31.12.10

Clwb Bowlio Dynion Llandybie - Bowls

Gorffennodd Clwb Bowlio Dynion Llandybie tymor 2010 ar nodyn uchel. Cafodd y clwb mis olaf cyffrous iawn gyda cyfres o ganlyniadau da iawn oedd yn golygu bod y clwb yn dringo i fyny yn agos i ben y gynghrair. Gyda dim ond dwy gêm i chwarae yr oedd posibilrwydd y gallai’r clwb ennill dyrchafiad i’r Gynghrair Gyntaf.
Y sialens gyntaf oedd gêm bant ym Mharc Howard, Llanelli ac wrth ennill y gêm hon gyda 14 o bwyntiau dim ond un gêm gartref oedd rhaid ennill. Yn erbyn tîm o’r Blue Anchor, Penclawdd rhaid oedd ennill deuddeg pwynt allan o’r 14 oedd ar gael. Cododd y tîm i’r sialens gan ennill o ddeuddeg pwynt i sicrhau dyrchafiad a lle yn y Gynghrair Uchaf y flwyddyn nesaf. Llongyfarchiadau gwresog i’r holl dîm.
Bydd y tymor newydd yn dechrau ar yr 22ain o Ebrill 2011 am 5.30 y prynhawn yn Heol Woodfield, Llandybie.
Bydd croeso cynnes i aelodau newydd.

Côr Meibion Llandybie

Cafodd Côr Meibion Llandybie penwythnos i’w chofio yn Littlecote ger Hungerford ym mis Hydref - toriad bach byr cyn y gaeaf.
Ar fore dydd Sadwrn glawiog buodd y Côr yn teithio ar Gamlas Avon-Kennet yn Devizes. Diddorol iawn oedd clywed am hanes y gamlas a’r prysurdeb mawr oedd arni yn ystod oes aur y camlesu ar ddechrau’r 19eg ganrif. Yr oedd gweld 21 o lociau, un ar ben y llall, megis grisiau yn olygfa i’w chofio.
Ar brynhawn Sul braf canodd y côr mewn cyngerdd i godi arian i gartref plant amddifad yn Riwmania. Enw’r elusen oedd Noreens’ Kids. Yr oedd Eglwys St. Lawrence yn Hungerford yn orlawn a cafwyd derbyniad twymgalon gwresog gan y gynulleidfa. Mr Alun Bowen oedd yn arwain, gyda Mr Jonathan Rio yn cyfeilio. Yr artistiaid oedd Mr James Lawlor Blaenau-Caerbryn a soprano leol Ms Natalie Hide. Codwyd mil o bunnoedd i’r cartref yn ystod y gyngerdd!
Ar ôl penwythnos braf o hydref cafwyd prynhawn yng Nghaerfaddon i gloriannu penwythnos lwyddiannus.
Diolch i bawb a gyfrannodd at y trefniadau yn enwedig Mr Albert Davies, Rhydaman.

Penblwydd yn 90 oed

Dymuniadau gorau i Mrs Olwen Walters, Heol y Barri, a ddathlodd ei phenblwydd yn 90 yn ddiweddar. Un o blant Brynaman yw Mrs Walters ac ar wahân i ychydig o flynyddoedd yn y Garnant yn y chwedegau ym Mrynaman y bu ar hyd ei hoes. Mae’n aelod ffyddlon o gapel Hermon a hefyd o’r Ysgol Sul lle’i gelwir yn “Oly” gan y plant! Ychydig o flynyddoedd yn ôl fe gyflwynwyd iddi Fedal Gee fel cydnabyddiaeth o’i ffyddlondeb i’r Ysgol Sul dros gyfnod maith. Dymunwn yn dda iddi i’r dyfodol.

Plant Mewn Angen - Canolfan y Mynydd Du


Bu gweithgareddau rhyfeddol yng Nghanolfan y Mynydd Du ar Dachwedd 19 a’r cyfan er mwyn codi arian ar gyfer Plant Mewn Angen.Cafodd tri o’r dynion – Richard Edwards, rheolwr y bwyty; Scott Davies o’r Adran Ddatblygu a Craig Jones myfyriwr sy’n gwirfoddoli yn y bwyty - eu coesau wedi eu “waxo” gan Julia Lane o ‘Beautylicious’. Bu rhai gwychiadau ac esgyrnygu dannedd ond ar y cyfan fe ddioddefon nhw’n eithaf tawel a dewr o flaen y gynulleidfa o bobl a oedd wedi dod i ymuno yn yr hwyl.Wedyn cafodd Pauline Thomas, un o staff y Ganolfan, ei gwallt hir wedi ei dorri bron yn y twll y daeth e allan gan Amy o siop drin gwallt Crib a Siswrn ar Hewl y Stesion ym Mrynaman. Os galwch chi mewn i’r Ganolfan gallwch weld Pauline ar ei newydd wedd.
Bu pobl yn garedig iawn yn eu noddi ond mae talu
allan yn llawer haws na dioddef y driniaeth!!
Diolch i’r pedwar person dewr yma fe godwyd cyfanswm o £1000 at yr Achos teilwng yma.

28.12.10

Ysgol Gymraeg Gwaun Cae Gurwen

Hoffai Glo Man groesawu aelodau newydd i’r ysgol. Yn gyntaf Mr Martin Evans sef Diprwy Bennaeth newydd yr ysgol yn dilyn ymddeoliad Mr Catherine Williams wedi dros 30 mlynedd o wasanaeth i Ysgol y Waun. Mae Mr Evans yn byw yn Ystradgynlais a roedd yn athro yn Ysgol Gymraeg Pontardawe cyn dechrau yn Ysgol Y Waun.
Mrs Melanie Morgan yma ers mis Medi fel athrawes dros dro yn y dosbarth Meithrin/Derbyn a Mrs Catherine Jones wedi ymuno gyda ni hefyd ers mis Medi fel cynorthwywraig dosbarth yn y Cyfnod Sylfaen.
Mae’r tri ohonynt wedi ymgartrefu’n rhwydd a hapus ac yn mwynhau gweithio yn Ysgol Gymraeg Gwaun-Cae-Gurwen.


Gwasnaeth Diolchgarwch

Ar Ddydd Gwener, Hydref 22ain fe gynhaliodd yr ysgol ei Gwasanaeth Diolchgarwch blynyddol yn neuadd yr ysgol. Roedd hi’n braf gweld cymaint o bobl o’r gymuned ynghyd â rhieni’r ysgol wedi cyrraedd i ddathlu gyda ni. Fe wnaeth pob dosbarth ddifyrru’r gynulleidfa gydag eitmau i ddweud diolch am y cynhaeaf. Yn ogystal a hynny wnaeth yr ysgol gymryd rhan mewn ymgyrch lwyddiannus i gasglu pecynnau reis a phasta i’w danfon i wledydd amrywiol yn nwyrain Ewrop. Mae’r ysgol yn ddiolchgar dros ben am gefnogaeth ac ymdrechion y plant a’u rhieni.

CWIS CENEDLAETHOL MERCHED Y WAWR

Nos Wener,Tachwedd 19eg, bu tair o aelodau Cangen Merched y Wawr Brynaman yn cymryd rhan yng Nghwis Hwyl Cenedlaethol y mudiad. Cynhaliwyd gornest rhanbarth Gorllewin Morgannwg yn Yr Hen Stablau , yn ardal Treforys, lle cafwyd gwledd o fwyd ar ôl y cystadlu brwd. A’r buddugwyr? Ie, tîm Merched y Gwter Fawr. Yn y llun , gwelir Mary Lynne Jones, Sarah Hopkin a Mair Thomas.Llongyfarchiadau.

19.12.10

Priodas ddeimwnt

Llongyfarchiadau i Les a Peggy Phillips, Llys Nant Fer ar ddathlu eu priodas ddeimwnt ar Fedi 16eg. Priodwyd y ddau yn Eglwys Y Santes Catrin Brynaman.
Cyflwynwyd blat y Gymuned iddynt gan Mrs Lynda Williams cadeirydd Cyngor y Gymuned. Dymuniadau gorau i’r ddau am flynyddoedd eto o fywyd priodasol hapus.

90 oed

Pen-blwydd hapus a llongyfarchiadau i Mr Tom Davies Heol Cae Gurwen ar gyrraedd carreg filltir nodedig yn ei fywyd, wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed.  Cyflwynwyd blat y Gymuned iddo gan ei nith Mrs Lynda Williams.  Dymuniadau gorau iddo.

15.12.10

YN 100 OED - Mrs Florrie Davies

Ganwyd Florrie, yr hynaf o un-ar-ddeg o blant, ar fferm Pen-Pont, Penygroes ar Dachwedd 21ain, 1910. Bu farw dwy o’r chwiorydd – un yn chwe mis a’r llall yn ddeunaw mis. Symudodd y teulu i fyw yn Gorsddu pan oedd Florrie yn ddeg oed. Tynnwyd hi allan o’r ysgol pan yn dair-ar-ddeg er mwyn gofalu am eu mam a oedd yn dost a phan y bu hi farw yn fuan wedyn Florrie a edrychodd ar ôl eu brodyr a’i chwiorydd ar ieuengaf ond yn bedair oed.

Symudodd i fyw i Dycroes yn 1935 ar ôl iddi briodi. Ganwyd iddi dri o blant ond bu un farw ar enedigaeth. Magodd eu mab Keith a’i merch Eileen yn gariadus a gofalus a rhoi iddynt fagwraeth Gristnogol ac mi roeddent yn ffyddlon yng Nghapel Moreia, Tycroes. Mae gan Florrie hoffter o emynau a chanu cynulleidfaol. Bu farw ei gŵr yn gynnar yn y chwedegau gan ail-briodi yn y saithdegau a cholli yntau yn yr wythdegau.
Mae’n browd o’r ffaith eu bod yn berchen ar beiriant gwnïo a llaw ‘Singers’. Defnyddiau hon i wneud dillad ac i’w altro. Byddai wrth ei bodd yn gwei capiau, menyg ac ati i’r teulu. Mi roedd yn amryddawn ac yn fedrus â’i dwylo – peintio, papuro, coginio, pobi bara a cwcan teisiennau, cacennau a danteithion. Yn y Gwanwyn byddai’n brysur yn paratoi’r ardd gogyfer a thyfu llysiau ac yna yn yr Hydref yn eu piclo a’u preserfio gogyfer a’u bwyta yn ystod y gaeaf. Ni allai ddioddef gwastraff o unrhyw fath a byddai yn gwneud ‘ginger beer’ allan o ddail drynaint.
Am nifer o flynyddoedd bu’n gweithio fel cynorthwyydd cinio yn ysgol y pentref ac hefyd yn ofalydd Capel Moreia. Mae’n hoff iawn o’i dishgled de ond mae gwydred o laeth a mynd i’r gwely’n gynnar yn gas bethau ganddi.
Symudodd Florrie i Bantyboblen – unedau i’r henoed yn y pentref – ddeng mlynedd yn ôl ac roedd yn aelod gwerthfawr o’r gymuned yno gan gymryd rhan yn yr holl weithgareddau. Byddai yn mynd yn wythnosol i gyfarfod y Deillion ac i Ganolfan Dydd. Byddai’n mynd gyda ffrind allan am fwyd i’r gwahanol leoedd bwyta ar Sadyrnau.
Treuliau’r Nadolig gyda’i theulu yng Nghaerdydd. Dim ond y hi sydd ar ôl o’r teulu niferus. Mae ganddi saith o wyrion a chwech o or-wyrion sy’n eu charu’n fawr. Mae Florrie wedi byw bywyd yn llawn ac yn gymeriad hoffus a chariadus.
Llongyfarchiadau gwresog ar iddi ddathlu eu phenblwydd yn 100 oed ar Dachwedd 21ain yng nghartref Annwyl-fan lle mae’n byw bellach ers bron i flwyddyn. Mi roedd Florrie yn derbyn ‘Glo Mân’ ar hyd y blynyddoedd er na allai eu ddarllen ers sawl blwyddyn oherwydd eu golygon. Roedd yn ei anfon i’r teulu yng Nghaerdydd.

Ers i ni ysgrifennu’r adroddiad hwn mae Florrie wedi cael damwain a gwneud niwed i’w choes. Mae wedi body n ysbyty Glangwili ac mae holl ddarllenwyr Glo Mân yn dymuno’n dda iddi.

11.12.10

Blwyddyn Euraidd i Ddawnswyr Penrhyd!

Yn gynharach eleni, cawsom gyfle i longyfarch Dawnswyr Penrhyd ar eu llwyddiannau di-ri yn Eisteddfod yr Urdd, Ceredigion, ac ar yr un pryd, estyn ein dymuniadau gorau i’w hyfforddwraig, Jennifer Maloney ar dderbyn Tlws John a Ceridwen Hughes.
Parhau wnaeth y llwyddiant wrth i’r dawnswyr fentro i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy ym mis Awst, lle cawsant ddwy wobr gyntaf a dwy ail wobr.
Yn ystod gwyliau hanner tymor ddiwedd mis Hydref, aeth y Dawnswyr dan 15 oed, ynghyd â’u rhieni, - criw o tua 60 i gyd - allan i Torrevieja yng ngwlad Sbaen. Buont yn cymryd rhan mewn dau gyngerdd yno ac roedd y cynulleidfaoedd ar eu traed yn cymeradwyo’r perfformiadau safonol gan rai mor ifanc. Roeddent yn haeddu ychydig o ddiwrnodau yn ymlacio ar y traeth cyn dod nôl adre i ymarfer eto.
Dydd Sadwrn, Tachwedd 13eg, teithiodd nifer dda o’r aelodau i Fangor i gystadlu yng Ngwyl Gerdd Dant Glannau Menai. Cawsant y Wobr Gyntaf am Barti Dawns Oed Cynradd; Cyntaf ac Ail am Barti Dawns Oed Uwchradd a’r Wobr Gyntaf am y Brif Gystadleuaeth Ddawns i Oedolion, ynghyd â’r Ail Wobr am Grfip Stepio.
Ydy wir - mae 2010 wedi bod yn flwyddyn i’w chofio i Ddawnswyr Penrhyd, ac maen nhw bob amser yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth oddi wrth rieni a ffrindiau.
Llongyfarchiadau i bawb sy’n ymwneud â’r grwp.

8.12.10

NEGES O AMERICA

Braf yw derbyn newyddion am lwyddiant bobl ifanc y pentref. Y person dan sylw y mis yma yw Mallt, merch Ann ac Eirwyn Thomas, Heol y Betws. Mae Mallt wedi ymgartrefu ers nifer o flynyddoedd yn America lle bu hi'n gweithio mewn swyddi cyfrifol yn ardaloedd Virginia a Florida. Bellach mae Mallt yn byw yn ardal South Carolina ac yno mewn lle o'r enw Spartanburg disgwylir agoriad Coleg Meddygol newydd yn 2011. Yn ddiweddar penodwyd Mallt yn gofrestrydd (Director of Admissions) i'r Coleg, lle byd dyn dethol ceisiadau, cynnal cyfweliadau a thywys myfyrwyr o amgylch y Coleg.
Dymunwn lwyddiant pellach a phob bendith i  Mallt yn y swydd.

7.12.10

Dathlu Côr Meibion Dyffryn Aman yn 20 oed

Mae’r Côr yn ugain blwydd oed eleni ac yn brysur gyda pharatoadau ar gyfer dathlu’r achlysur arbennig hwn.  Cynhelir sawl cyngerdd cyn y Nadolig gyda'r Cyngerdd yr Ugain Mlwyddiant yn cael ei gynnal ar y 26ain o Dachwedd yng Nghapel Bethel Newydd am 7.30 o’r gloch.  Arweinydd y Côr yw Mr. Ian Llywellyn gyda Mr. Berian Lewis yn cyfeilio. Elin Manahan Thomas, y Soprano fyd enwog, a’i gŵr sef y baritôn, Robert Davies, oedd gwestai’r noson.  

Urddo Llywydd Newydd UCAC - Mr Linden Evans

Linden Evans, athro Saesneg yn Ysgol Gyfun Gŵyr, yw Llywydd newydd Cymru ar Undeb Athrawon UCAC.

Yn enedigol o Lanaman, mae Linden Evans yn athro ac yn undebwr profiadol. Treuliodd naw mlynedd yn dysgu Saesneg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn symud i Ysgol Gyfun Gŵyr, lle mae’n Bennaeth Blwyddyn ac yn ddirprwy Bennaeth yr Adran Saesneg.
Mae Linden Evans yn dilyn yn ôl troed un arall o Heol Tirycoed fel Llywydd yr undeb, sef Gail Jones, merch Mair a Wyn Jones (Penlan).
Wrth gael ei urddo yng Nghynadledd Flynyddol UCAC, dywedodd Linden,
“Mae ysgolion Lloegr yn cael eu hariannu’n well nag ysgolion Cymru, o tua £529 y pen. Ar ben hyn, bydd Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Leol yn gwneud toriadau poenus dros y blynyddoedd i ddod. Ein blaenoriaeth ni fel Undeb yw parhau i bwyso ar y Llywodraeth i sicrhau fod plant Cymru’n cael yr un chwarae teg â phlant Lloegr, a bod yr ysgolion yn cael eu hariannu’n ddigonol, nid yn unig i gynnal safonau, ond i alluogi ysgolion Cymru i barhau i ddatblygu a chodi safonau.”
“Ein dyletswydd ni fel undeb yw cefnogi athrawon a darlithwyr; ymladd dros eu buddiannau; brwydro i wella eu hamodau gwaith – ymateb yn gadarn, hyd yn oed yn ffyrnig, os oes anghyfiawnder iddynt. Yn ychwanegol at hyn, mae ein dyletswydd ni i’r iaith Gymraeg yn glir – rhaid gwthio i sicrhau statws teilwng i’r iaith ym mhob agwedd o fywyd, ac yn enwedig mewn addysg.”
“Fel Llywydd yr Undeb am y flwyddyn nesaf, fe wnaf fy ngorau glas i ymladd dros athrawon a darlithwyr, a thros addysg ein disgyblion a’n myfyrwyr, a dros yr iaith Gymraeg.”
Mae Linden Evans hefyd yn un o gyd-sylfaenwyr Côr Meibion Dyffryn Aman, ac yn ymddiddori mewn cerddoriaeth o bob math, yn enwedig roc trwm.
Pob hwyl Linden ar y gwaith a iechyd da i’r dyfodol.

100 oed

Llongyfarchiadau gwresog i Mrs Llinos James a fu’n dathlu ei chanfed penblwydd ar y 13eg o Hydref eleni. Ganwyd Mrs.James yn fferm Llwynderi ac ar ôl priodi fe symudodd i ffermdy Cynghordy, ac wedyn i fferm Tregynllath, lle magwyd y tri plentyn sef, Ronald, Keith ac Averil. Bu’n falch iawn o’i theulu ac mae ganddi ddwy ŵyres, sef Barbara a Caryl, ac fe’i bendithiwyd gyda dau or-ŵyr, sef Catrin a Gareth. Mae Mrs James yn aelod o Gapel Bethel Newydd a bu’n mynychu’r oedfaon yn selog pan oedd ei iechyd yn caniatau. Cofier yn flynyddol am ei hoffter o fod yn bresennol yng Nghymanfaoedd Canu’r Cwm.

Mae Mrs.James yn cael pob gofal yn ei chartref ym Mharc Glanffrwd, y Garnant gan Keith, y mab ac yn agos ati yn byw hefyd mae Ronald, Jean, Averil a Rowland. Ar rhan Cyngor Tref Cwmaman, rhoddwyd basgied o flodau hyfryd gan y Cynghorwr Dafydd Wyn (yn absenoldeb y Maer) a dymunodd bob hapusrwydd i’r dyfodol i Mrs. Llinos James, a dderbyniodd negeseuon wrth y Frenhines a’r Cynulliad ymhlith llu o gyfarchion eraill.

Priodas Dda

Ddiwedd mis Gorffennaf priodwyd Dr.Ceris Meleri Wyn, merch ifancaf Dafydd a Mair Wyn, Heol Tirycoed, Glanaman a Dr.Edmund Hazell, mab hynaf Alan a Maureen Hazell, o Oldham, Manceinion, yng Nghapel Coleg yr Iesu, Rhydychen. Yr oedd yn achlysur arbennig gan fod y ddau wedi bod yn fyfyrwyr yng Ngholeg yr Iesu wyth mlynedd yn ôl.

Yr Offeiriad oedd Canon John Sykes, Caplan i’r Frenhines Elizabeth ac yn gyn-ficar o Oldham, ffrind agos i deulu Edmund. Y Gwas Priodas oedd Paul Halloran, ffrind Edmund, a’r ddwy forwyn briodas oedd Jane Wyn-Hughes (chwaer Meleri) a Sian Elin Davies (ffrind Meleri). Cafwyd gwisgoedd y merched o siop Llandeilo Huw Rees, sy’n byw yn Heol Tirycoed, Glanaman, ac yn ffrind mynwesol i deulu Meleri. Y ddau Dywyswr oedd Gwydion Morgan Wyn (brawd Meleri) a William Hazell (brawd Edmund). Y delynores oedd Carys McMillan (ffrind y pâr ifanc) a’r Tenor Patrick Gilday oedd yr unawdydd yn canu “Pan Fo’r Nôs yn Hir” yn y Gymraeg, gan Ryan Davies, yn ystod y Cofrestru. Sam Chandler (ffrind y Briodfab a’r Briodferch) oedd yr Organydd.
Cafwyd y wledd briodas yng Ngwesty’r Pedwar Pilar ar lannau’r Tafwys ac fe dreuliwyd y mis mel yn Mecsico. Mae Meleri ac Edmund wedi ymgartrefu yn Reading a dymunwn bob hapusrwydd a iechyd da iddynt i’r dyfodol.

OEDFA ARBENNIG yn Y GWYNFRYN

Dydd Sul 17 Hydref cawsom oedfa arbennig yn y prynhawn yng Nghapel y Gwynfryn, Rhydaman. Yn ymuno ag aelodau’r Gwynfryn oedd Gellimanwydd a Moreia, Tycroes.

Mr Nigel Davies, Swyddog Mudiad Ieuenctid Caerfyrddin, oedd yn anerch. Dechreuodd y Gweinidog Y Parch Emyr Wyn Evans drwy weddi a darllen o’r beibl. Yna daeth aelodau o Clwb Hwyl Hwyr ymlaen i gymryd at y rhannau arweiniol, sef Lowri Wyn, Lowri Harries, Mari Llywelyn, Dafydd Llywelyn ac Elan Daniels.
Defnyddiodd Nigel Davies amryw gyfrwng i gyflwyno hanes Saul mewn ffordd hynod ddiddorol oedd yn apelio at bob oedran.
Gorffenwyd drwy weddi gan Y Parchg Dyfrig Rees, Gweindog Gellimanwydd a Moreia.
Wedi’r oedfa trefnwyd cwpanaid o de yn festri’r Gwynfryn. Roedd yn oedfa arbennig ac yn wir fendith fod yn bresennol.

Rwy’n gweld o bell.....................’ Y Gwynfryn, Rhydaman

Fe fu Eglwys y Gwynfryn, Rhydaman o dan arweiniad ei gweinidog, y Parchg. Emyr Gwyn Evans wrthi’n brysur yn cynnal gweithgareddau cenhadol rhwng Medi 21 a 24 eleni.

Dechreuwyd meddwl am yr ymgyrch ar ôl clywed y Dr. Geraint Tudur, Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr, yn annerch Cyngor Eglwysi Rhyddion Rhydaman ar y testun ‘Bywiogi Pethau’.
Y ddau ddigwyddiad ychwanegol i’n gweithgaredd wythnosol arferol oedd cynnal Diwrnod Agored ar y dydd Mercher, ac Oedfa Genhadol ar y nos Wener. Yr wythnos gynt fe fu llawer o’n haelodau’n dosbarthu taflenni cyhoeddusrwydd i bob tŷ yn Rhydaman, cafwyd cyhoeddusrwydd yn Y Tyst a’r cylchgrawn cymunedol The Amman, cafodd pob eglwys leol wybodaeth , ac argraffwyd taflen liwgar chwech ochr yn estyn croeso i’r Gwynfryn. Hefyd codwyd hysbysfwrdd tu allan i’r capel fel bod pawb yn cael gweld amser yr oedfa a’n gweithgareddau wythnosol – y Cylch Hwyl a Gwaith a’r Cwrdd Gweddi/Dosbarth Beiblaidd,
enw’r gweinidog, a rhif ffôn yr ysgrifenyddes. (Ar hyn o bryd, y Gwynfryn yw’r unig eglwys anghydffurfiol Gymraeg yn y dref sy’n cynnig y wybodaeth yma).
Prif fwriad y Diwrnod Agored oedd dangos bod gan ein heglwysi gymdeithas gynnes i’w chynnig i bawb, a dangos hefyd trwy drefnu stondinau Cymorth Cristnogol, Cymdeithas y Beibl, Mudiad Ieuenctid Cristnogol ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg bod yr Eglwys ar waith trwy’r byd i gyd Rydym yn ddigon parod i achwyn mai newyddion drwg sy’n cael y sylw i gyd ar y cyfryngau – ‘Good News is No News’ – ond efallai bod bai arnom ni nad ydym yn ddigon parod i gyhoeddi’r ‘Newyddion da o lawenydd mawr’ sydd gan yr eglwysi i’w cynnig. Er mai nifer cymharol fach ddaeth atom – ‘dyw’r had ddim i gyd yn disgyn ar dir da – eto i gyd wyddom ni ddim beth fu effaith y taflenni a ddosbarthwyd, tybed a fu iddynt godi trafodaeth mewn rhai cartrefi. Efallai mai yn nes ymlaen cawn ni weld dylanwad yr ymdrech.
Roedd yr oedfa nos Wener yn oedfa wahanol. Llawr y capel yn llawn, band modern yn y Set Fawr yn ein harwaith mewn wyth o ganeuon cyfoes, ac anerchiad grymus a herfeiddiol gan Mr. Arfon Jones, Caerdydd. Dechreuodd yr oedfa am saith ac fe gawsom shoc wrth weld ei bod yn chwarter i naw pan ddaeth i ben! Cwestiwn sy’n codi yn aml y dyddiau hyn yw, a yw hi’n bryd i ni ffarwelio â’r oedfa draddodiadol? Yn ôl tystiolaeth yr oedfa arbennig yma, yr ateb yw, Ydyw.
Wel, tybed a oedd yr ymdrech yn werth chweil? Doedd ‘na ddim hanner cant o aelodau newydd yn yr oedfa ar y Sul canlynol, ond yn sicr doeddem ni ddim yn disgwyl hynny. A wnaethom ni’n iawn i efelychu dulliau cyhoeddusrwydd ein byd seciwlar cyfoes? A ydi pobl yn shy o ddod i mewn i gapel y dyddiau hyn, ac hwyrach a fyddai nifer mwy wedi mentro pe bai’r diwrnod agored a’r oedfa wedi eu cynnal mewn neuadd gyhoeddus? Neu a ydyw mwyafrif pobl yr ardal hon erbyn hyn yn hollol ddifater ynghylch crefydd? Holed pob dyn ef ei hun.
Beth bynnag, rydym ni yn y Gwynfryn yn falch ein bod wedi mentro, ac wedi cael llawer o bleser wrth y gwaith. Byddwn yn cymryd amser yn ystod y gaeaf i fesur a phwyso’r sefyllfa. Tybed a fyddai’n bosibl yn y flwyddyn 2011 i eglwysi’r dref i gyd, Cymraeg a Saesneg, i uno a chyd-weithio mewn ymgyrch genhadol arall?

Dathlu 90!

Dymuniadau gorau i Mrs Iris Evans, Heol y Gelynen a ddathlodd ei phenblwydd yn 90oed ar 15 Hydref. Cafodd gwmni llu o ffrindiau a chymdogion ynghyd ag aelodau'r teulu i'w helpu i ddathlu'r achlysur  a chafwyd dathliad pellach yn y Clwb Cinio yng Nghanolfan y Mynydd Du, Dydd Llun 18 Hydref.
Help / Cymorth