27.2.10

Cydmeithas Gellimanwydd

Nos fercher 27 Ionawr cawsom nos o hwyl a dyfalu yng nghwmni Edwyn Williams. Roedd Edwyn wedi paratoi cwis cyfoes gan gynnwys rowndiau ar Newyddion, Ble yng Nghymru, Beth yw Hwn, Cerddoriaeth, Pwy yw'r Wyneb a Dyfalwch y Llyfr.
Roedd pedwar tim brwd yn cystadlu ac ar ddiwedd y noson, mewn cystadleuaeth agos dros ben y tim buddugol oedd - Mairwen Lloyd, Gwenfron Lewis, Linda Williams a Mandy Davies. Llongyfarchiadau iddynt.

Masnach Deg Rhydaman

Mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd yn Rhydaman yn ystod pythefnos Masnach Deg. Dyma rhai o'r pethau sydd ar y gweill.


Dydd Mercher 24 Chwefror - Parti y "mad hatter" yn Ystafell De Benwig, 2activ8.

Gwener 5 Mawrth - "Diwrnod Haf Masnach Deg yn Rhydaman" ger yr Arcade. - o 12.00 - 7.00 - sinema ynni haul mewn carafan (thesolcinema.org) yn dangos ffilmiau byr am fasnach deg.
- nos - tua 6.00pm Banana Split Masnach Deg ENFAWR yn yr Arcade.


Dewch yn llu i ymuno a ni.

25.2.10

SIOE STRYD GWYL DDEWI RHYDAMAN

Hamlet a Llandybie

Beth dywedwch ydyw’r cysylltiad rhwng Hamlet a Llandybie? “Hamlet” yw un o ddramau enwocaf Shakespeare. Hamlet oedd Tywysog Denmarc a roedd yn byw yng nghastell Helsnigor. Mae un o dimau gorau rygbi Denmarc yn Helsnigor ac mae un o hoelion with y tim a’i wreiddiau yn gryf yn Llandybie. Soniais am Andrew Jones yn y rhifyn diwethaf. Andrew yw cadeirydd y clwb ac mae’n dal i chwarae ambell i gem. Yr oedd tadcu Andrew, y diweddar Alcwyn Griffiths, yn chwarae ar yr asgell i bentre Llandybie a fuodd yn drysorydd y clwb am flynyddoedd lawer ac fel roedd Andrew yn dweud yr oedd yn gwybod popeth am rygbi.
Cefais llawer o wybodaeth diddorol gan Andrew am hanes y clwb a sut mae proffil rygbi fel gem yn Denmarc. Sefydlwyd y tim yn 1981 a dros y blynyddoedd mae’r tim wedi ennill y gynghrair uchaf a’r gystadleuaeth gwpan. Dim ond rhyw bedwar tim ar hugain sydd yn y wlad ac mae tair cynghrair. Ond wyth gem cynghrair sydd ond mae’r tim yn chwarae sawl gem gyfeillgar. Mae gan Denmarc dim cenedlaethol sy’n chwarae yn erbyn timau Norwy a Hwngari. Mae tim cenedlaethol o dan 17 ac o dan 20 ac mae tim i’r merched.
Yn anffodus dywed Andrew mae American Football yn cael llawer mwy o sylw ac mae llawer o bobl yn cymysgu lan rhwng y ddwy gêm ac yn synnu fod dim dillad/kit mwy diogel i rygbi i arbed anafiadau. Anodd yw cymharu safon rhwng y ddwy wlad ond nid yw’r gêm yn Denmarc mor gorfforol o’i chymharu a’r gêm yng Nghymru. Nid yw tymor rygbi Denmarc yn cyd-redeg a’r tymor yng Nghymru. Ym mis Mawrth mae’n dechrau gan barhau tan diwedd Mai gan wedyn ail ddechrau ym mis Awst tan ganol Tachwedd – mae’n llawer rhy oer yn y gaeaf yn Denmarc!
Er bod Andrew yn edmygu ac yn hoff iawn o arddull chwarae y Scarlets ei hoff dîm yw “Dewiniaid” Aberafan oherwydd ger Port Talbot cafodd ei fagu. Oherwydd bod bocs digidol ganddo mae’n medru cael gemau Cymru ar S4C a pan fydd e’n gwylio gêm rygbi gydai gyd-chwaraewyr rhaid iddo gyfieithu o’r Gymraeg i iaith Denmarc!
Trefnodd Andrew daith i’r tîm i weld Cwpan y Byd 1999 ac fe gawsant gyfle i weld Samoa yn chwarae Ariannin ar hen Barc y Strade. Mae Andrew wedi dysgu rhai caneuon rygbi iddynt ond er bod iaith Denmarc ddim yn iaith dda i’w chanu ar ôl sawl peint yr oeddent yn canu cystal a chôr meibion Llandybie. Gan obeithio eich bod wedi synhwyro beth yw’r cysylltiad rhwng Shakespeare a Llandybie . Diolch i Andrew!

21.2.10

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Fe glywsom sôn yn ddiweddar bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Ddyffryn Aman yn 2014 a bod yna bosibilrwydd y byddai yn cael ei lleoli yn y Coopers uwchben Tycroes. Mae y newyddion hyn yn dwyn fy meddwl yn ôl at Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman a’r Cylch yn 1970 ac yn arbennig i Pwyllgor Apêl Tycroes a sefydlwyd yn 1969 gyda Gwyn Howells yn gadeirydd, Griff Jones yn is-gadeirydd, Miss Nancy Thomas yn drysorydd a minnau yn ysgrifennydd. Yn ddiamau dyma’r pwyllgor gorau fu’m yn aelod ohono. Roedd gan Gwyn Howells y ddawn o dynnu’r gorau allan o’r aelodau ac er bod yn bwyllgor mawr o dros 30 o aelodau cafwyd cydweithio arbennig ac o ganlyniad cyrhaeddwyd y targed o £1,000 yn go rhwydd. Ymhlith y gweithgareddau cynhaliwyd dwy ffair fawr ar campws Ysgol Tycroes, tair helfa drysor a chyngerdd fawreddog a drefnwyd gan Madam Lynne Richards yng Nghapel Moreia gyda Nancy Richards a Washington James yn unawdwyr, Madam Holloway oedd y cyfeilydd a John Davies, Pontarddulais, yn llywyddu. Noson i’w chofio gyda capel Moreia yn orlawn a dros 300 yn bresennol. Cynhyrchwyd hefyd galendr Cymraeg ac fe werthwyd mil o gopïau yn y pentref.


Uwchben fe welwch lun o aelodau’r pwyllgor ond erbyn hyn dim ond wyth ohonom sydd ar ôl ar dir y byw – Mrs. Lilian Finch, Miss Olive Bennett, Madam Lynne Richards, Mrs. Nellie Higgs, Mrs. Emily Rowlands, Elfryn Thomas, Ryal Rees a Heddwyn Davies.
Mae un peth yn go sicr, os cynhelir yr Eisteddfod ar y tir yn y Coopers a chyda’r biben nwy enfawr sydd yn rhedeg o dan y ddaear fan hynny fe ddylai’r cyfan fynd gyda tipyn o ‘fang’!!

Pensiynwyr y pentref

Rhai o blant ysgol y pentre fu’n diddanu’r aelodau ddechrau’r flwyddyn. Cafwyd amrywiol eitemau ganddynt sef côr, unawdwyr, grwpiau offerynnol a dawnsio modern. Prifathro newydd yr ysgol, Mr. Paul Mainwaring, oedd yng ngofal y plant ac yn cael eu gynorthwyo gan Mrs. Rees, y dirprwy-brifathrawes a Mr. Randal, un o’r athrawon eraill, ar y gitâr.



Edrychir ymlaen at groesawu Major Ken Burton, Rhydaman i’r cyfarfod nesaf ac yna Mr. Paul Mainwaring y mis canlynol.

20.2.10

Gŵyl y Gannwyll


Cathryn Thomas (Trysorydd Cor Scarlets), Sandra Davies (Cor Merched Lleisiau'r Cwm ac Ymchwil Llid yr Ymennydd), Alys Lewis (Cor Cantata), Catrin Hughes (Cyfarwyddwr Cerdd y tri Cor)

Ar Nos Sadwrn Rhagfyr 5ed cynhaliwyd cyngerdd i godi arian tuag at Ymchwil i ‘lid yr ymennydd’ gan Gôr Scarlets, Cantata a Chôr Merched Lleisiau’r Cwm yn Eglwys Hall Street Llanelli. Y cyfeilydd gwâdd oedd Caradog Williams, a’r cyflwynydd oedd Heddyr Gregory. Cafwyd eitemau amrywiol gan y tri chôr, yn ogystal â darlleniadau gan Mair Wyn a Heddyr Gregory. Yr unawdwyr oedd Eirlys Davies, Alys Lewis a Megan Thomas. Cafwyd araith bwrpasol gan Sandra Davies, aelod o Gôr Merched Lleisiau’r Cwm, ar ran Ymchwil i ‘lid yr ymennydd’. Yn ei haraith dywedodd bod math arbennig o ‘lid yr ymennydd’ sef y “Meningococcal” yn effeithio ar 2,000 o bobl yn flynyddol yn y Deyrnas Unedig, a diolchodd Mrs Davies i bawb am eu cefnogaeth.

I ddiweddu’r noson, daeth y tri chôr ynghŷd i ganu “Alelwia” ac ymunodd pawb i gyd-ganu carol. Diolch i ensemble pres Ysgol Gyfun y Strade o dan arweiniad Mr Michael Thorne am ddiddori’r gynulleidfa cyn dechrau’r cyngerdd, ac i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd tuag at lwyddiant y noson. Diolch hefyd i swyddogion Eglwys Hall Street am eu cefnogaeth parod. Gwnaethpwyd elw o £1,180 tuag at Ymchwil i ‘lid yr ymennydd’.

17.2.10

MURLUN T. LLEW JONES

Dyma furlun hyfryd a grewyd gan Mr Steffan Ebbsworth, athro Celf yn Ysgol Dyffryn Aman, a dau o ddisgyblion yr ysgol, Steffan Morris a Joshua Evans, 7G. Crewyd y llun ar gyfer diwrnod T. Llew Jones ac mae'r murlun yn portreadu rai o brif nofelau'r awdur. Mae'r murlun bellach wedi'i leoli yn yr Ysgol isaf. Mae'n werth ei weld!

14.2.10

Lowri Harries - Chwaraeon

Mae Lowri Harries o Stryd Talbot, Rhydaman wedi cael ei dewis gan Glwb Pel-droed Abertawe i fod yn y garfan ar gyfer ei tîm merched dan 12. Mae Lowri wedi cael ei dewis fel un o 20 sydd yn y garfan sy’n cynnwys chwaraewyr gorau Gorllewin Cymru.

Y mae Lowri sy’n ddeg mlwydd oed yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Rhydaman. Mae’r garfan yn ymarfer bob nos Fercher a byddent yn chwarae yn erbyn timau fel Plymouth Argyle, Portsmouth, Caerdydd a Bryste.
Mae’n amlwg fod pel-droed yn y gwaed i Lowri gan fod ei thad Deian yn hyfforddi rhai o dimau ieuenctid Rhydaman. Pob hwyl yn 2010 ac i’r dyfodol.

7.2.10

Llandybie a Denmarc

Wrth feddwl am wlad Denmarc daw nifer o bethau i’r meddwl, er enghraifft bacwn, ymenyn, Lego, Hans Christian Andersen efallai. Ar un adeg bu tîm peldroed arbennig iawn yn yr wlad a enillodd Cwpan Gwledydd Ewrop yn yr 90au. Ond a ydych yn cysylltu y wlad gyda rygbi? Wel, diolch i ŵr sydd a’i wreiddiau yn Llandybie efallai bydd pethau yn newid yn y dyfodol!
Mae Andrew Jones, mab Mike Jones a’r diweddar Marian Jones, heol Rhydaman a ŵyr y diweddar Mr Alcwyn Griffiths wedi sefydlu ac yn helpu rhedeg tim rygbi yn Helsnigor (lle mae castell Hamlet) heb fod yn bell o Copenhagen.
Cafodd Andrew ei addysg yn ysgol Gyfun Ystalyfera ac ar ôl dilyn cwrs ym Mhrifysgol Brunel yn Llundain fe raddiodd mewn Peirianneg. Mae wedi byw a gweithio yn Helsnigor oddi ar 1995 ers cyfarfod a merch o wlad Denmarc yn Seland Newydd. Ar y pryd roedd Andrew wedi gadael ei swydd yn Llantrisant er mwyn teithio o gwmpas y byd am flwyddyn a hanner. Ar ei deithiau fe gwrddodd a’i ddarpar wraig ac fel mae un peth yn arwain i’r llall mae gwyliau yn Seland newydd wedi arwain at dîm rygbi yn Denmarc.
Gofynnais nifer o gwestiynau i Andrew er mwyn cael syniad o fywyd yn Denmarc a darganfod pa fath o safon rygbi sydd yn y wlad.
Bywyd yn Denmarc? – Pobl gyfeillgar iawn yw’r brodorion. Mae gan Denmarc safon uchel o fyw ac mae ansawdd bywyd wlad yn un o’r gorau yn y byd. Maent yn fobl hwylus iawn gyda hiwmor digon tebyg i fobl Prydain. Nid yw’r bobl mor ddigymell a’r Cymry ond unwaith i chi wedi dod i’w hadnabod maent yn agos iawn. Rhaid trefnu popeth rhyw bythefnos, tair wythnos cyn unrhyw achlysur, does dim yn cael ei adael i’r funud olaf! Dywed Andrew ei fod wedi bod yn ffodus i wneud nifer o gyfeillion da drwy chwarae rygbi ac fel mae Andrew’n dweud mae bechgyn rygbi yr un peth ym mhob man yn y byd!

Clwb Golff Glynhir

Cychwynnodd dathliadau canmlwyddaint Clwb Golff Glynhir yn Neuadd Goffa Llandybie ar Dachwedd 30eg gyda chyngerdd mawreddog. Ar yr achlysur arbennig hwn ymunodd dri o gorau meibion adnabyddus yr ardal sef Côr Meibion Llandybie, Côr Meibion Dyffryn Aman a Chôr Meibion Dinefwr. Canodd y corau unedig ddewisiad poblogaidd o ganeuon a blesiodd y gynulleidfa yn fawr iawn.
Arweinwyd y corau yn eu tro gan Mr Alun Bowen a Mr John Williams ond yn anffodus oherwydd damwain mid oedd Mr Ian Llewelyn, arweinydd Côr Dyffryn Aman yn gallu body n bresennol. Dymunwn gwellhad buan iddo. .
Cyflwynydd y noswaith oedd Capten y Clwb Golff sef mR Richard Blockwell. Yr oedd hefyd dwy unawdydd sef Mrs Joy Canock (soprano) a Mrs Catherine Lodwick ar y Delyn. Chwaraeodd Catherine Ar Hyd y Nos a cawsom siawns i glywed y Delyn Deires Gymraeg. Canodd Joy un o ganeuon adnabyddus Ivor Novello We’ll gather Lilacs. Swynwyd y dorf gan y ddwy unawdydd.
Yr oedd pawb yn gytun fod y noswaith yn ddechreuad teilwng a llwyddiannus iawn i ddathliadau canmlwyddiant y Clwb Golff.

Menter Ieuenctid Cristnogol (Sir Gâr)


Ym mis Medi eleni ffurfiwyd Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) mewn ymateb i ddymuniad gan eglwysi anghydffurfiol sir Gaerfyrddin am gefnogaeth i ddatblygu gwaith ymhlith plant ac ieuenctid. Prif nod y Fenter newydd yw hybu tystiolaeth yr efengyl ymysg yr ifanc a hynny mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes.
Yn ddiweddar, trefnwyd cwis Beiblaidd ar gyfer plant ac ieuenctid sir Gaerfyrddin gyda rowndiau rhagbrofol yn arwain fyny at rownd derfynol. Mewn cyfnod pan fod gwybodaeth Feiblaidd yn rhinwedd prin yn ein cymdeithas, mor wych oedd hi i weld plant a phobl ifanc ar draws yr ystod oedran o 6 i 17 oed yn cymryd rhan gyda brwdfrydedd. Defnyddiwyd yr offer diweddara gan gynnwys PowerPoint, bysyrs electronig a meicroffonau gan roi delwedd broffesiynol a chyfoes i’r achlysur.


Yn y rownd derfynol trefnwyd y cwis ar ffurf y rhaglen deledu boblogaidd, “Who Wants To Be A Millionaire?” Cafwyd cystadleuaeth ddifyr a hynod o gyffrous, heb sôn am y tensiwn, wrth i rai timoedd gyrraedd lefel uchel ac wrth i’r ffôn symudol gael ei ddefnyddio i ymgynghori gyda nifer i ffrind.
Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed cynradd oedd: Providence, Llangadog (Dwyrain sir Gâr), Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr), Clwb Plant Y Brenin, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr), Ysgol Sul Hermon (Gorllewin sir Gâr). Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed uwchradd oedd: Calfaria, Penygroes (Dwyrain sir Gâr), Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr), Penuel, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr), Y Babell, Pensarn (Gorllewin sir Gâr)
Cael hwyl wrth gymryd rhan oedd y peth mawr, ond yn sgìl hynny, mae`n amlwg bod y plant a’r bobl ifanc wedi dysgu llawer, a gobeithio magu blas tuag at Air Duw.

Daeth tim Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman yn ail yn oedran Uwchradd.

Cyflwynwyd gwobr i bawb wnaeth gymryd rhan yn y cwis gyda thlysau sialens a thlysau unigol i’r timoedd hynny wnaeth gyrraedd y brig.


Dymuna M.I.C. nodi gwerthfawrogiad o`r defnydd a gafwyd o’r capel a’r festri yn Y Priordy, Caerfyrddin dros ddwy noson ac o garedigrwydd chwiorydd y capel i ddarparu lluniaeth ar gyfer y timoedd. Diolch hefyd i’r Cyngor Ysgolion Sul am y defnydd o’r bysyrs electronig ac i llogioffer.com am ddarparu’r meicroffonau a’r sytem sain. Y fenter nesaf a drefnir gan M.I.C bydd gwersyll i blant blynyddoedd 4-7 yn ystod hanner tymor, sef Chwefror 15fed - 17eg 2010. Am fanylion pellach neu ffurflen gofrestru cysylltwch â Nigel Davies ar (01994)230049 neu e-bost mic@uwclub.net

Llwyddiant Cenedlaethol i Fardd o Gwmaman


Trefnir Cystadleuaeth John Tripp gan yr Academi Gymreig i feirdd o Gymru yn darllen eu barddoniaeth eu hunain yn y Saesneg. Daeth yr un deg chwech enillydd o’r Rowndiau Rhanbarthol ynghyd yn y Rownd Derfynol ym Mae Caerdydd, a rhaid oedd iddynt ddarllen darnau gwahanol o’u gwaith i’r rhai a ddarllenwyd ganddynt yn y Rownd flaenorol. Dyfarnwyd yn un frydol gan y tri beirniad mai’r enillydd yn 2009 oedd Dafydd Wyn o Glanaman, a’i fod yn deilwng o’r wobr gyntaf o £500. Yn y llun gwelir Dafydd yn darllen ei farddoniaeth yn y Rownd Derfynol a gallwch weld rhai o’i ddarnau buddugol trwy ymweld â

www.academi.org/johntripp/i/135717

CYMORTH CRISTNOGOL CWMAMAN

Cafodd Mrs Muriel Powell ei hanrhydeddu yng Nghlwb Golff y Garnant fis Tachwedd pan ddaeth cynrychiolaeth dda i ddiolch iddi am ei gwaith di-flino dros y blynyddoedd. Mae’n anrhydedd i fobl y Cwm fod un mor weithgar wedi bod wrthi yn codi arian mawr i’r achos teilwng hwn. Dymunwn bob hwyl i’r dyfodol i Mrs Powell ac hefyd i Dr Frank Powell am fod mor gefnogol i’w wraig a da yw datgelu fod Dr Powell wedi dod adref o’r ysbyty yn ddiweddar ac yn gwella o ddydd i ddydd. Pob dymuniad da iddo i’r dyfodol.

Gobeithio y bydd y pwyllgor yn cario ymlaen â’r gwaith elusenol y mae Mrs Muriel Powell wedi ei ddechrau yn y Cwm ac y bydd cefnogaeth yr ardal yn dal i fod yr un mor gryf. Dewch i ni estyn dwylo dros y môr gan ddiolch ein bod ninnau mewn ffordd i helpu’r rhai sydd yn llai ffodus na ni ac nad oes rhaid i ni bryderu am y pryd nesaf o fwyd.

Y Blygain yn Hen Fethel

Daeth y llu arferol ynghyd am 6.30 am ar Fore Nadolig, fel y gwnaethant am bron i ddwy ganrif a hanner, i ddathlu gwir ysbryd yr Wyl. Cafwyd naws arbennig yng ngolau’r canhwyllau gyda phawb a ddymunai yn cyfrannu gyda gweddïau, darlleniadau, barddoniaeth ac ar gân.
Diolchodd Linden Evans, yr Arweinydd, i’r rhai a fu’n brysur er mwyn gwneud yr achlysur hwn yn bosib eleni eto, gan gynnwys Emyr Jenkins a dreuliodd oriau lawer yn atgyweirio un o’r grisiau, yn rhoi cloion newydd ar y drysau a chryfhau’r llawr mewn mannau. Gwnaeth Huw Jenkins wirfoddoli i gynnau’r tânau i gynhesu’r Capel, bu Dafydd Wyn yng ngofal tywys y ceir drwy’r fynwent a rhoddwyd y glo yn ôl eu harfer gan y Brodyr Thomas, a’r coed tân gan gwmni T. Richard Jones.
Aeth Linden Evans ymlaen i ddweud bod y Blygain yn Hen Fethel bellach yn y fantol os na cheir Pwyllgor Cyhoeddus i’w rhedeg. Diolchodd i ddiaconiaid Bethel Newydd a’r ymddiriedolwyr eraill am y gwaith da a wnaethant dros y blynyddoedd ond roeddent hwy yn teimlo eu bod yn mynd yn rhy hen bellach i ofalu am y Capel a’r Fynwent a hoffent drosglwyddo’r cyfrifoldebau hyn i Ymddiriedolaeth Gyhoeddus. Mae Cyngor Cwmaman wedi cytuno gwneud Arolwg o’r Capel a’r Fynwent ac yna byddant yn ceisio ffurfio Pwyllgor Cyhoeddus mewn Cyfarfod a gynhelir ym mis Chwefror. Dywedodd Linden fod dyfodol y Capel a’r Blygain bellach yn dibynnu ar ein cefnogaeth ni a daeth chwech person ato i gynnig helpu. Os nad ydych wedi cysylltu eisoes â Linden ond yn fodlon ystyried bod ar y Pwyllgor hwn, plis rhowch wybod i David Davies, Clerc y Cyngor, drwy ei ffônio ar 07971 026493 neu ei e-bostio ar daidoc@yahoo.co.uk ac yna cewch wahoddiad personol i’r cyfarfod ym mis Chwefror lle cewch wybodaeth pellach am yr Arolwg ar gyflwr y Capel a’r Fynwent ac esboniad llawn o’r hyn a ddisgwylir gennych cyn eich bod yn dod i benderfyniad.

6.2.10

NODDFA GARNSWLLT

Ar Sul 6 Rhagfyr cafwyd oedfa amrywiol o dan ofal chwiorydd yr Ysgol Sul. Y Sul canlynol cafwyd oedfa fendithiol iawn wedi ei harwain gan y diaconiaid. Awena Lewis oedd wrth yr organ.
Cynhaliwyd oedfa’r Nadolig ar Sul 20 o Rhagfyr o dan ofal yr Ysgol Sul.
Cyflwynwyd Ddrama’r Geni. Diolch i bawb a gymerodd rhan a hyfryd oedd gweld pawb wedi gwisgo yn y ffordd draddodiadol ar gyfer y perfformiad. Diolch i Gillian Tancock am ganu'r organ.
Diolch hefyd i Sioned Rees am ganu'r piano yn gyfeiliant i blant y Festri.

CYMDEITHAS YR HENOED

Ar yr ail o Ragfyr croesawodd y Llywydd Mr Morlais Pugh Fand Ieuenctid Cwmtawe i ddiddannu’r aelodau. Mae’n arferiad bellach i’r band chwarau cerddoriaeth Nadoligaidd, a’r gynulleidfa yn canu carolau i gyfeiliant y band, siom oedd cael geiriau yn Saesneg yn unig y tro hwn. Arweinydd y rhan gyntaf oedd Mr Hywel Jones a Mr Rhodri Morris yr ail hanner. Diolchwyd ir band am noson hwylus gan y Llywydd.
Yna ar yr ail ar bymtheg o Ragfyr aeth aelodau o’r Gymdeithas i Ganolfan y Mynydd Du i gael cinio Nadolig. Croesawodd Mr Morlais Pugh y gŵr gwadd, sef Mr Glynog Davies atom achawsom noson hwylus iawn yn ei gwmni, ac yntau yn adnabod y mwyafrif o’r aelodau. Soniodd am ai gysylltiadau agos ậ’r Waun ac am ei yrfa yn y cyfryngau gyda sawl stori ddoniol. Cawsom noson bleserus iawn yn ei gwmni, bwyd blasus a sawl un wedi ennill gwobrwyon yn y raffl. Diolchwyd yn gynnes i Glynog gan y Llywydd. Diolch i aelodau’r pwyllgor am eu gwaith yn ystod y
flwyddyn.

3.2.10

PYTHEFNOS MASNACH DEG 22 Chwefror- 7 Mawrth

Mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd yn Rhydaman yn ystod pythefnos Masnach Deg. Dyma rhai o'r pethau sydd ar y gweill.

Dydd Mercher 24 Chwefror - Parti y "mad hatter" yn Ystafell De Benwig, 2activ8.

Gwener 5 Mawrth - "Diwrnod Haf Masnach Deg yn Rhydaman" ger yr Arcade.
- o 12.00 - 7.00 - sinema ynni haul mewn carafan (thesolcinema.org) yn dangos ffilmiau byr am fasnach deg.
- nos - tua 6.00pm Banana Split Masnach Deg

Bydd llawer o bethau eraill hefyd yn cael eu trefnu - gadewn i chi wybod yn fuan.

2.2.10

SIARAD CYHOEDDUS YSGOL DYFFRYN AMAN

Catrin Moses, Adam Jones ac Yasmin Jones - tri o fyfyrwyr Safon A Cymraeg Ysgol Dyffryn Aman a fu'n cynrychioli Clwb Rotari Rhydaman yn rownd cynderfynol Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Clybiau Rotari De Cymru yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i'r tri ohonynt, yn enwedig Adam a enillodd y wobr am y Siaradwr Gorau mewn cystadleuaeth o safon uchel iawn. Hyfforddwyd y tim gan Mr Dylan Lewis.
Help / Cymorth