18.7.10

TLWS JOHN A CERIDWEN HUGHES

Pleser oedd cael bod yn bresennol ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanerchaeron eleni, ar y nos Iau, i gael gweld Jennifer Maloney o Landybie yn cael ei hanrhydeddu â Medal John a Ceridwen Hughes am ei gwaith gwirfoddol gydag ieuenctid yr ardal dros gyfnod o 34 mlynedd.

Yn nyddiau ei hieuenctid, bu Jennifer ei hun yn llwyddiannus dros ben yn canu ac adrodd mewn eisteddfodau led-led Cymru, gan gynnwys bod yn enillydd Genedlaethol.
NôL yn 1976, sefydlodd Adran o'r Urdd ym Mhenybanc, ei phentref genedigol, gyda'r bwriad o roi cyfle i ieuenctid yr ardal gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac hefyd i ddechrau cystadlu. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ymunodd Adran Penybanc gydag Adran Rhydaman i greu Adran Penrhyd. Ers hynny, mae unrhywun sy'n ymwneud ag Eisteddfodau'r Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Llangollen a'r ŴyI Gerdd Dant yn ymwybodol o lwyddiannau niferus a chyson yr Adran.
Gwerthfawrogiad o ymroddiad diflino Jennifer dros y blynyddoedd a ysgogodd rhai o'r aelodau a'u rhieni i'w henwebu ar gyfer derbyn y Fedal eleni.
Cyflwynwyd y Fedal i Jennifer gan Edryd Eynon, Llywydd Urdd Gobaith Cymru ac fe gafwyd dwy eitem ddawns, un yr un gan wyrion Jennifer, sef Sara Mai Davies a Steffan Rhys Davies, y ddau wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y dydd yn eu gwahanol gystadlaethau.
Roedd aelodau agos ei theulu, llawer o ffrindiau a chriw da o ddawnswyr a chefnogwyr yn bresennol yn y seremoni.
Dyma'r person cyntaf o'r ardal i dderbyn yr anrhydedd yma. LLONGYFARCHIADAU!

2.7.10

Maer a Maeres Cwmaman 2010 -2011

Dyma lun o Faer a Maeres Cwmaman am y flwyddyn i ddod, sef Bryan ac Yvonne Twomey, Maesyrhendre, y Garnant. Cafodd Bryan ei urddo yn Siambr y Cyngor ar ddechrau Mai, a bydd blwyddyn brysur a phwysig o’i flaen. Rydym yn siwr y bydd Bryan ac Yvonne yn gwneud eu gorau glas dros drigolion Cwmaman ac yn cynrychioli’r Cwm yn anrhydeddus pan fyddant yn mynd o amgylch y cylch a thu hwnt. Penodwyd y Cynghorwr Colin Evans a’i wraig, Kay, yn ddirprwy-Faer a dirprwy-Faeres. Pob hwyl iddynt oll yn eu swyddi dinesig..

1.7.10

Anrhydeddu Mrs Rithia Davies

Yn ddiweddar arnhydeddwyd Mrs Rithia Davies am fod ar Bwyllgor y Neuadd o’r cychwyn a hynny am 50 o flynyddoedd. Yn y llun gwelir Mrs Davies yn cael ei anrhydeddu gan y cynghorydd Alun Lewis. Hefyd yn yr ail lun mae aelodau o’r Pwyllgor presennol.

Cymdeithas yr Hen Oed

Croesawyd y siaradwr gwadd Y Parchedig Alan Maunder yn gynnes gan y Llywydd Mr Morlais Pugh. Mae yn Weinidog ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru dros ddau blwyf sy’n cynnwys tair Eglwys un yn y Garnant un yng Nghwmgors a’r llall yn Nhai’rgwaith.. Cafodd ei ordeinio yng Nghaer,a bu ym Mhenbedw cyn symud ymlaen i Wallasey. Yno cafodd adegau llawen ond weithiau roedd yn gallu bod yn anodd, ac roedd hiraeth arno am Gymru Yna rhoddodd ddarlun o’i waith, nid dwy awr yn unig, fel mae rhai yn edliw iddo, ond wythnos lawn iawn, ac un dydd yr wythnos yn rhydd, ac ar alw 24 awr bob dydd. Diolchwyd iddo gan y Llywydd am noson ddiddorol.

Pen blwydd hapus i’r Llywydd ar ddathlu ei ben-blwydd yn 75 ar Fai 13eg.

90oed

Llongyfarchiadau a phen-blwydd Hapus i Mrs Rosalie Rogers Waungron ar gyrraedd carreg filltir nodedig ar y 30ain o Ragfyr 2009. Cyflwynwyd blật y Gymuned iddi gan Mr Gerald James Llywydd Cyngor y Gymuned, yn y llun hefyd mae Mrs Lynda Williams aelod o’r Cyngor a Chyngor Castell Nedd Port Talbot. Ymddiheuriadau am y cyfarchion hwyr a dymuniadau gorau i chi. Diolch i Mr Morlais Pugh am y llun.
Help / Cymorth