27.10.10

HEN OED GWAUN CAE GURWEN A PHRIODAS AUR

Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod Nos Fercher Medi’r 1af gan Mr Morlais Pugh, y Llywydd.  Cystadleuaeth ‘Sion a Sian’ oedd wedi ei drefnu gan y pwyllgor.  Tri phậr oedd yn cymryd rhan, a chwarae teg iddynt am fodloni gwneud. Y Llywydd oedd yr holwr, dwedodd ei fod wedi hysbysebu am cynorthwydd, ond ofer bu’r ymdrech! Ond cafodd wirfoddolwraig ar ei aelwyd ei hun, ei wraig Wendy!.  Rhaid dweud gwnaeth y ddau dîm da, a dim rhyfedd fel clywsom ar ddiwedd y noson.  Cafwyd tipyn o hwyl.  Yn y diwedd roedd dau o’r tri phậr yn gyfartal.  Cyflwynwyd anrheg fach iddynt ar ffurf tarian fechan.  Diolchwyd i’r chwech am gymryd rhan.  Roedd hi’n noson ddifyr iawn ậ llawer o chwerthin – sy’n gwneud lles i bawb. Yna daeth llais o’r gynulleidfa yn llongyfarch Wendy a Morlais ar ddathlu eu Priodas Aur ar Awst 20ed, dydd pen-blwydd Wendy.  Daeth y noson i ben yn sŵn cymeradwyaeth yr aelodau i’r ddau.  Llongyfarchiadau iddynt a dymuniadau gorau am flynyddoedd eto o fywyd priodasol hapus.

25.10.10

CLWB GOLFF PARC GARNANT - ENILLWYR YR HAF

Nigel Jones oedd enillydd y gystadleuaeth i unigolion yn y clwb eleni. Un o Waun-Cae-Gurwen yw Nigel ond mae’n byw nawr yn Rhydaman.Wedi chwarae nifer o gemau yn erbyn aelodau o’r clwb, enillodd Nigel yn y rownd derfynol yn erbyn Martin Lewis. Llongyfarchiadau Nigel!
Dau ffrind sy’n chwarae’n rheolaidd gyda’I gilydd ac sydd wedi cael cryn lwyddiant yw David Protheroe a enillodd cystadleuaeth y “Claret Jug” a Martin Rogerson a enillodd “Tlws yr Haf”.Llongyfarchiadau i hwythau!

23.10.10

Llwyddiant Ysgubol i Gor Merched Lleisiau'r Cwm

Llongyfarchiadau mawr i Gôr Merched Lleisiau’r Cwm ar ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy eleni am gyflwyniad ar y thema ‘Diwydiant’. Dewisodd y grŵp y thema ‘Glo’, diwydiant a fu’n ganolog i ardal yr Eisteddfod yn y ganrif ddiwethaf.
Mae’r Cyflwyniad yn gamp aruthrol gan fod pump elfen ynddo gan gynnwys Cerdd Dant, Cyd-ganu, Llefaru, Sgetsh a Dawns. Cawsom gymorth gan y canlynol, sef y Prifardd Einir Jones, a ’sgrifenodd y sgript, Catrin Huws, a fu’n gyfrifol am yr holl adran gerddorol, a Mair Wyn fel Llefarydd. Roedd Rhian Wyn ac Eirlys Davies yn Unawdwyr a chyfranodd aelodau eraill o’r grŵp fel unigolion. Actorion y sgetsh oedd Catrin Thomas, Elin Young, Andrea Williams a Mair Wyn. Diolch yn fawr i Steffan Davies, ein clocsiwr, ac i Eifion Price am ganu’r ffidil iddo. Hefyd i Jennifer Maloney, a fu’n gyfrifol am ein colograffeg.
Y mae Cwmaman yn falch iawn o “Leisiau’r Cwm” ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt i’r dyfodol.



22.10.10

PRIODAS DDIEMWNT

Llongyfarchiadau i Eric a Brenda Smith, gynt o Stryd y Parc, Brynaman sydd newydd ddathlu eu priodas ddiemwnt. Fe'u priodwyd yng Nghapel Ebeneser ar 14eg o Fedi 1950. Mae'r ddau nawr wedi setlo yng Nghartref Parc y Wern, Rhydaman lle cawsant barti wedi ei drefnu gan Eileen eu merch i nodi'r achlysur.Daeth nifer dda o'u ffrindiau i ymuno yn y dathlu. Cyflwynwyd plat iddynt ar ran y Cyngor Cymuned.

20.10.10

Mrs Margaret Morgan - brynaman

Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus i Mrs Margaret Morgan o Maes y Glyn, ar gyrraedd 90 oed.  Yn y llun yn cyflwyno plât y ‘Gymuned y Waun’ iddi mae Mrs Lynda Williams a Mr I.P.Lewis.

Ron Woolcock - brynaman

Llongyfarchiadau a pen-blwydd hapus i Mr Ron Woolcock o Heol y Barri, ar gyrraedd 90 deg oed. Yn y llun yn cyflwyno plât y “Gymuned y Waun” iddo mae Mrs Lynda Williams y cadeirydd

18.10.10

Mrs.Rachel Mary Phillips, Heol Newydd, Brynaman - 90 oed

Dymuniadau gorau i Mrs.Rachel Mary Phillips,Heol Newydd a ddathlodd ei phenblwydd yn 90 ar Orffennaf 29ain.Mae Mrs.Phillips wedi byw ym Mrynaman erioed ac wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd diwylliannol y pentref, - gyda’r Capel yn ganolbwynt i’r gweithgareddau hynny. Trefnodd aelodau’r Gymdeithas Ddiwylliadol a Chymdeithas y Chwiorydd yng Nghapel Gibea barti syrpreis i ddathlu’r achlysur arbennig ac ymgasglodd aelodau’r ddwy gymdeithas ynghyd ag aelodau o’r teulu yn y festri ar brynhawn ei phenblwydd.

Er nad yw ei hiechyd yn caniatau iddi fynd i’r capel yn gyson bellach, mae digon o’r aelodau yn galw’n gyson i’w gweld a rhoi’r newyddion iddi. Mae’n ddarllenwraig frwd ( yn un o ffyddloniaid Glo Mân ers y cychwyn!) , ac os am wybod rhywfaint o hanes y pentref yn ystod yr 20fed ganrif, mae ei chof yn wych, - mae wedi bod o gymorth i sawl un sy’n ymchwilio i ddigwyddiadau’r cyfnod.
Roedd ei merch, Eiry, wedi helpu i gadw’r syrpreis hwn, ond cafwyd cyfle i ddathlu ymhellach gydag Eiry a gweddill y teulu agos, sef ei hŵyr,Stephen a’i wraig,Karen a’r gorwyresau, Lucy ac Emily., ar y penwythnos dilynol.

17.10.10

CWMNI DRAMA'R GWTER FAWR


Yn ystod mis Awst, bu aelodau’r cwmni yn brysur yn perfformio dwy ddrama un act yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy.Amser cinio dydd Llun, roedd Theatr y Maes dan ei sang i wylio perfformiad o “Corffŵ” gan Peter Hughes Griffiths, tra roedd cynulleidfa deilwng yno ar y Nos Fawrth i wylio “Dominô” gan Rhiannon Parry yn y gystadleuaeth Actio Drama Fer. Yn anffodus, er cystal y perfformiad, chawson nhw ddim gwobr eleni.
Nos Lun, Medi 20fed, cafodd trigolion yr ardal gyfle i weld y ddwy ddrama yn Yr Aelwyd, ac er bod rhai wedi gweld un neu’r llall yng Nglyn Ebwy, fe ddaethon nhw unwaith yn rhagor i gefnogi, - ac mae’r Cwmni yn ddiolchgar dros ben am gefnogaeth y selogion. Gan mai dwy gomedi oeddent, cafwyd digon o chwerthin iach, diniwed a phawb yn gadael mewn hwyliau da.

Merched y Wawr Brynaman

Cynhaliwyd cyfarfod agoriadol  y tymor newydd yn Neuadd yr Henoed, Nos Wener, Medi 10fed, a da dweud bod mwy nag ugain wedi mentro allan ar noson o dywydd garw iawn! Gwraig wâdd y noson oedd Non Richards, Swyddog Datblygu’r Muduad ac fe gafwyd noson ddifyr iawn yn ei chwmni. Roedd rhai o aelodau’r pwyllgor wedi paratoi lluniaeth; cafwyd amser i bori drwy’r rhaglen am y tymor ac fe dreuliwyd amser yn cymdeithasu.  Gorchwyl bleserus arall yn ystod y nos oedd  diolch i Meiriona Jones am ei gwaith diflino fel ysgrifenyddes y gangen am y 18 mlynedd ddiwethaf. Cyflwynodd y Llywydd, Buddug Williams, rodd iddi ar ran yr aelodau.     
 Bu rhai aelodau ar  Benwythnos Preswyl  yn Llanbedr Pont Steffan  o Fedi 17-19 ac fe gawsant amser wrth eu bodd.    
Y mis nesa, Hydref 8fed, bydd yr aelodau yn ymuno â’r gynulleidfa ym Moriah ar gyfer recordiad o Dechrau Canu, Dechrau Canmol, ond byddwn yn ôl yn Neuadd yr Henoed ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd, pryd y disgwylir Ms. Glenys Protheroe i’n hannerch.  Mae croeso  i aelodau newydd bob amser.

16.10.10

Pen Talar - Daniel Leyshon, Brynaman

Llongyfarchiadau gwresog i Daniel Leyshon, Maes y Glyn, ar ei berfformiad didwyll a chredadwy fel y cymeriad Doug ym mhennod gyntaf y gyfres ddrama, Pen Talar, sydd i’w gweld ar S4C bob Nos Sul ,ar hyn o bryd.

Er mai dim ond yn y bennod gyntaf y gwelir Doug fel plentyn ifanc y 60au, bu’r profiad o fod yn rhan o gyfres sy’n dilyn hynt a helynt y prif gymeriadau dros gyfnod o 50 mlynedd yn gyfle ,nid yn unig i ddysgu am y newidiadau yng Nghymru dros y cyfnod hwnnw, ond hefyd , i gael actio gyda rhai o brif actorion Cymru, megis, Dafydd Hywel, Richard Harrington, Ryland Teifi a Mali Harries.
Cafodd Daniel ei gyfle cyntaf ym myd y teledu rhyw ddwy flynedd yn ôl. Os ydych yn gyfarwydd â’r gyfres Dan y Don, fe fyddwch wedi clywed ei lais, gan mai ef sy’n lleisio rhan Oli mewn dwy gyfres o 26 pennod yr un.
Ar hyn o bryd, mae Daniel yn ddisgybl ym mlwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman.Dymunuwn bob llwyddiant iddo yn y dyfodol.

14.10.10

Cadeirydd Panel Efengylu ac Ymestyn Allan

Dymunwn yn dda i’r Parch. Dyfrig Rees, Heol Pontarddulais, Tycroes ar ei apwyntiad yn gadeirydd ‘Panel Efengylu ac Ymestyn Allan’ Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Prif waith y panel fydd sefyll ac oedi uwchben y modd gorau o annog ac ysgogi’r eglwysi i waith efengylu. Aelodau eraill y panel yw: Ryan Thomas, Jill-Hailey Harries, Iwan Jenkins, Eleri Davies a Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr.

13.10.10

Cyflwynydd o Fri - Alex Jones - Tycroes

Da oedd clywed bod Alex Jones, Fforestfach, Heol Tycroes wedi ei dewis i olynu Christine Bleakley yn gyflwynydd i un o sioeau mwyaf poblogaidd y BBC – ‘The One Show’ ar BBC1 bob nos am saith o’r gloch.
Er mai Saesneg oedd iaith cartref Alex fe’i haddysgwyd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Rhydaman, Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa a Phrifysgol Aberystwyth. Mae wedi cyflwyno nifer o sioeau i blant ar S4C ynghyd â sioeau teithio a sioeau ffasiwn. Mae hefyd wedi cyd-gyflwyno ‘Jonathan’ gyda’r enwog Jonathan Davies adeg cyfres rygbi’r chwe gwlad.
Dechreuodd ar ‘The One Show’ ar Awst 16 ac fe ddymunwn pob llwyddiant iddi hi a’i chyd-gyflwynydd Jason Manford

10.10.10

Dadorchuddio cofeb - Bethesda, Tycroes

 Y Parch. John Talfryn Jones ynghyd â Mrs. Barbara Phillips
Ar brynhawn Sul ym mis Gorffennaf cynhaliwyd oedfa arbennig ym Methesda, Tycroes. Dadorchuddiwyd cofeb er cof am ein hannwyl gyn-weinidog, y diweddar Barchedig Gwynfor Phillips a fu’n gwasanaethu’r Arglwydd yn ffyddlon o 1972 hyd 1985. Ymgasglodd cynulleidfa gref ac roeddent yn dyst i’r diolch a’r edmygedd roedd gennym o’r Parch. Gwynfor Phillips. Y Parch. John Talfryn Jones, gweinidog Ebeneser, Rhydaman oedd yn gyfrifol am yr oedfa ac fe dalodd y deyrnged ganlynol i weinidogaeth Mr. Phillips:

“Y mae yr awr hon yn ddigwyddiad mawr a hanesyddol ym mywyd eglwys Bethesda. Fe gofiwn weinidog ffyddlon, y Parchedig Gwynfor Phillips, a rannodd gyda holl deuluoedd yr eglwys a’r gymuned hon yn eu llawenydd, eu stormydd a’u profedigaethau. Gwas da a ffyddlon i’r Arglwydd. Rwyf am bwysleisio hynny. Ymhen munud neu ddwy fe fydd Barbara yn dadorchuddio cofeb iddo, ac fe wyddom fod yr awr hon yn dod a chymysgedd o hiraeth i chi, ond mae yma ‘breid’ hefyd. Ac fel hynny dylai fod, i weld yr Eglwys hon yn dangos ei diolch a’i hymffrost yn ei doe a’i hechddoe hi – ei bod wedi trysori, yn parhau i drysori, ac am ddangos i’r cenedlaethau a ddaw, fod ganddi edmygedd a pharch tuag at weinidogaeth Gwynfor, fel y mae wedi bod i’r brodyr a’i rhagflaenodd yma ym Methesda.
“Dyna mae yn ei olygu. O heddiw ymlaen fe fydd y gofeb syml hon yn tystio i flynyddoedd cyfoethog yn hanes eglwys Bethesda, Tycroes. Ac rwy’n gwybod bod y weithred hon yn ennyn gwerthfawrogiad Barbara, Rhian, Kerry a Llio. Mae awdur y Llythyr at yr Hebreaid yn dweud: ‘Cadwch mewn cof eich harweinwyr, y rhai a lefarodd air Duw wrthych; myfyriwch ar ganlyniad eu buchedd ac efelychwch eu ffydd.’
“Wrth gwrs, y tu ôl i Gwynfor yr oeddech chi Barbara. Da yw i weinidog fod ganddo wraig sydd ar yr un donfedd ag ef, ac fe gafodd hynny – y ddau ohonoch yn cyd-gerdded, yn cyd-foli – yn cyd ymdeimlo ym mhob peth fyddai’r naill a’r llall yn ei wneud; ac i gael ei deulu o’i gwmpas i Gwynfor, doedd dim eisiau dim byd arall.”
Y Gofeb er cof am y Parch. Gwynfor Phillips
Galwyd ar Mrs. Barbara Phillips i ddadorchuddio’r gofeb. Munudau emosiynnol iawn i bawb oedd yn bresennol. Yna traddododd y Parch. John Talfryn Jones neges Mrs. Barbara Phillips i’r gynulleidfa yn diolch a datgan gwerthfawrogiad y teulu am y weithred arbennig o gofio a choffau ei hannwyl briod.
Help / Cymorth