31.5.09

CYMANFA GANU UNDEBOL RHYDAMAN A’R CYLCH



Cynhaliwyd y GYMANFA GANU UNDEBOL ar Ddydd Sul Y Blodau, 5ed Ebrill 2009 yng Nghapel y Gwynfryn. Braf oedd gweld cymaint o aelodau Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser yn ymuno yn y Gymanfa.

Yr arweinydd oedd Mrs Ann Davies, LLCM, Llanarthne. Mrs Gloria Lloyd oedd yn cyfeilio wrth yr organ.Llywyddwyd yn y bore gan Gapel Hendre a Gosen yn yr hwyr.Roedd Mrs Ann Davies ar ei gorau yn Gymanfa'r Plant gan lwyddo i gael hwyl arbennig yn y canu, ac yn yr un modd yn yr hwyr

Cylchoedd Cinio Cymraeg Rhydaman a Tybie

Nos Fercher, Ebrill 8fed gwahoddwyd aelodau Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman i ginio gyda Cylch Cinio Tybïe a gynhaliwyd yn y Clwb Golff Glynhir. Llywyddwyd y noson gan Gareth Jones, Cadeirydd Cylch Cinio Tybïe a’r prif westai oedd Huw Evans, Llundain.

Er mai yn Cross Hands y ganwyd Huw fe ddaeth i fyw i Rhydaman yn gynnar iawn yn ei fywyd a mynychodd Ysgol Gynradd Rhydaman ac Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Graddiodd mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ennill gradd uwch ym Mhrifysgol Rhydychen. Symudodd i Lundain ac fe weithredodd fel Gwas Sifil i lywodraeth Ted Heath ac Harold Wilson. Ef oedd ymgynghorydd y llywodraethau hyn ar faterion yn ymwneud â’r Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsels a Strasbourg. Y mae yn awr yn athro Mathemateg yn Swydd Surrey.

Testun ei anerchiad oedd ‘Y Manteision o fod yn Gymro Cymraeg’ ac fe roddodd inni lawer enghraifft o’r manteision hyn. Diolchodd am y fagwraeth a gafodd yng Nghapel Bethani, Rhydaman ac yn Aelwyd yr Urdd yng Nghapel Newydd, Y Betws o dan arweiniad Mrs. Gwenith Davies a Mrs. Enid Davies.

Sylweddolodd yn fuan pan yn Llundain a Swydd Surrey na gafodd trigolion yr ardal honno y cyfleoedd a gafodd ef pan yn grwt yn Rhydaman. Soniodd hefyd am ganlyniad arolwg diddorol a wnaed gan griw o Fathemategwyr o Loegr. Daethont i’r casgliad fod plant a oedd yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg llawer ar y blaen ym Mathemateg na phlant a oedd yn uniaith Saesneg. Bu’r ffaith hefyd ei fod yn Gymro o fantais fawr iddo pan yn ceisio bargeinio gyda’r Ffrancwyr ar faterion yn gysylltiedig â’r Farchnad Gyffredin. Daeth yn hysbys iddo yn go fuan nad oedd gan y Ffrancwyr lawer o feddwl o’r Saeson – roedd yr elfen ‘Anglo Saxon’ yn eu cynhyrfu. Pan y pwyntiodd allan i’r Ffrancwyr mai Cymro oedd ac mae Cymraeg ac nid Saesneg oedd ei iaith gyntaf a bod yr elfen ‘Anglo Saxon’ wedi bod yn boen i ni hefyd fel Cymry fe’i ffeindiodd hi yn haws i ddod i ddealltwriaeth â hwy.

Cafwyd noson arbennig gan siaradwr oedd a Chymraeg gloyw a chyfoeth iaith er iddo dreulio blynyddoedd lawer yn Lloegr. Diolchwyd iddo gan Alun Richards, Llywydd Cylch Cinio Rhydaman.

28.5.09

Clwb Rygbi Tycroes -Cyfraniad Teulu y Defisiaid

Tïm dan 15 Clwb Rygbi Tycroes ym Mhorth Tywyn rhai blynyddoedd yn ôl gyda’u hyfforddwr Wayne Williams (chwith) a’u cadeirydd y pryd hynny, y diweddar Eurof Davies (dde)

Yn rhaglen gêm y Scarlets yn erbyn Caeredin ar Barc y Scarlets ar Sul, Mawrth 8fed rhoddwyd sylw arbennig i glwb Rygbi Tycroes
Ffurfiwyd y clwb yn 1911 ac er gorfod gwynebu sawl her y mae yn parhau yn ganolog yn y gymuned. Y mae gan y clwb chwe tîm plant a ieuenctid – o dan wyth i dân 16 – gyda mwy na 100 o chwaraewyr. Fe’u rheolir gan Gadeirydd yr Ieuenctid Beth Davies a’r Ysgrifennydd Sion Aled Higgins.
Yn y rhaglen cyfeiriodd Cadeirydd y clwb, Meirion Powell, at gyfraniad arbennig Mrs. Olwen Davies, Heol Penygarn a’i theulu. Mae Olwen wedi bod yn Drysorydd yr Ieuenctid am dros bedair blynedd ar ddeg a hi hefyd sy’n bwydo’r tîm bob wythnos gyda’i sglodion a selsig arbennig ac mae Olwen bob amser yn barod beth bynnag fo’r angen gyda gwên gynnes. Diolch yn fawr iddi am ei gwasanaeth.
Bu farw Eurof, priod Olwen, tua blwyddyn yn ôl a bu yntau yn gadeirydd y clwb am bron i ugain mlynedd. Gweithia yn gyson yn y clwb a hynny yn llawn brwdfrydedd. Pleser mawr iddo oedd gweld chwaraewyr ifanc yn datblygu i fyny’r rhengoedd i dîm yr ieuenctid ac yna i’r tîm cyntaf. Fe welir eisiau Eurof gan bawb sy’n gysylltiedig â’r clwb, medd y cadeirydd presennol, Meirion Powell.
Mae eraill o’r teulu hefyd yn ymroi i weithgareddau’r clwb. Mae Alun, mab Eurof ac Olwen, yn weithgar gyda’r tîm ieuenctid ac mae Bethan, eu merch, yn aelod brwd o’r pwyllgor cyffredinol. Mae gweithgaredd y teulu hwn yn esiampl o deuluoedd ymroddgar o weithwyr cydwybodol sydd mor bwysig i lwyddiant unrhyw glwb cymunedol ac mae’r ysbryd hyn yn cael ei adlewyrchu gan y chwaraewyr ar y cae.
Yn ychwanegol i’r timoedd presennol ceisir ail sefydlu tîm rygbi’r merched. Enillodd y merched rhai tymhorau yn ôl y gynghrair a’r cwpan. Bu Bethan Gwanas sydd yn cyflwyno y rhaglen ‘Yn yr Ardd’ ar S4C yn aelod o dîm merched y clwb.
Enghraifft arall o ysbryd anturus y clwb yw sefydlu pwyllgor i redeg y bar. Mae gan y clwb hefyd ystafell lle y gellir cynnal cyngherddau a sioeau ac sydd hefyd yn addas i gynnal gwledd briodas neu unrhyw fath o barti.Mae Mr. Powell yn sicr bod y noddi presennol gyda phwyllgor cyffredinol gweithgar sy’n cadw golwg barcud ar y costau y dont dros yr ansicrwydd economeg sy’n llethu’r byd ar hyn o bryd. Byddant mewn dwy flynedd mewn cyflwr arbennig i ddathlu eu canmlwyddiant. Yn y cyfamser ymhlith y gweithgaredd cymdeithasol am eleni fe gynhelir parti ar y cae rygbi ar Fehefin 20fed

EGLWYS BETHESDA, TYCROES

Prynhawn Sul olaf mis Mawrth cynhaliwyd cyfarfod dathlu canmlwyddiant corffori’r Eglwys yn 1909. Llywyddwyd gan y Parch. John Talfryn Jones, Rhydaman ac fe gafwyd gair o groeso gan Mrs. Mary Rees, un o ddiaconiaid Bethesda. Y Parch. Glan Roberts, Tycroes oedd yn gyfrifol am y rhannau arweiniol. Cyflwynwyd yr emynau gan Mr. Eifion Watkins, Mrs. Enid Davies, diaconiaid Bethesda, a Mrs. Maud Jones, Trysorydd yr Eglwys ac fe gynorthwywyd wrth yr organ gan Mrs. Meriel Roberts.
Cafwyd hanes yr achos yn gryno ac yn glir gan Mrs. Eilir Watkins, Ysgrifennydd yr Eglwys ac fe gyflwynwyd cyfarchion ar ran Capel Saron, y fam eglwys, gan y Parch. E. Lyn Rees; Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion gan Mrs. Rosemary Morgan ac Eglwysi’r Cylch gan y Parch. Dyfrig Rees, Tycroes. Y pregethwr gwadd oedd y Parch. Peter M. Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru.
Wedi’r cyfarfod bendithiol a hanesyddol hwn mi roedd lluniaeth helaeth wedi ei baratoi ym Mharc Busnes Tycroes ar dir Fferm y Llety.

25.5.09

RHODD COR MERCHED LLEISIAU’R CWM I BWYGGOR DEMENTIA GLANAMAN

Cyflwynwyd yn ddiweddar siec i Bwyllgor Dementia Glanaman ar rhan Côr Merched Lleisiau’r Cwm gan Mair Wyn, Ysgrifenyddes y Côr, ar ol i’r Côr gynnal Cyngerdd ym Methania, y Tymbl. Dewiswyd rhoi’r siec i’r Grŵp Dementia am fod angen ehangu eu hadeilad yng Nglanaman.
Gwelir yn y llun Dorothy, y Gyfarwyddwraig, ac hefyd rhai o’r pwyllgor. Yr oeddent yn ddiolchgar dros ben am y rhodd, a gobeithiwn fel cymuned bod y Tŷ Hafan yma yn Heol y Tabernacl, Glanaman yn mynd o nerth i nerth gan fod gwir angen ei gadw yn y cwm.

LLWYDDIANT YN DONEGAL - LLEISIAU'R CWM

Fe aeth parti o 14 o Gôr Merched Lleisiau’r Cwm, dan arweiniad medrus Catrin Hughes, i’r Wyl Geltaidd a gynhaliwyd yn Donegal yn Iwerddon ganol mis Ebrill. Cawsant hwyl ar y daith gan hedfan o faes awyr Caerdydd i Belffast ac yna teithio mewn bws i Donegal (a diolch o galon i Llinos a Delyth am yrru mor ofalus yn yr Iwerddon). Buont yn aros mewn gwesty moethus gyda Sian, gynt o Gymru, a Michael ei gŵr ac maent yn ddiolchgar iawn i Priscilla am wneud y trefniadau yma. Y nos Wener hynny, cafwyd hwyl arbennig yn y Noson Lawen, cyflwynwyd y parti gan Mair ac roedd y canu o safon arbennig. Yna, ar y dydd Sadwrn, bu’r parti yn cystadlu, gyda phartion o Gymru, Iwerddon a’r Alban yn cymeryd rhan. Clodforwn y parti am ddod yn ail yn y categori partion ac ennill yr ail wobr o 300 o Ewros. Diolch hefyd i Eireen am drefnu’r awyren a’r bws ac hefyd yr ochr ariannol inni. Yr oedd pawb wrth eu bodd ac unwaith eto braf oedd cael datgan bod y parti o Gwmaman wedi llwyddo mor anrhydeddus. Diolch Catrin am ein dysgu.

CYMANFA GANU UNDEBOL CWMAMAN

Cynhaliwyd Cymanfa Undebol Cwmaman eleni ar Sul y Blodau, sef y 5ed o Ebrill, yng Nghapel Bethel Newydd, y Garnant yn y bore yn unig. Ein harweinyddes oedd Mrs Desna Pemberton, Rhydaman gyda Mrs Olwen Richards yn Organyddes. Llywyddwyd gan y Parchedig Gwyndaf Jones. Yn y rhannau arweiniol, cafwyd darlleniad gafaelgar gan Pat Davies, Bethel Newydd a gweddiwyd yn hyfryd gan Margaret Evans, Calfaria. Cafwyd gwledd gerddorol gan barti plant Ysgol Sul Bethesda, a diolchwn i Ann Rowntree am eu dysgu. Hefyd yr oedd yn bleser gwrando ar y pedwarawd o Bethel Newydd, sef Diana, Carol, Avril a Mair yn canu. Cafwyd hwyl arbennig gan bawb a ddaeth i ymuno yn y canu ac mae’n dda medru dweud bod y Gymanfa yn dal i fod yn boblogaidd yn y cwm. Cafwyd gwerthfawrogiad o’r oedfa gan y Parchedig Gwyndaf Jones a dymunodd bob hwyl i’r trefnwyr am y flwyddyn nesaf. Diolch i’r pwyllgor, sef Carol, Jane, Rhian a Mair am eu llafur hwythau.

20.5.09

CHWARAEON MENTER CYDENWADOL GOGLEDD MYRDDIN

Diwrnod pwysig yng nghalendr yr Ysgolion Sul yng Ngogledd Myrddin yw’r cystadlaethau chwaraeon blynyddol. Cynhaliwyd y cystadlaethau eleni ar wythnos gyntaf gwyliau’r Pasg a daeth tyrfa dda ynghyd i Ganolfan Hamdden Rhydaman i fwynhau’r achlysur. Yn ôl yr arfer bu cystadlu brwd, a gwych oedd gweld y plant a’r bobl ifanc yn rhoi o’u gorau wrth chwarae pêl droed a phêl rwyd. Yn ychwanegol i’r cystadlaethau yn y neuadd, manteisiodd nifer oedd o dan 16 oed ar y cyfle o gael nofio yn rhad ac am ddim yn y pwll. Diwrnod penigamp felly i bawb, ac i’r sawl wnaeth ennill, wel roedd hynny yn fonws!

Dyma’r canlyniadau:
Pêl Droed Cynradd:
1af – Moriah, Brynaman
2ail – Saron

Pêl Rwyd Cynradd:
1af – Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman
2ail – Penuel, Caerfyrddin / Capel Hendre
Pêl Droed Uwchradd:
1af: Saron / Capel Hendre
2ail: Eglwysi Cylch Aman
Llongyfarchiadau mawr i'r timoedd uchod ac i bawb wnaeth gymryd rhan a chyfrannu tuag at ddiwrnod llwyddiannus iawn i Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol y dalgylch. Y gweithgaredd nesaf a drefnir gan y Fenter uchod fydd “Bwrlwm Bro” yr Ysgolion Sul a gynhelir yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman 10:30 a.m.

Ar nos Fercher Gorffennaf 8fed cynhelir noson mabolgampau dan do yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman gyda chystadlaethau i bawb o’r meithrin hyd at blwyddyn 11.

Manylion pellach am yr uchod a digwyddiadau eraill ar gael trwy gysylltu â Nigel Davies (Swyddog Plant / Ieuenctid Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin) ar (01994) 230049 neu e-bost
gogmyrddin@uwclub.net

19.5.09

THOMOND PARK

Yn ystod penwythnos y Pasg eleni, aethom yn deulu back i'r Ynys Werdd, i Limerick i weld gem bwysig rhwng Munster a'r Gweilch. Dyma'r tro cynta i ni fentro i grochan berwedig, brwdfrydig Thomond Park a dyna i chi brofiad! Roedd cefnogwyr Munster wedi hyd yn oed ymaelodi a chlwb cefnogwyr y Gweilch dim and er mwyn sicrhau tocyn i'r gem! — siarad am frwdfrydedd.
Roedd yr awyrgylch yn y stadiwm a'r strydoedd o gwmpas yr un peth a geir yng Nghaerdydd pan fo Cymru yn chwarae, yn erbyn Lloegr. A bod yn onest, ni ellid ei ddisgrifio yn brofiad pleserus gan fod y canu yn orfoleddus, y gweiddi yn fyddarol a'r ysbryd yn y chwaraewyr ar y cae ac ymhlith y cefnogwyr yn yr eisteddle yn danboeth!
Wrth i'r gem fynd yn ei blaen a'r Gweilch heb adael y nyth heb son am hedfan, aeth pethau o ddrwg i waeth ac a bod yn gwbl onest roedd yn rhyddhad i glywed y chwiban olaf. Roedd yn anodd derbyn cydymdeimlad sarcastig y cefnogwyr cartref. Beth bynnag, rhaid derbyn y siom a chofio mai nid cefnogwyr tywydd braf ydym. Credwch fi anghofiwn ni ddim o'r profiad — mae'n dal i atseinio yn y clust a'r co' !
............................................................ Liwsi Kim gyda Warren Gatland
.
Ar y daith, er hynny cwrddasom a un neu ddau wyneb cyfarwydd oedd yn gwneud yr un siwrne i daflu llygad barcud dros y chwaraewyr.
Gobeithio y bu'r siwrne yn fwy llewyrchus iddynt hwy

3.5.09

YSGOL Y WAUN - EISTEDDFOD FLYNYDDOL


Dydd Gwyl Dewi ar Fawrth yr ail? Dyna sut fu pethau mewn sawl ysgol eleni -am i Fawrth 1 o gwympo ar ddydd Sul. Ac yn Ysgol Gwaun-Cae-Gurwen, roedd hi' n amser unwaith eto i'r eisteddfod flynyddol.
Mae'n draddodiad erbyn hyn ers sawl blwyddyn i gynnal eisteddfod ysgol a chafwyd tipyn o flas ar y cystadlu eleni eto. Roedd y cystadlaethau arferol wrth gwrs o ganu a llefaru a'r testunau'n adnabyddus fel hen ganeuon traddodiadol fel, "Mynd drot, drot," a "Hen fenyw fach Cydweli" i'r cantorion a hen ffefrynnau fel "Hicyri, dicyri doc," a "Dyn y tywydd" ar gyfer y llefarwyr. Eleni eto, cafwyd cystadleuaeth unawd offeryn pres ac, am y tro cyntaf, cystadleuaeth unawd ar y drymiau.
Y beirniaid eleni oedd Miss Nicola Hemsley, sy'n gyn-ddisgybl a Mr Eifion Price sy'n gyn-ddirprwy brifathro ar yr ysgol. Cafodd y ddau dipyn o hwyl arni a chafwyd sawl cystadleuaeth oedd yn agos ac anodd iawn i ddewis pwy oedd flaenaf.
Ond uchafbwynt yr eisteddfod bob blwyddyn, wrth gwrs, yw seremoni'r cadeirio a doedd eleni ddim yn wahanol. Mr Price oedd yn beirniadu ac roedd yn uchel iawn ei glod i'r nifer da a gynigiodd. Cystadleuaeth ysgrifennu stori ar y testun, "Cyrraedd y Copa ' " oedd hi ac wedi darllen drwy 27 o storiau, daeth Mr Price i'r casgliad fod saith wedi codi i'r safon flaenaf ac y gallai wobrwyo unrhyw un o bedair stori.
Ond wedi hir ystyried yr un a ddaeth i'r brig oedd stori, "Croten Cwmgors." Stori oedd yn afaelgar ac yn cynnal diddordeb y darllenwr. Am y tro cyntaf erioed, cipiwyd y wobr gan yr un person am yr ail flwyddyn o'r bron. Yn fuddugol oedd Cerys Smith a enillodd y llynedd hefyd.
Llongyfarchiadau mawr iawn i Cerys ac i bawb gystadlodd. Diolch o galon i'r beirniaid, y staff, i bawb fu wrthi'n darparu lluniaeth, pawb fu'n dysgu'r plant ac yn enwedig i bawb drodd i mewn i gefnogi. Ond mae'r diolch mwyaf i'r plant am eu hymdrechion. Da iawn, wir.

YSGOL Y GLYN


Er mwyn codi ymwybyddiaeth y plant o Fasnach Deg - gwisgodd pawb mewn melyn ar ddydd Gwener, 6 Mawrth. Ymunodd y plant gyda cannoedd o fobl ar draws y wlad i dorri'r record o fwyta bananas Masnach Deg. Yn ogystal a hyn cafwyd stondin Masnach Deg yn yr ysgol. Cafodd pawb amser wrth eu bodd yn cefnogi menter mor deilwng.

2.5.09

FUTURE CHEF 2009


Yn ystod tymor y Gaeaf, bu Steffan Davies (Capel Sion), mab Joy a Richard, Parc y Llan, yn Ilwyddiannus yn rownd Ysgol Tregib yng nghystadleuaeth 'Future Chef 2009'.

Yna aeth ymlaen i gynrychioli'r ysgol yng Ngholeg Pibwrlwyd yn rownd y tair Sir. Yr oedd yn llwyddiannus yno eto, ac ym mis Chwefror, aeth Steffan i Goleg Castell-nedd i gynrychioli'r tair Sir yn y rownd i Gymru gyfan. Pleser yw nodi ei fod wedi gwneud yn dda iawn ac wedi gorffen yn yr ail safle.

HEN BENSIYNWYR LLANDYBIE


Dathlodd Hen Bensiynwyr Llandybie Ddydd Gwyl Dewi gyda chawl traddodiadol Cymreig ynghyd a bara brith, picau ar y maen a disgled o de. Diddanwyd yr aelodau gan Gor Meibion Llandybie o dan arweiniad Mr Alun Bowen a Mrs Gloria Lloyd yn cyfeilio. Yr oedd y cawl yn flasus dros ben a'r neuadd wedi ei haddurno yn brydferth lawn gan Gennin Pedr - ffordd wych o ddathlu gwyl ein nawddsant. Diolch yn fawr i swyddogion a chynorthwyr yr hen bensiynwyr am drefnu prynhawn l'w gofio.

CYLCH CINIO TYBIE

Cafwyd noson diddorol dros ben yn y Clwb Golff ar yr 11eg o Fawrth wrth wrando ar Dr Carol Bell yn ein annerch a rhoddodd amlinelliad o'i gyrfa hynod o amrywiol a diddorol. Yn enedigol o Felindre derbyniodd ei haddysg gynnar yn Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera ac yna Prifysgol Caergrawnt. Mentrodd wedyn i fyd busnes gan weithio efo cwmnIau olew rhyngwladol, banciau a broceriaid gan ddefnyddio ei gwybodaeth arbenigol i gynghori ar ddigwyddiadau a datblygiadau cyffrous ym myd busnes byd-eang. Mae'n ddarlithydd gyda'r "British Board of Archaeologists" yn Athen. Mae'n ymgynghorydd i'r Llywodraeth ar y Pwyllgor Pensiynau ac mae'n ymgynghorydd i'r diwydiant olew, yn ymwneud A chynghori cwmnIau olew. Gwraig dawnus a thalentog to hwnt.Diolchwyd iddi gan Dewi Daniel.

EISTEDDFOD YSGOL GYMRAEG RHYDAMAN


Dyma lun o Martha Angharad O'Neil (enillydd y Gadair), a Sara Mai Davies (enillydd y Goron) yn eisteddfod Gŵyl Ddewi Ysgol Gymraeg Rhydaman. Cawsoch chi'r pleser o ddarllen eu gwaith yn rhifyn Mawrth o'r Glo Man.

1.5.09

Sioe Stryd Gŵyl Ddewi


Cafwyd diwrnod i’w gofio yn nhref Rhydaman dydd Sadwrn, 28 Chwefror pan gynhaliwyd sioe stryd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Menter Bro Dinefwr ynghyd â Chynllun Gweithredu Iaith Rhydaman a Twf oedd yn gyfrifol am drefnu’r diwrnod. Cafwyd perfformiadau gan Fand Arian Rhydaman, Ysgol Tycroes, Dawnswyr Penrhyd a Jac y Do. Cafwyd cefnogaeth Canolfan Ieuenctid Glanaman ar y diwrnod lle rhoddwyd cyfle i blant ac ieuenctid yr ardal ddefnyddio’r wal ddringo. Daeth Twf a stondin i’r digwyddiad hefyd lle darparwyd gweithgareddau amrywiol i blant megis paentio wynebau. Braf oedd gweld gymaint o bobl yn mwynhau’r adloniant ar y stryd ac yn dathlu dydd ein nawddsant.


Fel rhan o’r dathliadau cafwyd cystadleuaeth addurno ffenest siop ar gyfer busnesau tref Rhydaman. Mae’r gystadleuaeth wedi cael ei chynnal ers nifer o flynyddoedd bellach ac mae tarian Siambr Fasnach Rhydaman yn cael ei roi i’r enillydd. Amman Valley Railway Society oedd yn fuddugol eleni, gweler llun o’r ffenest siop isod ynghyd â gwirfoddolwyr y gymdeithas sef Anthea Whittaker a Mansel Rees. Hefyd gweler beirniaid y gystadleuaeth sef Siân Merlys, Linda Evans a’r Cynghorydd Hugh Evans.
Help / Cymorth