29.10.09

Sioe Ceffylau Cwm Gwendraeth


Daeth llwyddaint i ddau o ardal Llandybie yn Sioe geffylau Cwm Gwndraeth yn ddiweddar. Daeth Gwenno Davies a'i cheffyl "Del" yn gyntaf yn Dosbarth C a daeth Adrian Jenkins o "Talgarth Stud", Llandyfan yn gyntaf yn Adran A gyda'i geffyl Talgarth Thimble.

COR MEIBION LLANDYBIE

Ar Nos Wener Awst 28ain yn ny bwyta y mochyn Daear, Y Blaenau cafwyd noson arbennig i anrhydeddu Mr David Jones ar ei ymddeoliad fel cyfarwyddwr Cor Meibion Llandybie.
Bu Mr David Jones wrthy llyw am bymtheg mlynedd lwyddiannus iawn. Daeth llawer iawn o aelodau'r cor ynghyd i ddangos eu parch tuag ato ac i'w anrhydeddu gyda baton arbennig. Cyflwynwyd tlws o flodau i'w wraig Joy.
Dymuniadau cynnes iawn i David a'i deulu i'r dyfodol.

28.10.09

YSGOL GYMRAEG RHYDAMAN

Bu aelodau côr yr ysgol yn ymarfer yn gyson ar ddechrau’r tymor i ddysgu un o emynau Nnatlais ar gyfer y rhaglen “Dechrau Canu, Dechrau Canmol”. Darlledir rhaglen arbennig o Gapel Bethany ar Rhagfyr 6ed i gofnodi hanner canmlwyddiant marwolaeth y bardd a’r pregethwr.

GWOBR YMGYRCH ORAU PYTHEFNOS MASNACH DEG I RYDAMAN


Aeth teulu o Rhydaman i Lundain ar ddydd Sadwrn 10 Hydref i gasglu gwobr cenedlaethol ar ran Grwp Masnach Deg y dref.Mae grwp Masnach Deg Rhydaman wedi ennill yr ymgyrch Gyfryngol orau trwy Brydain gyfan yn ystod Pythefnos Masnach Deg 2009.Roedd Phil Broadhurst, aelod o’r grwp yngyd a’i ferched May, Rosa, Cody ac Esta, wedi derbyn gwahoddiad i fynychu cynhadledd y SefydlIad Masnach Deg yn Llundain a chasglu siec o £500 a gafodd ei rhoi gan y “Shared Interest Foundation”. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan y grwp ar gyfer ymgyrchoed dyn y dyfodol i hyrwyddo Masnach Deg yn yr ardal. Cafodd Rosa sydd yn ddisgybl blwyddyn 7 yn ysgol Dyffryn Aman ei chyflwyno gyda’r wobr gan George Alagiah sy’n darllen newyddion y BBC. Dywedodd ei thad, Phil Broadhurst, : "Roedd y digwyddiadau yn Rhydaman yn ystod pythefnos Masnach Deg eleni , yn enwedig y banana split yn yr Arcade a’r ras gyfenwid bananas yn lwyddiant ysgubol. Cawsom genfogaeth llawer o bobl ifanc y dref a felly mae’n addas mai person ifanc o Rydaman sy’n casglu’r wobr.”

25.10.09

AELODAU NEWYDD I BETHEL NEWYDD

Yr oedd bore Sul y 13ydd o Fedi yn achlysur arbennig yng Nghapel Bethel Newydd pan weinyddwyd y Cymun gan ein Parchus Weinidog, Gwyndaf Jones. Derbyniodd wyth aelod newydd i’r Capel ond gwelir llun saith ohonynt gyda’r Gweinidog gan i Roisin Chandler adael y gwasanaeth am ei bod yn teimlo’n sal. Ar ôl y Cymun galwyd ar y bobl ifanc yma i’r set fawr i gael eu derbyn, sef Caryl John, Ceris Campbell, Catrin Campbell, Siwan Chandler, Cari Chesby, Hywel Mackey a’r Dr. Angharad Bevan. Croesawyd hwynt gyda dwylo agored gan yr aelodau a oedd yn bresennol a gobeithiwn gael eu gweld yn gyson yn y capel yn y dyfodol. Braf iawn oedd cael bod yn bresennol yn yr oedfa arbennig yma.

PRIODAS DDA

Ar Awst 1af, priodwyd Jane Owen Wyn, merch hynaf Dafydd a Mair Wyn, Heol Tirycoed, Glanaman gydag Adam Mathew Hughes, mab ieuengaf Raymond a Pauline Hughes, Ceri, ger y Drenewydd, yn Eglwys Dewi Sant, Henfynyw, ger Ffosyffin. Y forwyn briodas oedd Ceris Meleri Wyn a’r gwas bach oedd Tom Waters. Cafwyd y wledd yng Ngwesty’r ‘Plu’, Aberaeron, a treuliodd y pâr eu mis mel yn yr Aifft. Mae Jane yn athrawes Saesneg ac yn Bennaeth y Chweched yn Ysgol Gyfun Llanbed ac Adam yn Olygydd Chwaraeon gyda’r ‘Cambrian News’, Aberystwyth. Maent wedi ymgartrefu yn Haulfan, Ffos-y-Ffin. Dymunwn bob hwyl a iechyd da iddynt i’r dyfodol.

23.10.09

Gefeillio Cwmaman

Pleser o’r mwyaf oedd cael croesawu mintau o bobl ieuanc o Pouldergat, sef ein gefeilldref yn Llydaw, i Gwmaman ym mis Gorffennaf eleni. Cawsant amser amrywiol a diddan tra’n ymweld â llefydd o ddiddordeb yn ein hardal. Cynhaliwyd cystadleuaeth Karaoke yn y Raven ar y Nos Fercher ac roedd hawl canu mewn Llydaweg, Cymraeg, Ffrangeg neu Saesneg. Rhoddwyd y gwobrau gan Carl Morgan, y Maer, a’r enillydd oedd Jean Reneē, arweinydd y Llydawyr, gydag Isabel Paisey o Gaerdydd yn Ail.

22.10.09

BATHODYN GLANAMAN COUNTY SCHOOL

Daeth y bathodyn uchio at Glo Man oddi wrth Brian Lewis, Heol Tir-y-Coed, Glanaman. Fel y gwelir Bathodyn ‘Glanamman County School’ ydyw. Mae Brian yn awyddus i gael clywed wrth unrhyw un a all ei helpu trwy rhoi gwybod iddo atebion y cwestiynau canlynol:-

1. Ar gyfer pwy achlysur y cafodd y bathodyn ei wneud?
2. Dyddiad cywir ei wneuthuriad – yn y tri degau efallai?
3. Pwy dalodd amdano a’i rhoddi i’r ysgol?
4. Unrhyw wybodaeth arall, os gwelwch fod yn dda


Medrwch gysylltu ag Edwyn Williams ar edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk
Diolch yn fawr i chi am gymryd diddordeb.

Noddfa

Nos Iau 3ydd Medi cynhaliwyd Cyrddau blynyddol y Cwrdd Sanana yng Nghapel Noddfa. Cawsom alwad i addoli gan y Parchg Mary Davies. Mrs Menna Jones oedd yn gyfrifol am y rhannau arweiniol. Rhoddwyd gair o groeso i bawb gan Mrs Ann Thomas. Darllennodd Miss Aerona Jones y cofnodion a rhestr yr eglwysi. Wedi adroddiad gan y trysorydd, Mrs Heulwen Rees, cawsom eitem gan Gôr y Chwiorydd. Y Parchg Mary Davies oedd yn coffau y galarwyr a Mrs Relda Edwards a Mrs Margaret Rees oedd yn gyfrifol am y casglyddion.
Galwodd y Llywydd, Y Parchg Mary Davies, ar y darpar Lywydd Mrs Ivy Hopkins i wisgo’r bathodyn a llofnodi’r Beibl. Adroddodd Mrs Ann Thomas ychydig o hanes Ivy ac offrymu’r Urdd Weddi.
Cawsom anerchiad pwpasol gan Y Parchg Mary Davies. Cyflwynwyd y diolchiadau ar ran Noddfa gan Mrs Mary Prescott. Yr Organyddes oedd Mrs Davina Evans.

19.10.09

LLONGYFARCHIADAU 90 oed

Bu Mrs Liz Jones Heol Cae Gurwen yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed ar Orffennaf 11eg. Cyflwynwyd blật y Gymuned iddi gan Mr Gerald James ac aelodau o Gyngor y Gymuned. Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus iddi.
Ar 18ed o Orffennaf, roedd Mrs Doris Owen Heol Gorsto yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed. Cyflwynwyd blật y Gymuned iddi gan Mr Gerald James, Cadeirydd Cyngor y Gymuned. Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus iddi hithau hefyd.
Dymuniadau gorau am hapusrwydd a iechyd da i’r ddwy.

Merched y Wawr Cangen GwaunGors

Ar Orffennaf 4ydd aeth aelodau o’r gangen ar wibdaith yn ôl ein harfer ar ddiwedd blwyddyn y Mudiad. Eleni aethom i ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Gelfyddyd Castell Cyfa r t h fa ym Merthyr Tudful. Yno ceir hanes Merthyr a theulu cefnog Crawshay a’r gweithfeydd haearn, ynghyd â chasgliad o gelfyddyd yr ugeinfed ganrif. Yna aethom i fwthyn yr enwog Joseph Parry, gwrthgyferbyniad llwyr i’r plasdy. Mae’n esiampl o fwthyn gweithwyr medrus gwaith haearn. Mae’r ddwy ystafell ar y llawr wedi eu hadnewyddu a’u dodrefnu â chelfi ac offer o
fywyd yn amser Joseph Parry (g.1841), ar y llofft mae arddangosfa fechan o’i fywyd a chymdeithasau cerddorol yr ardal. Cawsom ddiwrnod hamddennol, diddorol a phleserus.

Taith i’r Senedd

Aeth Cynorwyr Cymuned Gwaun Cae Gurwen a’u partneriaid i’r Senedd yn Caerdydd a’r Fehefin y 7fed 2009.

18.10.09

Aelwyd Amanw

Prynhawn Dydd Gwener, Gorffennaf 24, daeth criw da ynghyd i ddathlu agoriad Aelwyd Amanw ar ei newydd wedd. Roedd yno bobl yn cynrychioli’r noddwyr a chymdeithasau lleol a rhai oedd wedi teithio o bell - rhai oedd wedi cael pleser mawr yn yr Aelwyd yn ystod eu hieuenctid. Croesawyd pawb gan Mair Thomas, y cadeirydd, a chyflwynwyd cyfarchion ar ran yr Urdd
gan Mr Bob Roberts, Llanedi cyn cyhoeddi’r agoriad yn swyddogol gan Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru. Yna, rhannodd Y Parchg E.D. Morgan (Llanelli) ei atgofion ef am y dyddiau cynnar, a Glan Davies (Aberystwyth nawr), Glynog Davies (Brynaman) a Sarah Hopkin (Brynaman) eu hatgofion am eu dyddiau nhw yn yr Aelwyd - profiad diddorol ac adloniadol i’r gwrandawyr. Diolchwyd i’r noddwyr a wnaeth y prosiect “Ehangu ac Adnewyddu” yn bosibl, gan y Trysorydd, Brian Humphries.
Rhaid diolch hefyd i “Community Design Gwent” am yr Astudiaeth Dichonolrwydd, ac i Gemma, oedd ar staff Anturiaeth Dyffryn Aman, am gymorth gyda’r cais ar y dechrau.
Wedi’r diolchiadau, cafwyd gwledd o fwyd (a baratowyd gan wragedd pwyllgor Aelwyd Amanw), a chyfle i bawb oedd yn bresennol i rannu atgofion.
Mae cyfarfodydd Adran Amanw wedi ail ddechrau a bydd croeso i blant 7-11 oed yn yr Aelwyd ar Nos Fercher o 6 - 7.30. Mae’r plant oedd yn dod cyn yr haf wedi dod yn ôl am fwy o hwyl a sbri ond bydd digon o groeso i aelodau newydd hefyd.

Cyfarchion Penblwydd

Mae nifer o bobl Brynaman wedi cael penblwyddi “0” fawr ers i rifyn Gorffennaf o’r Glo Mân ymddangos:
Mrs Myra Thomas, Arfryn; Mr Austin Thomas, Llysawelon, Heol y Bryn a Mrs Margaret Jones, Heol Llandeilo a ddathodd eu penblwydd yn 80.
Dathlodd Mrs Nancy Williams, Heol Llandeilo ei phenblwydd yn 90 ac ar Hydref 11 bydd Mr Austin Thomas eto o Heol y Bryn yn dathlu ei 90 hefyd.
Dymunwn bob bendith a iechyd iddynt i gyd at yr “0” fawr nesaf.

17.10.09

Clwb Cerdded y Mynydd Du

Beth well ar brynhawn heulog na mynd allan i gerdded - cael ymarfer corff ac awyr iach a mwynhau’r golygfeydd godidog sydd ar garreg y drws (bron!)
Prynhawn Dydd Iau, Medi’r 10fed, bu criw bach o Frynaman, o dan arweiniad Ian Wagstaff, yn cerdded rhan o’r Mynydd Du. Buont lan at Y Garreg Lwyd, draw i’r Foel Fraith yna at Gefn y Cylchau cyn dychwelyd uwchben yr Afon Clydach tuag at y Maes Parcio - taith a gymerodd ychydig dan 3 awr. Roedd hi’n bosib gweld gweld arfordir Gwlad yr Haf, Penrhyn Gwyr a Llanelli i un cyfeiriad a Mynyddoedd Carn Ingli a’r Preselau i gyfeiriad arall. Gwych!
Mae Clwb Cerdded y Mynydd Du yn trefnu teithiau cerdded o gylch yr ardal sy’n addas i bobl o bob gallu. Mae rhaglen o deithiau cerdded prynhawn 3-4 awr a theithiau cerdded dydd 5-6 awr ar gael.
Dyma’r teithiau nesaf fydd yn rhai 3-4 awr gan gwrdd yng Nghanolfan y Mynydd Du am 1 o’r gloch y prynhawn i drefnu ceir lle bo angen.
Hydref 22 : Cwm Pedol
Tachwedd 5 : Llyn y Fan Fach – Picws Du
Os hoffech chi ymuno a mynd ar rai o’r teithiau neu am fwy o wybodaeth yna cysylltwch ag Ian Wagstaff ar 01269-823949 neu Ganolofan y Mynydd Du ar 823400
.

11.10.09

PARTI GARDD ARBENNIG


Dyma lun Mrs Hetty a Mr Meirion Davies, Heol y Gelynen, Brynaman. Cafodd Meirion ei anafu yn ofnadwy yn rhyfel Korea, lle cafodd lawer o fedalau am ei ddewder.
Yr oedd y ddau wedi cael gwahoddiad i Barti Gardd yn Buckingham Palace lle roedd Tywysog Edward a Dug Caint yn bresenol.Cawsant gyfle i siarad a’r Dug a’r tywysog Edward ac roedd yn achlysur hyfryd a’r ddau wedi mwynhau yn fawr iawn

9.10.09

Eisteddfodol


Braf oedd gweld nifer o fobl lleol, ac a chysylltiadau lleol, yn derbyn anrhydedd yn y Bala. Mae Ieuan Wyn yn wyr i Eiddwen Mainwaring, Heol Reis ac yn fab i Heulwen a Wyn. Graddiodd ym Mangor yn 2008 mewn cerddoriaeth ac ar hyn o bryd yn astudio yn Atrium Prifysgol Morgannwg yng Nghaerdydd ar gyfer M.Sc. mewn Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth. Bu yn agos iawn i’r brig, ar un achlysur, gyda chyfansoddiad ar gyfer Cân i Gymru.
Ac yna llongyfarchiadau i Randal Isaac a John Davies a urddwyd eleni, gweler hwy yn y llun yng nghwmni Eifion Price a gafodd ei urddo yng Nghaerdydd.

7.10.09

Capel Newydd

Ar brynhawn Sul, Gorffennaf 12fed bu rai o blant yr Ysgol Sul, ynghyd â nifer o blant Ysgolion Sul Henaduriaeth Myrddin, ar daith gerdded ar hyd yr arfordir yn Llanelli; ac yna mwynhau stori, cân, hwyl a sbri mewn awyrgylch Cristnogol. Yn ystod yr wythnos flaenorol bu nifer ohonynt yn cymryd ran mewn noson athletau dan dô yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman, o dan nawdd y Cyngor Ysgolion Sul.

Byd y Theatr

Bu dau o fechgyn ifanc, sydd a chysylltiad a’r Betws yn teithio’r wlad ym mis Medi fel aelodau o Gwmni Theatr Ieuenctid Cymru.
Mae Dyfed Cynan yn fiyr i Mavis a John Williams, Heol Pentwyn ac yn fab i Lowri a Geraint. Enillodd ysgoloriaeth Glan Aethwy i’r actor mwyaf addawol yn 2008-9 a daeth i’r llwyfan yng nghystadleuaeth Richard Burton yn Eisteddfod Caerdydd. Mae wedi cymryd rhannau blaenllaw yn cynghyrchiadau’r Urdd
megis Les Miserables a Ffawd. Mi fydd yn cychwyn ar gwrs actio yn y “Central School of Speech and Drama yn Llundain fis Hydref.
Gweithio tu ’nôl i’r llenni bu Eirian Rhys, sef wyr Jean a’r diweddar Robert Evans, Heol y Betws a mab Guto ac Anita. Mae Eirian yn gyn-ddisgybl Ysgol G y m r a eg Rhydaman, Maes yr Yrfa a Choleg Gorseinon a bu’n aelod ffyddlon iawn yn Ysgol Sul Capel Newydd. Mi fydd yn dilyn cwrs Technegydd Cerdd ym Mhrifysgol Morgannwg Caerdydd fis Hydref.
Roedd Dafydd Llyr Thomas, Heol y Coleg, Rhydaman hefyd yn aelod o’r cwmni. Dymunwn yn dda i’r tri yn eu gyrfa dewisiedig.

Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Nos Fawrth, yr 8ed o Fedi yn Gymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteridd Cymru ym Mhrifysgol Llanbedr- P o n t - S t e ffan daeth tymor y Parchg D. Haydn Thomas fel Llywydd i ben. Daeth llu o gyfeillion o Gaerdydd, Y Bari, o ardal Pumsaint a Chwrt y Cadno lle cychwynodd ei weinidogaeth 53 o flynyddoedd yn ôl at y cynrychiolwyr. Yn eu plith hefyd fel y disgwylid, roedd ei deulu a ffrindiau o Betws, gan mai brodor o’r Betws yw Haydn, roedd yn falch o gael eu cefnogaeth a’u cwmni.
Mae blwyddyn yn gorffen gydag Araith Ymadawol Y Llywydd. Yn ei araith diolchodd am pob cyfle a ddaeth i’w ran i wasanaethu ac i arwain yr enwad. Yn ei araith galwodd ar i Eglwys Bresbyteraidd Cymru i bwyso ar y Prif Weinidog i dynnu ein milwyr o Afghanistan. Trist yw gweld awyren yn dod i RAF St Lythan yn wythnosol yn dwyn adref cyrff bobl ifainc gan amddifadu gwragedd ifanc a phlant bach o briod a thad. Ni ellir cyfiawnhau hyn mwyach. Rhaid gwneud ein gorau mewn ffordd diplomataidd i setlo problemau terfysgaeth.
Ni fu’n bosib iddo gyflawni ambell ddyletswydd oherwydd afiechyd ei briod Doreen, ond mae’n fwriad ganddynt ymweld a Ta i wan yn 2010. Dymuniadau da a phob bendith i’r ddau ohonoch.

6.10.09

Priodas Lowri ag Iestyn


Priodwyd Lowri Marie Nicholas a Iestyn John Williams yng nghapel Moreia, Tycroes, prynhawn Sadwrn, Gorffennaf 29ain. Gwasanaethwyd gan y Parchg Dyfrig Rees gyda Mrs Rhonwen Thomas wrth yr organ. Y gwas priodas oedd Iestyn Griffiths ac Eleri Williams, Maria Thomas, Aimee Barnett, Ffion Evans a Sioned Thomas oedd y morynion. Y forwyn fach oedd Mali Roberts gyda Chris Nicholas, Emyr Thomas, Rhodri Griffiths a
Mathew Rees yn dywyswyr. Cyflwynwyd yn ystod y gwasanaeth eitem gerddorol o’i chyfansoddiad gan Mrs Rhian Thomas, modryb Lowri.
Athrawes yw Lowri yn ôl ei galwedigaeth a Iestyn yn drydanwr. Y maent wedi ymgartrefu yng Ngolwg y Mynydd, Y Betws. Dymuniadau da i’r pâr ifanc.

Yn 90 oed

Llongyfarchiadau i Mr Cyril Evans, Heol Penybanc ar ddathlu eu benblwydd yn 90 oed yn ddiweddar. Brodor o Gaerbryn yw Cyril. Fe dreuliodd flynyddoedd lawer yn gweithio yn y Co-op mewn nifer o ganghennau yn yr ardal gan gynnwys Tycroes ac yna yn rheolwr yn Nhirydail. Aeth wedyn yn rheolwr siop Tª John Penri, Abertawe, siop lyfrau o eiddo Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a bu yno hyd ei ymddeoliad 25 mlynedd yn ôl erbyn hyn.
Mae cyfraniad Cyril i gapel Moreia, Tycroes wedi bod yn fawr hefyd. Mae’n ddiacon yno ac fe fu hyd i’w olygon fethu yn gyd-organydd ac yn Drysorydd yr Eglwys. Pob dymuniad da iddo yntau ar gyrraedd yr oedran teg yma.

Pensiynwyr y pentref

Cafwyd nifer o weithgareddau yn ystod tymor yr haf. Yn y cyfarfod misol ym mis Gorffennaf Steve Essery oedd y gfir gwadd. Cafwyd ganddo anerchiad hynod ddiddorol ar ei hoffter diweddara o fordeithio ac yn ei ffordd amryddawn ef ei hun creodd ynom yr awydd i wneud yr un peth.
Ym mis Awst aeth y pensiynwyr ar daith i Henllan ac Aberaeron. Yn Henllan cafwyd paned a chacen yn yr orsaf rheiffordd ac yna mynd i fyny’r dyffryn am tua tair milltir ar y trên stêm. O Henllan i Aberaeron a chael p r y n h awn hyfryd yn y fan honno gyda’r haul yn disgleirio’n braf. Byddwn hefyd wedi bod yn Nhrefynwy ac Abaty Tintern erbyn i’r rhifyn hwn o Glo Mân ymddangos. Diolch unwaith yn rhagor i Ryal a Mary Rees am wneud yr holl drefniadau.

Cyrraedd y targed

Eleni bu ymgyrch arbennig gan Eglwysi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg mewn cydweithrediad â Chymorth Cristnogol i godi swm o gwarter miliwn o bunnoedd tuag at anffodusion De Affrica. Nifer mawr ohonynt yn ddifreintiedig ac yn dioddef o HIV/Aids.
Gosodwyd targed o £12 yr aelod i’r eglwysi ac o ganlyniad disgwylid i Eglwys Moreia gyfrannu o leiaf £1,632 tuag at yr ymgyrch. Erbyn dechrau Mehefin roeddem wedi cyrraedd y nôd. Lansiwyd yr ymgyrch gyda Swper Cynhaeaf ym mis Tachwedd y llynedd a rhwng hwn a’r Cawl Gwyl Ddewi ym mis Mawrth gwnaed elw o bron £800. Daeth y gweddill oddi wrth
gyfraniadau’r aelodau. Llongyfarchiadau mawr i’r Eglwys ar ei hymdrech lew i helpu trigolion De Affrica

4.10.09

YDYCH CHI’N ADNABOD UNRHWY UN?

Mae Glo Mân wedi derbyn y llun uchod oddi wrth Mr Hywel Jones, Caerdydd. Mae Hywel yn ceisio dod o hyd i rai o aelodau cerddorfa Ysgol Dyffryn Aman nôl ym 50au’r ganrif ddiwethaf. Roedd tad Hywel ar y pryd yn athro cerdd yn yr ysgol ac yn athro offerynnol yn yr ardal. Yn ddiweddarach aeth yn drefnydd cerdd Sir Benfro (60-70au). Fe yw’r gwr penfoel sy’n eistedd ar ochr dde’r prifathro, OJ Evans. Gethin Jones oedd ei enw a bu farw’n sydyn fis Hydref diwethaf yn 83 oed. Mr John Cale sydd yn y rhes gefn ar y chwith, ac o’i flaen mae’r Parch Enid Morgan (Roberts gynt)).
Os oes gan unrhyw un o ddarllenwyr Glo Mân unrhyw wybodaeth am unrhyw un yn y llun, neu atgofion am Tad Mr Jones byddai wrth ei fodd yn clywed amdanyn nhw. Os ydych yn adnabod unrhyw un gadewch i Edwyn Williams wybod neu cysylltwch yn uniongyrchol â Mr Hywel Jones ebost –
hywel.jones4@ntlworld.com Cyfeiriad – 4 Heath Halt Road, Caerdydd, CF23 5QF
Tadcu Hywel, sef tad ei fam oedd prifathro ysgol gynradd y dre ar yr adeg hon, John (Jac) Evans oedd ei enw ynte.
Help / Cymorth