30.4.11

Bedydd - Rhydaman



Yn ystod Oedfa fore Sul Ionawr 30 yn Ngellimanwydd  bedyddwyd Elan Wyn Jones, merch Nia a Gareth Jones, Tycroes. Yna yn oedfa deuluol bore dydd Sul Mawrth 13 bedyddwyd Ifan Wyn Jones, mab Nerys a John Jones, Hopkinstown, gynt o Waunfron, Y Betws.
Cafodd y ddau eu bedyddio gan Y Parchg Dyfrig Rees.

Mae Elan ac Ifan yn gefnder a chyfneither ac yn wyrion i Ann ac Wynford Jenkins, Rhodfa Brynmawr, Rhydaman. Dymunwn pob bendith I’r ddau fach


29.4.11

Priodas Aur - Betws

Llongyfarchiadau mawr i Cecil ac Audrey Joens, Siop y Pentref ar ddathlu eu piodas Aur. Daw Cecil yn enedigol o Felindre ac Audrey o Maes Ty Clyd, Heol y Garn, Betws. Priodwyd Cecil ac Audrey yng Nghapel newydd ar Ebrill 1af 1961 a bendithwyd hwy a dau fab, Bleddyn a Cenwyn. Mae ganddynt nifer o wyrion ac yn cael amser hapus yn eu cwmni.
Dathlwyd yr achlysur gyda teulu a ffrindiau yng Nghlwb Rygbi'r Betws. Dymunwn pob bendith a iechyd iddynt wrth droedio tua'r diemwnt.

Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd - Tycroes


Llun o waith llaw Norma Ulloa

Yn ôl ein harfer daeth nifer o wragedd o gapeli Bethesda, Caersalem, Moreia, Pisga ac Eglwys Sant Edmwnd, Tycroes ynghyd i gynnal oedfa arbennig Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd a hynny ym Moreia ar brynhawn Gwener, Mawrth 4ydd, 2011. Croesawyd y gwragedd gan Mrs. Eiry Davies. Mrs. Wynona Anthony oedd wrth yr organ.

‘Pa sawl torth sydd gennych?’ oedd testun y gwasanaeth a’r rhaglen wedi ei pharatoi gan wragedd gwlad Chile. Cafwyd yn gyntaf fraslun o’r wlad – ei daearyddiaeth, ei hanes, ei thraddodiadau a’i chrefydd. Gwlad yn ymestyn am 2,640 o filltiroedd ar arfordir y Môr Tawel ar gyfandir De America yw. Diddorol oedd clywed bod Chile yn wlad o wrthgyferbyniadau – mynyddoedd yr Andes, dyffrynnoedd ffrwythlon, llynnoedd a fforestydd trofannol, llosg fynyddoedd, mynyddoedd ia a hefyd darn o anialwch mawr. O ganlyniad mae’n gyfoethog yn ei hadnoddau naturiol, e.e., gwlad Chile yw prif gynhyrchydd copr y byd. Mae’n allforio bwydydd, gwinoedd, coed a nwyddau i’r holl fyd. Eto, er yr holl gyfoeth, mae 12% o’i phoblogaeth yn dlodion ac yn eu mysg plant, yr hen oed a gwragedd. Gwelir hefyd bod afonydd y wlad wedi eu llygru â chemegau a bod cwmwl o ‘smog’ yn hofran uwchben ei phrifddinas Santiago.

Oherwydd y tlodi daeth rhai o wragedd Chile ynghyd yn 1970 i geisio ennill ychydig o arian drwy wneud gwaith llaw – gwau, crochet a brodwaith. Aeth hyn o nerth i nerth a dywedir gan un o’r gwragedd bod ei henillion hi wedi galluogi ei phum plentyn ac un ŵyr ddilyn cwrs addysg bellach.

Ymysg y gwragedd oedd Norma Ulloa, gwraig dalentog. Gofynnwyd iddi lunio a chwblhau gwaith llaw arbennig. A gwelir llun o’i gwaith ar glawr y rhaglen. Cyn cychwyn ar ei thasg bu Norma yn myfyrio’r Gair ac yn edrych o’i chwmpas am ysbrydoliaeth. Yn y campwaith gwelir y Crist yn gweddïo yng Ngardd Gethsemane a’r disgyblion yn cysgu’n drwm. Mewn rhan arall gwelir y Crist yn gwella’r cleifion. Yna, ar y gwaelod dwy olygfa gyffredin i Norma sef cae o ŷd melyn yn symud yn yr awel ac yna ceffylau yn dyrnu’r ŷd. Yn olaf yn y canol gwelir yr Iesu â’r bump torth haidd a dau bysgodyn – sef testun y gwasanaeth.

Yn anffodus, yn dilyn y ddeargryn fawr yn Chile yn 2010 bu farw Norma o glefyd y galon. Drwy wrando ar nifer o ddarlleniadau Beiblaidd a gweddïau daethom i gyd i sylweddoli beth oedd amcan a phwrpas y cwestiwn ‘Pa sawl torth sydd gennych?’ Gofyna’r Efengyl i ni fel unigolion weld yr angen sydd yn y byd a mwy na hynny, gweithredu er lleddfu poen a thlodi.

Eleni eto cawsom fendith o ddod at ein gilydd ac i uniaethu ein hunain â gwragedd Chile.

Cwrdd y Senana - Tycroes

Miss Ruth Bevan
Nos Iau, Mawrth 10fed death nifer o wragedd Eglwysi Bedyddiedig Adran Rhydaman ynghyd i gapel Bethesda, Tycroes. Llywyddwyd gan Mrs. Dawn Richards, Llanedi. Y siaradwraig wadd oedd Miss Ruth Bevan, Rhydaman.
Mrs. Maud a Mrs. Ray Jones, Bethesda gymerodd at y rhannau arweiniol gan greu naws hyfryd i’r oedfa. Yn anffodus, oherwydd anhwylder, methodd Mrs. Eilir Watkins, yr ysgrifennydd ac organydd Bethesda, fod yn bresennol. Ond fe ddaeth y Parch. John Talfryn Jones i’r adwy gan groesawu’r chwiorydd i Fethesda a chyfeilio ar yr organ. Mawr yw ein dyled iddo am ei barodrwydd i’n cynorthwyo bob amser.
Coffawyd am y galarwyr drwy weddi fer a chanwyd yr emyn ‘Einir’. Cyflwynodd y llywydd y siaradwraig Ruth Bevan gan gyfeirio at ei amrywiol dalentau fel cyn-brifathrawes ac hefyd ei chyfraniad at wasanaeth yr Eglwys.
Soniodd yn gyntaf am rôl y gwragedd yng ngwaith yr Efengyl gan gyfeirio at nifer o enghreifftiau o wragedd da a drwg a geir yn y Beibl. Yna cododd destun o’r darlleniad agoriadol sef hanes y wraig a dorrodd y blwch ennaint dros yr Iesu. Er i rhai feirniadu’r weithred fel act gostus a gwastraffus gwelodd yr Iesu hi fel gweithred dda gan ddweud y byddai llawer yn sôn am y weithred hon ar hyd yr oesoedd ac ar draws y byd i gyd. I Ruth roedd hon yn fwy na gweithred dda, yn wir roedd yn weithred brydferth. Cafodd yr anerchiad dderbyniad gwresog gan y gynulleidfa a phawb wedi teimlo mae da oedd bod yno.
Terfynwyd gyda’r diolchiadau gan Mrs. Mary Rees ac roedd pawb yn unfrydol unfarn ein bod wedi cael bendith fawr yn yr oedfa.

            Bydd y cwrdd nesaf o’r Senana yng Nghapel Amor, Llanfynydd ym mis Mehefin.

25.4.11

Cwis Chwaraeon Trawsffiniol - Brynaman

Trefnwyd cwis chwaraeon ar y cyd rhwng Menter Bro Dinefwr a Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot ar 10 Mawrth yng Nghlwb Rygbi Brynaman. Alun Wyn Bevan, y sylwebydd enwog yn wreiddiol o Frynaman oedd cwisfeistr y noson. Braf oedd gweld nifer o dimoedd yn cystadlu. Llongyfarchiadau i’r tim buddugol sef tim o glwb golff Garnant. Diolch i bawb am eu cefnogaeth, ac edrychwn ymlaen i cwis chwaraeon trawsffiniol 2012

23.4.11

Cerdded â thrwynau coch!!!


Efallai i rai o’n darllenwyr gael sioc ar brynhawn Gwener, 18 Mawrth, os gweloch chi bedwar person wedi eu gwisgo mewn coch gwyn a du a chanddynt  bobi drwyn coch, yn rhedeg ar hyd y ffordd o’r Ganolfan lawr drwy’r cwm i gyfeiriad Rhydaman.  Roedd Scott, Eleri, Ffion a Siân wedi cael eu noddi i redeg  Frynaman i Rydaman ar ddiwrnod Trwynau Coch. Roedd y dechrau’n hawdd - rhedeg  lawr y dyffryn - ond o..o..o  y sioc o sylweddoli, ar ddiwedd y 6 milltir, y byddai rhaid iddyn nhw gerdded bob cam yn ôl hefyd!!!
Diolch byth – dim ond tynnu coes oedd y sawl a ddywedodd hynny wrthyn nhw a chwarae teg i’r pedwar dewr, fe godon nhw gyfanswm o £500 at yr elusen.

21.4.11

Caffi Hoffi Coffi


Ar ddydd Iau 17 Mawrth 2001 roedd y newyddiadurwr teledu, a’r cyflwynydd Huw Edwards, yn cwrdd â Chyfarwyddwr newydd Academi Hywel Teifi, ac yn agor Hoffi Coffi yn swyddogol.

Mae’r caffi newydd yn fan cyfarfod newydd i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg ar gampws Prifysgol Abertawe, ac yn lle iddyn nhw gymdeithasu a chwrdd yn ddyddiol.

Er cof annwyl am ei dad, Hywel Teifi, bydd Huw yn dadorchuddio murlun o awdl fuddugol yr Athro Tudur Hallam, o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol 2010.

Mae’r fenter hon yn cefnogi amcanion Academi Hywel Teifi - a enwyd ar ôl Yr Athro Hywel Teifi Edwards a dreuliodd ei yrfa academaidd ym Mhrifysgol Abertawe  - i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg, ymchwil amlddisgyblaethol gan hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.

20.4.11

Chweched Dosbarth Hael

 Stephanie, Tomos, Joseff ac Elen ar ran prif swyddogion Ysgol Dyffryn Aman yn cyflwyno siec o £200 i Mr Peter Comley ar ran Apel 'Race for Jake' gyda'r arian yn mynd tuag at ymchwil i Duchenne Muscular Dystrophy.  Codwyd yr arian mewn casgliad yn y Gwasanaeth Carolau a gweithgareddau Chweched Dosbarth.

Stephanie a Ffion - dwy o brif swyddogion Ysgol Dyffryn Aman yn cyflwyno siec o £200 i Mr Phil Thomas Ty Hafan.  Codwyd yr arian yng Nghinio Dawns y Chweched Dosbarth.

19.4.11

COGYDD Y DYFODOL CYMRU (FUTURE CHEF)


Llongyfarchiadau mawr i Steffan Davies, Parc y Llan, Llandybie ar ennill cystadleuaeth FutureChef Cymru 2011  yng Nghastell Nedd. Wrth ennill y gystadleuaeth roedd Steffan yn mynd i'r rownd Genedlaethol Brydeinig i gynrychioli Cymru a chafodd  ei chynnal ar 21 Mawrth yng Ngholeg Kingsway, Westminster.
Coginodd Steffan mecryll wedi ei ffrio gyda chacen bysgod coley a chorgimwch ar wely o jam chili, ac i ddilyn brownie siocled a chnau gyda hufen toffi.
Mae Steffan yn ddisgybl ym mlwyddyn 12 yn astudio Lefel A yn Tregib, Llandeilo.
Eleni gwelwyd record o ran yr ysgolion a gofrestrodd ar gyfer cystadleuaeth "FutureChef". Roedd 739 ysgol a 7897 o fyfyrwyr yn cystadlu. Yr ennillydd wedi cystadleuaeth agos o safon uchel oedd Jessica Higgins o Bromsgrove.

Neuadd y Pentre, Garnswllt

Roedd Nos Wener 11 Mawrth yn Noson Agored yn y Neuadd. Rhoddodd y Cyng Alun Lewis fras-ddarlun o hanes codi'r neuadd. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn yr awyr agored yn 1947 ac wedyn yn Festri Capel Noddfa.

Y neuad dyn unig adeiladwyd ar y cychwyn, yna adeiladwyd cegin, ystafelloedd eraill a chawodfa. Roedd tim y Cathan Stars a chlybiau eraill yn ei ddefnyddio.

Hyfryd oedd gweld Emyr Davies yn bresennol, oherwydd bu ei dadcu yn un o'r bobl prysur a frwydrodd yn gryf i gael neuadd yn Garnswllt. Cofiwn hefyd am ein cyndadau a fu yn rHoi arian allan o'u cyflog yn y gwaith glo tuag at y neuadd. Ar y diwrnod yr agorwyd y neuadd claddwyd tadcu Emyr, felly roedd yn ddiwrnod cymysg o hapusrwydd a thristwch.

18.4.11

Ysgol y Bedol

Yn y llun gwelir Jonathan gyda’i gadair hardd ac hefyd y ddau Dywysydd sef Georgette Dorritt ac Adam Thorne.
Cynhaliwyd Eisteddfod Gwyl Dewi lwyddiannus iawn yn yr Ysgol ar Fawrth y Cyntaf gyda’r disgyblion yn cymeryd rhan wrth ganu a llefaru yn unigol ac mewn corau a bu llu ohonynt hefyd yn cystadlu ar y gwaith cartref.  Yr oedd y plant wedi cael eu paratoi yn drwyadl ac fe fu sawl un ohonynt fel unigolion ac aelodau  o’r Côr wedyn yn cystadlu yn Eisteddfod Gylch yr Urdd yn Rhydaman.  Cafwyd hwyl arbennig wrth gymeryd rhan a llongyfarchwn bawb a wnaeth ei gorau glas i fod yn rhan o’r gweithgareddau.  Diolch yn fawr i  Mrs Donna Williams a holl athrawon yr ysgol am eu paratoi ac i’r ddau arweinydd sef Gareth James a Phil Bowen.  Wrth fwrdd y beirniad eleni roedd Marjorie Rodgers, Marlene Thomas a Mair Wyn.  Pinacl y dydd oedd y cadeirio dan ofal Mari Jones ac fe gafwyd teilyngdod.  Yr enillydd eleni oedd bachgen am y tro cyntaf yn hanes cadeirio Ysgol y Bedol sef Jonathan Williams a chafwyd clod go uchel am ei waith arbennig i’r gystadleuaeth.


Cymorth Cristnogol Cwmaman

Daw mis Mai eleni eto a bydd yn amser i bawb ohonom feddwl sut y gallwn gefnogi Cymorth Cristnogol.  Mae’r pwyllgor lleol yn y Cwm yn llawn syniadau am godi arian ac yn gofyn yn daer i drigolion Cwmaman eu helpu unwaith yn rhagor. Bydd yr wythnos yn cychwyn ar yr 8fed o Fai gyda’r Gwasanaeth Cymorth Cristnogol agoriadol yn cymeryd lle yng Nghapel Bethesda, Glanaman ac yn dilyn bydd yno wythnos llawn gweithgareddau.  Felly o’r 8fed hyd at y 15ed o Fai bydd hon yn Wythnos bwysig iawnn a cheir mwy o fanylion yng Nglo Mân mis Mai.  Dymuna’r pwyllgor ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar hyd yr amser, ac  maent yn siwr y bydd pobl Cwmaman yn gwneud eu gorau glas unwaith yn rhagor i helpu’r bobl hynny sydd yn llai ffodus na ni.

12.4.11

‘Bytes i’w Blasu’

Cynhaliwyd cystadleuaeth ffotograffig i aelodau’r grŵp yn ddiweddar.  Fe’i trefnwyd gan Mr Allan Frost, - ffotograffydd proffesiynol o ‘Ajay Photography’.  Thema’r gystadleuaeth oedd ‘Oerfel’, a dyfarnwyd Mr Morlais Pugh yn fuddugol, Mr Nolan Williams yn ail a Mr Meirion Hopkins yn drydydd.  Llongyfarchiadau i’r tri. Mae ‘Bytes i’w Blasu’ yn cwrdd ar ddydd Llun a dydd Iau am awr o hyfforddiant, - un i un, yng nghanolfan Y Maerdy yn Nhai’rgwaith.  Croeso i chi alw heibio am sgwrs, ac mae ambell le ar gael o hyd.

Rhif ffôn y Canolfan y Maerdy yw: 01269 826893.

Merched y Wawr Cangen GwaunGors

Croesawyd yr aelodau yn gynnes i gyfarfod arbennig ar Chwefror 21ain, gan ein Llywydd Mrs Bethan Williams, a phleser mawr iddi oedd croesawu aelod newydd atom sef Mrs Sandra Rees.  Cafwyd munud o dawelwch i gofio am un o’n haelodau sef y ddiweddar Mrs Betty Roderick Davies  Cawsom noson i gofio am Ddewi Sant ac i ddathlu ein Cymreictod.  Diolch i Bethan am baratoi gwasanaeth byr a phwrpasol â rhai o’r aelodau yn cymryd rhan.  Diolch hefyd i’r aelodau am baratoi lluniaeth â blas Cymreig, wrth gwrs!Cafwyd noson lwyddiannus iawn. 
Yna ar Fawrth 1af aethom i gael pryd o fwyd i westy’r ‘Dyffryn’ i ddathlu dydd ein Nawdd Sant. Diolch yn fawr iawn i Mrs Pamela Jones am wneud y trefniadau

Hen-oed

Cafwyd noson wrth fodd yr aelodau ar yr ail Fawrth, pan ddaeth disgyblion yr ysgol Gynradd i ddiddanu.  Cyflwynwyd y plant yn fedrus iawn gan Mrs Sandra Rees.  Cawsom amrywiaeth o eitemau ganddynt unigolion yn canu, a chanu mewn côr llefaru, chwarae offerynnau, a dawnsio disgo egniol iawn.  Gwledd i’r glust a’r llygaid. a llawer o’r plant wedi taclu ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi  Diolch yn fawr i bawb o’r Prif Athro Mr K. Morgan, Mrs Rees y cyfeilyddion a’r cynorthwyr dosbarth a’r plant wrth gwrs, ynghŷd â’u rhieni a mamau a thadau -cu  Daeth y noson i ben drwy ganu Hen Wlad Fy Nhadau.  Melys moes mwy

11.4.11

Cwrdd Teuluol Gellimanwydd

Cariad oedd testun yr Oedfa Deuluol bore Dydd Sul 13 Mawrth. Hyfryd oedd gweld y plant yn gwneud eu rhannau mor dda. Yn wir roedd nifer ohonynt yn cymryd rhannau blaenllaw am y tro cyntaf a phob un mor broffesiynol.
Mrs Catrin Llywelyn, un o athrawon Ysgol Sul y Neuadd, oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth.  
Wedi'r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu drwy rannu cwpanaid o de yn y Neuadd.
Yn yr hwyr aeth aelodau Gellimanwydd draw i Gyrddau Pregethu'r Gwynfryn ble roedd y Parchg Ddr Geraint Tudur yn pregethu

10.4.11

Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman

 Gareth Jones, Prif Lyfrgellydd Rhydaman, yn dangos rhai o lyfrau’r Llyfrgell i Calvin Davies, Llywydd y Cylch Cinio
‘Dim Ond Dwy’ – Rhian Morgan a Llio Sulyn – yn diddanu’r gwesteion

Cynhaliwyd Cinio Gŵyl Ddewi Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, nos Iau, Mawrth 3ydd. Roedd cynulleidfa gref o dros chwedeg yn bresennol gan gynnwys aelodau, gwragedd a ffrindiau. Yn bresennol hefyd oedd Mr. Gareth Jones, Prif Lyfrgellydd Rhydaman gan mae’r llyfrgell, yn garedig, oedd wedi noddi ein diddanwyr am y noson a hynny ar Ddydd Rhyng-genedlaethol y Llyfr.
Cafwyd amser hwylus a difyr yng nghwmni ein diddanwyr –Llio Sulyn a Rhian Morgan o gwmni ‘Dim Ond Dwy’ – gyda’u portreadau a dychan o’r fam Gymreig a hynny ar lafar a chân.
Ein llywydd am y noson oedd Calvin Davies, Rhydaman a’r Is-lywydd Arnallt James, Y Betws a gyflwynodd y diolchiadau. Offrymwyd y gras bwyd gan y darpar Is-lywydd, Trefor Evans, Llandybïe.

Ym mis Ebrill fe fyddwn yn wahoddedigion i Gylch Cinio Tybïe i ginio a gynhelir yn y Clwb Golff Glynhir, Nos Fercher, Ebrill 13eg am 6.30 erbyn 7.00 o’r gloch. Y prif westai fydd y cyfreithiwr Elfan Bell.

8.4.11

NOSON HUD A LLEDRITH

Ymunwch a disgyblion Grwp Celf y Mynydd Du yn yr ocsiwn o'u gwaith a'r arddangosfa "Hud a Lledrith", sef oglygfeydd o ardal Y Mynydd Du a'i bobl/anifeiliaid a gynhelir ar Nos Wener 8ed Ebrill am 7 o'r gloch. Yr ocsiwner fydd Roy Noble a'r bwriad yw codi arian i'r Gnaoflan yn ogystal a rhoi cyfle i bobl brynu gwaith arlynnwyr lleol i harddu muriau eu cartrefi.
Mae gwaith yr 19 arlunydd lleol yn werth eu gweld a thebyg bod llawer ohonoch wedi gweld eu gwaith eisoes ar furiau y Ganolfan dros y misoedd diwethaf.

6.4.11

Y Cylch Meithrin - Betws

Mae Cylch Meithrin Y Betws, sydd yn cyfarfod yn Festri Capel Newydd yn dal i ffynnu, a hynny dros ddeg ar hugain o flynyddoedd. Hyfryd oedd gweld y plant yn eu gwisgoedd traddiodadol yn dathlu Gwyl Ddewi ac yn mwynhau y pice ar y maen. Cawsant hwyl hefyd wrth ddathlu diwrnod y trwynau coch yn coginio cacennau. Mawr yw gofal a theyrngarwch yr "Antis" Rhian, Shan a Sharon drostynt. Dymuniadau gorau wrth edrych ymlaen at ddathlu'r deugain.

5.4.11

Cawl Gŵyl Ddewi

Mrs. Mandy Rees, Mrs. Morfudd Gravelle, Y Parch. Ganon John Gravelle a’r Parch. Dyfrig Rees

Chwiorydd Moreia a fu yn gyfrifol am baratoi’r cawl

Daeth pobl y pentref ynghyd eleni eto i ddathlu gŵyl ein nawdd sant gydag aelodau capel Moreia, Tycroes. Mi roedd gwledd yn disgwyl fel arfer gyda chawl a pice bach, bara brith ac ati. Mrs. Eiry Davies a Mrs. Mary Thomas ynghyd â nifer o chwiorydd Moreia oedd yn gyfrifol am y bwyd bendigedig. Y Parch. Ganon John Gravelle a’i briod Mrs. Morfudd Gravelle oedd y gwesteion. Cafwyd gan y Canon dipyn o hanes Hywel Dda. Gan ein bod fel Cymry newydd ddweud ‘ie’ dros hawliau am fwy o ddeddfi drosom ein hunain soniodd am sut y bu hi i Hywel Dda gyflwyno ei ddeddfau teg gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Roedd yr hanes yn hynod ddiddorol. Y Parch. Dyfrig Rees lywyddodd y noson. Gwnaed dros £325 o elw a’r cyfan yn mynd i achosion dyngarol.

4.4.11

Dewi Pws ein Bardd ni

I ddathlu Gŵyl Ddewi fe aeth Dewi Pws bardd plant Cymru o amgylch ysgolion Dyffryn Aman a’r Tywi i wneud sesiynau barddoni gyda’r disgyblion. Fel allwch ddychmygu fe gafodd pawb hwyl yn cynnwys yr athrawon! Fe ddysgwyd am odli a sut i ganu un neu ddau gân ar y banjo! Hoffai’r Fenter ddiolch yn fawr i Dewi ac i’r ysgolion am wneud y trefniadau cafwyd amser hwylus dros ben.

3.4.11

Ysgol Dyffryn Aman yn ennill Eisteddfod Bwrdd yr Iaith

Bu aelodau Clwb Clecs Ysgol Dyffryn Aman yn cystadlu yn erbyn Ysgolion Pantycelyn, Tregib a Dyffryn Taf mewn Eisteddfod a drefnwyd gan Fwrdd yr Iaith ar yr 11eg Mawrth 2011 yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin.  Enillwyr yr Eisteddfod oedd disgyblion Ysgol Dyffryn Aman

TUDALEN FLAEN MIS EBRILL

Help / Cymorth