25.11.10

Tim Pel droed Newydd

Mae tim peldroed merched dan 15 Rhydaman/ Saron yn cynnwys llawer o ferched o bentre Llandybie. Bu’r tim yn cystadlu yn nhwrnament pel droed yn Pontyberem yn ddiweddar a cafwyd diwrnod day n eu cystadleuaeth gyntaf

Ffrindiau - Iesu'r Ffrind Gorau - Gellimanwydd



"Ffrindiau - Iesu'r Ffrind Gorau" oedd testun Gwasanaeth Diolchgarwch Plant yr ysgol Sul ar Fore Sul 10 Hydref. Dechreuwyd trwy weddi agoriadol ac yna ar ol canu'r emyn "Mae'r Arglwydd yn cofio y dryw yn y drain" daeth y plant ymlaen i gyflwyno eu bocsus esgidiau yn llawn anrhegion ar gyfer Operation Christmas Child. Hyfryd oedd gweld y bwrdd yn llawn bocsus esgidiau, a rheiny wedi eu haddurno mor bert.

Cawsom gyflwyniadau, darlleniadau a chanu.
Diolch i Elan, Sara Mai, Mari, William, Harri, Dafydd, Rhys, Nia, Macy a Catrin am eu cyfraniadau arbennig. Roedd y gwasanaeth yn wir fendith ac yn dangos ein gwerthfawrogiad o'r ffrind gorau gall unrhyw un ei gael sef Iesu.
Cynhaliwyd ein Gwasanaethau Diolchgarwch eleni ar Sul 10 Hydref. Tro yr Oedolion oedd hi yn Oedfa'r Hwyr. Cawsom gyfel i ddiolch i'n Harglwydd Iesu am yr holl mae yn ei wneud drosom drwy ddarlleniadau, adroddiadau, canu emynau ac eitemau gan dri cor, sef cor merched, cor dynion a'r cor cymysg.
Cawsom wir fendith ac roedd yn wasanaeth arbennig.
Mae ein diolch yn fawr i Mrs Gloria Lloyd am ddysgu ac arwain y tri cor ac hefyd i Mr Cyril Wilkins am ei chynorthwyo a chyfeilio ar gyfer y tri. Hefyd diolch i'n gweinidog Y Parchg Dyfrig Rees am ein harwain yn ystod y gwasanaeth

23.11.10

Cymdeithas yr Hen Oed

Aeth rhai o aelodau’r Gymdeithas ar wibdaith i’r Fenni ar Fedi’r 28ain. Cafwyd ddiwrnod hyfryd, a’r tywydd yn heulog. Diolch i Mrs Enid Evans am wneud y trefniadau.

Yn ôl yr arfer croesawyd yr aelodau i’r noson sef Hydref 6ed gan y Llywydd Mr Morlais Pugh. Cyd adroddwyd Gweddi’r Arglwydd yn y Gymraeg, yna aed ymlaen ậ ochr fusnes y Gymdeithas, a chael disgled cyn i ‘r Llywydd ddweud nad oedd y siaradwr gwadd yn gallu dod o achos tostrwydd. Ond roedd wedi trefnu i Mrs Ann Walters Brynaman i ddod atom. Nid dyma’r tro cyntaf iddi lanw’r bwlch, chware teg mae’n barod iawn i’n helpu. Unwaith eto cawsom noson ddifyr iawn yn ei chwmni. Diolchwyd yn gynnes iawn iddi gan Morlais a chymeradwaeth yr aelodau yn dyst o’i phoblogrwydd gyda’r aelodau

Pensiynwyr y Pentref

Grŵp o blant ysgol y pentre fu’n diddanu adran yr henoed ddiwedd Hydref. Roeddynt o dan ofal y dirprwy brifathrawes. Cafwyd ganddynt amrywiol gyflwyniadau cerddorol  – unigol, grwpiau a phartion ynghyd ag eitemau offerynnol a dawns greadigol.

17.11.10

Dathlu’r Nadolig

Yn ystod yr wythnosau nesaf fe fydd nifer o fudiadau’r pentref yn dathlu’r Nadolig mewn llawer dull a modd.

Fe fydd y pensiynwyr yn cynnal cinio Nadolig yn y Mountain Gate, Nos Fawrth, Rhagfyr 14eg am 6.00 o’r gloch ac yna ar Ddydd Mawrth, Rhagfyr 21ain fe fyddant yn cynnal oedfa o Garolau a Llithiau yn Eglwys Sant Edmwnd am ddau o’r gloch ac fe’i dilynir gyda paned a mins peis yn y Neuadd Lesiant gerllaw.
Fe fydd eglwysi Bethesda, Caersalem a Moreia yn cynnal oedfa ar-y-cyd i ddathlu’r Nadolig yng Nghaersalem, prynhawn Sul, Rhagfyr 12fed am 2.30 o’r gloch. Fe fydd yr oedfa o dan arweiniad y Parch. Dyfrig Rees ac fe gymerir rhan gan aelodau’r dair eglwys. Darperir paned yn y festri ar derfyn yr oedfa.
Ar y Sul canlynol, Rhagfyr 19eg fe fydd eglwysi Moreia a Gellimanwydd, Rhydaman yn cynnal oedfa i ddathlu’r Nadolig yng Ngellimanwydd am 10.30 y bore ac fe fydd hon hefyd o dan arweiniad gweinidog y ddwy eglwys, y Parch. Dyfrig Rees. Ar y Sul canlynol fe fydd y ddwy eglwys yn addoli ym Moreia a hynny eto yn y bore am 10.30. Fe baratoir paned ar derfyn y ddwy oedfa.

16.11.10

Swper Cynhaeaf

Chwiorydd Moreia a fu’n brysur yn paratoi y Swper Cynhaeaf

Cafwyd noson difyrus a hwyliog eleni eto yn Swper Cynhaeaf Moreia, Tycroes. Cafwyd gwledd i’w fwyta gyda’r chwiorydd o dan arweiniad Eiry Davies a Mary Thomas wedi paratoi yn helaeth ar gyfer rhyw saith deg o westeion.
Y prif westai oedd Mel Morgans, Brynaman. Cyflwynodd araith hynod ddiddorol wrth iddo sôn am y dylanwadau a fu arno yn ystod ei oes, sef Capel, Ysgol, Mam, Rygbi a’r Urdd – CYMRU – y capel yn Y Tymbl; yr ysgol wrth iddo dreulio oes yn dysgu ac fel prifathro; mam a fu’n gymaint dylanwad arno; rygbi a’i ymroddiad i’r gêm ym mhob agwedd arni ac yna’r Urdd. Bu plant ysgol Saron yn gystadleuwyr cyson yn Eisteddfodau a chwaraeon yr Urdd yn ystod cyfnod Mr. Morgans yn Saron.



Y Parch. Dyfrig Rees yn ymgomio â Mr. Mel Morgans, Brynaman

Llywydd y noson oedd y Parch. Dyfrig Rees.Gwnaethpwyd cryn elw ar y noson a’r cyfan yn mynd tuag at gronfa elusen yr eglwys. Hefyd fe werthwyd bron yr holl gardiau Nadolig i elusen hospis plant Tŷ Hafan.

10.11.10

Nyri Cynningham yn ennil Gradd M.Sc. drwy'r Gymraeg

Myfyrwraig raddedig o’r Garnant yw’r fyfyrwraig gyntaf yng Ngholeg Sir Gar i gwblhau ei thraethawd estynedig ôl-raddedig mewn Rheolaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Eleni graddiodd Nyri Cynningham, sy’n 29oed, gyda gradd Meistr mewn Rheolaeth wedi iddi astudio ar gampws Pibwrlwyd y coleg.
Dechreuodd Nyri ei haddysg brifysgol gyda gradd BA anrhydedd gyfun mewn Cymraeg a Hanes yn Aberystwyth. Yna cyflwynodd ei thraethawd estynedig ar ‘strategaeth’ yn y Gymraeg yng Nghaerfyrddin. Am ei bod yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid oedd i Nyri gyfieithu llawer o’r deunydd o’r Saesneg, gan fod yno brinder o ddeunydd yn y Gymraeg.
Mae’n cydnabod ei dyled i Sian Harris, ei darlithydd, ac rydym ni oll yn y Cwm yn llongyfarch Nyri ar ei llwyddiant ac yn dymuno’n dda iddi i’r dyfodol gyda’i chwrs hyfforddiant i athrawon.

6.11.10

Evans & Evans yn 80 Oed

Eleni mae cwmni teuluol o Lanaman yn dathlu 80 mlynedd o fusnes ym mhentref Glanaman.
Yn 1930 y sefydlwyd “Evans ac Evans” (sef busnes o wasanaeth yswiriant) a hynny gan John Evans ac Enid Evans, sef tadcu a mamgu Ann Jones, un o’r partneriaid presennol.
Ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf fe symudodd sawl teulu o ardaloedd amaethyddol Sir Gaerfyrddin i Gwmaman i fanteisio ar y bwrlwm diwydiannol a oedd yn bodoli yn y cwm a dyw hanes sefydlu Evans ac Evans ddim yn wahanol o gwbl.
O Lanwrda y daeth John Evans a dechreuodd gwmni adeiladu ger yr orsaf yng Nglanaman. Roedd yn gyfrifol am adeiladu sawl tŷ yn y cwm gan gynnwys nifer o adeiladau yn Heol Ceidrim.
Symudodd wedyn i sefydlu’r busnes yswiriant sy’n dal i fodoli heddiw. Yn 1955 fe ymunodd gŵr Enid, sef Iorwerth (Iori) Davies â’r busnes wedi cyfnod hir ar y môr. Roedd Iori’n gymeriad poblogaidd yn y Cwm a bu’n llywio’r busnes gydag Enid hyd at ei farwolaeth yn 1979. Am y 26 mlynedd diwethaf mae’r cwmni wedi cael ei redeg gan Ann Jones a’i gŵr, Gareth, ac erbyn heddiw fe’u cynorthwyir gan Linda Howell, eu hysgrifenyddes.
Mae newidiadau di-rif wedi cymeryd lle yn ystod yr 80 mlynedd diwethaf gyda thechnoleg fodern yn llywio’r gwaith o ddydd i ddydd erbyn hyn. Pwy a ŵyr beth fydd y dyfodol. Pob llwyddiant a hir oes i’r cwmni.



3.11.10

Dymuniadau gorau i Jean Huw Jones - meistres y gwisgoedd

Cyhoeddodd Jean Huw Jones, neu Siân Aman, ei hymddeoliad fel Meistres y Gwisgoedd, Eisteddfod Genedlaethol yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd. Felly mae Gorsedd y Beirdd yn chwilio am rywun i weithredu fel Meistr neu Feistres y Gwisgoedd am y cyfnod hyd at 2013.


Mae Jean wedi cyflawni gwaith arbennig dros nifer o flynyddoedd ac mae cyfrifoldebau’r swydd hon, sydd yn ddi-dâl, yn cynnwys gofalu’n arbennig am wisg a choron yr Ardderwydd, gwisg y Priflenor neu’r Prifardd buddugol, ynghyd â gwisgoedd Mam y Fro a chyflwynydd y Flodeuged.

Meistr neu Feistres y Gwisgoedd sydd hefyd yn goruwchwylio’r eitemau seremonїol, gan gynnwys y regalia, sydd yn cael ei arddangos yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Yn ogystal, ceir nifer o ddyletswyddau seremonїol, gan gynnwys arwisgo enillydd y tair seremoni lwyfan cyn eu hebrwng i lwyfan y Pafiliwn a chludo’r goron a’r deyrnwialen yn ystod seremoni gorseddu’r Archdderwydd.

Hoffai holl ddarllennwyr Glo Man ddymuno’n dda i Jean ar ei hymddeoliad sydd yn wir haeddianol.

Os oes gan unrhwy un ddiddordeb mewn olynnu Jean yna gellir lawrlwytho manylion y swydd a ffurflen enwebu o wefan yr Eisteddfod – www.eisteddfod.org.uk, neu gallwch ofyn am gopi drwy ffonio un o swyddfeydd yr Eisteddfod – 0845 4 090 300 neu 0845 4 090 400. Y dyddiad cau yw 30 Tachwedd eleni.

CLWB HWYL HWYR

Mae Clwb Hwyl Hwyr wedi ail ddedchrau wedi seibiant dros yr haf. Ar Nos Wener, 24 Medi daeth Mr Nigel Davies, Swyddog Menter Ieuenctid Cristnogol (Mic) Sir Gaerfyrddin. Daeth criw da ynghyd i Neuadd Gellimanwydd i fwynhau’r noson.
Dechreuodd Mr Davies drwy adrodd hanes Gideon drwy gyfrwng Powerpoint a DVD. Yna chwaraewyd nifer o gemau cyffrous a gorffen drwy rannu poop a crisps. Roedd yn noson hwylus dros ben.
Clwb Cristnogol Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6 yw Clwb Hwyl Hwyr ac rydym yn cwrdd yn Neuadd Gellimanwydd bob Nos Wener yn ystod tymor yr ysgol.
Eleni hefyd rydym yn rhedeg Clwb yn arbennig ar gyfer plant ysgol uwchradd blynyddoedd 7-9 ar y Nos Wener cyntaf y mis. Y noson gyntaf oedd ar 1 Hydref pan cawsom Barti Pizza!

PRIODAS AUR

Roedd Yvonne a Jeff Reed o Gwmgors yn dathlu eu pen blwydd priodas ar y 22ain o Hydref 2010. Mae John, Rebecca, Megan a Samuel yn anfon eu Llongyfarchiadau i Mam a Dad ar gyrraedd carreg filltir nodedig yn eich bywydau. Pob lwc a iechyd da i chi eich dau i'r dyfodol.
Help / Cymorth