11.8.09

Taith S4C yn Abertawe i helpu trigolion gyda'r newid digidol

Mae S4C yn gwahodd trigolion ardal Glo Man i ymuno â'u taith ddyfeisgar o gampau'r syrcas er mwyn dysgu mwy am y newid digidol.

Taith gyda llu o enwogion yw Ymlaen â'r Sioe! sy'n gyfres o arddangosfeydd sgiliau syrcas a gweithdai agored yn rhad ac am ddim. Daw'r sioe hon i Abertawe yn gynnar ym mis Medi er mwyn helpu trigolion i ddeall y newidiadau sylweddol sydd ar fin digwydd ar yr awyr.

Fydd un o gyflwynwyr mwyaf adnabyddus Cymru, seren Wedi 7 Angharad Mair yn arwain y daith yn ardal trosglwyddydd Kilvey Hill.

Mi fydd y sioe yng Ngerddi Sgwâr y Castell, yng nghanol ddinas Abertawe, rhwng 12 a 3 o'r gloch ar ddydd Mawrth 1 Medi, ac ym mharc Margam rhwng 12 a 3 o'r gloch ar ddydd Mercher 2 Medi. Cofiwch sôn am S4C ac Ymlaen â'r Sioe! wrth fynedfa Parc Margam a chewch fynediad AM DDIM! Cynhelir gweithdai dyddiol rhwng Dydd Iau, Medi'r 3ydd a dydd Llun, Medi'r 7fed, mewn gwahanol fannau yn ardaloedd Abertawe a Chastell Nedd.


Nod y daith yw helpu cymunedau Cymru i baratoi ar gyfer y newid digidol.

Bydd perfformiadau rhad ac am ddim, gydag aelodau o gwmni syrcas adnabyddus NoFit State Circus, yn cyflwyno gwybodaeth allweddol i drigolion am y newid. Yn y cyfamser, bydd gweithdai campau syrcas yn rhoi cyfle i'r cyhoedd roi tro ar gampau'r syrcas – oherwydd, yn y bôn, os gallwch ddysgu jyglo, bydd y newid i ddigidol yn rhwydd! Dewch draw, ymunwch, a phrofwch drosoch eich hunain!

O'r 9fed o fis Medi 2009, bydd rhaid i wylwyr sicrhau bod eu teledu'n gallu derbyn signal digidol neu bod ganddynt 'flwch digidol pen teledu pwrpasol. Bydd rhaid i wylwyr Freeveiw ail-diwnio eu teledu neu flwch pen teledu er mwyn parhau i fwynhau rhaglenni S4C.


Gorllewin Cymru fydd yr ardal gyntaf i newid. Bydd trosglwyddydd Kilvey Hill, ardal Abertawe; Preseli, sy'n darparu gwasanaeth i dde a gorllewin Cymru; a Charmel, sy'n gwasanaethu ardaloedd yng nghanolbarth a dwyrain Cymru, yn newid ym mis Awst a mis Medi.


Mae'r newid digidol yn golygu newidiadau mawr i'r sianel. Hyd yn hyn, mae rhaglenni Cymraeg S4C wedi ymddangos ochr yn ochr â rhaglenni Saesneg Sianel 4. Yn dilyn y newid Digidol, a ddaw i rym yng Nghymru ym mis Awst, bydd S4C yn gwbl Gymraeg a bydd cynnwys Sianel 4 yn cael ei ddarlledu ar wahân.

Mae S4C yn cydweithio'n agos gyda Digital UK, y corff annibynnol sy'n gyfrifol am oruchwylio'r newid digidol, i roi cyngor i drigolion ar yr hyn y dylent wneud er mwyn derbyn a chynnal signal.

Bydd Ymlaen â'r Sioe yn teithio i ardaloedd ledled Cymru gyda'i chriw o berfformwyr o syrcas gyfoes NoFit State Circus. Yn ymuno â nhw bydd rhai o sêr blaenllaw S4C, fel cyflwynydd Wedi 7, Angharad Mair, cwisfeistr, y gohebydd pêl-droed a'r cyflwynydd, Morgan Jones, y perfformiwr comedi Tudur Morgan a’r cyflwynydd Sarra Elgan.

Bydd y sioeau a'r gweithdai'n helpu cyfleu newidiadau a rhinweddau'r newid digidol. Caiff gwylwyr gyfle i holi sut bydd y newid yn eu heffeithio nhw, a beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwylio eu hoff raglenni ar S4C o hyd. Hyn oll wrth dysgu camp syrcas newydd!

Bydd ymgyrch deledu, gyda sêr S4C a'u campau syrcas, yn cael ei darlledu trwy gydol y cyfnod cyfnewidiol.

4.8.09

Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd

Daeth llwyddiant i ran Ysgol Gynradd Llandybie yn ddiweddar pan ddewiswyd pedair cystadleuaeth i gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Caerdydd.
Shakira Sigsworth — Adrodd dan 10 oed (Dysgwyr)
Katie Duffin — Unawd dan 12 oed
Katie Duffin a Carys Morgan — Deuawd dan 12 oed
Grwp Cerddoriaeth Creadigol —Afon Taf
Braf yw dathlu bod y ddeuawd gan Katie a Carys yn canu "Yr Hydref” a'r Grwp Cerddoriaeth Creadigol yn canu am "Afon Taf' wedi cyrraedd Ilwyfan Canolfan y Mileniwm ac wedi derbyn y 3edd wobr yn y Genedlaethol.
Llongyfarchiadau gwresog iddynt.

COR MEIBION LLANDYBIE

Dathlodd y côr ei canmlwyddiant yn 2008 drwy deithio i Niagra yng Nghanada a Philadelphia yn yr Unol Daleithiau. Dros y blynyddoedd y mae'r côr wedi teithio i’r Iseldiroedd, Norwy a Llydaw. Ym mis Hydref y mae penwythnos yng Ngwlad yr Haf wedi ei threfnu.
Yr ydym yn chwilio am aelodau newydd. Ymunwch a ni er mwyn cadw'r traddoddiad yn fyw. Mae'n ffordd wych o ymlacio ac fe gewch groeso cynnes iawn gennym. Yr ydym yn ymarfer yn Neuadd y Pensiynwyr, Llandybie am 7 o'r gloch ar nos Fawrth a nos Iau. Am rhagor o fanylion cysylltwch a'r rhif canlynol 01269 850813 neu just trowch lan!

PRIODASAU ARBENNIG

Llongyfarchiadau i Noa a Nansi Miles wrth iddynt ddathlu eu penblwydd priodas 65 o flynyddoedd yng Nghartre Preswyl Ael-y-Bryn. Mae Nansi yno am ychydig wythnosau.

Hoffai Marcus ac Ivy Hopkins ddiolch i bawb am gardiau, blodau ac anrhegion wrth iddynt ddathlu eu Priodas Aur ar Fehefin 27.

CWIS CHWARAEON

Fel rhan o Wyl Dinefwr eleni cynhaliwyd Cwis Chwaraeon yng Nghlwb Rygbi Llangadog Nos Lun Mehefin 29ain. Roedd 12 tim yn cystadlu, a'r holwr gwadd oedd John Davies, - cyn brop Cymru (a'r Sgarlets, Llanelli a Chastell­nedd, and sydd erbyn hyn yn chwarae gyda Chlwb Rygbi Crymych). Tim o Glwb Rygbi Brynaman oedd yn fuddugol. Yn y Ilun gwelir John Davies, Emyr Hopkin, Philip Hicks, Keith Hopkin a Royston Jones.

PWYLLGOR DEILLION CWMAMAN

Hoffai’r pwyllgor ddiolch o galon am y casgliadau o dŷ i dŷ a ddigwyddodd yn ddiweddar. Codwyd y swm o £730.85, ac y mae hyn yn glod i’r ardal. Mae’n rhaid diolch yn bennaf i Mrs Janice Thomas sydd yn Gadeirydd Weithredol, Trysorydd ac hefyd yn Ysgrifenyddes y Gangen yn y Cwm, am ei gwaith clodwiw a di-rwgnach yn cadw trefn ar bopeth a phawb ohonom sydd ar y pwyllgor. Mae Janice wedi bod wrthi am dros 23 o flynyddoedd. Diolch yn fawr iawn iddi am y gorchestwaith yma. Cyflwynir rhoddion gan y Gangen i’r Rhannol Ddall bedair gwaith y flwyddyn ac hefyd maent yn derbyn swm sylweddol pob Nadolig. Mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen i godi mwy o arian i’r bobl hynny sydd wedi colli ei golwg. Hyfryd yw cofnodi bod y pwyllgor yn derbyn hyd at 37 o wobrau raffl pob blwyddyn a diolchwn i chwi oll am eich haelioni. Parhaed y gwaith pwysig hwn yn y Cwm am flynyddoedd eto i ddod.

FFRINDIAU YSBYTY DYFFRYN AMAN

Cafwyd noson goffi hyfryd iawn yn ddiweddar yn Ysbyty Dyffryn Aman i godi arian i’r achos teilwng hwn. Croesawyd pawb gan y Cadeirydd, sef Mr Iwan Lewis, Brynaman, a gyflwynodd y Parchedig Lyn Rees, Saron, Caplan yr Ysbyty. Diolchwyd i’r Brif Nyrs, Catrin Madge, a’i staff am eu paratoadau ar gyfer y noson. Yr oedd y lluniaeth o’r safon flaenaf a mwynhawyd gan bawb a oedd yn bresennol. Tynnwyd y raffl gan Ddirprwy Faer Cwmaman, sef Mr Brian Twomey, ac y mae’r gwobrau wedi cael eu dosbarthu.
Hoffau’r pwyllgor ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r noson ac i’r bobl hynny a gyflwynodd rhoddion hael. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Pwyllgor a fyddech gystal a chysylltu â’r Ysgrifenyddes, sef Mrs Dilys Richards, 86 Heol Tirycoed, Glanaman a rhif ffôn Dilys yw 01269 823397. Byddai’n falch o glywed wrthych.

2.8.09

Ymlaen â’r sioe!

Sêr S4C yn lansio ymgyrch leol i dynnu sylw at y newid i ddigidol
Bu dau o gyflwynwyr teledu mwyaf poblogaidd Cymru ar y strydoedd dydd Gwener 10 Gorffennaf yng nghwmni perfformwyr syrcas cyfoes i roi sylw i’r newidiadau sylweddol sydd ar fin taro’r tonfeddi.
Ymunodd Angharad Mair, sy’n cyflwyno’r rhaglen gylchgrawn Wedi 7, a Morgan Jones, y cwisfeistr, gohebydd pêl-droed a chyflwynydd, ag aelodau o NoFit State Circus i godi ymwybyddiaeth o’r newid i ddigidol a’r ffaith mai dim ond rhaglenni Cymraeg fydd ar S4C wedi’r newid.
Ar hyn o bryd mae rhaglenni Saesneg gan Channel 4 yn cael eu darlledu ynghyd â’r rhaglenni Cymraeg ar S4C. Ar ôl y newid i ddigidol, sy’n cychwyn yng Nghymru yn mis Awst, bydd S4C yn llwyr yn y Gymraeg a chaiff holl gynnwys Channel 4 ei ddarlledu ar wahân.
I hysbysu gwylwyr sut i dderbyn S4C ar ôl y newid i ddigidol, mae’r Sianel yn cynnal ymgyrch wybodaeth helaeth ym mhob rhan o Gymru dros y misoedd i ddod.
Mae hyn yn cynnwys sioe deithiol i hysbysu cymunedau lleol am y newidiadau a beth sydd angen iddynt wneud i barhau i dderbyn rhaglenni Cymraeg. Mae’r ymgyrch yn cynnwys gweithdai ar sgiliau syrcas er mwyn denu gwylwyr o bob oedran i glywed am y newidiadau. Mae'r sioe yn dod i Gwmaman.
I lansio ymgyrch wybodaeth newydd S4C, ‘Ymlaen â’r Sioe’, bu Angharad a Morgan yn profi eu sgiliau cydlynu drwy jyglo a cherdded ar raff gydag ychydig o help gan berfformwyr NoFit State Circus.

Bydd y cyflwynydd adnabyddus Sarra Elgan a’r digrifwr Tudur Owen yn ymuno ag Angharad Mair a Morgan Jones i gyflwyno’r ymgyrch a byddant yn cymryd rhan mewn gweithdai ym mhob rhan o’r wlad.
Pwysleisiodd Tim Hartley, Pennaeth Materion Corfforaethol S4C, fod y Sianel yn barod ar gyfer y newidiadau i ddod – gan ddod am y tro cyntaf yn sianel yn llwyr ar gyfer rhaglenni Cymraeg. http://www.s4c.co.uk/dso/c_index.html

PENBLWYDD YN 90 OED

Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Frank Gerrard, Cannon Street, Brynaman Isaf ar ddathlu ei benblwyd dyn 90 oed ar Fehefin 17. Colier oedd Frank yn hen waith Y Betws. Yn y Llun gwelir y brodyr Morlais a Cen Puw yn cyflwyno plat arbennig oddo ar ran Cyngor Cymuned Gwaun-Cae-Gurwen.

YMDDEOLIAD

Dymuniadau gorau i Mr Hywel Nicholas, Pennaeth Ysgol Y Glyn ar ei ymddeoliad yn ddiweddar. Trwfnqyd noson ffarwelio yn Neuadd yr Ysgol pan ymunodd athrawon a chyfeillio i ddymuno'n dda iddo. Cyflwynwyd llun o lowr iddo, gwaith yr arlunydd o Bontardawe Mike Jones. Diolchwn iddo am flynyddoedd o wasanaeth.
Help / Cymorth