30.6.09

DA IAWN DANIEL



Llongyfarchiadau gwresog i Daniel Evans o Aberlash, Rhydaman ar ei lwyddiant yn y maes rygbi’n ddiweddar. Mae Daniel, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Dyffryn Aman, yn rhan o sgwad y Sgarlets, Llanelli ac wedi disgleirio’n ddiweddar yn safle’r cefnwr. Ond
dewiswyd ef i ymuno â thîm Cymru wrth iddynt deithio Canada ac America’n ddiweddar. Chwaraeodd Daniel yn y ddwy gêm brawf, lle bu’r tîm yn fuddugoliaethus. Da iawn ti Daniel a phob lwc i’r dyfodol.

19.6.09

CWIS CHWARAEON


6.6.09

BRWYDR Y BANDIAU - NEVARRO - SMASHING DIAMONDS

Llongyfarchiadau mawr i’r band ‘Nevarro’ ar ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2. Aethant ymlaen i faeddu bandiau o bob cwr o Gymru yn y rownd derfynol, ac roedd y beirniaid wedi eu syfrdanu gan dalent y band ifanc o Rhydaman. Pob lwc iddynt yn y dyfodol!
Yn wir gwnaeth dau fand o ardal Rhydaman yn arbennig o dda a chyrraedd y rownd derfynol ar 29 Ebrill sef ‘Smashing Diamonds’ a ‘Nevarro’. Y beirniaid oedd Bethan Elfyn a Rhodri Llwyd Morgan a chafodd y gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Radio Cymru.

4.6.09

Cwis Chwaraeon


Bu’r Cwis Chwaraeon Trawsffiniol ym Mrynaman yn noson i’w gofio! Trefnwyd y noson ar y cyd rhwng Menter Bro Dinefwr a Menter Castell Nedd Port Talbot. Cynhaliwyd y cwis yng Nghlwb Rygbi Brynaman ac Alun Wyn Bevan oedd y cwisfeistr, mae Alun yn wyneb cyfarwydd yn yr ardal a daeth tyrfa gref o ddynion, ac ambell fenyw i gystadlu. Allan o’r 11 tîm, ‘Meibion Glyndwr’ oedd y buddugwyr. Gwelir yn y llun isod Alun Wyn Bevan, Royston Jones, Keith Hopkin, Phillips Hicks a Mel Morgans

Seren ‘Sgrifennu

Wyt ti’n ddramodydd cudd?
Wyt ti’n ysu i weld dy waith yn cael ei berfformio ar lwyfan?
Wel dyma dy gyfle di!!

Anfonwch sgets yn cynnwys i fyny at bump o gymeriadau sydd 10 i 15 munud o hyd ac os byddwch chi’n lwcus fe gaiff ei pherfformio gan actorion Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe o flaen cynulleidfa yn ardal Bro Dinefwr.
Bydd y Gymdeithas yn gwneud taith gyda’u sioe Noson o Adloniant sy’n cynnwys drama fer ac eitemau amrywiol ac fe allai eich sgets chi, ynghyd ac eraill, fod yn rhan o’r noson. Y gynulleidfa fydd yn dewis y sgets orau felly dewch a’ch cefnogwyr ‘da chi!! Os enillwch chi, chi fydd yn cynrychioli ardal Menter Bro Dinefwr ac yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol rhwng y Mentrau.
Dyma ofyniadau y sgets:
* 10 i 15 munud o hyd i rhwng 2 - 5 o gymeriadau
* Yn weddus i’w pherfformio yn gyhoeddus i bob oedran!!
* Y props i gynnwys pethau syml fel byrddau a chadeiriau


Anfonwch eich sgets erbyn Mehefin 30 at : Llew Davies, Menter Bro Dinefwr, Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo, SA19 6HW

Help / Cymorth