Ebeneser).Yng ngeiriau’r arweinydd, roedd yn braf clywed canu pedwar llais - rhywbeth yn anffodus sy'n diflannu o'r capeli. Yr organydd gwadd oedd Allan Fewster o Langennech— sy'n feistr wrth yr offeryn ac yn hwb aruthrol i'r canu cynulleidfaol.

19.4.09

NODDFA GARNSWLLT

Diwrnod prysur iawn oedd Dydd Gwyl Dewi. Yn y bore cynhaliwyd Oedfa'r Bore gan aelodau'r Ysgol Sul. Diolch i'r arolygyddes Ruddwen Mainwaring am baratoi'r plant. Hyfryd oedd gweld y capel wedi ei addurno gyda blodau'r gwanwyn a hefyd y plant yn eu gwisgoedd Cymreig.
Yn y prynhawn aeth aelodau'r Ysgol Sul i ymweld a chartref Tegfan. Cafwyd croeso twymgalon yno. Gillian Tannock oedd wrth y piano a'r organ.
Aeth 16 o aelodau Noddfa i Tabernacl Llanelli i'r Gymanfa Ganu o dan ofal Catrin Hughes ar gyfer y rhaglen deledu Dechrau Canu Dechrau Canmol. Darlledwyd y rhaglen ar Nos Sul 19 Ebrill a 28 Mehefin
.

OEDFA GWYL DDEWI

Ar fore Sul 1 Mawrth, cafwyd oedfa arbrofol yng nghapel Moriah, Brynaman, pan y cyfunwyd yr oedfa deuluol fisol gydag oedfa gymun. Bu'r plant yn eu, gwisgoedd traddodiadol yn cymryd rhan a chafwyd anerchiad diddorol gan Mel Morgans yn olrhain hanes y cymundeb. Roedd y plant wrth eu boddau yn clywed yr hanes ac yn dysgu am darddiad y sacrament.
I gloi'r oedfa fe weinyddwyd y cymun gan Glynog Davies.
Yn y llun mae'r llu o blant a oedd yn bresennol yn yr oedfa. Roedd pawb yn cytuno fod y cyfan wedi bod yn fendithiol ac yn werth chweil.

DATHLU GWYL EIN NAWDDSANT


Bore Sul, Mawrth 1af, cynhaliwyd gwasanaeth arbennig ym Methesda i ddathlu Gwyl ein Nawddsant. Gwnaethpwyd hynny eleni yng nghwmni’r plant ac aelodau ffyddlon yr Ysgol Sul. Mrs Ann Rowntree, athrawes Ysgol Sul gydwybodol ac aml ei doniau, a fu wrthi’n paratoi rhaglen ar ein cyfer. Croesawyd ni’n gynnes i’r gwasanaeth gan Lywydd yr Ysgol Sul, Mrs Yvonne James. Cawsom y fraint o ganu un o emynau mawr Elfed i ddechrau’r oedfa, “Cofia’n gwlad benllywydd tirion”. Rhag amharu dim ar naws y gwasanaeth, gwnaethpwyd y cyhoeddiadau a’r diolchiadau ymlaen llaw gan Mrs Mair Hughes, Ysgrifenyddes Gohebol y Capel. Carys a Ffion Jenkins, yr efeilliaid, oedd y casglyddion.
Wedi gwrando ar y Côr Plant yn canu “Cofio heddiw a wnawn ni’r plant” a Cerys Phillips yn adrodd “Fe gofiwn Fawrth y Cyntaf”, cawsom y fraint o glywed hanes diddorol Dewi Sant gan Ann Rowntree. Cenhadwr o fynach Cymreig a dysgedig a anwyd yn y chweched ganrif oedd ein Nawddsant ni, gŵr o ymroddiad godidog. Fe sefydlodd gymdeithas fawr o eglwysi rhyddion yng Nghymru a chadwodd gysylltiad agos â’r gweldydd Celtaidd. Magwyd Dewi yn Henfynyw yng Ngheredigion ar lannau Aeron. Yn ôl llinach, perthynai i lawer o saint a thywysogion amlycaf Cymru.
Atgoffwyd ni o’r fynachlog yng Nglyn Rhosyn, lle cyfleus i’r saint o Lydaw, Cernyw, Iwerddon a’r Alban ymgynnull i foli Duw a thrafod pynciau llosg. Roedd Dewi fel ei gyfoedion yn athro da, ond pregethu’r gair oedd ei swyddogaeth gyntaf.
Soniodd Ann am “Fuchedd Dewi” gan Rygyfarch am y tir yn codi dan ei draed pan bregethai er mawr syndod i’r esgobion yn Llanddewi Brefi. Yn sicr dyma ffordd liwgar Rygyfarch o ddangos grym personliaeth ei arwr, dyfnder ei argyhoeddiad, nerth ei resymu, a dylanwad ei allu mawr fel pregethwr. Er mwyn dangos i ni neges Dewi Sant, y gŵr bywiog, cadarn, gostyngedig, dewisodd Ann dair ran o’r Testament Newydd i’w darllen wedi’r anerchiad sef Byddwch lawen – Mathew 5ed, (1-12) Cedwch ein ffydd a’ch cred – Hebreaid 11 (1-16) a Gwnewch y pethau bychain – Marc 10 (13-16). Darllenwyd yr adnodau gafaelgar hyn gan Rhian Jones, Mair Hughes ag Yvonne James.
Un o emynau Rhys Nicholas oedd ein hail emyn. “Dysg i ni garu Cymru”. Fel arwydd o’n parch a’n hedmygedd o waith a phersonoliaeth hyfryd ein diweddar gyfaill Mr Meirion Evans, manteisiodd Ann ar y cyfle i ddarllen penillion addas o’i waith yn y gwasanaeth arbennig hwn. Pleser mawr oedd gwrando ar y plant lleiaf yn canu “Dyn da oedd Dewi” ac yn cydadrodd “Daeth eto Fawrth y Cyntaf”. Offrymwyd gweddi fer gan Mair cyn i’r plant ganu “Dewi Sant” ac i bawb uno i ganu emyn Dave Bilbrough, cyfieithiad Catrin Alun a Sion Aled “Dyro dy Gariad i Gymru”. Yr organyddes oedd Mrs Rhian Jones a’r cyfeilydd oedd Mrs Ann Rowntree.
Diolch o galon i Mrs Sadie Rees am yr adroddiad hyfryd yma ac hefyd i Mr Arwyn Rowntree am dynnu’r llun. Gwerthfawrogaf hyn yn fawr.

14.4.09

CLWB HWYL HWYR – Y Banana Split Enfawr


Nos Wener 6ed Mawrth daeth cefnogwyr Masnach Deg i’r Arcade yn Rhydaman i fwyta Banana Split Masnach Deg Enfawr. Roedd aelodau Clwb Hwyl Hwyr, sef Clwb Cristnogol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6 sydd wedi ei drefnu gan Gapeli tref Rhydaman yno.

Ymgais i greu record byd o ran bwyta bananas Masnach Deg oedd hon. Y prif drefnwyr oedd aelodau Eglwys Efengylaidd Rhydaman gyda chefnogaeth Clybiau Ieuenctid Cristnogol y dref

Yn gyntaf roedd yn rhaid adeiladu'r banana split drwy dorri bananas, wedyn rhoi'r hufen ia ar eu pennau. Yna ychwanegu'r hufen ac yn olaf y saws mefus a siocled. Roedd y canlyniad yn gampwaith ac yn wir cadw at y term Banana Split Enfawr. Braf oedd gweld cymaint yno, yn blant, ieuenctid ac oedolion.

Roedd y gweithgaredd hwn wedi ei drefnu gan glybiau ieuenctid capeli ac eglwysi'r dref, ond yn agored i bawb. Roedd y banana split yn barod i'w bwyta am 6.00 a cafodd pawb hwyl arbennig yn llanw eu boliau. Pa well ffordd o godi ymwybyddiaeth Masnach Deg sy'n ceisio sicrhau bywoliaeth deilwng i gynhyrchwyr y trydydd byd, a chael hwyl arbennig yr un pryd. Yn y lluniau gwelir aelodau Clwb Hwyl Hwyr yn mwynhau’r achlysur.
Help / Cymorth