31.7.09

LLWYDDIANT YNG NGHAERDYDD

Bu Glesni Euros, Stryd y Parc, Brynaman yn llwyddiannus eleni, unwaith eto, yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd. Mewn cystadleuaeth o safon uchel, llwyddodd i ennill y wobr gyntaf yn y Monolog, Blwyddyn 10 a than 19 oed. Fe enillodd y drydedd wobr hefyd yng nghystadleuaeth yr Ymgom, gyda'i chyd-ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, Catrin Heledd Richards a Mererid Quirke.

IRONMAN

Mae'r "IRONMAN 70.3 Triathalon" yn achlysur blynyddol a gynhelir yn ardal Llyn Wimbleball ar Exmoor. Mae'r gystadleuaeth hon yn cynnwys nofio 1.2 milltir yn y llyn, yna seiclo 56 milltir ar hyd ffyrdd gwledig a gorffen trwy redeg traws gwlad am 13.1 milltir.
Mae dros fil o athletwyr yn cymryd rhan, amatur a phroffesiynnol, gwrywaidd a benywaidd ac ar Fehefin 14 eleni cymerodd Ian Morgan, mab Les a Meinir Morgan, Heol y Mynydd ran am y trydydd tro. Croesodd y llinell yn y 138 safle mewn amser o 5 awr 36 munud a 22 eiliad — ei amser gorau hyd yn hyn oedd yn profi i'r holl amser ac ymdrech a aeth i mewn i'r paratoadau fod yn werth chweil.
Llongyfarchwn ef yn fawr iawn ar ei lwyddiant, ei ynnu a'i ddyfalbarhad.

LOL

Yn ddiweddar ffurfiwyd is bwyllgor gan Fenter Iaith Castell nedd Port Talbot (LOL) i fod yn gyfrifol am ddigwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal uchaf Dyffryn Aman. Cadeirydd y criw brwd yw Noir Jones, Gwaun Cae Gurwen. Nos Fercher Mehefin 3ydd, cynhaliwyd Cwis Hwyl yng Nghlwb Rygbi Brynaman a'r ddau gwisfeistr gwadd oedd Randall Isaac ac Eifion Price. Cafwyd noson lwyddiannus dros ben, gyda digon o hwyl, a'r lolfa yn llawn o bobl oedd wedi dod i gefnogi'r noson. Aelodau'r dim buddugol oedd Huw ac Ann Bowen (o Glydach), Philip ac Angela Hicks a Keith a Sarah Hopkin (Brynaman). Llongyfarchiadau iddynt.
Edrychwch allan am wybodaeth am ddigwyddiadau arall yn y dyfodol.

Ail agoriad swyddogol Aelwyd Amanw

Tro'r Aelwyd bydd hi nesaf i ddathlu'r prosiest ehangu ac adnewyddu a gymerodd le diolch i grantiau a dderbyniwyd o wahanol fannau yn gymharol ddiweddar. Roedd yr achlysur yma ar brynhawn Gwener, 24 Gorffennaf pan croesawyd cynrychiolwyr o'r noddwyr, y gweithlu, cyn aelodau ac arweinwyr a mudiadau lleol a thu hwnt i ymuno yn y dathliad. Cewch mwy o'r hanes yn y rhifyn nesaf o'r Glo Man.
Mae'r Adran nawr wedi cau dros yr haf ond bydd yn dechrau eto ar Medi 9fed ar gyfer plant 7 - 11 oed pan fydd croeso cynnes i aelodau newydd i ymuno a'r cries ffyddlon sydd wedi cael hwyl a sbri yno ers 1'r Adran ail agor fis Tachwedd diwethaf

Dathliad Diwrnod y Lluoedd Arfog

Cafwyd prynhawn llwyddiannus iawn yn y Ganolfan brynhawn Llun, 29 Mehefin mewn Dawns Amser Te i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog a drefnwyd ar y cyd gan y Ganolfan a Chymunedau'n Gyntaf.
Daeth criw o rhyw harmer cant o bobl ynghyd ac roedd bri mawr a digon o hwyl ar y dawnsio a'r cymdeithasu. Roedd rhai o'r dillad yn mynd a ni nol i gyfnod yr Ail Ryfel Byd a hefyd yr addurniadau oedd o gwmpas y lle.
Hefyd trefnodd y Ganolfan a Chymunedau'n Gyntaf dawns arall yn y Ganolfan ddiwedd Gorffennaf.

MBE

Llongyfarchiadau i Eleri Thomas ar gael ei henwebu i dderbyn yr MBE. Hi yw pennaeth elusen ‘Achub y Plant’ yng Nghymru. Mae Eleri yn ferch i’r ddiweddar Morfudd (Heol y Graig) a Philip Thomas gynt o’r Alltwen, ond yn byw yn y Swisdir ers blynyddoedd lawer ac yno ganwyd Eleri. Ei thad-cu oedd y diweddar David Jones Heol Gron. Dymuniadau gorau iddi.

Merched y Wawr CangenGwaunGors

Mrs Eugena Hopkins Craigcefnparc oedd ein gwraig wadd Ym mis Mehefin. Croesawyd hi yn gynnes atom gan ein Llywydd Mrs Rita Morgan, Aeth a ni ‘nôl i 1797, a glaniad y Ffrancod ger Abergwaun. Cam naturiol oedd sôn am ei thylwyth. a llawer ohonynt yn gapteniad llongau hwylio. Daeth un, y Capten Daniel Nicholas i fyw ar ffarm Ynysmeudw Ganol. Mae ganddi dystiolaeth bendant ei bod yn ddisgynydd i Jemeima Nicholas. Does rhyfedd bod Sir Benfro mor agos at ei chalon! Diolchwyd iddi am noson ddiddoriol iawn.

Ysgol Haf Gweinidogion yr Annibynwyr Cymraeg

Llongyfarchiadau i’r Parchedig Gwyndaf Jones ar dderbyn gwahoddiad i draddodi darlith yn yr Ysgol Haf eleni. Testun ei ddarlith oedd ‘Cysyniad Calfin am Ffydd Achubol’ (Mae 500o flynyddoedd ers geni John Calvin) Cafodd ei frawd Y Parchedig Euros Wyn Jones Llangefni yr un fraint. Digon anghyffredin mae digwyddiad fel hwn yn yr Ysgol Haf mae’n siwr, a dyma’r ail waith iddynt gael yr anrhydedd. Llongyfarchiadau i’r ddau

Ras am Fywyd

Llongyfarchiadau eleni eto i Mrs Christine Ridout (Harries Bakery) am ei chyfraniad at elusen cancr. Roedd yn un o’r merched ymroddgar a gymerodd rhan yn ‘Ras am Fywyd’ 5 cilometr ar hyd llwybr arfordirol y Mileniwm, Llanelli, ddydd Sul Mehefin 14eg. Os gwelsoch fuwch goch fach gota Christine oedd hi! Mae’n awyddus i ddiolch i bawb ai chefnogodd. Chware teg iddi am gasglu £450.82- gwelliant ar y llynedd! Da iawn Christine.

28.7.09

BARBECIW A NOSON GELTAIDD

Mae Deian o siop 'Esgidiau ar Gered' Rhydaman wedi bod wrthi'n trefnu noson Geltaidd a barbeciw yng Nghwesty'r Wernolau, Rhydaman. Bydd yr holl elw yn mynd tuag at Gronfa Paul Pugh.

26.7.09

TRIP YSGOL SUL


Ar Ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf aeth llond bws ohonom i Ddinbych y Pysgod ar drip blynyddol y Capel a'r Ysgol Sul.
Er gwaethaf y tywydd yn Rhydaman wrth adael, sef cawodydd o law, cawsom dywydd llawer gwell na'r rhagolygon. Roedd hi'n ddiwrnod braf yn Ninbych y Pysgod fel roedd croen rhai ohonom yn ei ddangos ar ddiwedd y dydd wedi i ni gael lliw haul.
Dechreuodd rhai drwy fynd am gwpanaid o goffi cyn mentro i'r traeth. Manteisiodd eraill ar gyfle i siopa yn y dref. Wrth gwrs yn syth i'r traeth oedd bwriad y plant. Treuliwyd diwrnod hyfryd yn nofio, adeiladu a tyllu yn y tywod, chwarae gemau o griced a rownderi, neu manteisio ar y cyfle i ddarllen a cyfeillachu ar "ddeck chair" ar y traeth. Hyfryd oedd cael cwmni ein gilydd i rannu sgwrs melys ar y "deck chairs". Hefyd hyfryd oedd clywed cymaint o Gymraeg ar y traeth a strydoedd y dref gyda nifer o Gapeli, gan gynnwys Capel Hendre, Hope, Pontarddulais a Capel y Nant, Clydach, yn gwneud yr union yr un fath a ni a dod i Ddinbych y Pysgod am drip Ysgol Sul . Cyn troi am adref roedd rhaid archebu pysgod a sglodion i wneud y diwrnod yn gyflawn.

Mae nifer yn siarad am drip y flwyddyn nesaf yn barod.

DAWNSIO GWERIN


Enillodd parti dawnsio gwerin Ysgol Gymraeg Rhydaman y gystadleuaeth ddawnsio gwerin dan 12 i ysgolion mawr, yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd eleni eto, am y trydydd tro mewn pedair blynedd! Tipyn o gamp! Llongyfarchiadu i bawb.

22.7.09

Gwasanaeth Merched y Wawr

Ar Nos Wener, 5ed Mehefin 2009 cynhaliwyd Gwasanaeth Blynyddol Cangen Merched y Wawr Rhydaman yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman.

Y siaradwraig oedd Mrs Annette Hughes, Clydach. Mrs Edwina Leach oedd yn llywyddu a’r organyddes oedd Mrs Olwen Richards.

Urdd Ofydd er Anrhydedd

Llongyfarchiadau i Randal Isaac, Rhydaman ar ei hurddo i’r Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg Werdd) yn Eisteddfod Genedlaethol Meiron a’r Cyffiniau. Rhoddodd yn hael o'i amser i gefnogi diwylliant Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Bu'n flaengar gyda dysgu'r iaith i oedolion gan wasanaethu yn y cymoedd ac yn yr Unol Daleithiau. Ymddiddorodd mewn dawnsio gwerin, yn arbennig mewn clocsio. Bu'n galw twmpathau dawns ledled y wlad ac yn gyd-sylfaenydd Clwb a Gwyl Werin Rhydaman.

Pensiynwyr Tycroes

Y Parch. Michael Rees, Ficer Gorslas a Deon Dyffryn Aman oedd y gwestai yn y cyfarfod diwethaf. Cafwyd ganddo ychydig o hanes yr eglwysi yn ei gyn-ofalaeth yn Sir Benfro a Cheredigion. Dangosodd i ni hefyd luniau yn rhoi hanes Eglwys Gatholig y Carcharorion Rhyfel yn Henllan. Mae’n ddiddorol sut y bu i’r Eidalwyr a oedd yn garcharorion rhyfel yng nghefn gwlad Cymru ddefnyddio pob math o wastraff, fel tiniau cig rhad, i wneud cannwyll-brennau ac ati i addurno’r eglwys er mwynt iddynt addoli Duw. Cafwyd prynhawn hynod diddorol.
Mi roedd arfordir De Orllewin Cymru ar ei orau ar ddiwrnod bendigedig o haf i wibdaeth gyntaf yr adran. Teithio drwy Gaerfyrddin i Dalacharn am goffi. Mi roedd yno rhyw lonyddwch hudol a gellid yn hawdd deall sut y bu hi i Dylan Thomas gael ei ysbrydoli i ysgrifennu yn y fath le hyfryd. Mi roedd y môr a thraethau godidog o Ben Tywyn i Amroth ac i Saundersfoot yn wledd i’r llygad ac wrth gwrs mi roedd Dinbych-y-Pysgod ar ei orau yn yr heulwen braf. Diwrnod hyfryd a phawb yn dychwelyd yn canmol y gogoniant sydd i’w cael nepell o adre. Does dim angen mynd dramor – ond i ni gael y tywydd!
Cheltenham fydd y gyrchfan ym mis Gorffennaf ac yna Dyffryn Teifi a’r rheilffordd a Mynwy ac Abaty Tindyrn i gloi’r haf.

Cyfarfod Sefydlu y Parch. Dennis Alexander Baxter

Cynhaliwyd oedfa sefydlu’r Parch. Dennis Baxter yn Offeiriad â Gofal am Blwyf Llanedi a Tycroes gyda Saron yn Eglwys Sant Edmwnd, Tycroes ar Nos Fercher, Mehefin 10fed, 2009.
Mae Dennis yn wreiddiol o Dagenham, Swydd Essex ond bellach wedi byw yng Nghymru ers 29 o flynyddoedd. Fe gyfarfu â’i wraig Jennifer, brodor o Benfro, yn Hwlffordd ac maent wedi bod gyda’u gilydd am chwarter canrif. Mae ganddynt bump o blant a phump o wyrion a theulu estynedig niferus.
Cyn ei ordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru bedair blynedd a hanner yn ôl bu Dennis yn ofalydd cymunedol ac yn weinidog mewn eglwys Bentecostalaidd. Bu’n gurad yn Ninbych y Pysgod cyn cymeryd at yr ofalaeth hon.
Mi roedd y gwasanaeth sefydlu o dan arweiniad Archddeacon Caerfyrddin, yr Hybarch Alun Evans ac yn cael ei gynorthwyo gan Ddeon Cylch Dyffryn Aman, y Parch. Michael Lloyd Rees. Mi roedd nifer o weinidogion lleol ynghyd â chlerigwyr o Ddinbych y Pysgod yn bresennol yn y gwasanaeth.
Cyflwynwyd cyfarchion i’r Parch. Dennis Baxter gan gynrychiolwyr o wahanol agweddau o waith y plwyf gan gynnwys cynghorwyr lleol, prifathrawon a mudiadau cymdeithasol.
Mi roedd yna gynulleidfa niferus yn bresennol gan gynnwys dros ugain o deulu’r offeiriad newydd ac fe gafwyd gwasanaeth bendithiol. Paratowyd bwffet blasus yn Neuadd yr Eglwys wedi’r oedfa.
Dymuna’r Parch. a Mrs. Dennis Baxter ddiolch i bawb a fu o gymorth i wneud y noson mor llwyddiannus. Edrychant ymlaen at gwrdd pobl yr ardal a gwneud ffrindiau newydd gan obeithio treulio nifer o flynyddoedd yn y fro ac fe estynna Dennis a Jennifer groeso cynnes i bawb a garai uno mewn addoliad yn y Plwyf. Eu rhif ffôn yw (01269) 592315.

21.7.09

LANSIO CANOLFAN Y MYNYDD DU



Ar fore Gwener, 19 Mehefin, cafwvd lawnsiad Canolfan Gymunedol Brynaman dan ei enw newydd o Ganolfan y Mynydd Du. Croesawyd pawb i'r achlysur gan Mair Thomas,
Is-gadeirydd y Ganolfan yna death Mark James, Prif Weithredwr Sir Gaerfyrddin, i gyhoeddi agoriad swyddogol Canolfan y Mynydd Du. Cafwyd hanes datblygiad y Ganolfan o fod yn Ysgol y Babanod, Brynaman i’r Ganolfan fywiog ac amlochrog y
mae heddiw gan y cyn gadeirydd Alun Howells ac yna gair gan y Gwir Anrhydeddus Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Daeth y Swyddog Datblygu, Sian Tucker wedyn i rannu ei gweledigaeth hi am y dyfodol a'r ddarpariaeth bellach all y Ganolfan ei gynnig i bobl y cylch.
Da oedd cael cwmni Adam Price, Aelod Seneddol ac hefyd Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ynghyd a chynrychiolwyr o'r noddwyr, cynghorau a chyrff lleol. Diolchwyd i bawb a wnaeth gvfraniad mewn arian neu amser i’r prosiest, o'i ddechrau dan ofalaeth Susan Harries hyd heddiw dan y staff presennol, gan Mair cyn gwahodd pawb i fwynhau'r lluniaeth blasus oedd wedi ei ddarparu gan y bwyty ar eu cyfer.
Roedd y lle yn edrych yn lliwgar iawn gyda'r baneri a'r balwns a'r logo newydd gyda'r M fawr am Mynydd ac am Mountain.


Cyrsiau newydd i ddechrau yn y Ganolfan ym mis Medi:
• Cwrs Gradd Rhan Amser
• Helpu'ch plant i ddysgu
• Rhannu sgiliau
• Sgiliau Craidd — Magu Hyder
Hefyd mae grwp Cyfeillion Ganolfan y Mynydd Du wedi ei sefydlu ar gyfer gwirfoddolwyr a Grwp Cerdded ar gyfer y rhai sy'n teimlo'n ffit neu am deimlo'n ffitach! Cysylltwch a Sian neu Nerys am wybodaeth bellach am unrhyw un or rhain.

17.7.09

Bachgen o’r Betws yn chwarae dros Gymru

Y mae bachgen ysgol o Ddyffryn Aman wedi chwarae dros dîm dan 16 Cymru mewn cystadleuaeth rygbi rhyngwladol a chwaraewyd yn Ysgol Millfield yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar.
Fe wnaeth Rhodri Williams sy’n 15 mlwydd oedd chwarae 3 gêm dros dîm dan 16 Cymru. Cafwyd gêm gyfartal, 15 yr un, yn erbyn Ffrainc, cyn curo Canada 39-0. Yn y gêm olaf collodd Cymru o drwch blewyn, 6-5, yn erbyn Yr Alban.
Mae rygbi yn amlwg yng ngwaed Rhodri gan fod ei dad Alan Williams wedi chwarae dros Abertawe am nifer o flynyddoedd gan ddisgleirio fel mewnwr.
Pob hwyl i Rhodri i’r dyfodol a gobeithio y bydd yn dilyn yn ôl traed Shane Williams, Gareth Edwards ac eraill o’r ardal sydd wedi chwarae dros dîm llawn Cymru.

Côr Merched Tybie

Llongyfarchiadau mawr i Gôr Merched Tybie ar ddathlu ei 20fed penblwydd. Ar nos Sadwrn, Ebrill 18fed yn Neuadd Goffa Llandybie, dathlodd y côr y garreg filltir hon gyda’i cyngerdd blynyddol. Estynnodd Mrs Nan Daniel, cadeiryddes y côr groeso cynnes i’r artistiaid, sef Côr Merched Lleisiau Llannerch, Sir Fôn a’r cyfarwyddwraig Mrs Gres Pritchard a’r enwog deulu
Singh o Landybie - Raki, Davi a Simi. Erbyn hyn mae’r teulu talentog hyn yn fyd enwog. Mrs Dorothy Singh oedd yn cyfeilio.
Difyrwyd y gynulleida sylweddol gan wledd o ganeuon Cymraeg a Saesneg gan y ddau gôr. Mrs Desna Pemberton oedd yn arwain a chyfeilio i Gôr Merched Tybie.
Siaradodd Mrs Jan Sweeney, llywydd y côr am weithgareddau prysur y côr yn ystod y gaeaf a’r gwanwyn. Diolchodd Mrs Carys Davies, Côr Merched Lleisiau Llannerch arweinyddion y corau am eu gwaith dyfal ac am y croeso cynnes yr oeddent wedi’u gael yn Llandybie.
Cafwyd lluniaeth o gaws a gwin ar ôl y gyngerdd ac hefyd teisen oddi wrth staff Jenkins Bakery, Llandybie er cof am y diweddar Mrs Pat Dyffin, aelod ffyddlon y côr. Bu coffad hefyd am y diweddar Mrs Eluned Phillips, prif-fardd yr Eisteddfod Genedlaethol ac un o ffrindiau gorau Côr Merched Tybie. Bydd y côr yn danfon cyfraniad i Dy Bryngwyn, Llanelli yn y dyfodol agos er cof am y ddwy wraig annwyl yma.
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi noddi y côr ac i bawb a ddaeth i gefnogi’r noson. Rhaid diolch hefyd i Mrs Karen Davies am ei chymorth ac aelodau staff y Neuadd Goffa, sef Mr Tony Wale a Mrs Ann Richards.

Llongyfarchiadau

…i Rhys Jones, 3 Derwen Fawr, Llandybie ar gael ei ddewis am y drydedd flwyddyn yn aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae Rhys yn fyfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Eleni bydd y côr yn ymddangos yng Ngwyl Gerddoriaeth Glasurol Conwy ac yn cynnal cyngherddau yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ac Eglwys San Silyn, Wrecsam. Ym mis Medi byddant hefyd yn canu yng Nghyngerdd y Proms yn Neuadd yr Albert, Llundain.

PENBLWYDD YN 103 OED

Roedd yr oedfa fore Sul Mai 3ydd ychydig bach yn wahanol i’r arfer. Canwyd un gân yn ychwanegol i’r emynau sef ‘Pen-blwydd Hapus’ i’n haelod hynaf -
Mr Dai Collins oedd dathlu ei ben-blwydd yn 103 oed. Roedd pawb yn awyddus i’w gyfarch. Mae’n dda i’w weld ar foreuau Sul. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da iddo.

Merched y Wawr Cangen GwaunGors

Pleser i’r Llywydd Mrs Rita Morgan oedd croesawu ‘un ohonom ni’ i siarad yn ein cyfarfod ar Fai 17eg sef – Mrs Mary Jones. Mae wedi bod yn ddyfal dros y blynyddoedd yn cystadlu yn adran ‘Gwaith Llaw Merched y Wawr yn Sioe Llanelwedd, ac wedi cael marciau llawn sawl gwaith. Fel un o bwyllgor celf Rhanbarth Gorllewin Morgannwg mae wedi gwneud gwaith llaw ar gyfer arddangosfeydd mewn Eisteddfodau Cenedlaethol a Sioeau Llanelwedd.
Daeth a amrywiaeth o’i gwaith gyda hi i ddangos i ni o fagiau addurniedig i ddraig tseineaidd! Hefyd enghreifftiau o glytwaith , gwaith canfas, a brodwaith arbennig. Roedd y cyfan wedi ei weithio â phwythau man, iawn, ac roedd ei dewis o ddefnyddiau, a lliwiau mor chwaethus. Diolchwyd iddi am noson ddiddorol iawn. roeddem yn rhyfeddu at ei gwaith cywrain a’i dawn. Dwylo da yn wir.

Cyngerdd Elusennol Dafydd Wyn, y Maer


Dafydd a Mair Wyn, y Maer a’r Faeres, yn cyflwyno sieciau i Paul Pugh ac i Mrs Muriel Powell, ar rhan Cymorth Cristnogol.

Cafwyd cyngerdd lwyddiannus iawn ym Methel Newydd ar Nos Sadwrn, y 9fed o Fai, pan godwyd cyfanswm o £950 ar gyfer Cronfa Paul Pugh a Chymorth Cristnogol Cwmaman. Cymerwyd rhan gan ddau gôr llwyddiannus iawn y Cwm, sef Côr Merched
Lleisiau’r Cwm, gyda’u harweinyddes Catrin Hughes a Bethan Llwyd Morgan yn cyfeilio iddynt a Chôr Meibion Dyffryn Aman gyda’u harweinydd Ian Llewellyn a Berian Lewis yn cyfeilio. Y ddau unawdydd oedd Aled Morgan ac Eirlys Davies, gyda Catrin Hughes yn gyfeilyddes. Cafwyd cyfraniadau gwerthfawr gan Gôr Merched Iau Ysgol y Bedol gydag Elen Lord-Rees yn cyfeilio iddynt a Dafydd Davies yn adrodd. Yna, daeth Côr Ysgol Dyffryn Aman i’r llwyfan gyda’i harweinyddes Mared Owen a Catrin Hughes yn cyfeilio iddynt. Cafwyd cyfraniad gwerthfawr hefyd gan Tom Hamer, Prif Fachgen yr ysgol, a ganodd ddwy gân i’r Gitâr. Cyflwynydd y noson oedd Linden Evans, a wnaeth ein diddanu gyda’i straeon llawn hiwmor rhwng yr eitemau.
Cafwyd araith gan Derith Powell ar rhan Cymorth Cristnogol a braf oedd clywed hanes y mudiad gyda’r holl weithgareddau sydd yn mynd ymlaen i helpu’r anghenus. Yr oedd anerchiad Dafydd Wyn, y Maer yn un bwrpasol iawn a diolchodd Dafydd i holl artistiaid y noson ac eraill am gyngerdd yr oedd yn falch ohoni, gan ddymuno yn dda i’r Cymorth Cristnogol a’u gwaith diflino yn y Cwm ac hefyd dymunodd yn dda i Paul a’i rhieni. Gwerthfawrogodd yn fawr bob cymorth a gafodd wrth drefnu’r noson ac i’r gynulleidfa a ddaeth i fwynhau cyngerdd a fydd yn aros yn hir yn y côf yng Nghwmaman.

CINIO BLYNYDDOL MERCHED Y WAWR



Cynhaliwyd cinio blynyddol Cangen y Gwter Fawr ar nos Wener, Mai 8fed. ym Mwyty’r Mynydd Du. Y brawd Alun Wyn Bevan oedd i fod yn wr gwadd ond yn dilyn marwolaeth sydyn ei dad nid oedd modd iddo fod gyda ni a mawr oedd ein diolch i Glynog am ddod i’r adwy. Cafodd pawb oedd yn bresennol noson ddifyr a digon o hwyl wrth iddo rannu ei atgofion o nifer o ddigwyddiadau ac achlysuron yn ei fywyd.
Noson Gymdeithasol oedd yn cloi y tymor ar nos Wener, Mehefin 12, gyda’r Cyfarfod Blynyddol ac arwerthiant a hynny yn Neuadd yr Henoed am 7 o’r gloch fel arfer.

16.7.09

GALA NOFIO'R URDD - YSGOL GYMRAEG RHYDAMAN

Llŷr Morris, Steffan Morris, Alex Laius a Harri Jones o Ysgol Gymraeg Rhydaman oedd pencampwyr yn y ras gyfnewid rydd i fechgyn dan 12oed yng Ngala Nofio Genedlaethol yr Urdd.
Gwych fechgyn!
Daeth Steffan Morris yn gyntaf yng nghystadleuaeth strôc Gefn dros 50m yng Ngala Nofio Genedlaethol yr Urdd. Llongyfarchiadau iddo.

YSGOL GYMRAEG RHYDAMAN- SER Y DYFODOL

Dyma Talfan Allcock a Rhys Minchin yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy, Gwent. Bu’r ddau yn chwarae gyda thîm dan 12 oed Ysgolion Gorllewin Cymru yn erbyn Ysgolion Dwyrain Cymru. Cafodd Talfan yr anrhydedd o fod yn gapten ar y tîm. Ardderchog fechgyn.

12.7.09

PRIODASAU


Ar Fai 23 yng Nghapel Newydd y Betws priodwyd Lowri, merch Joy a Chris (gynt o Brynffin) a James Powell. Mae’r ddau wedi ymgartrefi yng Nghaerdydd lle maent yn gweithio fel cyfrifwyr. Bu Lowri yn aelod ffyddlon ac athrawes yn yr Ysgol Sul yng Nghapel Newydd.

Ar Ebrill 4 yng Nghapel Bethania, y Tymbl priodwyd Gareth, mab Wynallt a Delyth Richards o’r Betws a Rebecca, merch John a Jenny Evans o’r Tymbl. Cynhaliwyd y Brecwast Priodas yn Nhafarn yr Hannerffordd ger Nantgaredig a threuliodd y par eu mis mel yn y Cotswolds. Mae Rebecca yn dysgu Gwyddoniaeth yn Ysgol Gyfun Bryntawe tra bo Gareth yn gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghrosshands. Maent wedi ymgartrefi yn y Fforest.

10.7.09

SWALEC PLATE


Llongyfarchiadau …i dîm rygbi Rhydaman ar ennill y “Swalec Plate” yn Stadiwm y Mileniwm ar Fai 9.
Yn y llun gwelir Huw Jones, Llywydd presennol y clwb ac a fu’n aelod o dîm llwyddiannus 1958-59 yn dymuno’n dda i Ioan Jones, mab Betsan a Graham Jones, Heol Reis a chwaraeodd ran amlwg trwy gydol y tymor. Chwaraewr / Hyfforddwr presennol y garfan yw Aled Griffiths, Heol Pentwyn, a mawr oedd ei ddylanwad ar lwyddiant y bechgyn.

Eisteddfod Flynyddol Garnswllt

Cynhaliwyd yr Eisteddfod ar nos Wener, Mai 8 yn y Neuadd. Diolch i’r beirniaid am eu gwaith: Berian Lewis a Mair Wyn ac i Gloria Lloyd a fu’n cyfeilio.
Dim ond unwaith yn ystod yr 50 mlynedd ddiwethaf y methodd Gloria a chyfeilio, a hynny oherwydd tostrwydd. Diolch hefyd i’r Llywydd, y Cynghorydd Audrey Jones am ei rhodd hael ac i bawb a gyfrannodd.

PRIODASAU AUR

Mae eleni yn flwyddyn brysur iawn. Mae nifer yn dathlu eu priodasau aur: Eileen a Ryan a Pat a Glan ar yr un diwrnod. Rhannodd Eileen a Ryan y gacen gyda’r pensiynwyr eraill yn y Neuadd.
Ar Fai 16 dathlodd Janice a Gareth eu Priodas Aur ac unwaith eto rhannwyd y gacen gyda phensiynwyr lleol.
Mae'r Neuadd leol wedi bof yn boblogaidd iawn ar gyfer brecwast priodas a blwyddyn nesaf bydd yn dathlu 50 mlynedd ers ei chodi.

Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman

Cynhaliwyd cinio mis Mai Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Mai 7fed dan lywyddiaeth Alun Richards, Tycroes. Y prif westai oedd y Parchg Ddr Vivian Jones, Yr Hendy. Brodor o’r Garnant yw Dr Jones. Graddiodd yn y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor ac mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg Bala-Bangor. Bu yn weinidog ar eglwysi’r Onllwyn, Pentre Estyll a’r Alltwen cyn derbyn galwad i fod yn ben-weinidog ar Eglwys Plymouth, Minneapolis, ail eglwys fwyaf yr Annibynwyr yn yr Unol Daleithiau. Bu yno am
bymtheg mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn fe dderbyniodd gradd Doethur gan Goleg Diwinyddol Unedig Minneapolis.
Doethineb oedd ei destun ac fe gafwyd darlith ysgolheigaidd ar y pwnc dyrrus hwn. Diolchwyd iddo gan ei ffrind, Hywel Davies, Y Betws.
Erbyn bydd y rhifyn hwn wedi ymddangos mwy na thebyg fe fydd y ginio nesaf a gynhelir yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Mehefin 4ydd pryd y bydd Gwyn Elfyn, Pontyberem (Denzil yn ‘Pobol y Cwm’) yn brif westai wedi cymeryd lle. Cynhelir cinio ola’r tymor yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Gorffennaf 2ail yn brydlon am 7.15 o’r gloch pryd y bydd brodor o’r Betws, Arwel Fowler, Drefach, yn brif westai. Croesewir aelodau hen a newydd i ymuno â ni.
Cysylltwch â’r ysgrifennydd Elfryn Thomas – ffôn (01269) 593679 – am ragor o wybodaeth.
I chwi sydd â diddordeb yng Nghriced fe gynhelir Dydd Cylchoedd Cinio y De ar Faes Sant Helen, Abertawe, Ddydd Iau, Awst 20fed – diwrnod cyntaf y gêm sirol rhwng Morgannwg a Swydd Middlesex. Y pris yw £35 sydd yn cynnwys tocyn mynediad i’r President’s Enclosure, carden sgorio â chinio tri chwrs a te yno a chyflenwad o de neu goffi drwy’r dydd. Mae bar preifat yno hefyd. Os carech fynd rhowch wybod i’r ysgrifennydd mewn da bryd gan y mae’n rhaid bwcio’r tocynnau o leiaf mis cyn y dyddiad.

6.7.09

Penodiad Newydd

Y mae Esgob Tŷ Ddewi, y Gwir Barchedig Wyn Evans wedi apwyntio y Parchedig Dennis Baxter yn Offeiriad a Gofal ar Plwyf Llanedi gyda Tycroes a Saron.
Ordeiniwyd Dennis yn 2005 ac mae yn Curad yn Ninbych-y-Pysgod. Bydd yn gorffen ar ei waith yn y fan honno ar Sul, Mai 17eg. Fe’i sefydlu’r mewn gwasanaeth arbennig a gynhelir yn Eglwys Sant Edmwnd, Tycroes, Nos Fercher, Mehefin 10fed am 7.00 o’r gloch. Dymunwn yn dda iddo ar ei ddyfodiad i Dycroes.

YSBRYDOLIAETH



Llongyfarchwn Mrs. Valerie Large, Heol Tycroes ar gyhoeddi ei llyfr o farddoniaeth o dan y teitl ‘Inspirations’. Ysbrydolwyd Val i sgrifennu’r llyfr pan yn ymladd y clefyd cancr. Mae elw’r gwerthiant yn mynd tuag at Uned Cancr y Fron, Ysbyty Llanelli ac hefyd Uned Cemotherapeg Ysbyty Singleton, Abertawe.
Dywed Mrs. Large bod cancr yn rhedeg yng ngennynau ei theulu a bu i’w chwaer farw ohono pan yn 56 mlwydd oed.
Derbynioedd Val ddogn trwm o cemotherapeg a bu yn wael iawn. Dechreuodd wella ond dangosodd y sgan olaf beth amser yn ôl bod y cancr wedi dychwelyd i’w hysgyfaint. Ychwanegodd bod Duw wedi bod yn agos iawn ati pan yn wael a bod ei ffydd ynddo yn parhau yn gryf .
Dywedodd ei ffrind Margaret Jones bod darllen barddoniaeth y llyfr arbennig hwn yn ysbrydoliaeth i bawb sy’n dioddef. Ei bris yw £5 ac fe ellir ei gael gan yr awdur, Meddygfa Brynteg, ‘Computers Don’t Byte’, a ‘Rig Out’ a ‘Peppercorn’ yn Llandeilo.

3.7.09

YSGOL DYFFRYN AMAN - CYNGERDD MWYNIANT MAI

Cynhaliwyd cyngerdd yn ysgol Dyffryn Aman ar y 7fed o Fai er mwyn dathlu’r grwpiau a aeth i Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd. Roedd hi’n braf bod rhieni, aelodau’r gymuned a’r
plant yn gallu dod at ei gilydd i ddathlu llwyddiant yr Ysgol yn yr Eisteddfod. Codwyd cant naw deg o bunnoedd yn ystod y noson trwy werthu tocynnau raffl, a’r elw yn mynd tuag at Gymorth Cristnogol.

CYNLLUN PONTIO ‘AWYR LAS’ YSGOL DYFFRYN AMAN

Ers tair blynedd bellach, mae Ysgol Dyffryn Aman wedi bod yn paratoi disgyblion Blwyddyn 6 yr ardal i drosglwyddo i’w hysgol uwchradd. Mae’r cynllun ‘Awyr Las’ wedi helpu disgyblion i ddatblygu eu sgiliau allweddol drwy gyd-weithio gyda phlant o
ysgolion eraill.
Fe fu’r criw yn yr ardd Fotaneg yn ddiweddar yn archwilio’r holl oedd i’w gynnig yno. Mae’r disgyblion wedi cael amrywiaeth o brofiadau ar y cynllun yn cynnwys gweithdai Drama a sesiynau creadigol. Mae’r gweithgareddau yn cael eu cyflwyno gan athrawon Ysgol Dyffryn Aman ac athrawon
ysgolion cynradd y dalgylch.
Help / Cymorth