31.1.10

DATHLU'R NADOLIG

Nos Sul 20 Rhagfyr am 5.30 cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig y plant a'r bobl ifanc. Roedd cynulleidfa niferus o aelodau a ffrindiau wedi dod ynghyd i ymuno yn yr addoli a'r dathlu.
Dechreuwyd trwy weddi gan Nia Rees. Mari Llywelyn oedd Arweinydd y Gwasanaeth. Plant yr Hen Destament oedd y thema. Cawsom hanes Dafydd fugail, Isaac, Samuel, Namaan a'i wraig a'i forwyn. Dafydd Llywelyn, Rhys Jones, Harri Jones, William Jones, Sara Mai ac Elan Daniels oedd yn actio'r cymeriadau.

Cawsom unawd gan Sara Mai. Hefyd roedd parti canu'r plant bach yn diddanu. Annie Jones, Emily Jones a Rhys Daniels oedd yn cyhoeddi'r emynau. Diolch i bawb a gymerodd ran ac yn enwedig i Miss Ruth Bevan am baratoi'r Gwasanaeth a dysgu'r plant.

Beth roddwn ni i drysor y crud,
blant pedwar ban y byd?
Canwn ein can, a rhoddwn bob pryd
foliant i Faban Mair.
Yn hytrach na'r parti arferol yn Neuadd Gellimanwydd cawsom un gwahanol iawn eleni. Ar brynhawn dydd Mawrth 22 Rhagfyr aethom i Funsters, Capel Hendre ar gyfer parti Nadolig yr Ysgol Sul. I ddechrau aeth y plant i chwarae ar y sglefren a'r pwll peli. Hefyd roedd lle chwarae arbennig i'r plant lleiaf. Yna aeth y plant i sglefrio ar y rinc ia sych.

Roedd Sion Corn yno mewn caban pren a cafodd pob plentyn anrheg ganddo. Wedi'r chwarae cawsom de parti o selsig, chicken nuggets neu fish fingers a chips. Blasus iawn!! Roedd pawb yn gytun ei bod yn ffordd arbennig llawn hwyl i ddathlu Parti Nadolig yr Ysgol Sul.

CYLCH CINIO CYMRAEG RHYDAMAN

Cynhaliwyd Cinio Nadolig Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yng ngwesty’r Hudd Gwyn, Llandeilo Nos Iau, Rhagfyr 3ydd o dan lywyddiaeth yr is-lywydd, Calvin Davies, Rhydaman. Ef a groesawodd y chwiorydd a’r ffrindiau a ddaeth ynghyd ar yr achlysur arbennig hwn ac fe ddymunodd gwellhad llwyr a buan i Mrs. Eirlys Williams, priod Hefin ein trysorydd, sydd wedi cael llaw-driniaeth yn Ysbyty Treforys ar ôl damwain yn Llanelli yn ddiweddar. Hefyd llongyfarchodd Dafydd Wyn, Glanaman ar ennill gwobr ddylanwadol John Trott am gyfansoddi a chyflwyno ei farddoniaeth.

Fel y dywedodd y llywydd cafwyd dwy wledd y noson hon – arlwy blasus gan staff yr Hudd Gwyn ac yna gwledd o ganu gan ein gwesteion sef côr amryddawn Lleisiau’r Cwm o dan arweiniad Catrin Hughes, eu cyfarwyddwr cerdd, ynghyd â’u hunawdwyr, Eirlys Myfanwy, Pontyberem a Mair Wyn, Glanaman. Cyflwynwyd yr eitemau mewn ffordd hwylus dros ben gan Heddyr Gregory ac fel y dywedodd Arnallt James, Y Betws, ein darpar is-lywydd, wrth ddiolch, noson arbennig iawn.

Mae’r flwyddyn 2010 yn flwyddyn bwysig yn hanes y Cylch Cinio oherwydd fe fyddwn yn dathlu deugain mlynedd ers ei sefydlu gan y Parch. Ronald Walters ar ôl ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r dref yn 1970.

30.1.10

YSGOL FEITHRIN

Ar fore Iau, 17 Rhagfyr, daeth rhieni a theuluoedd y plant ynghyd i Festri Capel Newydd i’w gweld yn eu gwisgoedd hyfryd yn dathlu Gwyl y Geni. Diolch i’r “Antis” Rhian, Sian a Sharon am eu gwaith diflino yn hyfforddi’r plant eleni eto. Yna ar y bore canlynol, cafwyd ymweliad gan Sion Corn a thipyn o hwyl cyn i’r plant ddechrau ar eu gwyliau Nadolig.

CAPEL NEWYDD

Ar Fore Sul 20 Rhagfyr cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig yr Ysgol Sul. Roedd y Capel wedi’i addurno’n hardd gyda golygfeydd stori’r Nadolig ar bob sil ffenest. Bu’r ieuenctid sef, Cellan, Steffan, a Sara Hâf a Selina yn cymeryd rhan flaenllaw a’r plant iau, Elin, Georgina, Hayden, Sara, Tomos a Joshua yn swyno’r gynulleidfa wrth adrodd a chanu nifer o garolau. Yna i gloi’r cyfan, bedyddiwyd Dion Gwyn mab Nesta a Cenwyn Jones ac ŵyr Audrey a Cecil Jones; achlysur hapus iawn. Yn dilyn y gwasanaeth cafwyd cyfle i gymdeithasu yn y festri a mwynhau paned a mins pei.
Yn ôl yr arfer, cynhaliwyd y Pygain am 7 o’r gloch ar fore’r Nadolig. Cafwyd oedfa fendithiol o dan arweiniad y Parchg Morgan Llewelyn Jones a chymerwyd rhan gan Ryan, huw, Arnallt, Sian a’i gŵr Alex o Lundain, Delyth, Gerallt, Carwyn a Loreen. Y Parchg Morgan Llewelyn Jones hefyd, a fendithiodd Dion Gwyn.

28.1.10

Pensiynwyr y Pentref yn Dathlu’r Nadolig

Mrs. Margaret Davies, Llywydd y Pensiynwyr ynghyd â
Mr. Lyn Griffiths, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanedi


Cynhaliwyd Cinio Nadolig yr Adran eleni eto yn yr Hudd Gwyn, Llandeilo. Mrs. Margaret Davies, Llywydd yr Adran oedd yn gyfrifol am arwain y gweithgareddau. Offrymwyd gras bwyd gan Mr. Stephen Essery, un o’r gwesteion, cyn mwynhau pryd blasus o fwyd yn ôl yr arfer yn yr Hudd Gwyn.
Cyflwynodd y Llywydd y gwesteion sef Mr. Stephen a Mrs. Ruth Essery, Mr. Raymond a Mrs. Eirwen Thomas a Mr. Lyn Griffiths, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanedi. Cafwyd ganddo ychydig eiriau pwrpasol a chyflwynodd rhodd ariannol i’r Adran ar ran y Cyngor Cymuned. Cafwyd gair hefyd gan Mr. Stephen Essery yn ei ffordd arbennig ei hun. Bu nifer mawr o’r aelodau yn lwcus gyda’r raffl – rhoddion oddi wrth aelodau’r adran a busnesau lleol. Diolchwyd iddynt am eu haelioni eleni eto.
Yna cynhaliwyd gwasanaeth carolau – naw llith a charol – yn Eglwys Sant Edmwnd, Tycroes. Roedd y gwasanaeth o dan arweiniad y Parch. Baxter, yr Offeiriad yng ngofal eglwysi Tycroes, Llanedi a Saron. Cyflwynwyd y llithoedd gan aelodau’r adran. Mrs. Eirwen Thomas oedd wrth yr organ. Wedi’r oedfa ymlwybrodd pawb i neuadd y pentre i fwynhau te blasus.

Y Capeli yn Dathlu'r Nadolig


‘. . . a’i osod mewn preseb’ – Oedfa Nadolig a baratowyd gan y Parch. Beti Wyn James, Caerfyrddin oedd yn sail i’r gwasanaeth ar-y-cyd rhwng capeli Bethesda, Caersalem a Moreia a gynhaliwyd ym Moreia ganol Rhagfyr. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parch. Dyfrig Rees gydag aelodau o’r dair eglwys yn cymeryd rhan. Cynorthwywyd wrth yr organ gan Mrs. Wynona Anthony. Paratowyd te hyfryd wedi’r oedfa gan chwiorydd Moreia ac fe gyflwynwyd y casgliad i’r gangen leol o’r elusen Ymchwil Cancr.

* * * *
Yna ar Sul cyn y Nadolig death aelodau Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes ynghyd i ddathlu’r Nadolig. Braf oedd gweld y capel yn gysurus lawn. Llywyddwyd gan weinidog y ddwy eglwys, y Parch. Dyfrig Rees, gyda Mrs. Wynona Anthony wrth yr organ. Cymerwyd rhan gan Stephanie Davies, Mary Thomas a Ieuan Thomas o Foreia a Brian Owen o Gellimanwydd. Cafwyd eitemau gan Gôr Merched, Côr Dynion a Chôr Cymysg Gellimanwydd o dan arweiniad Gloria Lloyd gyda Cyril Wilkins yn cyfeilio
.

Actor a chyflwynwraig o Fri

Llongyfarchwn Aled Pugh ar ei bortread o Ryan yn y ffilm ‘Ryan a Ronnie’ a ymddangosodd ar y teledu adeg y Nadolig. Brodor o Dycroes yw Aled ac yn fab i Hywel a Sian Pugh.
Un arall o Dycroes a fydd yn ymddangos ar y teledu yn go gyson yn ystod yr wythnosau nesaf fydd Alex Jones. Bydd yn mynd oddi amgylch Ewrop gyda’r cyflwynydd Aled Samuel yn dangos inni rhai o rhagorfannau’r Cyfandir.

26.1.10

CAPEL MORIAH

Ar nos sul 20 Rhagfyr braf oedd gweld y capel y gyfforddus lawn ar gyfer perfformiad y plant o Ddrama’r Gem. Gyda rhyw ddeugain o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan. roedd y cyfan yn wledd i'r llygad a'r glust. Eleni yn wahanol i'r arfer roedd llu o blant ifanc iawn yn y perfformiad — yn wir plant oed meithrin, and hyfryd oedd eu gweld yn mwynhau gyda'r plant hyn ac yn rhoi o'u gorau. Mae'r eglwys yn ffodus fod Ysgol Sul lewyrchus yn bod, a ffrwyth hynny yn ogystal a'r ymarferion ychwanegol oedd y noson. Tybed sawl drama arall oedd A chwech o seryddion neu wyr doeth? Diolch arbennig i'r athrawon, Mel Morgans, Eira Davies a Helen Rees a'r llu o rieini (ac ambell famgu) a fu'n cynorthwyo gyda'r gwaith.
Lluniwyd y sgript gan Mel Morgans a chyfunwyd hyn gyda nifer o garolau pwrpasol. Yn ô1 ein harfer rhaid oedd cychwyn y cyflwyniad gyda'r gan `Bethlehem' — gwaith y diweddar Gerallt Richards a gorffennwyd gyda'r garol 'Clychau y Nadolig' —gwaith y diweddar Meirion Evans. Yr organydd a'r cyfeilydd oedd Glynog Davies.
Yn dilyn y gwasanaeth cafwyd ymweliad gan Sion Corn a ddaeth ag anrheg haeddiannol i bob un o'r plant.
Y prynhawn canlynol aeth y plant i fwynhau eu parti Nadolig yng nghanolfan Funsters yng Nghapel Hendre. Cafwyd amser da yno gyda'r plant wrth eu bodd yng nghanol yr hwyl a'r sbri

DEGAWD NEWYDD A CHYRRAEDD Y 100

Llongyfarchiade i Mrs Florrie Lewis o Gartref Glan Garnant ar gyrraedd ei chant a hynny ar ddiwrnod cyntaf 2010. Florrie oedd yr ail o bump a blant a anwyd i Annie ac Evan Evans – roedd tair merch, Elizabeth Ann, Florrie a Clarice, a dau frawd. Cyril a Haydn. Daeth Evan, y tad, i Frynaman o Dreorci i chwilio am waith yn y pylle glo. Gydag enw mor gyffredin, fel "Evan Evans Treorci" y cafodd y tad ei adnabod. Roedd Annie'r fam yn aelod o un o hen deuluoedd y pentre' – teulu'r Downs. Florrie yw'r unig un or pump I gyrraedd y garreg filltir nodedig yma, er rhaid nodi fod pedwar o'r plant wedi byw i oedran teg, a phob un o'r merched wedi croesi'r naw deg.
Ym 1934 fe briododd Florrie a David Tom (Defi Tom y Dwr), un o blant
Mary Jane a John Lewis y Gof. Ymgartrefodd y ddau ar Hewl Cwmgarw, nepell o Gapel Moriah, Ile ymaelododd Florrie er mwyn addoli gyda theulu'r gŵr. Bu'r ddau
yn aelodau ffyddlon o'r capel. Dilynodd ei chwaer Elizabeth Ann hi yn fuan wedyn gan iddi briodi un arall o fois Moriah.
Fe gollodd ei phriod ym 1992 ac er eu bod yn ddiblant, daeth nifer o'u theulu a ffrindie o'r capel i barti a gynhaliwyd yn y cartre' ar brynhawn ei phenblwydd. Roedd wrth ei bodd yng nghwmni'r plantos bach – Mali, Gruff a Megan, plant ei nith Nerys, ynghyd d Gethin a Twm – plant ei nith Nia.
Roedd yno deisen arbennig a chafodd nifer o anrhegion, gan gynnwys tusw o flode oddi wrth aelode Capel Moriah – yr aelod cynta' i gyrraedd y cant. Llogyfarchiade mawr iddi hi.

18.1.10

EISTEDDFOD RHYDAMAN

Gohirwyd EISTEDDFOD RHYDAMAN oedd i'w chynnal ar ddydd Sadwrn 23 Ionawr yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman tan 27 Mawrth 2010.
Penderfynwyd mai doeth o beth fyddai hyn oherwydd yr holl anghyfleustra mae'r eira wedi ei greu.
Am fanylion pellach cysylltwch a'r ysgrifenyddes Mrs Miriam E. Phillips, Clerc y Dref, "Ty Tadcu", 4 Llys y Nant, Heol y Brenin, Llandybie, Rhydaman SA18 2TL
01269 950870

11.1.10

BLEDDYN JONES - Y TEIGR O’R GWTER FAWR


“Dau o bentrefi mwya’ diwylliannol Cymru.” Dyna oedd barn llawer am Frynaman a Rhosllanerchrugog yn ystod y ganrif ddiwetha’ diolch i frwdfrydedd, arbenigedd ac egni nifer fawr o gymdeithasau mewn ystod eang o weithgareddau. Ond rhaid cofio fod pentre’r Gwter Fawr wedi cynhyrchu mawrion ym myd y bêl hirgron a nifer wedi llwyddo ar y lefel ucha’. Roedd Jac Elwyn Evans o Dai Canon yn asgellwr chwimwth yn y dauddegau – chwaraeodd i Lanelli yn erbyn Seland Newydd ar y Strade ym 1924 cyn ennill ei unig gap i Gymru yn erbyn yr Alban yng Nghaeredin. Roedd Clem Thomas o Hewl Stesion yn gapten ar ei wlad yn y pumdegau, yn aelod o dîm y Llewod yn Ne Affrica ym 1955 ac wedi’i anfarwoli yn sgîl y gic i gôl Ken Jones adeg buddugoliaeth Cymru yn erbyn Seland Newydd ym 1953. Chwaraeodd Gerwyn Rees a John Elgar Williams mewn profion cenedlaethol ond mae yna un arall sy’n haeddu’i gynnwys yn oriel anfarwolion y Gwter Fawr yn sgîl ei befformiadau graenus i deigrod Caerlŷr yn y saithdegau.
O’r cychwyn cynta’ roedd Bleddyn Jones o Hewl Cwmgarw yn chwaraewr rygbi greddfol ond rhywsut heb argyhoeddi yn ystod dyddiau ysgol. Roedd hi’n amlwg i bawb ei fod e’n meddu ar yr holl sgiliau; ei gydbwysedd yn ei wneud e’n anodd i’w ddal, ro’dd e’n basiwr clasurol, yn daclwr di-ofn, yn giciwr deche, yn gyflym dros y llathenni cynta’ ac yn unigolyn oedd yn llwyddo i ddod â’r gore mas o’i gyd-chwaraewyr. Ar ôl cyfnod llwyddiannus yng Ngholeg Abertawe lle daeth o dan ddylanwad Mervyn Davies, penodwyd Bleddyn yn athro cynradd yng nghanol Caerlŷr ac yno gwnaeth ei farc fel chwaraewr o wir safon.
Mae yna barch aruthrol i Bleddyn ym Mrynaman – yn gymeriad swil ar adegau ond yn boblogaidd a chwbl diymhongar. Yn ystod ei ddyddiau cynta’ yng Nghaerlŷr, treuliodd gyfnod yn lletya yn yr YMCA lleol a sylwi un noson fod yna griw wrthi’n ymarfer a pharatoi ar gyfer y tymor newydd ar barc cyfagos. Ymunodd â nhw heb sylweddoli mai chwaraewyr tîm Caerlyr oedd wrthi’n mynd trwy’i pethe. O fewn dim o beth, derbyniodd wahoddiad i ymuno â’r clwb a rhai wythnosau’n ddiweddarach fe chwaraeodd ei gêm gynta’ yn erbyn Wilmslow o Ogledd Lloegr. Un arall a oedd yn chwarae i Gaerlŷr am y tro cynta’ y prynhawn hwnnw oedd y blaenasgellwr a gynrychiolodd yr Alban a’r Llewod, Roger Arneil.
Fe chwaraeodd Bleddyn 333 o gemau i Gaerlŷr a phrofi’i hun yn chwaraewr dylanwadol a dibynadwy. Pan ymunodd maswr Lloegr Alan Old â Chaerlŷr roedd rhai yn meddwl y byddai Bleddyn yn gorfod ildio’i le ond nid felly. Gofynnwyd i Old ‘ware fel canolwr! Cynrychiolodd Daleithiau Canolbarth Lloegr yn erbyn Seland Newydd ym 1973 a gorffen ei yrfa yn Twickenham ym 1978 yn erbyn yr Harlequins. Mae geiriau Peter Wheeler, cyn fachwr Lloegr a’r Llewod yn crisialu pob dim am y Cymro, “Without question, one of the most skilful and loyal players to have worn the Leicester jersey.”
Yn ddiweddar, gofynnwyd i gefnogwyr y clwb, y Cyngor lleol a phapur y Leicester Mercury, i enwi’r tîm gorau sy wedi cynrychioli Caerlyr. Yn dilyn yr arolwg, dadorchuddiwyd yr enwau yng nghrombil yr eisteddle newydd sbon – “The Caterpillar Stand – Walk of Legends”. Yno, mewn llythrennau bras mae enwau’r pymtheg - a’r crwt o Frynaman yn drech na Joel Stransky, Andy Goode a Les Cusworth ac yn gwmni i rai o hoelion wyth byd rygbi’r byd. Cliff Morgan a Barry John oedd arwyr Bleddyn ond rhaid cofio ei fod e hefyd drwy benderfyniad a dyfal barhad wedi cyrraedd yr uchelfannau. Dyma’r tîm a ddewiswyd :

15 Dusty HARE 14 Rory UNDERWOOD 13 Paul DODGE
12 Clive WOODWARD 11 John DUGGAN 10 Bleddyn JONES
9 Austin HEALEY 1 Grahan ROWNTREE 2 Peter WHEELER
3 Steve REDFERN 4 Martin JOHNSON 5 Matt POOLE
6 Graham WILLARS 8 Dean RICHARDS 7 David MATTHEWS

Yn dilyn ei ymddeoliad, manteisiodd BBC Radio Caerlyr ar ei wasanaeth ac am chwarter canrif mae e wedi bod wrthi’n darlledu i wrandawyr ardal Caerlyr ar gemau’r Teigrod yn ogystal â hynt a helynt tîm Lloegr. Yn sicr, mae yna werthfawrogiad mawr i sylwadau craff a gwybodaeth eang y gŵr o’r Gwter Fawr.

10.1.10

Ysgol Gymraeg Rhydaman











Mae disgyblion Ysgol Gyrmaeg Rhydaman wedi bod yn brysur dros yr wythnosau diwethaf. Dyma rai o'r llwyddiannau.
Tîm peldroed yr ysgol. Dyma’r bechgyn fydd yn mynd ymlaen i gynrychioli ardal Aman ym mhencampwriaeth au Dwyrain Myrddin.
Mae’r ysgol newydd dderbyn marc Ansawdd Ysgolion Iach Sir Gâr am y trydydd tro. Da iawn bawb!
Twm Morys – Bardd plant Cymru 2009/10 yn cynnal gweithdy Cymraeg gyda disgyblion blwyddyn 5
tîm peldroed merched Ysgol Gymraeg Rhydaman yw pencampwyr Ardal Aman eleni. Da iawn chi!
Bu dau dîm pelrwyd yn cystadlu ym mhencampwriaethau’r Urdd , Ardal Aman. Llongyfarchiadau iddynt. Bydd tîm A yr ysgol yn mynd ymlaen i’r gystadleuaeth rhanbarthol yn y flwyddyn newydd

9.1.10

Dressage - Rhianwen Llewelyn




Llongyfarchiadau gweresog i Rhianwen Llewwlyn o Lanaman, ar ei llwyddiant diweddar mewn cystadleuaeth "Dressage".


Mae Rhianwen yn athrawes yn ysgol Gyfun Ystalyfera ac un o'i phrif ddiddordebau yw ceffylau, ac yn ddiweddar, roed dhi'n aelod o dim Cymru a fu'n cystadlu ym Mhencampwraieth Prydain yn Rowallan, Yr Alban. Gorffennodd Rhianwen yn y 7ed safle yn y gystadleuaeth Rhagbrofol ar ei cheffyl Tempest Firestorm - canlyniad canmoldadwy dros ben.

Penblwydd yn 90 oed

Penblwydd hapus iawn i Mrs Elizabeth Owen, Heol Tirycoed, Glanaman sy’n dathlu ei phenblwydd yn 90 oed ar Rhagfyr 26ain. Mae Elizabeth yn fam i Gloria a Terry ac mae ei hiechyd yn dal yn reit dda gan gofio ei hoedran. Mwynhewch eich diwrnod Mrs Owen a iechyd da i’r dyfodol.

Urdd y Seren Fore

Ar y Sul cyntaf o Dachwedd cynhaliwyd y Gymanfa Ganu yng ngofal Mrs Davinia Evans, Noddfa. Cafwyd eitem adrodd gan Noddfa a grŵp canu o Bethesda Glanaman. Diolch i Mrs Margaret Rees, Penybanc. Roedd yn brynhawn hyfryd.
Erbyn hyn rydym yn bedwar Capel tra pan ddechreuwyd y Gymanfa yn 1936 roedd deg o gapeli yn cyrmyd rhan.
Help / Cymorth