5.9.10

CLWB GOLFF PARC GARNANT - Cwmaman

Mae'r gystadleuaeth golff i unigolion Cyngrhair y Gaeaf yn un boblogaidd iawn yn y clwb. Eleni ennillydd y gystadleuaeth oedd Martin Lewis o Heol Cwmgarw, Brynaman. Mae Martin wedi cefnogi'r clwb am rai blynyddoedd bellach ac yn gwbl haeddianol o'r wobr. Llongyfarchiadau iddo.
Byd dtwrnament Beneking yn cyrmyd lle ym Mharc Garnant ar 18 Medi. C ysylltwch ag 01269 824765 am fwy o fanylion.

2.9.10

LLEISIAU'R CWM - RAS AM FYWYD - Cwmaman, Glanaman

Yn ddiweddar fe fu deg o ferched Côr Merched Lleisiau’r Cwm o Ddyffryn Aman yn cymryd rhan yn y ‘Râs am Fywyd’ yn Llanelli, a rhyngddynt fe godwyd £1,100 o bunnoedd i Gronfa’r Cancr. Diolch i’r merched am wneud mor dda ac os oes rhywun am gyfrannu ymhellach byddant yn falch o dderbyn eich rhoddion. Mae eu gwerthfawrogiad yn fawr o’r bobl hynny sydd wedi eu helpu yn barod. Diolch yn fawr.
Help / Cymorth