27.3.11

Cadair arall i Tudur

Yn y llun gwelir Tudur gyda Gwenno Ffrancon, sydd wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr yr academi.

Penodwyd y Dr Tudur Hallam, sydd ar hyn o bryd yn Uwch ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, i Gadair yn y Gymraeg yn Academi Hywel Teifi.Daw yn wreiddiol o Benybanc, ac mae wedi ymgartrefu bellach yn Foelgastell. Ymunodd a'rAdran Gymraeg yn 1999, ac mae'n arbenigo ym meysydd theori a beirniadaeth lenyddol a'r cyfryngau, gan gynnwys gwaith R.M. Jones a gwaith dramataidd Saunders Lewis. Y llynedd dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis er mwyn ysgrifennu astudiaeth o waith y dramodydd.

Dyma'r ail gadair iddo'i hennill yn ddiweddar, gan iddo gipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a'r Cymoedd y llynedd am ei awdl deyrnged i Hywel Teifi Edwards. Llongyfarchiadau.

Pensiynwyr y Pentref

Cafwyd prynhawn hwylus a diddorol yn yr Adran ym mis Chwefror wrth 1 Stephen Essery gyflwyno cwis ychydig yn wahanol. Yn ei ffordd ddifyr ei hyn cyflwynodd nifer o ymadroddion I’w cwblhau fel `amynedd Job', 'doethineb Solomon' ac ati gan rhoi cyfle i ni fel aelodau ddangos ein gwybodaeth wrth olrhain tarddiad ysgrythurol yr ymadroddion hyn. Bu cryn dipyn o hwyl a chwerthin ynghyd a dysgu yn ystod y prynhawn.


Cafodd yr aelodau ddewis lleoliad gwibdeithiau'r Haf. Mae'n ymddangos fod Gerddi'r Dyffryn a chanolfan siopa Croes Cwrlwys yn ddewisiadau poblogaidd ynghyd a thaith o amgy1ch Sir Benfro, Abertelfi a Chei Newydd, Wells a Streets a hefyd teo yn y 'Celtic Manor', Casnewydd adeg y 'Dolig. Gobelthir am dywydd teg i fwynhau'r lleoliadau diddorol yma.

Llwyddiant rasiwr beic modur

Llongyfarchiadau i Darrel Jones, 35 mlwydd oed, o Dycroes ar el lwyddiant ysgubol ar rasio beiciau modur yn 2010. Fe enillodd yn gyfforddus Dlws Agored Pat Onions i newydd-ddyfodiaid ynghyd A Gwobr Gary Teague am y newydd-ddyfodiad gorau yn nosbarth 600cc.



Fe ddaeth a'r flwyddyn 2010 i ben mewn steil gan ennill Pencampwriaeth Agored Greg Vardy i newydd-ddyfodiaid. I ennill y bencampwriaeth hon fe ddaeth yn gyntaf neu yn ail ym mhob un o'r saith ras gan ennill 62 bwynt yn glir o Leigh Corfield a ddaeth yn ail.


Y mae yn awr yn gobeithio cario ymlaen yn fuddugoliaethus elem ac yn edrych am noddwyr. Felly os oes gan unrhyw un ohonoch ddiddordeb cysylltwch a Darrel ar fyrder.

CYNGHERDDAU EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD, ABERTAWE A'R FRO

ALEX JONES A JOHN OWEN-JONES I AGOR YR EISTEDDFOD
Alex Jones, seren rhaglen The One Show ar BBC 1 a John Owen-Jones, sydd wedi ei alw'r Jean Valjean gorau o holl gynyrchiadau Les Miserables fydd yn agor E i s t e d d f o d Genedlaethol yr Urdd eleni, gyda Chyngerdd Agoriadol arbennig i lawnsio'r wyl ieuenctid.

Fel rhan o'r arlwy o sioeau nos gydol yr wythnos, bydd plant a phobl ifanc ardal Abertawe yn ail-grew

dau ddigwyddiad hanesyddol i'r ardal. Bydd cast y Sioe leuenctid yn edrych yn 61 ar y digwyddiadau a ddaeth i ran Abertawe 70 mlynedd i'r penwythnos yma (19 – 21 Chwefror), yn 'Abertawe'n Fflam' wrth iddynt ail greu'r 'blitz' tri niwrnod a chriw'r Sioe Gynradd yn olrhain hanes llongddrylliad yr Helfeshia ar draeth Rhossili yn 1887 yn 'Melltith yr Helfeshia'.

Mae tocynnau o £10 ac ar gael drwy ffonio 0845 257 1639 neu urdd.org/eisteddfod

Yn cadw cwmni i Alex Jones a John Owen-Jones fydd rhai o ser newydd Cymru – enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel Elgan Llyr Thomas, y ddawnswraig Cerian Phillips a Dawnswyr Talog, Ysgol Gerdd Mark Jermin a Ilawer mwy.

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Rhydaman ac aelod o Aelwyd Penrhyd. roedd Alex yn gystadleuwraig frwd pan yn ifanc ac mae hi'n edrych ymlaen at gael dychwelyd i fro ei mebyd i gael cymryd rhan yn y Cyngerdd Agoriadol.

"Mae'r Urdd yn unigryw i ni fel Cymry a dwimor ddiolchgar am yr holl gyfleoedd ges i o gael mynd ar lwyfan a pherfformio. Ro'n i'n eitha' swil fel plentyn felly roedd cael mynd ar y Ilwyfan fel rhan o barti dawnsio neu ganu yn gymaint o hwb. Heb y cyfleoedd yna, efallai na fyddwn i fyth wedi bod o flaen cynulleidfa pan o'n i'n ifanc."

20.3.11

Cor Meibion Dyffryn Aman - Dathlu 20 Mlynedd

Berian Lewis, Jane Samuel, Robert Davies, Carwyn Jones AC (Prif Weinidgo Cymru), Elin Manahan Thomas, Malcolm Davies (Cadeirydd y Cor), Linden Evans (Ysgrifennydd) ac Ian Llewelyn (Arweinydd y Cor)
Anodd credu ond, oes wir, mae ychydig dros 20 mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu Cor Meibion Dyffryn Aman. Yn ystod y cyfnod hwn maent wedi perfformio mewn bron 300 o gyngherddau ar hyd a lled Prydain, Llydaw, Iwerddon, Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg; wedi diddanu miloedd ac wedi codi llawer iawn o arian at achosion da. Ers y cychwyn, Ian Llewelyn o Lanaman sydd wedi arwain y cor a'i cyfeilydd presennol yw Berian Lewis.
Cafwyd cyngerdd ardderchog i ddathlu'r 20fed penblwydd.

6.3.11

Mrs Dilys Mary Richards

Dymuniadau da i Mrs Dilys Mary Richards, 86 Heol Tircoed, Glanaman, ar ddathlu ei phenblwydd yn 80 oed ar Chwefror 19ed eleni. Ganwyd Dilys yng Nglanaman ac mae wedi byw drwy ei hoes yn y pentref. Mae’n briod gyda Rhythwyn ers 54 o flynyddoedd ac yn fam i Dillwyn sydd yn Athro yn yr Eidal a David sydd yn Feddyg Teulu yn Hwlffordd. Mae ganddi bump o wyrion, sef Andrew, Carys, Owain, Ffion ac Aled. Mae Dilys yn diddori mewn garddio, bowlio dan do a gwau. Mae’n hoff iawn o gadw’n heini ac yn aelod o ddosbarth “Keep Fit”, ac yn mwynhau gwyliau tramor a mordeithiau. Hefyd mae Dilys yn Gadeirydd “Calon i Galon”, ac yn Ysgrifenyddes Ffrindiau Ysbyty Dyffryn Aman. Mae’r capel yn bwysig iawn yn ei bywyd ac mae’n Gyd-Arolygwr yng Nghapel y Tabernacl. Mae hi’n aelod gweithgar o Bwyllgor Cymorth Cristnogol Cwmaman ac yn gwau blancedi i wledydd mewn angen. Llongyfarchiadau Dilys ar gyrraedd y penblwydd arbennig yma gan obeithio y mwynhewch y diwrnod a dymunwn iechyd da i chwi i’r dyfodol.

Pythefnos Masnach Deg 2011

Bydd Pythefnos Masnach Deg eleni ar Llun 28 Chwefror – Sul 13 Mawrth – ac mae Diwrnod Y Trwynau Coch Comic Relief ar 18 Mawrth.
A fyddai unrhyw un sy’n trefnu unrhyw ddigwyddiad neu sydd angen cymorth ar gyfer cynllunio digwyddiad, gysylltu ag Edwyn Williams
cyn gynted a phosib – edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk
Os oes yna ysgolion sy’n cynllunio digwyddiadau, er nad ydynt yn agored i’r cyhoedd a fyddech mor garedig a gadael i ni wybod. Bydd hyn yn ein cynorthwyo pan yn adnewyddu ein cais am Statws Tref Masnach Deg.
Os hoffech i ni hyrwyddo eich digwyddiad fel rhan o rhaglen Pythefnos Masnach Deg yna gadewch i ni  wybod.
Rydym yn gobeithio cynnal ein Banana Split Enfawr blynyddol yn yr Arcade unwaith eto. Hefyd bydd y ffilm “Small Revolutions” ar gael i’w dangos. Mae’r ffilm yn cynnwys Diwrnod hwyl Ysgol Dyffryn Aman ac yn dilyn y beicwyr oedd ar y daith 500 milltir Masanch Deg wrth iddynt fynd o i-Smooth i Ganolfan y Mileniwm, Caerdydd.
Cysylltwch â Phil os hoffech ei dangos – mae tua 10 munud o hyd. Am fwy o wybodaeth am Pythefnos Masnach Deg, neu i archebu bunting masnach deg i helpu creu record byd a hyrwyddo neges Masnach Deg ar draws y byd yna ewch i www.fairtrade.org.uk

Cymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch

Eleni, er gwaethaf pawb a phopeth, bu’n bosibl i Gymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch gynnal noswaith i Ddathlu’r Nadolig yng Nghapel y Gwynfryn. Bu adeg y paratoi a’r ymarfer yn anodd iddynt,  fel i bob sefydliad arall. Rhaid oedd dileu sawl ymarfer, oherwydd yr eira a’r iâ, a chyfarfod pan oedd modd gwneud hynny, gan dybed a fyddai’r gyngerdd yn cael ei chynnal, ac a fyddai pobl yn troi allan i wrando. Ond yn wir i chi, fe wellodd y tywydd i raddau, ac fe gasglodd cynulleidfa ynghyd.
Dymuna’r côr ddiolch o galon iddynt am yr ymdrech a’r gefnogaeth, yn arbennig yn yr amgylchiadau eleni.
Bu’r gweddiau o dan ofal y Parchedig Maldwyn
John. Y llefarydd eleni oedd Alun Lloyd, a gyflwynodd yr eitemau yn llyfn a di-ymdrech. Cyfrannodd hefyd ddetholiad o benillion Nodoligaidd gan I.D. Hooson. Parti o Ysgol Bro Banw oedd yr artistiaid cyntaf i ymddangos, ac fel fydd plant yn gwneud, yn rhoi’r cyfan o galon. Tair cân am y Nadolig oedd eu rhaglen, a’r canu deulais yn sicr a chanmoladwy. Gosodwyd sylfaen o safon i’r noson. Dwy delynores, Megan Martin a Rhiannon Jones oedd yr artistiad eraill, y ddwy yn ddisgyblion yn Ysgol Maes yr Yrfa. Hyfryd oedd clywed sain gwahanol. Deuawdau oedd ganddynt, yr arddull yn ymestyn o fiwsig cyfoes yn null Y Blues i ddull y garol enwog, Tawel Nos, yr amrywiaeth yn dod a ffresni i’r rhaglen. Dymunwn pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol. Roedd y côr ar ei orau, er bod sawl lle gwag oherwydd afiechyd, damweiniau, problemau teuluol ac ati, and bu’r gweddill ar eu gorau, a’r ymdrech yn ffafriol. Bu canmol mawr ar y dewisiadau, oedd yn ddetholiad o’r hen garolau gwerinol hyd at rhai cyfoes gan meistri fel Karl Jenkins a John Rutter. Fel gyda’r pwdin Nadolig, mae cynhwysion o’r un fath yn gallu troi allan naill neu’n ddiflas, neu yn flasus tu hwnt. Cymysgedd blasus oedd i’r rhaglen eleni.

Bydd y gynulleidfa yn mwynhau ymuno yn y canu, a chawsant hwyl arbennig, y noson hon. Mae arweiniad sicr a serchog Indeg Thomas yn tynnu’r gorau allan o bob un, ac mae’r ddwy gyfeilyddes, Olwen Richards ar y piano a Sally Arthur ar yr organ yn gefnogaeth teilwng iddi hi. Wedi’r holl drafferthion, cawson noson hwylus dros ben, un a roddodd baratoad hwylus i’r wyl. Er ei bod yn fis
Chwefror yn awr, nid yw’n rhy hwyr i’r côr ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Arddangosfa o Faneri Cymreig

Bydd yr arddangosfa uchod i’w gweld yn y Ganolfan drwy gydol mis Mawrth. Dyma ddathliad o faneri Cymru yn cynnwys detholiad bach o’r cannoedd o faneri a wnaed gan bobl o Gymru ac ar gyfer pobl Cymru. Buont yn arwain gorymdeithiau a gwrthdystiadau brwd fel Streic y Glöwyr 1984/5 a’r Ymgyrch hanesyddoli roi Pleidlais i Fenywod a  byddant yn ymddangos ochr yn ochr â baneri eraill a grewyd i gyrff anwleidyddol ond rhai tra dylanwadol fel Ysgolion Sul.
Trefnwyd yr Arddangosfa gan Lyfrgell y Glöwyr sy’n rhan o Brifysgol Cymru Abertawe.
• Cofiwch am:
- y Clwb Cinio i’r rhai dros 50 bob dydd Llun
- y Cynllun Bancio Amser,
- y gwahanol ddulliau o gefnogi’r Ganolfan drwy ymaelodi am £2 y flwyddyn, trwy danysgrifio a/neu ymuno â’r Clwb Cant.

Cysylltwch â’r Ganolfan am fanylion pellach am unrhyw un o’r uchod – Ffôn 01269-823400.

Newid Byd

Tybed faint o ddarllenwyr Glo Mân a fu’n gwylio’r raglen “O’r Galon” yn ddiweddar? Portread gafaelgar o’r offeiriad, y Parchg Aled Huw Thomas oedd dan sylw wrth iddo adael ei waith fel caplan yn y fyddin i fod yn ficer plwyf yn Llandudoch. Bu’n gaplan mewn lleoliadau peryglus yng Ngogledd Iwerddon ac Irac.
Er i Aled gael ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd - yn y Betws mae gwreiddiau ei fam, Hilda sydd yn briod a’r Parchg Roydn Thomas ac yn byw yn Llandrindod Wells. Bu siop crydd am flynyddoedd gyda’i hen ddadcu yn Heol y Parc y Betws. Dymunwn yn dda iddo yn ei swydd newydd.
Help / Cymorth