28.2.11

Neuadd gerdd yr Hipodrom

Buodd Côr Meibion Llandybie yn perfformio yn Theatr yr Hipodrôm, Parc y Rhath yng Nghaerdydd ar ddechrau mis Ionawr. Y mae theatr yr Hipodrôm yn unigryw iawn oherwydd mae’n rhan o gartref Hywel a Gwyneth Jeffries (gynt o Lanaman). Oddiar 1994 mae’r ddau berson hynaws hyn wedi bod yn cynnal cyngherddau a soirees yn rheolaidd er mwyn codi arian i lu o elusennau. Oddiar 1994 maent wedi casglu tipyn dros £200,000 tuag at achosion teilwng!Mae’r theatr yng nghefn y t ˆy ac yn dal pum deg o fobl ac os nad oes lle i chi yn y theatr cewch eistedd mewn gwahanol ystafelloedd a cewch wylio y cyfan mewn seddau cyfforddus a gwylio’r cyfan ar setiau teledu enfawr. Roedd yn brofiad gwahanol iawn i’r côr.

Thema y noson oedd dathliadau Calan ac fe gafwyd rhaglen amrywiol a diddorol gan y côr a’r artistiaid eraill megis Trystan Griffiths, Catrin Aur, Ann Edwards Davies, Noel Rees a Daloni Roberts. Ar y noson codwyd £4,500 tuag at elusen i helpu athrawon yn ysgolion Zambia, un o wledydd tlotaf y byd. Gwnaethpwyd apêl ar rhan elusen ‘Teacher Aid’ gan y Parchedig Teddy Kalongot. Dywedodd bod yr elusen yn gwneud gwaith ardderchog i wella safonau addysg yn Zambia sydd yn allweddol i ddatblygiad y wlad yn y dyfodol.

Yr oedd yn fraint i’r côr gael perfformio yn y theatr a dymunwn y gorau i Hywel a Gwyneth yn eu hymdrechion canmoladwy i godi arian i’w helusennau.

“Y Dyn ۥNath ddwyn y ‘Dolig”


Yn ystod ail wythnos mis Tachwedd bu nifer o blant ardal Glo Mân sy’n ddisgyblion yn Ysgol Maes Yr Yrfa yn perfformio’r sioe gerdd “Y Dyn ۥNath ddwyn y ‘Dolig” gan Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones yn Neuadd Pontyberem. Cafwyd chwe pherfformiad i gyd a’r cynulleidfaoedd yn ymhyfrydu yn y wledd i’r glust a’r llygad ac yn ymuno yn yr hwyl.

Y gyfarwyddwraig a’r cynhyrchydd oedd Carys Edwards, Pennaeth y Gyfadran Greadigol, a’r cyfarwyddwr Cerdd oedd Nickola Roderick, Pennaeth yr Adran Gerdd. Y coreograffydd oedd Jane Walby, cynllunydd ac arlunydd y set Karen McRobbie a’r Cynorthwydd Cerdd a Gwaith ffilm Meredudd Jones.
Chwaraewyd rhan Mordecai ag arddeliad gan Cellan Evans Blwyddyn 10 a rhoddodd Gareth Thomas Blwyddyn 10 bortread annwyl ac argyhoeddiadol o Sam Crosby. Swynwyd y gynulleidfa gan leisiau swynol Sara Owen, Lowri Heseltine, Liam Bowen a Mirain Lewis a chwaraeai’r prif rannau eraill yn broffesiynol a disgybledig iawn. Roedd cyfraniad y cymeriadau a chwaraeai “Mafia” Mordecai yn rhoi adloniant doniol iawn.
Roedd y gwaith ffilm yn cynnig dimensiwn ychwanegol i’r hwyl a’r sbri a chyfraniad band yr ysgol, yn cynnwys staff a disgyblion, yn gaboledig.
Llongyfarchiadau mawr iawn i bob un a wnaeth y perfformiad yn ddifyr iawn a bythgofiadwy yn ogystal â phroffesiynol.

Llun – Cellan Evans
Llun – Mari Llywelyn ac Elan Daniels

26.2.11

Ysgol Gynradd Blaenau - Dathlaidau'r Canmlwyddiant

Mae’r flwyddyn hon yn flwyddyn arbennig iawn i Ysgol Blaenau gan ein bod yn dathlu canmlwyddiant agoriad yr ysgol. Dechreuom dathliadau’r flwyddyn ar Ddydd Mercher Ionawr 12fed pan gynhalwyd barti i blant yr ysgol yn ystod yr awr ginio. Rydym yn diolch yn fawr iawn i staff ein cegin am y gefnogaeth gan gynnal y parti. Yn ystod y prynhawn, cynhaliwyd wasanaeth gwobrwyo ar gyfer plant yr ysgol a’r Mudiad Meithrin sydd yn cael ei chynnal yn yr ysgol. Daeth seren tim Llanelli Scarlets a Chymru, Dafydd Jones, atom i fod yn bresennol yn ein gwasanaeth, ac fe gyflwynodd pob un plentyn yn yr ysgol gyda rhodd canmlwyddiant. Yn dilyn y gwasanaeth bu y plant wrth eu bodd yn cwrdd a sgwrsio gyda Dafydd Jones, ac yn gofyn am ei lofnod.

Bydd y flwyddyn gyfan yn flwyddyn arbennig i ni yn yr Ysgol, ac mae sawl eitem gyda ni ar werth yn yr ysgol i ddathlu’r digwyddiad. Mae cwpanau canmlwyddiant, platiau canmlwyddiant, tywelion, a chalendrau canmlwyddiant ar werth yn yr ysgol. Os hoffech weld neu archebu’r nwyddau yma, cysylltwch gyda’r ysgol.
Byddem ar Ddydd Sadwrn Ebrill 2ail yn cynnal Diwrnod Agored Swyddogol yn yr ysgol ar gyfer y cyhoedd, ac rydym yn estyn croeso cynnes iawn i ddisgyblion, staff, rhieni, a ffrindiau’r ysgol o’r gorffennol a’r presennol. Bydd sawl eitem yn cael ei drefnu ar gyfer y dydd, rhwng 1pm a 6pm. Bydd yn gyfle wych i bawb, o’r presennol a’r gorffennol i gwrdd a thrafod storiau a hanesion yr ysgol, a chael gweld hen eitemau yr Ysgol rydym wedi casglu at ei gilydd (hen luniau, llyfrau cofrestr, llyfrau cosb ac yn y blaen). Bydd rhagor o wybodaeth am ddiwgyddiadau’r Diwrnod Agored i ddilyn.

Am ragor o wybodaeth am yr ysgol a dathliadau’r canmlwyddiant, gwelwch ein safle we ar http://www.blaenau.amdro.org.uk/

19.2.11

Eisteddfod Rhydaman

Mared Hedd Williams, Rhydaman a Caryl lewis, Maenclochog
y beirniad
Ddydd Sadwrn 22 Ionawr cynhaliwyd Eisteddfod Tref Rhdyaman dan nawdd Cyngor y Dref yn Neuadd y Pensiynwyr, Stryd y Cei.
Y beirniaid oedd Cerdd, Catrin Hughes, Llanelli; adrodd, Rhian Evans, Y Tymbl; Dawnsio, Glynog Davies, Brynaman.
Y Llywydd oedd Y Maer. Y Cyng Rachel Mary Spencer. Fe arweinwyd y cystadlu gan Mrs Mair Wyn, Ivoreen Williams a Mr Mel Morgan.
Braf oedd gweld cymaint yn cystadlu ar y cystadleuthau unigol. Yn wir roedd y safon mor uchel fel ei bod yn llawer gwell na cyngerdd wrth wrando ar nifer o’r cystadleuthau.
Enillydd yr Her Adroddiad oedd Joy Parry, Cwmgwili ac enillydd yr Her Unawd oedd Vernon Maher, Saron, Llangeler.
 Yr enillydd yn am adrodd dan 18 a chanu emyn dan 18 oedd Caryl Lewis o Faenclochog ac ennillodd Mared Hedd Williams o Rydaman yr unawd canu dan 18. 




5.2.11

Ysgol Gymraeg Rhydaman - gwaith Dyngarol


Mae'r ysgol wedi bod yn weithgar yn ddiweddar yn codi arian at achosion da.
Caglwyd 180 o focsys gan deuluoedd yr ysgol i gefnogi’r raglen gymorth i blant Operation Christmas Child. Da iawn bawb. Hefyd cafwyd casgliad tuag at Ty Hafan yng Ngwasanaeth Diolchgarwch yr ysgol. Dyma lun o rhai o'r disgyblion Dosbarth Meithrin yr ysgol yn cyflwyno siec o £400 i Mr. Phil Thomas, Ty Hafan.
Help / Cymorth