28.5.10

Ysgol Dyffryn Aman - Mentergarwch Cymunedol

Mae Blwyddyn 10 Ysgol Dyffryn Aman wedi bod yn brysur ers mis Medi yn casglu tystiolaeth ac ennill profiadau gwerthfawr ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Gweithgaredd lwyddiannus iawn ddiweddar fu’r Mentergarwch, lle rhoddwyd £50 i bob dosbarth i greu cynllun busnes er mwyn gwneud elw a chodi arian i elusen lleol o’u dewis nhw. Cafodd bob dosbarth gyfle i gyflwyno’u gweithgarwch i banel o feirniaid a barnwyd mai 10B, G, M a W oedd y pedwar blaenllaw. Cafwyd seremoni gyflwyno ar fore Iau, Ebrill 22ain o dan law Mrs Fiona Elias a Mr Paul Flemming a barnwyd mai 10W oedd y dosbarth buddugol. Cyflwynwyd tarian iddyn nhw a’i hathrawes ddosbarth Miss Sarah Anthony gan y beirniaid gan gynnwys Mrs Jane Potter, Llywodraethwr a Mr Alun Richards, cyfarwyddwr Parc Busnes, Tycroes. Braf oedd gweld cynrychiolaeth o’r amrwyiol elusennau yn bresennol i dderbyn eu sieciau a chafwyd ymdeimlad o falchder yn y seremoni. Diolch yn fawr iddynt oll, y disgyblion a’r athrawon dosbarth am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Fe gasglwyd cyfanswm sylweddol o £4688.67 a dyma sut y rhannwyd yr arian:

10A - £262 – 2Active8
10B - £554.67 – Tŷ Olwen / Paul Pugh
10C - £305.47 – 2Active8 / Cancer Research
10D - £162.00 – Ryan Davies, Y Betws
10G - £321.44 – Ysbyty Glanaman
10L - £484.00 – Paul Pugh
10M - £584.88 – Paul Pugh / Tŷ Olwen
10T - £272.77 - Latch
10W - £1579 – Marie Curie
10U - £162.00 – Leukaemia / Red Cross

90 oed

Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus iawn i Mrs Megan Davies Golwg y Cwm ar ddathlu pen-blwydd arbennig ar Ebrill13eg. Cyflwynwyd blật y Gymuned iddi gan Mr Gerald James. Dymuniadau gorau i chi.
Yna ar Ebrill 14eg roedd Mrs Annie Mary Edwards yn dathlu pen-blwydd arbennig hithau hefyd yn 90oed. Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus i chi a dymuniadau gorau. Cyflwynwyd blật y Gymuned iddi gan Mr Moc Thomas.

24.5.10

WILLIAM JOHN EVANS

Trist iawn oedd clywed am farwolaeth William John Evans gynt o Heol y Barri, ar y 12fed o Ebrill. Roedd ef a Mary wedi ymgartrefu yn Llys Nant Fer ers rhai blynyddoedd bellach. Roedd William John yn adnabyddus drwy’r ardal gyfan, yn genedlaetholwr i’r carn, yn ddyn ei filltir sgwâr, yn ymddiddori yn y pethe ac wrth ei fodd yn cymdeithasu, ysgrifennu a barddoni.
Roedd ganddo hiwmor iach a’r ddawn o ddweud stori ddigri. Ymddiddorai yn y byd chwaraeon, roedd yn gefnogwr selog o dîm rygbi Cymru ac yn wen o glust i glust pan fyddai Cymru yn ennill. Bu’n gynghorwr am nifer o flynyddoedd ac yn gyn-faer ac roedd yn mwynhau’r gwaith gan ei fod yn cael y cyfle i weithio dros eraill er lles ei gymuned. Roedd yn ddiacon yng nghapel Hermon lle y bu yn ffyddlon ar hyd y blynyddoedd. Cynhaliwyd yr angladd ar ddydd Sadwrn 17eg o Ebrill yn Hermon lle yr oedd llu o bobl wedi ymgynnull i dalu’r deyrnged olaf i un a fu yn weithgar ac yn gefnogol i gymaint o weithgareddau yn y gymuned. Bydd amryw yn gweld ei eisiau.
Cydymdeimlwn yn ddwys iawn gyda Mary, Enid a’r teulu oll yn eu colled.

Elusen Ty Maggie

Diolch i bawb a gefnogodd elusen Ty Maggie drwy brynu tocyn raffl y Pasg. Codwyd £300 eto at yr elusen. Enillydd y raffl oedd Mr. Meirion Hopkin, ty Glynbeudy. Diolch o galon.
Y fenter nesa’ ar gyfer yr elusen ydy gwerthu llyfryn yn cynnwys rysaiits teisennod. Rysaits sy’n hen ffefrynau a rhai newydd hefyd maent i gyd wedi eu profi a’u blasu! “Sweet Stuff” yw enw’r llyfryn ac mae ar werth am £1. Bydd pob punt yn mynd yn union i’r elusen. Os hoffech chi brynu llyfryn neu os byddech yn barod i werthu rhai o’r llyfrau, byddem yn ddiolchgar dros ben. Cysylltwch trwy ffonio 01269 824765.

CYMRAWD ACADEMI CERDD BRENHINOL

Llongyfarchiadau gwresog i Fflur Wyn - mae wedi cael ei hanrhydeddu yn ddiweddar drwy gael ei gwneud yn Gymrawd o'r Academi Cerdd Brenhinol am ei chyfraniad aruthrol ym myd Cerdd.
Mae calendr Fflur yn llawn, gyda pherformiadau wedi eu trefnu nid yn unig am eleni, ond am gyfnodau o flwyddyn nesaf hefyd.Yn ddiweddarch eleni, bydd hi'n gweithio gyda chwmniau opera “The Opera Group” ac “Opera North” ac yn perfformio mewn gwahanol leoliadau ym Mhrydain. Bydd hi hefyd yn perfformio yn un o theatrau Covent Garden. Rydym oll yn ymfalchio yn ei llwyddiant yn y maes ac yn dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol.

HALEN Y DDAEAR

Llongyfarchiadau oddi wrth holl drigolion Brynaman i Mrs Mairlynne Davies, Machynlleth (ond brodor o Frynaman) a dderbyniodd blât Halen y Ddaear a thusw o flodau gan Alwyn Humphreys yn ddiweddar.
Gwelwyd y digwyddiad ar raglen Wedi 3 ar Ebrill 5ed - gyda’r syrpreis yn torri ar draws cyfarfod o Gylch Llenyddol Bro Ddyfi. Mairlynne yw ysgrifenyddes y cylch ers 10 mlynedd ac mae hefyd yn ysgrifenyddes Capel y Graig. Cyfeiriodd ei gweinidog, y Parchg W. J. Edwards ati fel “Rhodd Sir Gâr i Fachynlleth”, tra soniodd ei ffrind, Mary Price, am ei gwaith fel aelod ffyddlon a chyn-ysgrifenyddes a chyn-lywydd y gangen leol o Ferched y Wawr. Mae Mairlynne a’i gwr John (sydd hefyd yn frodor o Frynaman) wedi ymgartrefu yn ardal Machynlleth ers dros 40 mlynedd ond maent yn cadw cysylltiad a nifer o bobl Brynaman o hyd ac maent yn ymwelwyr cyson yma.

21.5.10

Cynhaliwyd y ginio ar-y-cyd â Chylch Cinio Tybïe yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Ebrill 15fed o dan lywyddiaeth Edwyn Williams, Llywydd Cylch Cinio Rhydaman.
Ef a groesawodd aelodau’r ddau Gylch Cinio ynghyd â’r prif westai, Alun Wyn Bevan, Castell-nedd. Cafwyd anerchiad hynod ddiddorol gan Alun Wyn Bevan ar fywyd Frank Lloyd Wright a anwyd yn 1867. Fe ymfudodd Michael a Mary Lloyd Jones o gefn gwlad Ceredigion i fyw yn Nhalaith Wisconsin, yn yr Amerig, nepell o ddinas Chicago.
Diolchodd Dewi Daniel, Llywydd Cylch Cinio Tybïe i’r prif westai am anerchiad arbennig ac i Doreen Watts a’i staff yn y Ganolfan Aman am bryd o fwyd blasus dros ben.
Yna cynhaliwyd Cinio Mis Mai yn y Ganolfan Aman ar Nos Iau 6ed Mai dan Lywyddiaeth Ewyn Williams. Ef a groesawodd y prif Westai, sef Y Parchg Felix Aubel, Trelech.
Dylanwadau oedd testun anerchiad Felix Aubel a cawsom hanes y prif ddylanwadau ar ei fywyd yn enwedig hanes ardal Slovenia ac Yugoslafia ble mae tad Y Parchg Aubel yn hannu. Yn wir cawsom wers hanes am rai o erchyllderau rhyfel cartref y wlad. Yn ogystal adroddodd Felix am ei fagwraeth yn ardal Aberdâr ac yna fel gweinidog yr efengyl yn Aberaeron a Threlech.
Diolwchwyd iddo gan Tom Mainwaring.
Cynhelir y cinio nesaf ar Nos Iau 10 Mehefin yn y Ganolfan Aman am 7.15 pryd bydd Mr Eric Jones, Pontarddulais yn brif westai.

20.5.10

Gellimanwydd

Bore Dydd Sul Y Pasg, 4 Ebrill, cafwyd oedfa arbennig yn Neuadd Capel Gellimanwydd. Roedd Nia Mair Jeffers a Hanna Williams yn cael eu derbyn yn llawn aelodau yn yr eglwys. Cymerodd Nia a Hanna at y rhannau agoriadol yn yr oedfa gyda Nia yn darllen a Hanna yn gweddio cyn iddynt gael eu derbyn yn lawn aelodau. Hyfryd oedd gweld y neuadd yn llawn, ar gyfer oedfa Gymun y Pasg arbennig.

Cymanfa Ganu undebol Rhydaman a’r Cylch

Dydd Sul y Blodau, Mawrth 28ain 2010 cynhaliwyd y Gymanfa Ganu Undebol yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman. Daeth aelodau a ffrindiau o gapeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser ynghyd i gymryd rhan yn y Gymanfa.
Yr Arweinydd oedd Mrs Helen Wyn, Brynaman. Mae Mrs Wyn yn adnabyddus fel arweinydd, yn gyn athrawes gerdd a bellach yn cynorthwyo gyda Cwmni Opera Ieuenctid Caerfyrdidn a Chôr Brynaman.
Mrs Gloria Lloyd oedd yn cyfeilio
Caersalem oedd yn llywyddu yn ystod oedfa’r bore, sef Gymanfa’r Plant a Gellimanwydd yn yr hwyr yn ystod Gymanfa’r oedolion.
Cawsom Gymanfa gwerth ei dathlu yng nghwmni Helen Wyn a oedd yn cael y gorau allan o’r plant a’r oedolion

16.5.10

Priodas Arian

Dechrau Mai roedd y Parch. Dyfrig a Mandy Rees, Heol Pontarddulais, Tycroes yn dathlu eu Priodas Arian. Mae’r ddau wedi ymgartrefu ers nifer o flynyddoedd bellach yn y pentref ac mae Mr. Rees wedi gweinidogaethu ar ofalaeth Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes am dros deg mlynedd. Llongyfarchiadau mawr iddynt.

Croeso i’r Gymraes fach newydd

Llongyfarchiadau mawr i Nia a Gareth Jones, Heol Rhydaman, Tycroes ar enedigaeth eu merch fach Elan Wyn. Mae Nia yn athrawes yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe a Gareth yn athro yng Nghilycwm. Pob dymuniad da iddynt fel teulu

15.5.10

2.5.10

Cwis Chwaraeon

Cynhaliwyd cwis chwaraeon ar y cyd gyda Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot yng Nghlwb Rygbi Brynaman ar nos Iau 11 Mawrth. Roedd hi’n noson i’w gofio gyda deg tîm yn cystadlu’n frwd. Y cwisfeistr oedd Eifion Price a lluniwyd y cwestiynnau gan Alun Wyn Bevan. Gweler llun o’r tîm buddugol isod sef Gwybod Dim Byd o Frynaman.

Llais yr Andes

Dros y misoedd diwethaf y mae Llais-yr Andes, Caerffynnon, Llandybie, sef cartref Mr Parry a Mrs Hazel Charles Thomas, wedi bod yn breswylfa groesawgar i nifer o ymwelwyr diddorol ac ysbrydoledig o’r Wladfa ym Mhatagonia. Dros y misoedd nesaf bwriedir rhoi tipyn o gefndir a hanes yr ymwelwyr yna o hemisffer y De.
Y cytnaf i ymweld oedd y Fns Rachel Davies Butrick sy’n hannu o ardal Bryn Crwn yn Nyffryn Camwy. Er iddi gael ei geni a’i magu yno, symudodd hithau’n ferch fach i’r U.D.A lle bu’n gweithio i’r Cyngor Prydeinig yn Washington. Pan ddigwyddodd y drychineb o chwalu’r Efeilliaid, y “Twin Towers”, Rachel oedd yr un a wahoddwyd i roi adroddiad o’r hyn oedd wedi cymryd lle, a hynny yn y Gymraeg. Nid hwnnw oedd y tro cyntaf iddi gael ei galw i’r stiwdio deledu yn y brif ddinas. Er bod nifer o Gymry Cymraeg yn byw yn Washington, mae’n amlwg mai gan y ddynes o’r Wladfa y clywir yr iaith ar ei gorau.
Yn ystod ei hymweliad â Llandybie, ei dymuniad pennaf oedd cael mynd i Bantycelyn gan iddi ganu emynau William Williams ar hyd ei hoes. Bydd galw mawr am ei gwasanaeth yng nghapeli’r Dyffryn gan ei bod yn bencampwraig ar yr organ.
Gan na chafodd Rachel gyfle i ymweld â Bethlehem yng ngwlad yr Iesu, daeth cyfle iddi dynd i Fethelehem, Llangadog a thynnwyd ei llun wrth yr arwydd croeso. Dotiodd hefyd ar gastell Carreg Cennen a llawer i ardal arall o’r de-orllewin.
Ymwelydd â Washington yw Rachel bellach gan iddi ddychwelyd i fyw i’r Gaiman lle mae hi’n gyfrifol am gyflogi nifer o bobl yn gwerthu petrol sy’n eiddo iddi ynghyd a siop neu ddwy. Wrth iddi ffarwelio â Llandybie y llynedd mynegodd ei hawydd i ymweld a’r “Hen Wlad” eleni eto!

Priodas Aur


Llongyfarchiadau mawr i Vyron a Rosemary Thomas, Heol Tirycoed, Glanaman ar ddathlu eu Priodas Aur. Daw Vyron yn enedigol o Garnswllt a Rosemary o fwthyn Llwyndu, Heol Tiryoed. Priodwyd Vyron a Rosemary yng Nghapel y Tabernacl, Glanaman, ar Ebrill yr 2il, 1960, a bendithiwyd hwy â phedwar o blant, sef Susan, Jennifer a Meryl a’r diweddar Alun. Mae ganddynt wyrion niferus ac yn cael amser hapus yn eu cwmni. Byddant yn dathlu’r achlysur arbennig hwn gyda’r teulu. Dymunwn bob bendith iddynt i’r dyfodol a iechyd da.

Ymddeoliad Y Parchg Gwyndaf Jones

Ar nos Fawrth, y 23ain o Chwefror, cafwyd te parti ymddeoliad y Parchedig Gwyndaf Jones, ym Methel Newydd, y Garnant. Yr oedd y festri dan ei sang a’r danteithion, a baratowyd gan wragedd y Capel, yn wledd i’r llygaid. Hyfryd oedd gweld Mrs Glenda Jones, gwraig y gweinidog, yn gwmni iddo ar noson arbennig yn ei hanes ar derfyn ugain mlynedd ei weinidogaeth ym Methel Newydd.

Cafwyd araith bwrpasol iawn gan ein gweinidog, a erys yn hir yn y cof, ac hefyd geiriau arbennig gan Ysgrifennydd yr Eglwys, Mr John Thomas. Trosglwyddwyd rhodd ariannol ar rhan yr Eglwys gan Mr John Thomas, a ddymunodd i’n gweinidog ymddeoliad hapus a iechyd da i’r dyfodol. Hefyd fe ddywedodd Mrs Muriel Powell eiriau hyfryd iawn ar ran Chwiorydd y Capel ac fe gyflwynwyd torch o flodau a fâs brydferth i Mrs Glenda Jones.
Byddwn yn gweld eisiau y Parchedig Gwyndaf Jones yn fawr iawn ac mae’n rhaid diolch iddo am bopeth a wnaeth drosom. ‘Da was, da a ffyddlon’
Help / Cymorth