23.4.10

Eisteddfod Flynyddol Ysgol Gwaun Cae Gurwen

Mawrth 1af unwaith eto ac amser i Eisteddfod Flynyddol Dydd Gŵyl Ysgol Gwaun-Cae-Gurwen. Roedd yna cystadlu brwd eleni eto gyda’r ffefrynnau arferol wrth gwrs o ganu a llefaru a’r testunau’n adnabyddus fel hen ganeuon traddodiadol fel, “Dacw Mam yn dwad,” ac “Ar hyd y nos” gyda darnau megis “Mae’n bwrw glaw” a “Ffrindiau Mawr a Bach” ar gyfer yr adroddwyr. Eleni eto, cafwyd cystadleuaeth unawd offeryn pres ac, am yr ail dro, cystadleuaeth unawd drymiau.

Y beirniad llefaru a gwaith ysgrifenedig eleni oedd Mr Cerith Jones, Mr Jonathan Owen ar y cerdd a Mrs Pat Harwood oedd yn beirniadu’r gwaith celf. Y tri yn gyn ddisgyblion yr ysgol hon. Cafwyd dipyn o hwyl arni gyda sawl cystadleuaeth yn agos ac anodd iawn i ddewis enillydd.
Ond uchafbwynt yr eisteddfod bob blwyddyn, wrth gwrs, yw seremoni’r cadeirio a doedd eleni ddim yn wahanol. Mr Cerith Jones eto oedd y beirniad ac roedd yn uchel iawn ei glod i’r nifer da a gynigiodd. Cystadleuaeth ysgrifennu stori ar destun agored gafwyd eleni gyda’r ymgeiswyr yn cael dechreuad i’w ddatblygu. Roedd yn agos ar y brig eto ond yr enillydd am stori ddychmygus iawn oedd Courtney Woolcock. Stori oedd yn afaelgar ac yn cynnal diddordeb y darllenwr.
Llongyfarchiadau mawr iawn i Courtney ac i bawb gystadlodd. Diolch o galon i’r beirniaid, y staff, i bawb fu wrthi’n darparu lluniaeth, pawb fu’n dysgu’r plant ac yn enwedig i bawb drodd i mewn i gefnogi. Ond mae’r diolch mwyaf i’r plant am eu hymdrechion. Da iawn, wir.

21.4.10

“Edrych ymlaen i glywed a siarad Cymraeg”

Dyna oedd sylw Gwenneth Wells (Jones gynt) o Sgwậr Colbren ac yn byw yn Seland Neywydd ers 42 o flynyddoedd, ar ôl iddi dderbyn galwad ffôn gan Bethan Godson (Jones) gynt o Heol Llwyn Cwmgors i drefnu cwrdd. “ Pwy yw hi?” oedd am wybod nesa!! Merch Mrs Eirwen John a’r diweddar Gareth yw Bethan. Bu’n dysgu Ffrangeg yn ysgol Cwmtawe ar y Waun rhai blynyddoedd yn ôl, nawr mae’n dysgu mewn ysgol berswyl yn Lloegr. Agorwyd ysgol yn Auckland a chyfle i blant fynd yno o’r ysgol yn Lloegr gyda’u hathrawon am 5 wythnos. Manteisiodd Bethan ar y cyfle i fynd gyda’r plant eleni. Er eu bod yn mynd i’r ysgol roeddent hefyd wedi teithio rhywfaint . Trefnodd Bethan i gwrdd ậ Gwenneth a chael dau brynhawn hyfryd yng nghwmni ei gilydd, a’r ddwy wrth eu bodd, ac yn bwriadu cadw mewn cysytiad.

20.4.10

Pedair cenhedlaeth Mrs Beti Wyn Jones

Llongyfarchiadau i Mrs Beti Wyn Jones Heol y Dŵr ar enedigaeth ei gor-wyres. Ganwyd Alaw Mai merch Nia a Aled Davies Brynaman Uchaf ar Chwefror 27ain. Mae’n wyres i Gaynor a Keith Hopkins Brynaman uchaf ac Edania a David Davies Penygroes. Dymuniadau gorau iddynt i gyd a chroeso cynnes i Alaw Mai.

Cymdeithas yr Hen Oed - Gwaun Cae Gurwen

Erbyn hyn mae’n draddodiad i groesawu plant yr ysgol gynradd i’r cyfarfod yn dilyn dydd Gŵyl Ddewi. Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus yn yr ysgol ar Fawrh 1af Nos Fercher 3ydd o Fawrth cafodd aelodau gymdeithas wledd nid yn unig i’r glust ond i’r llygaid hefyd. Roedd y mwyafrif o’r plant wedi dod wedi gwisgo i ddathlu Gŵyl ein Nawdd Sant, llawer o’r merched yn gwisgo pais a betgwn eraill yn gwisgo coch.. Roedd hi’n noson amrywiol o ganu unigol, grwpiau a chôr, llefaru, canu offerynau a dawnsio disgo bywiog iawn. Diolch i’r Prif Athro Mr K. Morgan am lywio’r noson yn anffurfiol a hamddennol a diolch i Mrs Catherine Williams y ddirprwy brif athrawes am gyfeilio a diolch hefyd i Mrs S Rees a Miss S Sunderland.

Arddangosfa o waith Ann Jordan:

Ar fore Mercher, 23 Mawrth, agorwyd yr arddangosfa uchod gan John Cook, Prif weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n arbennig o ddiddorol. Ymateb yr artist Celf Gain, Ann Jordan, i’r hanes, diwylliant a’r dirwedd leol o gwmpas hen ‘Lwybr yr Arch’ sy’n croesi’r Mynydd Du rhwng Ystradgynlais a Llanddeusant yw’r prosiect hwn.
Mae Deddf Claddedigaeth 1667 yn datgan: “ni fydd corf unrhyw berson (heblaw’r rhai sy’n marw o achos pla yn cael ei gladdu mewn unrhyw grys, cynfas nac amwisg nag unrhyw beth a waned neu a gymysgwyd â llin, cywarch, sidan, gwallt, aur neu arian, oni bae am yr hyn a waned o wlân dafad yn unig”.
Mae’r arddangosfa yn troi o gwmpas cylchdro bywyd, genedigaeth, bywyd, marwolaeth ac ail-eni. Mae’r hyn a welir yn y lluniau wedi eu gwneud o wlan a gasglwydd o ddefaid y Mynydd Du. Ceir deuddeg milltir o wlan a hynny’n symbol o ddeuddeg milltir llwybr yr arch.
Wedi’r agoriad swyddogol gweinwyd cawl Cymreig i’r bobl oedd yno ac yna roedd bws yn barod i gario’r cerddwyr oedd yn mynd i gerdded y pedair milltir oedd o’r ffordd fawr hyd at Garnau’r Garreg Las a orchyddiwyd a blanced o wlân wedi ei gweu gan Ann. Rhaid oedd cerdded y pedair milltir eto ar y ffordd nôl wrth gwrs! Mae tri man cychwyn posibl i gyrraedd Carnau’r Garreg Las - gellir dechrau o Frynaman, o Landdeusant neu o Gwmgiedd. Os ewch chi i weld yr arddangosfa bydd llyfryn bach ar gael i chi yn rhoi’r manylion llawn am y prosiect cyfan a’r rhai fuodd yn gysylltiedig age ef.
Bydd yr arddangosfa i’w gweld yng Nghanolfan y Mynydd Du, Brynaman tan 24 Ebrill, dydd Llun i ddydd Gwener 9 tan 5, a dydd Sadwrn 9 tan 2 o’r gloch. Mynediad am ddim.
Yn cyd-rhedeg bydd ffilm yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
yn Libanus, Aberhonddu.

Dathlu Gwyl Ddewi yng Nghanolfan y Mynydd Du

Cafodd aelodau’r Clwb Cinio ddathliad arbennig ar ddydd Gwyl Dewi eleni. Wedi llawn bol o gawl blasus cafwyd rhaglen amrywiol gyda chwis Cymraeg, tipyn o hanes ein nawddsant, darlleniadau pwrpasol a hwyl fawr wrth ganu caneuon Cymraeg.
Roedd y Ganolfan wedi cynnal cystadleuaeth coginio Pice ar y Maen a’r enillydd oedd Mrs Jean Howells. Hefyd cynhaliwyd cystadleuaeth llunio stribed jersi addas i Wyl Ddewi, yn agored i’r ddwy ysgol gynradd yn y pentref. Y buddugwyr oedd Megan Llewelyn o Ysgol Gynradd Brynaman a Kati Lloyd o Ysgol y Glyn.

19.4.10

CLWB HWYL HWYR - Pythefnos Masnach Deg

Roedd aelodau Clwb Hwyl Hwyr, sef Clwb Cristnogol eglwysi Cymraeg Rhydaman yn cymryd rhan y y Banana Split enfawr yn yr Arcade ar Nos Wener 5 Mawrth.
Rhan o ddigwyddiadau Pythefnos Masnach Deg oedd hon. Dyma'r ail waith i ni adeiladu Banana Split enfawr ar hyd yr arcade ac roedd un eleni yr un mor fawr a llynedd.

Yn gyntaf roedd angen torri'r bananas a'u gosod ar y cafn, wedyn ychwanegu'r hufen ia, yr hufen a'r saws siocled - wedi hyn roedd pawb yn gafael mewn llwy a bwyta!!
Pa well ffordd i ddathlu Pythefnos Masnach Deg ac ar yr un pryd codi ymwybyddiaeth am nwyddau sy'n rhoi cyfle teilwng i'r ffermwyr a'r masnachwyr

CYMORTH CRISTNOGOL RHYDAMAN

Sefydlwyd pwyllgor Cymorth Cristnogol Rhydaman ym 1985. Mewn cyfarfod o'r pwyllgor ym mis Mawrth da oedd clywed gan ein trysorydd, Mr. John Walters, ein bod yn ystod y flwyddyn 2009 wedi casglu cyfanswm o £7010 tuag at yr achos, swm anrhydeddus. Roedd hyn yn ffrwyth casglu o ddrws i ddrws, bore coffi a chasgliad yn yr oedfa undebol yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol. Casglwyd y gweddill drwy drefnu taith gerdded ym mis Medi, cwis rhyng-eglwysig ym mis Hydref, ac oedfa Nadolig ym mis Rhagfyr. Rydym yn awr yn paratoi ar gyfer yr Wythnos eleni fydd yn ymestyn o Fai 9 hyd Fai 16. pan fyddwn umwaith eto yn casglu ar hyd rhai o strydoedd Rhydaman ac yn cynnal oedfa undebol, a bore coffi a stondin gacennau yn Neuadd yr Eglwys, Wind St. ar y bore dydd Gwener, Mai 14.

Mudiad Cenhadol Y Chwiorydd – Gellimanwydd, Gwynfryn a Moreia

Cynhaliwyd ein oedfa Flynyddol yng nghapel Gwynfryn,Rhydaman ar Fawrth 4ydd 2010.
Daeth ein llywydd newydd Mrs Mairwen Lloyd i’r gadair. Cymerodd Mrs Marjorie Rogers at drysordyddiaeth y Mudiad ar ôl marwolaeth annisgwyl Mrs Megan Griffiths.
Cafwyd anerchiad pwrpasol gan y parchg Emyr Gwyn Evans yn seiliedig ar y “Lili-Wen Fach” cyn gwinyddu’r cymun. Mrs Awen Harries yw ysgrifenyddes y Mudiad

BEDYDD YNG NGELLIMANWYDD

Ar Fore Sul 28 Chwefror bedyddwyd plant Elen ac Alun Rees, sef Gwenan Mai a Tomos Glyn. Braf oedd gweld y capel yn gyffyrddus lawn i ddathlu a thystio bedyddio’r ddau fach. Dymunwn pob llwyddiant ac hapusrwydd i Gwenan a Tomos i'r dyfodol.

Dathlu Gŵyl Ddewi

Hyfryd oedd gweld Festri Capel Moreia, Tycoes dan ei sang i’r noson gawl a gynhaliwyd i ddathlu Gŵyl Ddewi. Y gŵr gwadd oedd Mr. Glynog Davies, Brynaman ac fe’i groesawyd ef a’i briod, Mrs. Eira Davies, yn gynnes iawn gan y llywydd, y Parch. Dyfrig Rees.

Yn ei anerchiad anogodd Glynog ni i ddilyn esiampl Estonia a frwydrodd, yn wyneb gorthrwm mawr oddi wrth Rwsia, i gadw ei hiaith a’i chrefydd yn fyw ac fe apeliodd arnom i ddefnyddio y Gymraeg ar bob achlysur posib.
Cafwyd dwy wledd y noson hon – cawl a danteithion blasus ynghyd ag araith a’n hysgogodd i frwydro dros ein hiaith a’n diwylliant. Diolchwn hefyd i Miss Stephanie Davies am y datganiadau effeithiol ar yr organ drydan cyn y bwyd.
Bu hefyd yn llwyddiannus yn ariannol gydag elw o dros £340 i gronfa elusen yr eglwys.

16.4.10

Sioe Stryd Gŵyl Ddewi

Bu Rhydaman yn fôr o ganu Cymraeg, dawnsio gwerin a daffodils wrth i’r dref ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Sioe Stryd a drefnwyd gan y Fenter, Cynllun Gweithredu Iaith Rhydaman a Twf. Agorwyd y digwyddiad gan Maer Rhydaman, Irena Hopkins a daeth tyrfa ynghyd i fwynhau’r awyrgylch gwladgarol yng nghanol y dref. Ymysg y perfformwyr oedd Band Arian Rhydaman, Dawnswyr Penrhyd, Jac y Do, Ysgol Dyffryn Aman, Ysgol Llandybie, Ysgol Betws ac Ysgol Parcyrhun. Diddanwyd y gynulleidfa drwy gydol y bore. Diolch i’r gefnogaeth a gafwyd wrth yr ysgolion a’r mudiadau lleol. Dyma’r drydedd flwyddyn i’r digwyddiad gael ei gynnal a hyfryd oedd gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i ddathlu diwrnod ein nawddsant, a gobeithir yn fawr am yr un llwyddiant flwyddyn nesaf.

PENSIYNWYR TYCROES

Mr. Paul Mainwaring, Prifathro Ysgol Tycroes oedd y gwestai yng nghyfarfod Mawrth o gangen Henoed y pentre. Brodor o Cimla, ger Castell-nedd yw Mr. Mainwaring. Bu’n gwasanaethu yn yr Eglwys yng Nghymru am bymtheg mlynedd, yn Gurad mewn sawl eglwys ac yn Ficer yn Aberfan. Penderfynodd ef a’i wraig, sy’n wreiddiol o’r Blaenau, i wneud eu hymarfer dysgu. Mae Mr. Mainwaring yn dysgu yn Nhycroes ers rhyw ugain mlynedd bellach. Cawsom ganddo nifer o straeon am ddoniolwch plant a’r pethau difyr a digri y maent yn ei ddweud yn aml heb sylweddoli hynny. Cafwyd prynhawn hynod diddorol a hwylus. Gwnaed y diolchiadau gan Mrs. Mairwen Lloyd. Roedd y cyfarfod dan lywyddiaeth Mrs. Margaret Davies, Llywydd yr Adran.
Anfonwyd dymuniadau da yr adran am adferiad buan a llwyr i’w hysgrifennydd, y Cynghorydd Dewi Enoch.

YSGOL Y GLYN

Dyna oedd cri rhieni, plant a chefnogwyr yr ymgyrch i gadw Ysgol y Glyn rhag cau yn 2011. Bu’r ysgol yn ganolbwynt Brynaman Isaf ers 114 mlynedd. Er bod 40 o blant yn nifer bach maent yn cael cyfleoedd addysgiadol arbennig ac yn mwynhau bod yn rhan o deulu bach hapus.
Mae’r Cyng Arwyn Woolcock, Cadeirydd y Llywodraethwyr, wedi bod yn arwain ymgyrch i gadw’r ysgol ac wedi aberthu ei swydd fel Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir. Bydd cyfnod o ymgyngoriad cyn penderfyniad terfynol yn ystod y misoedd nesaf. Mae’r Ysgol yn diolch i bawb am eu cefnogaeth brwd.

5.4.10

Plant Rhydaman yn cefnogi Clwb Pêl-droed Abertawe

Y mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi bod yn cydweithio gyda ysgolion lleol i hybu diddordeb yn yr Elyrch neu’r “Swans” ymhlith plant lleol. Ar ddechrau Chwefror tro plant Ysgol Gymraeg Rhydaman oedd hi i fynd i weld Abertawe yn herio Preston North End ar y Liberty. Ar ddiwrnod braf teithiodd criw sylweddol o ardal Rhydaman lawr i Abertawe ac fe gawsant ddiwrnod i’w gofio wrth i Abertawe ennill o 2 i 0.
Mae  Abertawe yn parhau i fod yn y chwech uchaf er mwyn sicrhau ei lle yn y gemau ail-gyfle. Gobeithio y bydden nhw yno ar ddiwedd y tymor.

Penblwydd Hapus i Dr.Frank Powell

Ein dymuniadau da i Dr.Frank Powell a fu’n dathlu ei benblwydd yn 87 mlwydd oed ar Chwefror 22ain. Gwelir yn y llun Mrs Muriel Powell, ei wraig, gydag ef yn dathlu’r achlysur arbennig hwn, a hyfryd yw cofnodi ei fod yn teimlo dipyn yn well ar ôl ei anhwylder diweddar. Bu Dr.Powell yn Feddyg Teulu gyda ni am flynyddoedd lawer a mawr yw’r parch iddo yn y Cwm. Penblwydd hapus iawn, Dr.Powell, a gobeithio y bydd sawl blwyddyn arall o’ch blaen i’w dathlu. Iechyd da i’r dyfodol

4.4.10

Carmel - Ymddeoliad Y Parchg Gwyndaf Jones

Dymuniad Y Parchedig Gwyndaf Jones a Mrs Glenda Jones ei briod oedd i ni gael te gyda’n gilydd gan i’w weinidogaeth gyda ddod i ben. Roedd eu merched Lleucu, Blodeuwedd a Melangell a’u teuluoedd yn awyddus iawn i fod yn bresennol, a hanner tymor yr ysgolion oedd mwya’hwylus iddynt ddod i lawr o’r gogledd. Ymunodd aelodau o’r Tabernacl Cwmgors (merch Eglwys Carmel) gyda ni i ddiolch iddo am ei wasanaeth. Croesawyd pawb yn gynnes iawn i Garmel gan Mr Ken Morgan, a dywedwyd Gras o dan arweiniad Mr Jones. Cafwyd prynhawn hwylus, er roeddem yn ymwybodol o reswm y te-roeddem yn falch o bresenoldeb yr wyresau bach chwech annwyl iawn.

Diolchwyd yn fawr iddo gan ein Trysorydd Mr Ken Morgan a chyflwynodd siec iddo ar ran aelodau Carmel, a daeth Mr John Daniel Trysorydd Y Tabernacl ymlaen i gyflwyno siec ar ran Eglwys Y Tabernacl. Yna daeth Mr Desmond Griffiths i roi llun o Garmel, a llun ohono gyda’r diaconiaid a llun i Mrs Jones o’r ddau gyda’r diaconiaid. Yna cyflwynodd Mrs Megan Morgan waith llaw cywrain iawn, o’i heiddo sef Gweddi’r Arglwydd ar amlinelliad o fap o Gymru wedi ei fframio. Roedd hi wedi addurno blwch tlysau yn chwaethus i Mrs Jones. Cafodd Mrs Jones dusw o flodau gan aelodau Y Tabernacl a Charmel. Diolchodd y ddau yn fawr am y rhoddion. Yna galwodd Mr Jones ar Mrs Catherine Williams i ddod ymlaen i dderbyn pennill o Fuchedd Garmon Saunders Lewis eto o waith llaw medrus Mrs Megan Morgan wedi ei fframio, hefyd tusw o flodau. Diolchodd Mr Jones iddi am ei gwaith yn canu’r organ ers 1972, (yn swyddogol) dywedodd y bydd yn barod i gyfeilio pan fydd yn bresennol, ond yn ddi dal. Rym yn ddyledus iawn i Megan am roi o’i hamser a’i dawn mor hael. Diolch yn fawr i bawb am eu cyfraniadau o bob math, i wneud y te yn un teilwng.

Lizzie Rees - 98 oed

Pen-blwydd Hapus a llongyfarchiadau i Lizzie Rees Heol Cae Gurwen ar ddathlu ei phen-blwydd yn 98 oed ar yr 11eg o Chwefror. Ychydig bydd yn mynd mas erbyn hyn, ond mae’n falch i weld ffrindiau yn galw. Dymuniadau gorau i chi.

DIWRNOD Y LLYFR

Dathlwyd Diwrnod y Llyfr yn Ysgol y Glyn, Brynaman wrth i bob plentyn wisgo fel ei hoff gymeriad llyfr. Bu Bili Boncyrs, Lindysyn Llwglyd Iawn a sawl Dylwythen Deg yn mwynhau gweithgareddau'r dydd.

3.4.10

Lark Rise to Candelford

Faint ohonoch sydd wedi bod yn gwylio’r rhaglen “Lark Rise to Candelford”. Ynddi mae actor ifanc a gwreiddiau ei deulu yn Brynaman. Mae Thomas Rhys Jones sydd yn actio rhan Edmund Timmins yn fab i Julian Jones, gynt o Frynaman ac yn ŵyr i Delyth Jones a'r diweddar Eric Jones, Heol Y Glyn.
Mae Thomas, sy’n byw yn Almondsbury, Bryste yn 14 oed ac wedi bod yn actio rhan Edmund Timmins ers y gyfres gyntaf. Yn wir dechreuodd action yn Lark Rise pan yn 12 oed. Mae’r gyfres yn denu cynulleidfa o 6.8 miliwn o wylwyr yn gyson.
Mae Thomas wedi ymddangos yn y gyfres sebon “Doctors” ac newydd gael audition ar gyfer y ffilm Harry Potter olaf. Hefyd yn y gyfres gyntaf o Lark Rise roedd yn action gyda Dawn French.
Mae Thomas yn sylweddoli bod gyrfa fel actor yn un anodd ond mae’n barod i weithio’n galed er mwyn llwyddo. Dwi’n siwr ar ôl darllen hwn bydd nifer ohonom yn gwylio Lark Rise to Candelford gyda mwy o ddiddordeb nag arfer.

Dathlu Gwŷl Ddewi yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd

Ar Fawrth y cyntaf cynhaliwyd cyngerdd i ddathlu Gwyl Ddewi yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd. Ymysg y rhai a fu'n cymryd rhan oedd Sioned Thomas of Frynaman.
Fel aelod o Gôr Sir Caefyrddin cafodd Sioned ei dewis i ganu gyda chorws ieuenctid y BBC ac yn sgîl hyn yr anrhydedd i ganu mewn cyngerdd ar Fawrth y cyntaf yn Neuadd Dewi Sant.
Mae Sioned yn ddisgybl chweched dosbarth deg yn Ysgol Dyffryn Aman. Sioned oedd yr unig ddisgybl o'r ysgol i ganu yn y côr.
Perfformiodd y côr "Dewi Sant" gan Karl Jenkins a chafwyd perfformiadau oddi wrth gerddorfa a chôr y BBC, y delynores enwog, Catrin Finch, dawnsfeydd a medli o ganeuon Cymraeg -gan Gareth Glyn. Llwyddwyd i greu naws Gymreig iawn, ac roedd yn noson i'w chofio. Darlledwyd y gyngerdd yn fyw ar sgrin fawr i gynulleidfa y tu allan i'r neuadd ac ar y BBC i bawb gartref.

Dymuniadau gorau -Mr Meurig Evans

Hoffai holl ddarllenwyr Glo Mân ddymuno’n dda i Mr Meurig Evans, Cartref Annwyl-Fan oedd yn dathlu ei benblwydd yn 99 oed ar 5 Mawrth.
Fel yr ydych yn gwybod drwy ddarllen Glo Mân mae Meuirg yn dal i farddoni a cawsom sawl cerdd ganddo o fewn tudalennau ein papur. Pob dymuniad da i chi Meurig.

Côr Persain

Nos Fercher 24 Chwefror Côr Persain oedd yn diddanu Cymdeithas Gellimanwydd yn ei dathliadau Gŵyl Dewi. Daeth aelodau’r Gymdeithas i Neuadd Gellimanwydd i ddathlu. Reodd pawb wedi dod a plat o fwyd i’w rannu a cawsom wledd drwy eu gosod allan mewn ffurf Bwffe.

Mr Brian Owen oedd Llywydd y noson a diolchodd i bawb oedd wedi paratoi ar ein cyfer. Yna cyflwynodd Brian yr adloniant am y noson sef Côr Persain dan arweiniad Anne Wheldon a David Rees yn cyfeilio. Côr merched lleol o ardal Tycroes a’r cylch yw Côr Persain. Cawsom noson hyfryd yn eu cwmni. Diolchwyd iddynt gan Mr Arnallt James, Y Betws. Roedd pawb oedd yn bresennol yn datgan pa mor llwyddiannus oedd y noson.

Pensiynwyr Rhydaman

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Y Gymdeithas ar Chwefror 24 yn Neuadd y Pensiynwyr Rhydaman. Dechreuwyd drwy gyd ganu emyn William Williams Pantycelyn “ Guide me o thou Great Jehovah”. Diolchodd y Cadeirydd am waith y swyddogion dros y flwyddyn a aeth heibio.

Penodwyd y swyddogion canlynol ar gyfer 2010 – Cadeirydd Mrs Anita Jones; Is-gadeirydd Mr Dai Harries; ysgrifennydd Mr Gwyn Llewellyn; Trysorydd Mr Arnallt James; Is-drysorydd Mrs Betty Williams. Daeth y cyfarfod i ben drwy gyd adrodd Gweddi’r Arglwydd.
Help / Cymorth