27.8.10

Ras am Fywyd

Llongyfarchiadau i Mrs Christine Ridout (siop fara Harries Heol Cae Gurwen) am fentro eleni eto yn ‘Ras am Fywyd yn Llanelli. Llwyddodd i gasglu £261.40 ac mae am ddiolch i bawb am ei cefnogaeth, erbyn hynmae wedi cyfrannu dros£1,0000 o bunnoedd at elusen cancr. Yn y llun gyda hi mae Mrs Melita Ranft siop Pen cae Brynaman.

Mrs Sarah Vickers

Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus i Mrs Sarah Vickers King Edward Road, ar ddathlu pen-blwydd arbennig ar y 10ed o Ebrill. Cyflwynwyd plật y Gymuned iddi gan Mr Morlais Pugh, a’i frawd Mr Cen Puw y ddau ar Gyngor y Gymuned. Dymunuadau gorau i chi Mrs Vickers.

90 oed

Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus i Mrs Brenda Thomas Heol Colbren Isaf ar gyrraedd carreg filltir nodedig yn ei bywyd. Cyflwynwyd plật y Gymuned iddi gan Mrs Lynda Williams Mr Morgan Thomas ar ran Cyngor y Gymuned. Dymuniadau gorau i chi.

Mrs Maggie May Evans

Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus i Mrs Maggie May Evans gynt o Waun Gron ond sydd bellach yng nghartref Cwm Cartref Rhydyfro, ar gyrraedd 90 oed. Cyflwynwyd plật y Gymuned iddi gan Mrs Lynda Williams a Mr Morgan Thomas, a Mr David Jones o Gyngor y Gymuned.Dymuniadau gorau i chi.

Priodas

Ar Fai 30ain priodwyd Sara Rees Jenkins, merch Kim a Christopher Jenkins, Heol Caegurwen ậ Kevin Gary Evans, mab Jean a Mark Dean Y Garnant yng Nghapel Carmel. Morynion y briodas oedd Soffia, Angharad Elinor, a Kayleigh, Richard Davies oedd y gwas priodas a Logan, Jordan a Cian oedd y gweision bach. Priodwyd hwy gan Y Parchedig Ryan Jones Brynaman, a’r Parchedig George Ladd yn cynorthwyo. Yr organyddes oedd Mrs Catherine Williams, a Mrs Mared Owen y delynores. Roedd y neithior yng Ngwesty’r Strade Llanelli. Treuliodd y ddau eu mis mêl ar ynys Cyprus. Dymuna Sara a Kevin ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd i wneud eu dydd yn un arbennig. Llongyfarchiadau i’r ddau a phob dymuniad da iddynt i’r dyfodol.

Merched y Wawr Cangen GwaunGors

Yn ein cyfarfod mis Mehefin, croesawyd Mrs Gail Smith yn gynnes atom gan yr Ysgrifennydd yn absenoldeb ein Llywydd o achos tostrwydd. Dymuniadau gorau am eich gwellhad Bethan. ‘Gwneud Cardiau’ yw diddordeb Gail , a soniodd wrthym siwd oedd wedi dechrau, a datblygui wneud cardiau Daeth a pheth wmbreth o ddeunyddiau gyda hi mae wedi ‘u casglu dros amser, llawer iawn o wahanol fathau o bapurau ac addurniadauo bob math. Dangosodd engreifftiau deniadol o’i gwaith a mae’n cael ceisiadau am gardiau arbennig sy’n bersonol i’r derbynydd. Gwnaeth rhyw dair o gardiau ac yna yn ein hannog ni i fentro, gan gynnig help llaw a chyngor, er i rai rhoi cynnig arni , ‘sdim eisieu iddi ofidio, ni fydd un ohonom yn fygythiad iddi!!

15.8.10

Bwrlwm Bro Cylch Rhydaman

Plant ac athrawon Ysgolion Sul dalgylch Rhydaman wnaeth ymgasglu yn Neuadd Gellimanwydd ar gyfer Bwrlwm Bro o dan drefniant Menter Ieuenctid Cristnogol (Sir Gaerfyrddin).
Yn ystod yr wythnosau diwethaf fe wnaeth Menter Ieuenctid Cristnogol (sir Gâr) gynnal Bwrlwm Bro mewn gwahanol ardaloedd ar draws y sir. Trefnwyd sesiynau yn Llangadog, Rhydaman, Tymbl, Caerfyrddin, Llwynhendy ynghyd ag oedfa Cymanfa’r Sul yn Saron, ger Llangeler. Cynhaliwyd Bwrlwm ardal Rhydaman yn Neuadd Gellimanwydd ar Ddydd Sul 20 Mehefin. Prif bwrpas y sesiynau hyn oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.

Trwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau a gemau daeth yr hanes am Jona a’i anturiaethau yn fyw ym mhrofiad y plant. Cafwyd llawer o hwyl wrth ddysgu am nodweddai cymeriad Duw fel un sy’n gyfiawn ac yn barnu drygioni, ond eto i gyd yn un sy’n llawn tosturi ac wrth ei fodd yn maddau i’r rhai sy’n galw ar ei enw. Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw. Pan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau`n fawr y profiad o gael uno gyda`i gilydd mewn dathliad cyfoes o`r ffydd.

CYNGERDD COR RHYDAMAN A'R CYLCH

Ar ol tymor o baratoi oedd yn pawn trafferthion, yn cynnwys tostrwydd ymysg yr aelodau a'u teuluoedd, a gaeaf caled a oedd yn golygu colli ymarferion, fe lwyddodd y cor i roi cyngerdd a brofodd yn un dderbyniol iawn i'r gvnulleidfa. Trwy rhyw gyd-ddigwyddiad , roedd ffrindiau o Breuillet, gefeilldref Rhydaman yn Ffrainc, wedi dod i'r gyngerdd gan chwyddo'r nifer o wrandawyr, a bu eu derbyniad gwresog a diffuant yn hwb i ymdrechion y cor.

Roedd y rhaglen yn eang yn ei apel, llawer o ffefrynnau o'r sioeau hen a newydd, o Ifor Novello i Robat Arwyn, o lwyfannau a ffilmiau Americanaidd i theatrau Llundain, ac yn y blynyddoedd diweddar cynyrch y sioeau Cymreig - rhywbeth i blesio pawb.
Dau o Dde Cymru oedd yr artistiaid, Rhian Mair Lewis o bentre Idole, a Robin Lyn Evans o Geredigion. Fe wnaeth y ddau gyrraedd ymhell yn y maes eisteddfodol, gan ennill anrhydeddau cenedlaethol yn gyson, ac ar ol astudio ymhellach yn Llundain, maent yn westeion gyda chwmniau opera dros Brydain, ac yn canu mewn gwledydd tramor. Cawsom ein tywys ganddynt i fyd yr operau clasurol fel Faust, Carmen a La. Traviata, heb anghofio Elen Fwyn, Cymru Fach a LIanrwst. Ond heblaw'r canu roedd eu cysylltiad a'r dorf yn agos a chynnes.
Felly hefyd y gadwyn rhwng y cyflwynydd, y Parchedig E. Lyn Rees a'i wrandawyr. Braf yw cael talent lleol o'r fath, fel sy'n wir am y dair wrth y llyw. Mae cyfraniad yr arweinyddes, Indeg Thomas, yn amhrisiadwy, yn dewis a threfnu'r miwsig a'i ddysgu'n amyneddgar to hwnt a pharatoi'r cor yn Ilwyr i'r perfformiadau. Mae'r ddwy gyfeilyddes, Olwen Richards a Sally Arthur yn gefnogol iawn iddi hi ac i'r cor. Mae swyddogion y cor yn drylwyr wrth ei gwaith, ac aelodau'r cor yn brysur yn paratoi'r neuadd cyn y gyngerdd a'i chlirio wedi gorffen. Dim and wrth gyd-dynnu fel hyn, a chyd-weithio gydag awdurdodau'r ysgol mae noson fel hyn yn bosib. Diolch i bawb.

Urdd Ofydd er Anrhydedd (Y Wisg Werdd) - Mel Morgan

Llongyfarchiadau i Mel Morgans, Cadeirydd Glo Man ar ei urddo i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol eleni. Disgrifir Mel Morgans, fel “dyn prysur - a Chymro i’r carn” a hawdd gweld pam wrth ystyried ei gyfraniad i ddiwylliant ei fro. Bu’n ymwneud ag Aelwyd Aman am flynyddoedd fel Arweinydd ac yna fel ymddiriedolwr, yn aelod o Fenter Iaith Sir Gaerfyrddin ac yn hynod o weithgar fel actor a chyfarwyddwr Cwmni Drama’r Gwter Fawr. Yn ogystal â hyn i gyd, mae’n aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Gynradd Brynaman ac yn Gadeirydd Glo Mân.

LLONGYFARCHIADAU YSGOL Y DDERWEN

Da oedd clywed fod Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin wedi ennill y graddau uchaf posib – saith Gradd I yn eu harolwg diweddar. Nodwyd bod canrannau’r graddau ar gyfer addysg lawer yn uwch na’r canrannau cyfartalog ar gyfer Cymru a bod pob agwedd o waith a bywyd yr Ysgol yn arbennig o dda.
Llongyfarchiadau mawr iddynt hwy o dan arweiniad ei prifathro medrus ac ymroddgar, Mr. Huw Watkins, brodor o’r pentref a mab Eilir a’r diweddar Eifion Watkins, Llanerch, Heol Pontarddulais

6.8.10

NODDWYR

Ydych chi’n dod o Ddyffryn Aman, neu ydy’r ardal yn agos at eich calon ac eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu. Beth am gefnogi’r papur bro lleol a dod yn noddwr i Glo Mân. Mae gennym ddau gynnig.

                  a. noddi’r papur am £10. Bydd eich enw yn ymddangos fel noddwr mewn rhifyn cyfredol.
                  b. Noddi’r papur am £25 a derbyn copi misol o Glo Mân trwy’r post.

Os hoffech ddod yn noddwr yna cysylltwch ag Edwyn Williams, 37 Heol Waterloo, Capel Hendre, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 3SF – edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

3.8.10

COR MEIBION DYFFRYN AMAN

Gredech chi fod 20 mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu côr Meibion Dyffryn Aman? I ddathlu'r achlysur teithiodd y côr i St. Peter Port, Guernsey ddechrau mis Mehefin ac fe fuon nhw'n perfformio mewn dau gyngerdd yno.


Diolch yma i Rowland John am drefnu'r daith, gyda chymorth Alan Thomas a Graham Davies.

Bore Sadwrn, Mehefin 5ed, bu un o'r aelodau, Chris Llewelyn, yn siarad am y côr ar Radio BBC Guernsey, ac fe chwaraewyd rhai caneuon o gryno ddisg y côr.

Amser cinio, buon nhw'n canu yn Eglwys y Dref. Llywydd y cyngerdd oedd Roy Sarre, Cyfarwyddwr Cerdd Corws Cymunedol Guernsey. Roedd ei ferch yntau, Josie Paine, yn unawdydd ac fe ymunodd gyda'r côr i Gloi'r cyngerdd gyda chytgan o "Gwyr Harlech."

Roedd y prif gyngerdd Nos Sadwrn yn Neuadd St. James. Roedd hwn yn gyfle arbennig i Berian Lewis, cyfeilydd y air - yn hytrach na defnyddio Yamaha Clavinova, fel yn yr ymarferion yng Nglanaman, -defnyddio "Steinway Concert Grand Piano" – gwerth £84,000! Ynghyd ag arweiniad ysbrydoledig Ian Llewelyn, does dim rhyfedd fod y cantorion wedi ymateb fel y gwnaethon nhw. Cafwyd perfformiadau grymus, ac erbyn diwedd y noson, rhwng y ddau gyngerdd, canwyd 23 can.

Yn sicr, gwnaethon nhw argraff ddofn ar y gynulleidfa o dros 500. Tybiwyd fod £7000 wedi ei godi tuag at Multiple Sclerosis.

Mae llwyddiant y côr i'w briodoli yn bennaf i Ian Llewelyn, - sydd wedi eu harwain ers y cychwyn cyntaf - and rhaid hefyd cydnabod ymroddiad pob un o'r aelodau a'r cyfeilyddion dros yr 20 mlynedd.

Dymuniadau gorau gyda'r dathlu eleni – edrychwn ymlaen at gefnogi'r air dros yr 20 mlynedd nesaf.

LLAIS YR ANDES - ISAIAS GRANDIS - PATAGONIA

Daeth gwr ifanc o'r enw Isaias Grandis ar ei dro i Lais yr Andes — yntau hefyd o ardal Trevelin, er fod ei rieni â’u gwreiddiau yn Cordoba, gogledd Ariannin. Fel Soraya Williams doedd gan Isaias yr un gair o Gymraeg pan gwrddodd â Hazel Charles Williams yn 1998, ond dechreuodd fynychu'r dosbarthiadau Cymraeg yn ffyddlon a buan y cafodd flas ar ddysgu'r iaith.
Nid dyma oedd ei ymweliad cyntaf a Chymru gan iddo fod yn Llanbedr Pont Steffan yn dilyn cwrs Wlpan ac yn ddiweddarch i Gaerdydd i ddilyn cwrs tiwtoriaid. Y tro hwn trefnwyd i Isaias arsylwi mewn ysgol yn Llambed a chafodd lety parod gan y Fns Morfudd Slaymaker, sydd a pherthnasau yn byw yn y Wladfa.
Ar ei ymweliad a Llandybie trefnodd Hazel iddo gymryd gwasanaeth yn ei Ile yng, nghapel Dyffryn, Manordeilo. Ar ben hyn, dangosodd Isaias luniau o gapeli'r Wladfa gan roi ychydig o'u hanes.
Wedi cyfnod o arsylwi mewn ysgolion yng Nghaerdydd dychwelodd Isaias i Drevelin Ile mae’n dywysydd yn yr Amgueddfa a hefyd yn diwtor Cymraeg.

Help / Cymorth