Cafwyd diwrnod hwylus a llwyddiannus iawn ar gyfer Râs Hwyl Trap. Gwenodd yr heulwen a ddaeth tyrfa dda iawn i weld yr asgellwr enwog Shane Williams yn dechrau'r ddwy râs gyda 231 o rhedwyr a cherddwyr yn cymryd rhan gan gynnwys llond bws o rhedwyr o Glwb Rhedeg Brackla, Penybont ar Ogwr.Yn union fel arfer, roedd awyrgylch gynnes a chyfeillgar yn amlwg iawn ymhlith y rhedwyr a'r gwylwyr a phawb wrth eu bodd yn cael cwmni Shane gyda ni.
Yn y Râs agored, o 4.7 milltir, ennillydd y llynnedd sef Lewis Hobbs o Abertawe groesodd y llinell yn gyntaf gydag amser o 25 munud 17 eiliad, gyda Jade Williams o Ddyffryn Aman yn cipio teitl y gwragedd (29.54).
Yn y Râs Iau (2.8milltir), wnaeth Christian Lovatt o Rhydaman ennillodd am y trydydd blwyddyn o'r bron mewn 17 munud 18 eiliad. Mae Christian, sydd yn ddisgybl 13 oed, wedi cael tymor llwyddiannus dros ben yn ystod y gaeaf, gan gynrychioli Ysgolion Cymru ac yn ddiweddar cymryd rhan ym Mini Marathon Llundain am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn sicr mae ei olygon ar gyrraedd yr uchel fannau. Tair ar ddeg oed oedd ennillydd y merched hefyd, sef Nia Ayres o Salem (22.38), a dyma'r tro cynta iddi rhedeg yn Râs Trap. Roedd wrth ei bodd i dderbyn ei gwobr o £10 ynghyd a chrys polo a noddwyd gan Gelli Plant a SJ Griffiths a'r Fab. Ond roedd pawb a gymrodd rhan yn ennill, gan i bawb dderbyn medal, trwy garedigrwydd Hughes Decorator, Glanaman, a photel o ddwr Brecon Carreg.
Llywyddion y dydd oedd noddwyr y râs, Arwyn Williams a Simon Griffiths, a roeddent yn falch iawn bod y cyfan wedi bod yn llwyddiant. Bydd elw'r râs yn cael ei rhannu rhwng Sioe Trap a Chymdeithas Alzheimers Sir Gâr. Diolch i bawb am eu cefnogaeth
manylion y lluniau:-
Arwyn Williams, Gelli Plant (un o brif noddwyr y râs) yn cyflwyno ei wobr i ennillydd y Râs Iau, Christian Lovatt, Rhydaman.
Dechreuad râs y plant (2.8 milltir)
Aled Phillips, Tycroes, yn rhedeg mewn yn gryf i ennill yr adran Ysgolion Cynreadd.
Tîm Ysgol Gyfun Dyffryn Aman sef Christian Lovatt, Elin Davies a Liam O'Leary ynghyd a(ar y chwith) un o brif noddwr y râs, Simon Griffiths (SJ
Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk ar unrhyw bryd.
Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32 edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk
Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32 edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk
25.6.10
Cylch Hwyl a Gwaith y Gwynfryn
Mae tuag ugain o wragedd yn dal i weithio’n ddiwyd i orffen y nwyddau yn barod i’w casglu ar ddydd Sadwrn 8 Mai gan Eric Harries. Bydd y gwau yn mynd ar daith i Bosnia lle mae angen mawr o hyd.
Cynhaliwyd Gwasanaeth teuluol yn ystod oedfa boreol Sul 16 Mai dan arweiniad Edwyn Williams.
Ffydd oedd thema'r oedfa gyda Ffydd Abraham yn ganolog i'r gwasanaeth. Hefyd cawsom hanes Robert Jermain Thomas o Lanofer a aeth a Beiblau i wlad Korea. Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn y Neuadd drwy rannu cwpanaid o de a bisgedi.
Yn ystod Gwasanaeth teuluol bore 16 Mai bedyddwyd Thomas Rhys Clayton mab Lowri. Braf oedd gweld y capel yn gyffyrddus lawn i ddathlu a thystio bedyddio Rhys bach. Dymunwn, fel eglwys, pob llwyddiant ac hapusrwydd iddo i'r dyfodol
20.6.10
Alan Watkins - Newyddiadurwr o fri
Ar yr 8fed o Fai yn 77 mlwydd oed bu farw un o newyddiaduron mwyaf adnabyddus a dylanwadol Prydain sef Alan Watkins. Brodor o Heol Penygarn, Tycroes oedd ac fe fynychodd ysgol y pentre ac ennill ysgoloriaeth yn 1952 o Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman i Goleg y Frenhines, Caergaint. Yn ystod ei bedair blynedd yno graddiodd yn y gyfraith (LL.M. a B.A.). Tra yng Nghaergaint bu yn gadeirydd Clwb Llafur y Brifysgol ac yn aelod o bwyllgor y ‘Cambridge Union’. Fe’u ddyrchafwyd yn far-gyfreithiwr yn 1957.
Gan ei bod yn anodd i gynnal bywoliaeth yn y gyfraith yn y pumdegau ac yntau wedi priodi yn 22 oed trodd at newyddiaduriaeth. Ysgrifennodd i’r ‘Sunday Express’, y ‘New Statesman’, ‘Spectator’ ac yna bu am gyfnod hir fel colofnydd dylanwadol yr ‘Observer’. Roedd yn hoff iawn o rygbi ac fe ysgrifennodd yn gyson am ugain mlynedd i’r ‘Independent’ ar y gêm. Rhoddodd Gareth Edwards deyrnged uchel iddo am ei wybodaeth trylwyr ohoni. Talwyd teyrngedau iddo hefyd gan Gordon Brown, David Cameron, Boris Johnson, Michael Heseltine, Piers Morgan a Roy Hattersley.
Rhwng 1959 a 1962 bu yn gynghorydd Llafur yng nghylch Fulham, Llundain. Ysgrifennodd nifer o lyfrau gan gynnwys ei hunangofiant yn 2000 – ‘A Short Walk Down Fleet Street’. Roedd yn dad i dri o blant ond bu ei wraig a’i ferch hynaf farw yn ystod 1982.
Gan ei bod yn anodd i gynnal bywoliaeth yn y gyfraith yn y pumdegau ac yntau wedi priodi yn 22 oed trodd at newyddiaduriaeth. Ysgrifennodd i’r ‘Sunday Express’, y ‘New Statesman’, ‘Spectator’ ac yna bu am gyfnod hir fel colofnydd dylanwadol yr ‘Observer’. Roedd yn hoff iawn o rygbi ac fe ysgrifennodd yn gyson am ugain mlynedd i’r ‘Independent’ ar y gêm. Rhoddodd Gareth Edwards deyrnged uchel iddo am ei wybodaeth trylwyr ohoni. Talwyd teyrngedau iddo hefyd gan Gordon Brown, David Cameron, Boris Johnson, Michael Heseltine, Piers Morgan a Roy Hattersley.
Rhwng 1959 a 1962 bu yn gynghorydd Llafur yng nghylch Fulham, Llundain. Ysgrifennodd nifer o lyfrau gan gynnwys ei hunangofiant yn 2000 – ‘A Short Walk Down Fleet Street’. Roedd yn dad i dri o blant ond bu ei wraig a’i ferch hynaf farw yn ystod 1982.
Cylch Cinio Rhydaman - Parchg Dr Felix Aubel
Cynhaliwyd Cinio Mis Mai yn y Ganolfan Aman ar Nos Iau 6ed Mai dan Lywyddiaeth Ewyn Williams. Ef a groesawodd y prif Westai, sef Y Parchg Felix Aubel, Trelech.
Dylanwadau oedd testun anerchiad Felix Aubel a cawsom hanes y prif ddylanwadau ar ei fywyd yn enwedig hanes ardal Slovenia ac Yugoslafia ble mae tad Y Parchg Aubel yn hannu. Yn wir cawsom wers hanes am rai o erchyllderau rhyfel cartref y wlad. Yn ogystal adroddodd Felix am ei fagwraeth yn ardal Aberdâr ac yna fel gweinidog yr efengyl yn Aberaeron a Threlech.
Diolwchwyd iddo gan Tom Mainwaring.
19.6.10
LLAIS YR ANDES - Rini Griffiths a Vincent Evans
Ymwelydd cyson â Chymru ac â Llandybïe yw’r Fns Rini Griffiths, Esquel. Os oes rhai darllenwyr ag awydd ymweld â’r Andes, ‘La Chacra’ yw’r lle i anelu ato os am wely a brecwast go iawn ynghyd â chroeso gwir Gymreig. Yn wir mae cannoedd o ymwelwyr o Gymru wedi derbyn croeso gan Rini. Yn berson gweithgar o fewn y gymdeithas Gymreig yn Esquel, bu’n gefnogol nid yn unig i Hazel yn ystod ei chyfnod yno, ond hefyd i’r holl athrawon a’i dilynodd. Mae Rini’n wyneb adnabyddus yn Llandybïe ac yn gofalu ei bod yn galw heibio i Siop y Cennen bob amser. Yn wyneb cyfarwydd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol, fe’i hanrhydeddwyd hefyd gan Orsedd y Wladfa.
Y tro diwethaf iddi ymweld â Llandybïe roedd ganddi gwmni diddorol iawn, sef Vincent a Clara Evans, Nantfach, Trevelin yn yr Andes. Dyma oedd eu hymweliad cyntaf â Chymru a hwythau dros eu pedwar ugain oed!
Buont yn ciniawa neu yn swpera yn Llais-yr-Andes, ond lletywyd y ddau gan y Fns Margaret Roberts, Cwmgwili, ffrind i Hazel a fu ar ymweliad â’r Wladfa dair blynedd yn ôl. Breuddwyd a wireddwyd ym mhrofiad Vincent oedd cael ymweld â’r man lle ganwyd ei dadcu, sef y cerddor Dalar Evans. Felly nos Sadwrn gwlyb cafodd fynd i le o’r enw Troedrhiwdalar - i’r capel yn gyntaf lle bu’r hen dadcu yn addoli ac yna i’r hen gartref, sef ffermdy lle roedd tad Mark Jones, y chwaraewr rygbi yn byw.
Rhaid, hefyd, oedd trefnu taith i Dyddewi a threfi glanmôr Penfro a Gfiyr, gan ymweld ag ambell gastell. Sylw parod y cyfeillion o’r Wladfa oedd ‘Onid yw popeth yn hen!’ Cofir nad oes yr un adeilad dros gant pum deg o flynyddoedd yn y parthau lle mae hwythau’n byw!
Gan fod Hazel yn gyfrifol am yr oedfa foreol yn Adullam, Felinfoel, Llanelli y Sul hwnnw pan oeddynt ar ymweliad â Llandybïe, aeth criw y Wladfa a chyfeillion eraill o’r Cwm gyda hi. Yn ystod y gwasanaeth daeth cyfle i Vincent ganu ei hoff emyn gyda’r cytgan ‘Haleliwia i’r Oen bwrcasodd ein pardwn…’. Fe fu, hefyd, yn difyrru pobl yn y Llwyn Iorwg, Llandybïe drwy ganu emynau a chaneuon Dafydd Iwan i gyfeiliant ei acordian.Yn ôl ei dystiolaeth ei hun, derbyniodd Vincent a’i briod, Clara, groeso tywysogaidd ym mhobman gan gynnwys aelwyd Dai Jones, Llanilar. Roedd y ddau ohonynt, wrth gwrs, wedi ymddangos gyda’i gilydd ar raglen ‘Cefn Gwlad’ pan fu Dai yn ffilmio yng Nghwm Hyfryd. Dychwelyd adref oedd eu hanes wedi derbyn caredigrwydd mawr - Clara, hithau, wedi ffansïo set o lestri te ym Marchnad Caerfyrddin a’r ddau wedi cael rhodd o lwy garu enfawr o waith y Bnr Jac Roberts, Talyllychau, sef brawd y Fns Brenda James, M.B.E. Rhydaman.
LLAIS YR ANDES - Soraya Williams
Un arall a fu ar ymweliad â Chymru ac a gafodd groeso yn ‘Llais-yr-Andes’ oedd merch ifanc yn ei thri degau cynnar, o’r enw Soraya Williams. Treuliodd hithau chwe mis yng Nghaerdydd yn dilyn cyrsiau i loywi ei Chymraeg a chael profiad yr un pryd o weithio yn ‘Nos Da’. Yr oedd Soraya yn gwbl ddi-Gymraeg tan iddi fynychu dosbarthiadau Hazel pan oedd hithau’n athrawes yn
Esquel, yn yr Andes, rhwng 1997 a 1999. Yn rhugl yn yr iaith erbyn hyn, Soraya sy’n gyfrifol am addysgu plant yn y Ganolfan Gymraeg yn Esquel. Yn ystod ei hymweliad diweddar â Chymru, fe’i gwelwyd ar raglen ‘Wedi 3’ yn arsylwi yn un o ysgolion Cymraeg Caerdydd - yn amlwg wrth ei bodd gyda’r plant. Oherwydd cefnogaeth brwd Glynog Davies a Randal Isaac, bu cwmni Tinopolis ynghyd â Chlwb Cinio Llandybie mor garedig â chyflwyno copi o ‘Fflic a Fflac’, sef cyfres i ddatblygu iaith plant rhwng tair a saith oed, i Soraya er mwyn ei chynorthwyo hithau ac eraill yn y Ganolfan gyda’u gwaith o addysgu.
16.6.10
Noson o Hwyl a Joio
Hon ydy’r ail flwyddyn ar bymtheg ers ffurfiwyd y gymdeithas efeillio rhwng Ploneour Lanvern yn Llydaw a Llandybie. Croesawyd 38 o drigolion Ploneour i Landybie ar 15 Mai ac yn ystod yr ymweliad cynhaliwyd noson o hwyl a joio gyda Jac y Do yng nghlwb rygbi Llandybie. Wedi gwledd o fwyta, a baratowyd gan fwyty Valans Llandybie, cafwyd llawer o fwynhad gyda’r Llydawyr yn ymuno yn frwd yn y dawnsfeydd twmpath. Cawsom gwmni ein haelod seneddol newydd Jonathon Edwards a maer Ploneour Michael Canevet. Noddwyd y noson gan Noson Allan.
Yn y llun gweler Jac y Do yng nghwmni Jonathan Edwards A.S., maer Ploneour Michel Canevet, Christian Le Coursonnois Cadeirydd cymdeithas Ploneour a Lynda Thomas cadeirydd Llandybie.
12.6.10
Ysgol Dyffryn Aman
Daeth criw o ddisgyblion ail iaith blwyddyn 8 Ysgol Dyffryn Aman yn drydydd yng nghystadleuaeth Gwaith ar Dâp Sain yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ceredigion eleni Yn y llun mae Rowanne Hutchinson, Gemma Conboy, Tamzin Wharton, Esther Jones, Joshua Campbell, Dewi Phillips, Jack Vaughan, Jodie Winkley, Nicole Newton, Sophia Halsey a Bethan Davies gyda'u hathro Cymraeg Mr Dylan Lewis.
4.6.10
Pel-Rwyd Rhydaman - Clwb Hwyl Hwyr
cefn -Melissa Mann, Guto Llywelyn (hyfforddwr), Guto Arnold, Blaen – Dafydd Llywelyn, Lowri Harries, Chantelle Mann.
Cefn- Lowri Williams, Guto Llywelyn (hyfforddwr), Rachel Evans, Blaen – Mari Llywelyn, Sara Davies, Menna Isaac.
Mae’n ymddangos bod dyfodol pel-rwyd ardal Rhydaman mewn dwylo diogel ar ôl i ddau dîm o Rhydaman ddod i’r brig mewn cystadleuaethau a drefnwyd dros y Pasg.
Trefnwyd y cystadleuthau gan M.I.C. sef Menter Ieuenctid Cristnogol Sir Gâr ar gyfer ieuenctid Ysgolion Sul a Chlybiau Cristnogol y sir.
Yn cynrychioli Rhydaman roedd Clwb hwyl hwyr sef y clwb aml-enwadol sy’n cwrdd yn Neuadd Gellimanwydd bob nos Wener. Llwyddodd y ddau dîm yn cynrychioli Clwb Hwyl hwyr sef yr un cynradd a’r uwchradd i ennill ei grwpiau cyn mynd i ennill yn y rownd derfynol.
Rhedwyr cyflym Rhydaman
Daeth llwyddiant i bedwar o fechgyn ifanc Rhydaman yn ddiweddar ym mhencampwriaeth trawsgwlad Gwent. Mae’r pedwar yn aelodau o Garriers Dyffryn Aman a ddaethant yn ail fel tîm gyda un ohonynt sef Aled Phillips yn cipio’r ail wobr yn y ras unigol hefyd.
3.6.10
Dathlu Hanner Can Mlynedd
Ar Sadwrn 10ed o Ebrill, cawsom barti yn y Neuadd i ddathlu hanner can mlynedd ers sefydlu y neuadd. Y gŵr gwadd oedd y Cyng Ioan Richards, Dirprwy Faer Dinas a Sir Abertawe. Cyflwynodd y Cyng Alun lewis y gŵr gwadd. Roedd hefyd yn hyfryd cael cwmni Y Cyng. Dorian Williams.
Dywedodd Ioan Richards bod pobl y Garn yn hoffi parti, gan fu na barti yn 1750 yn y fferm Gerdinen Fawr i ddathlu dechrau'r achos yn Capel Gerazim.
Cyflwynoddy Cyng Alun Lewis torch o flodau i Mrs Rithia Davies a oedd wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor cyntaf yn festri’r capel. Erbyn heddiw gwragedd yw y rhan fwyaf o'r Pwyllgor. Trefnwyd adloniant i'r plant gan “Sparky’s Parties”. Roedd pawb wedi mwynhau te ardderchog wedi ei baratoi gan Pat Foster. Da Iawn a diolch yn fawr Pat.
Gweithdai Drama, Menter Bro Dinefwr
Cafodd disgyblion Ysgol Llanedi a Ysgol Betws llawr o hwyl yn ddiweddar yn cymryd rhan mewn gweithdai drama a ddarparwyd gan Menter Bro Dinefwr. Cafod y disgyblion y cyfle i ddysgu mwy am y byd drama ac i fwynhau perfformio o flaen cynulleidfa. Pwrpas y chwe gweithdy oedd ceisio annog y disgyblion i ddatblygu sgiliau hyder, creadigrwydd a’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Ar ddiwedd y chwech wythnos cafodd y plant gyfle i berfformio ei gwaith i weddill yr ysgol gan ddefnyddio script yr oeddent wedi ei baratoi gyda chymorth Sian Ellen y tiwtor.
Llwyddiant yn yr Ŵyl Geltaidd yn Dingle, Iwerddon
Fe aeth grŵp o ferched o Gwmaman gyda rhai o’i ffrindiau allan i Dingle, De Iwerddon yn ddiweddar i’r Ŵyl Geltaidd Gerddorol, ac roeddynt yn cystadlu yn y categori hyd at ddeg mewn nifer. Yn y gystadleuaeth hon bu’n rhaid iddynt ganu yn ddi-gyfeiliant gan gynnwys dwy gân wrthgyferbyniol yn ôl gofynion yr ŵyl. Bu’r grŵp yn hynod lwyddiannus wrth ennill yr Ail Wobr o 300 ewro. Maent yn gobeithio mynd allan i Dingle flwyddyn nesaf eto os byw ac iach. Pob hwyl i’r “degwm” yma (deg o’r cwm) yn y dyfodol.
Subscribe to:
Posts (Atom)










