27.3.10

EISTEDDFOD TREF RHYDAMAN

Cadi                                                                           Megan

Lowri ac Owain
Dydd Sadwrn 27 Mawrth cynhaliwyd Eisteddfod Rhydaman dan nawdd Cyngor y Dref. Braf yw gweld yr Eisteddfod yn cael ei chynnal unwaith eto yn Rhydaman wedi llawer o flynyddoedd a gobeithinw bod hwn yn gychwyn ar gynnal y traddodiad unwaith eto. 
Y beirniad Cerdd oedd Mr Eric Jones, Pontarddulais. Mr Dyfrig Davies, Llandeilo oedd y beirniad Adrodd gyda Lowri Evans, Caerdydd yn cyfeilio.
Y llywyddion oedd Y Cyng Irena Hopkins, maeres y dref a Mrs Jean Huw Jones, Y Betws.
Dyma rhai o'r enillwyr ifanc.
Canu dan 8 - Cadi James, Llangadog
Adrodd dan 8  - Megan Bryer, Llanarthne
Adrodd a Canu dan 10 - Lowri Rowlands, Llangadog
Adrodd dan 13 - Owain Rowlands, Llangadog

24.3.10

CYNGERDD APEL HAITI - DONIAU DINEFWR

Teledwraig brysur - Alex Jones

Yn rhifyn Ionawr o Glo Mân fe gyfeiriais at Alex Jones o Dycroes sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno’r rhaglen Tocyn gydag Aled Sam. Rhaglenni ar wyliau i deuluoedd yn y gwledydd Celtaidd ydynt.
Erbyn hyn mae ganddi dair rhaglen wahanol ar y gweill gan gynnwys slot ar raglen Jonathan, rhaglen banel sydd yn seiliedig ar rygbi yn ystod tymor cystadleuaeth y chwe gwlad a chynghrair Magners.
Cyn y rhaglenni diweddaraf hyn bu Alex yn gweithio ar rhaglenni plant am dros ddeng mlynedd, rhaglenni fel Popty a Chwa ac y mae o hyd yn gweithio ar Salon, rhaglen fashiwn i blant a phobl ifanc.
Mae Alex yn cyfaddef mae Saesneg oedd iaith y cartref ond fe’i hanfonwyd i ysgolion Cymraeg ac fe ddysgodd yr iaith yn go rwydd gan astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y theatr, ffilm a theledu. Adeg arholiadau gradd roedd yn gystadleuydd ar y sioe Prickley Heart ar Sky One a bu yn rhaid iddi sefyll yr arholiad yn Magaluf yn Sbaen.
Y mae yn eithaf hapus i fyw yng Nghaerdydd ac nid oes ganddi ar hyn o bryd awydd symud i Lundain.

21.3.10

NEUADD BRYNAMAN - Yma o Hyd

Brian Harries - rheolwr sydd newydd ymddeol

Tua chan mlynedd yn ôl mynnai'r Pwyllgor a oedd yn Neuadd Gyhoeddus Brynaman bryd hynny mai dyma'r neuadd orau yn yr ardal, un yn siwtio pawb, heb yr un neuadd arall a allai gystadlu a hi. A dyna yw'r farn am y neuadd sydd yma heddi – mae hi'n werth ei gweld, fel y ffilmiau mwyaf diweddar a ddangosir ynddi bob wythnos. Ac mae llawer o'r diolch am hyn yn ddyledus i Mr Brian Harries y Rheolwr sy' newydd ymddeol, i'r pwyllgorau a'r gwirfoddolwyr a fu wrthi ar hyd yr amser, pobl fel Harri Jones, Heulwyn Morgan a Moc Leonard i enwi tri yn unig o'r ffyddloniaid – a choffa da am y tri yma.

Wedi hen ysgol yr Amman Works gael ei gwerthu i Fwrdd Llandeilo Fawr (am £1200) cyflwynodd George B. Strick £700 i bobl yr ardal ar gyfer adeiladu Neuadd Gyhoeddus ym Mrynaman. Ac yn ol Carmarthen Journal 1898 roedd llawer o waith wedi ei wneud ar yr adeilad (o goed a sinc) erbyn hynny –"and it is hoped an interesting programme will be provided for the young men of the village to keep them off the streets where they are only doing mischief"!
Rhyw ergyd carreg o'r lle'r oedd y Neuadd gyntaf honno, ar y 13eg o Ragfyr 1914, ar Hewl Stesion codwyd yr Alpha – "the enemy" yn ôl cefnogwyr y llall! Bu llawer o ddyfalu a chwestiynu pan ddigwyddodd tan mawr yn y Neuadd Gyhoeddus, a hynny flwyddyn union, ymron i'r diwrnod, 15fed o Ragfyr 1915, ers pan agorwyd yr Alpha. Hyd heddiw does neb yn gwybod beth oedd achos y tan hwnnw. Roedd yr Alpha'n boblogaidd iawn, a'r nosweithiau amrywiol yno'n denu pobl o'r ardaloedd cyfagos.
Wedi'r tan, ar Fedi'r 6ed 1916 galwyd cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Brynaman Uchaf i drafod cynlluniau posibl ar gyfer adeiladu Neuadd Gyhoeddus newydd, a dechrau Cronfa ar gyfer y gwaith. Ond ni ddigwyddodd fawr o ddim tan 1922 pan soniwyd y byddai neuadd fawr fodern yn costio rhyw £10,000.
Ym mis Mawrth 1926 cafodd y neuadd newydd rodd o lyfrau ar gyfer sefydlu Llyfrgell ynddi, ac ymgeisiodd 21 o bobl am swydd y llyfrgellydd. David Jones, Pant-ycelyn oedd y dewis poblogaidd, i ddechrau ar Fai'r 10fed. Roedd y neuadd newydd i'w hagor ymhen yr wythnos, y 15fed o Fai 1926 – sef blwyddyn y Streic Fawr oedd i barhau am saith mis. Bu'r gweithgaredd yno yn fuddiol ac amrywiol, yn gyngherddau, darlithiau, ymarferion corau, dawns a bandiau a phwyllgorau ag ati.
Ond yn 1927 daeth rhyfeddod y ffilmiau sain "byw", a bu galw am offer newydd a drud. Gosodwyd y Neuadd ar Lês a rhent o £13 yr wythnos. Gwr o Abertawe, Oscar Dennis, oedd y cyntaf i ddod a ffilmiau i'r Neuadd, am bum noson yr wythnos gan adael nos Fercher i'r Pwyllgor. Pan orffennodd Oscar Dennis yn 1936 penderfynodd y Pwyllgor ymgymryd a'r gwaith o drefnu a chynnal y Neuadd. A dyna fel y bu, ar wahan i gyfnod byr dan ofal y West of England Cinema Company.
Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan, Medi'r 3ydd 1939, 'roedd hi'n ofynnol i bob man cyhoeddus gau'r drysau, ond ar y 14eg o'r mis fe ail-agorwyd Neuadd Gyhoeddus Brynaman a'i chadw ar agor trwy gydol y Rhyfel.
Ac ar agor y bu'r Neuadd, "Hall Brynaman", ers hynny, diolch i'r Rheolwr a'r timau o wirfoddolwyr a fu'n rhoi o'u hamser bob nos am bob wythnos yn gyson. Bu'r Neuadd o fudd amhrisiadwy i'r gymuned, i'r ysgolion a'u cyngherddau, yr Urdd a'r capeli a'u heisteddfodau, i'r cwmniau drama a'r operau enwog a phoblogaidd. Cafodd talentau lleol a phroffesiynol y cyfle i serennu ar lwyfan Brynaman. 0'r pwys mwyaf y dylid ei chadw ar agor

20.3.10

CADAIR EISTEDDFOD YSGOL DYFFRYN AMAN 2010

Uchafbwynt Eisteddfod Ysgol Dyffryn Aman eleni oedd Seremoni Cadeirio’r Llenor a’r dasg eleni oedd creu araith ar unrhyw bwnc cyfoes.A’r enillydd? “Gorymdaith” sef Adam Jones o Lys Watcyn am ei araith ar “Annibyniaeth I Gymru”. Mae Adam yn y Chweched Isaf ac yn astudio Cymraeg, Hanes ,Addysg Grefyddol ac Almaeneg. Yr ail eleni oedd Sara Jones o flwyddyn 11 a rhannwyd y drydedd wobr rhwng Catrin Moses o’r Chweched Isaf a Catherine Richards o flwyddyn 11.

EISTEDDFOD DYFFRYN AMAN 2010

Er yr oerfel, tywynnodd yr haul a chynhesodd y dorf i’r amrywiaeth o gystadlaethau llwyfan. Cafwyd gwledd i’r llygad a’r glust. Y panel beirniaid eleni oedd Mrs Eirwen Thomas, Mr Glynog Davies, Mrs Eira Davies, Mrs Lynne Llewelyn, Mrs Bethan Morgan a Mr Ian Llewelyn a mawr fu eu cyfraniad yn ystod y dydd.
Llys Watcyn oedd yn fuddugol ond roedd cydweithio arbennig rhwng timau’r chweched i gyd. Uchafbwynt y diwrnod oedd cadeirio'r Llenor buddugol ac eleni oedd Adam Jones o Lys Watcyn.
Y bachgen a’r ferch a gyfrannodd fwyaf i ‘r cystadlaethau llwyfan oedd Brychan Gruffydd-Davies o Lys Amanwy a Catrin Soons o Lys Watcyn.
Dyma restr o rai unigolion eraill a fu’n llwyddiannus:-


Unawd Piano - 1af Lucy Tootle 2il Catrin Clarke
Unawd Gitar - 1af James Hunt 2il Ynyr Thomas
Unawd Chwythbrennau - 1af Catrin Soons 2il Cerys Smith
Unawd merched - 1af Beth Blackford Jones 2il Marina Cannard 3ydd Catrin Soons
Llefaru (Iaith Gyntaf) - 1af Daniel Leyshon 2il Cerys Smith 3ydd Nia Willians/Catrin Soons
Dawns Unigol - 1af Ffion Thomas 2il Sion Thomas 3ydd Arthur Arnold
Unawd Bechgyn - 1af Brychan Gruffydd-Davies 2il Brycham Millett 3ydd Cerith Evans
Llefaru (Ail-Iaith) - 1af Mathew Thorn 2il Jodey Thomas 3ydd Joshua Winkley

10.3.10

Capel Newydd - Y Betws

Yn dilyn yr adroddiad mis Rhagfyr ynglyn â’r Gwasanaeth nadolig a’r bedydd dyma yn awr lun o Dion Gwyn ym mreichiau’i fam a'i dad, Nesta a Cenwyn. Gwelir ieuenctid a phlant y capel yn y cefndir.

1.3.10

Y Tabernacl, Cwmgors

Roedd gwasanaeth prynhawn Sul 17eg o Ionawr yn nodedig am fwy nag un rheswm. Yn y lle cyntaf, roeddem yn falch i ddod at ein gilydd am y tro cyntaf ers cyn y Nadolig – ni fu’n bosib cynnal gwasanaethau yn ystod y tywydd rhewllyd diweddar.

Ond er ein bod yn falch i allu cynnal gwasanaeth o’r diwedd, trist oedd meddwl mai hwn oedd gwasanaeth olaf y Parchedig Gwyndaf Jones fel ein Gweinidog. Er mai dim ond am gyfnod byr mae Mr Jones wedi bod yn weinidog ar y Tabernacl, mae wedi bod yn weinidog ar ein mam eglwys, Carmel, Gwaun-Cae-Gurwen am dros 30 o flynyddoedd. Yn ystod yr amser yma yr ydym wedi dod yn gyfarwydd iawn â Mr Jones ac wedi dod i’w adnabod fel ffrind da i’r Tabernacl. Mae wedi bod yn gymorth i ni ar nifer o achlysuron. Diolch yn fawr Mr Jones, a phob dymuniad da ar eich ymddeoliad.

Yn ystod ei wasanaeth olaf yn ein plith derbyniodd Mr Jones ddau o blant yr Eglwys, Kathryn Thomas ac Owain ei brawd, yn gyflawn aelodau. Mae Kathryn yn gweithio fel therapydd galwedigaethol yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac y mae Owain yn astudio Cerddoriaeth ym mhrifysgol Bangor. Mae teulu Kathryn ac Owain wedi bod yn aelodau yn y Tabernacl ers dechrau’r achos dros ganrif yn ôl: braf iawn oedd cael croesawu dau arall o’r teulu yn aelodau.

Merched y Wawr Cangen GwaunGors

Croesawyd yr aelodau i’n cyfarfod cyntaf ym 2010, Nos Lun 18ed o Ionawr, gan ein Llywydd Mrs Bethan Williams, a dymunodd Flwyddyn Newydd Dda i ni i gyd. Dywedodd mor flin oedd hi ein bod wedi gorfod dileu y cyfarfod ym mis Rhagfyr 2009 o achos y tywydd rhewllyd.

Croesawodd ein siaradwr gwadd yn gynnes iawn, sef Y Parchedig Gwyndaf Jones. Diolchodd yntau am y gwahoddiad. Y tro hwn eto daeth ậ gwrthrychau amrywiol a diddorol iawn i’n herio a’n diddannu. Pob un ậ’i stori, ậ’i le mewn hanes lleol a chenedlaethol, aethom dramor hefyd, gan deithio ‘nôl mewn amser ‘doedd Dr Who a’i ‘dardis ddim ynddi! Dangosodd enghreifftiau o luniau, cyn oes y camera, yna hen luniau a dynnwyd gan John Thomas - mae casgliad o’i luniau yn y llyfr ddiddorol ‘Hen Ffordd o fyw’. Gwisgai un o wobrau eisteddfod yr Urdd a enillodd ei ewyrth am adrodd. Gwelsom hen gardiau Nadolig a hen gardiau post, llwy anarferol, hen lyfr ậ nod clustiau defaid o ardal y Mynydd Du, a llawer trysor arall diddorol. Diolchodd Bethan iddo am noson ddifyr, a dymunodd ymddeoliad hapus a iechyd iddo a Glenda a’r teulu.

Carmel

Roedd ffyddloniaid Carmel yn falch iawn bod y tywydd wedi newid er gwell, a modd mynd i Oedfa arbennig yn hanes yr Eglwys, fore Sul Ionawr 17eg. Hon oedd Oedfa olaf Y Parchedig Gwyndaf Jones fel ein Gweinidog. Daeth ei ddarlleniad o’r ail bennod o Efengyl Ioan, a chododd ei destun o’r drydedd bennod o Lythyr Paul at y Galatiaid, a chawsom bregeth rymus a sicr yn ôl ei arfer. Mae wedi bod yn weinidog cydwybodol, fyddlon, a gweithgar ers dros thri deg a thair o flynyddoedd yng Ngharmel, a byddwn yn gweld cannoedd o’i eisieu. Roedd un peth wedi codi ein calonnau, a hynny oedd gweld Mrs Glenda Jones yn cyrraedd, hithau yn benderfynnol ac wedi gwneud ymdrech fawr i fod yn bresennol, ar ôl cael llawdriniaeth. Dymunwyd ymddeoliad hapus iddo, a phob dymuniad da i’r ddau a’u teulu. Bydd cyfle eto i gael eu cwmni cyn iddynt ymadael ậr ardal.

Mae Mr Alan Windsor Heol Cefn wedi gwneud ymdrech fawr i ddod i’r oedfaon, ar ei ffyn faglau ar ôl cael llawdriniaeth. Dymunwn yn dda iddo yntau.
Help / Cymorth