31.5.11

Wili Aman yn 80 oed - Brynaman

Ar ddydd Iau, 28 Ebrill, fe ddathlodd un o gymeriadau mwyaf hoffus Brynaman ei benblwydd yn 80 sef Wili Aman Jones o Heol y Glyn ers blynyddoedd bellach ond gynt o Heol Newydd. Mae Wili wedi bod yn ffyddlon iawn i’w bentref drwy ei oes, yn aelod ffyddlon ac yn ddiacon yng nghapel Moriah a chysylltiad agos a hir ag Aelwyd Amanw a hefyd cangen leol o Blaid Cymru.

Cafodd barti i’w gofio yng Nghanolfan y Mynydd Du ar y nos Iau lle death nifer fawr o’i ffrindiau, ynghyd â’i nai Huw a’i deulu i uno yn y dathlu.
Collodd Wili ei fraich dde mewn damwain yn y gwaith glo pan yn grwtyn ifanc ond ni adawodd hyn i’w rhwystro rhag byw bywyd llawn a diddorol.

Yn ystod y parti darllenwyd cyfarchion barddonol iddo o waith Tegwyn Jones o Aberystwyth ar ran Tegwyn , ei wraig Beti (Morgan gynt) a’u mab Rhys.

I Wili Aman
I’r Brenin o Frynaman
Anfonwn ambell Driban;
‘D oes neb a haedda hynny’n fwy
Drwy’r plwy’ na Wili Aman.

Yn ddiwyd, haf a gaea’
Ymdrechodd hyd yr eitha’
I warchod wastad rhag bob cam
Y fflam sydd ym Moreia.

Ei fywyd roes yn gyfan
Er lles ei hoff Frynaman;
Ni fu undyn i’w ardal wiw
Mor driw â Wili Aman.

I Wili, wr bonheddig
Anfonwn yn garedig
Ein dymuniadau gorau’n rhwydd
Ar ei benblwydd arbennig.

Unwaith eto, ar ran ei holl gyfeillion ym Mrynaman a thuhwnt, llongyfarchion i ti Wili a phob bendith i’r dyfodol.

Merched y Wawr Brynaman

Ar Fawrth 11eg ,bu’r aelodau’n dathlu Gŵyl Ddewi. Eleni, yn wahanol i’r arfer,aethant allan am bryd canol dydd i’r Abercrave Inn. Y gŵr gwâdd oedd Mr. Euros Jones Evans, Ystradowen, ac roedd yn braf cael ei gwmni ef a’i wraig Pat. Yn dilyn y wledd(wir!) cafwyd anerchiad hynod o ddifyr a phwrpasol gan Euros.


Yng nghyfarfod mis Ebrill, y gwestai oedd Marion Fenner, Cwmllynfell. Mae Marion yn adnabyddus fel actores, ond mae hefyd wedi gweithio llawer ym myd colur, gan ymddangos yn gyson ar S4C. Bu’n sgwrsio â’r aelodau am ofal y croen cyn trafod sut i wisgo colur addas yn effeithiol. Er mwyn arddangos hyn, y model am y noson oedd Mrs. Myra Thomas, ac yn wir, roedd yn edrych yn arbennig! Noson ddiddorol ac addysgiadol.

Yna ar Mai 13eg, cynhaliwyd ein arwerthiant blynyddol, gyda rhan o’r elw yn mynd at Gronfa Achub y Plant,- sef elusen Mudiad Merched y Wawr am eleni.

29.5.11

Ymdaith hetiau Pasg - Gwaun Cae Gurwen

Cynhaliwyd ymdaith hetiau pasg blynyddol yn yr ysgol ar Ddydd Mercher Ebrill 13eg. Roedd yna llu o hetiau wedi’u greu’n greadigol a chafodd enillwyr pob blwyddyn ysgol wy pasg i fynd adref. Diolch am waith caled gan y plant a’r rhieni. Yn ogystal diolchwn i’r llywodraethwyr am gefnogi a gwylio’r ymdaith

28.5.11

Ysgol Gwaun Cae Gurwen - Ymweliad Cresci’s

Fel rhan o waith thema y dosbarth sef  ‘Coginio’ fe aeth dosbarth blwyddyn 5 a 6 Mr Evans i gaffi Cresci i weld ‘Dai’ Cresci gwneud hufen ia. Mwynheuodd y plant yn fawr iawn wrth weld y broses a hyd yn oed cael blas! Diolchwn yn fawr iawn i Mr Dai Cresci.

Merched y Wawr Cangen Gwaungors

Nos Lun Mawrth  21ain, yn absenoldeb ein Llywydd croesawyd ein gwesteion yn gynnes gan Mrs Sal Samuel, sef Mrs Ann Walters Brynaman a Brenda a John Evans Clydach.  Bywyd a Gwaith Abiah Rodreick oedd ganddynt o dan sylw.  Cawsom hanes y dyn talentog â dawn arbennig i lunio cerddi o’r doniol i’r dwys, cerddi ar gyfer plant ac oedolion, a storïau byrion.  Ysgrifennai yn nhafodiaeth Cwm Tawe ..  Cawsom enghreifftiau o’i waith yn cael eu darllen gan Ann Walters a Brenda Evans, a gwrando ar recordiad o Rachel Thomas a George David yn darllen eu storiau. Canodd  ‘Bois Y Blacbord’ ei waith, ac i gloi’r noson clywsom Hogiau’r Wyddfa yn canu ‘Tecel’ Diolchwyd iddynt am noson ddiddorol, gan Mrs Sal Samuel  hithau fel y gweddill o’r aelodau wedi dysgu mwy am y dyn a ddisgrifiwyd fel ‘tonic’.

27.5.11

Oedfa ar y Cyd - Moreia, Tycroes a Gellimanwydd, Rhydaman

Ar fore Sul rihyrsal Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a’r Cylch daeth eglwysi Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes ynghyd i addoli. Eleni tro Gellimanwydd oedd i wahodd Moreia ac fe gafwyd oedfa o dan arweiniad gweinidog y ddwy eglwys, y Parch Dyfrig Rees, pryd y rhoddodd i ni beth o hanes a chefndir y tonnau a’r emynau a fyddai yn gael eu canu yn rihyrsal y Gymanfa yn oedfa’r hwyr. Paratowyd paned yn y Neuadd ar ôl yr oedfa pryd y cafwyd cyfle i gymeithasu ymhellach.



Rhai o Aelodau Moreia a Gellimanwydd yn mwynhau paned yn y Neuadd ar ôl yr oedfa


Dathlu’r Pentecost

Fe fydd eglwysi Bethesda, Caersalem a Moreia yn dod ynghyd ar Sul y Pentecost, Mehefin 12, i ddathlu’r Sulgwyn. Fe gynhelir yr oedfa eleni ym Moreia am 2.30 y.p. ac fe fydd o dan arweiniad y Parch. Dyfrig Rees. Paratoir lluniaeth ysgafn yn y festri ar ôl y cyfarfod ac fe estynnir croeso cynnes i bawb.

Pensiynwyr y Pentref - Tycroes

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yr Adran ym mis Ebrill. Fe ail-ddewiswyd Margaret Davies yn Llywydd, Ryall Rees yn Is-lywydd, Dewi Enoch yn Ysgrifennydd  a Mary Rees yn Is iddo gyda Ann Cameron yn Drysorydd. Mi roedd y pwyllgor yn dal i weithredu gyda Mairwen Lloyd yn uno â nhw. Cafwyd adroddiad ariannol iach gan y Trysorydd.

Mae Ryall a Mary Rees yn ôl yr arfer wedi trefnu teithiau’r grŵp dros yr Haf –  Gerddi Dyffryn a Chroes Cwrlws fydd y gyrchfan ym Mai. Yna taith ar hyd arfordir Penfro gyda the Victorianaidd fydd hi ym Mehefin; Aberteifi i weld y gôt wlân (cardigan) enfawr ac Aberaeron fydd hi yng Ngorffennaf; yna yn Awst – Y Fenni ac i gloi’r tymor Wells a Street ym Medi. Edrychir ymlaen at y teithiau hynod diddorol hyn eleni eto.

26.5.11

Llwyddiant Ysgubol - Lleisiau'r Cwm

Llongyfarchiadau mawr i Miss Catrin Huws, Arweinyddes Côr Merched Lleisiau’r Cwm, Côr y Sgarlets a Chôr Merched CANTATA ar ennill pleidlais y gwylwyr yng nghystadleuaeth Côr Cymru yn Aberystwyth yn ddiweddar.  Daeth Côr Merched CANTATA yn agos iawn at ennill y brif wobr yn erbyn y pump côr arall a gyrhaeddodd Rownd Derfynol Cymru, a dymunwn well llwyddiant iddynt y tro nesaf. Mae’r Côr hwn wedi cael gwahoddiadau i ganu mewn cyngherddau nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr hefyd.  Dymunwn bob llwyddiant iddynt i’r dyfodol.

25.5.11

YSGOL BLAENAU yn Dathlu Canmlwyddiant

Mrs Eirlys Powell, y disgybl hynaf a ddaeth yn ol i ddathlu yn torri cacen penblwydd yr ysgol.

Bu dathlu mawr yn ddiweddar ym mhentref y Blaenau sydd rhwng Penygroes a Llandybie wrth i'r trigolion ddathlu penblwydd yr ysgol yn 100 oed. Ar Ddydd Sadwrn Ebrill 2ail 2011fe gynhaliwyd Ddiwrnod Agored Swyddogol Ysgol Blaenau i ddathlu ei chanmlwyddiant . Roedd yn ddiwrnod hynod o lwyddiannus a hyfryd oedd gweld cymaint o gyn-ddisgyblion, staff, rhieni a ffrindiau'r ysgol yn mynychu.

Fe ddechreuodd y Diwrnod gyda Jonathan Edwards ein Aelod Seneddol lleol yn croesawu pawb i'r ysgol ac agor y Diwrnod yn swyddogol. Gyda hyn fe ganodd plant yr ysgol gyda Chor Meibion Llandybie, a Chor Merched Tybie. Yn ogystal fe berfformiodd cyn-ddisgyblion yr ysgol Rhys Jones a Mitch Jones i'r gynulleidfa.  Daeth Rhodri Glyn Thomas hefyd i'r Diwrnod Agored i ddathlu ein Canmlwyddiant gyda ni.

 Gyda'r eitemau cerddorol wedi sefydlu'r dydd,  aeth pawb ati am y prynhawn i sgwrsio a hel straeon gyda hen ffrindiau ysgol. Roedd yn gyfle iddyn nhw manteisio ar y lluniaeth oedd wedi cael ei baratoi gan staff a rhieni'r ysgol, ac edrych ar gannoedd o luniau, llyfrau cofrestr, llyfrau cosb ac ati.


YSGOL Y BLAENAU - RYGBI

Ar Ddydd Gwener Ebrill 1af 2011 fe wnaeth ein tim rygbi blwyddyn 4 gymeryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol 7 bob ochr yn Bancyfelin. Fe chwaraeodd y tim yn arbennig o dda, gan golli yn y gem derfynol a gorffen yn ail yn yr holl gystadleuaeth. Bu dros 200 o blant yn cymeryd rhan, a choronwyd chwaraewr o Ysgol Blaenau, Joe Lewis, yn Chwaraewr y Gystadleuaeth gyfan.
Ar Ddydd Gwener Mai 6ed roedd tim rygbi Ysgol Blaenau yn cystadlu mewn gwyl rygbi ym Mharc y Scarlets cyn y gem Llanelli Scarlets yn erbyn Gleision Caerdydd.


14.5.11

Ysgol Dyffryn Aman ac Urdd Gobaith Cymru


Llongyfarchiadau mawr i 8 o ferched Bl.12 Ysgol Gyfun Dyffryn Aman ar ennill cymhwyster  OCN Lefel  2 mewn Hyfforddiant Grwpiau Ieuenctid Iau.  Yn ystod penwythnos yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog bu’r merched yn weithgar iawn yn annog disgyblion Iau’r ysgol i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau hwylus a diddorol yn ogystal â chwblhau’r OCN, fel rhan o Gynllun Llwybrau i’r Brig , Urdd Gobaith Cymru.  Prosiect ar y cyd rhwng yr Urdd a’r Cynulliad, wedi ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Am fwy o wybodaeth am Gynllun Llwybrau i’r Brig yn Sir Gaerfyrddin , cysylltwch â Lowri Evans ar 01267 676652 neu lowrievans@Urdd.org. 

Mary Walters - Gwaun Cae Gurwen


Yn rhan o weithgareddau Diwrnod y Llyfr eleni, cafwyd gyfle i gydnabod dyled yr ysgol i un o’i ffrindiau ffyddlonaf. Dros y ddegawd ddiwethaf a mwy, mae Mrs Mary Walters wedi cerdded i’r ysgol ym mhob tywydd ar fore pob dydd Llun er mwyn gwrando ar blant yn darllen a’u hysgogi i ddarllen mwy. Mae ysgolion bob amser yn falch o unrhyw gymorth sydd ar gaerl, ond rhaid talu teyrnged i ymroddiad Mrs Walters am ei gwaith gyda’r plant dros y blynyddoedd. Yn y llun, gwelir ei anrhegu gan Cyng Lynda Williams, cadeirydd y Llywodraethwyr a Mrs Sandra Rees, sef athrawes y dosbarth lle bu Mrs Walters yn treulio’i hamser. Diolch, diolch o galon.

10.5.11

Cymdeithas Edward Llwyd yn crwydro’r Waun

Daeth 35 o aelodau’r Gymdeithas ynghyd dan arweiniad Maldwyn James i grwydro ardal y pyllau glo ac i glywed mwy am hanes yr ardal.  Bu llawer o drafod am ystyr a tharddiad yr enw Gwaun-Cae-Gurwen gan gyfeirio’n arbennig at y blodyn cregyr gwyn.  Felly, yn ôl yr hanes Waun y cregyn gwyn a aeth yn Gwaun-Cae-Gurwen.
Cyfnod llwyddiannus yr ardal oedd rhwng 1850 ac 1920.  Enillodd y glo caled ‘anthracite’ sawl gwobr am ansawdd y glo caled led led y byd. Roedd un gwthien sef y Peacock yn 99.6% o garbon pur yn llosgi heb fwg ar dymheredd uchel iawn.   Yn ystod y cyfnod llwyddiannus roedd 2,000 yn gweithio yn y pedwar gwaith glo mwyaf a gwelwyd datblygiad rheilffordd yr ardal. 

Yn cyd-fynd a hyn roedd tua ugain o addoldai yn y cylch ac yn ôl cyfrifiad 1891 roedd 93% yn mynychu lle o addoliad.  Erbyn heddiw lleihau mae’r addoldai a’r addolwyr, ond mae’r ardal yn ymfalchio yn llwyddiant band enwog y Waun dal i fynd.

Mae’r ardal yn ymhyfrydu yn llwyddiant y plant a fagwyd yma: Gareth Edwards, Eic a Huw Llywelyn Davies, yr Archesgob Barry Morgan a Sian Phillips a chlywyd hanes nifer o hen drigolion lliwgar y Waun ar y daith.

Mae’r tipiau glo wedi diflannu erbyn hyn ond mae effaith y gweithfeydd glo brig yn amlwg heddiw.  Cawsom dywydd sych wrth i ni ddringo lan i Banc Bryn ac ar draws Mynydd y Betws.  Wrth i ni ddod yn ôl drwy Barc Gwledig Ynys Dawela’ ym Mrynaman daeth y glaw trwm ond ni lwyddodd hyn i ddiflasu hwyl yr aelodau.  Diolch i bawb am gyfrannu tuag at y sgyrsiau wrth i ni gyd gerdded ardal sydd â llawer mwy o hanes iddi.  Rhaid trefnu taith arall yn y dyfodol.

Ceiswyr lloches a ffoaduriaid - Rhydaman

Mae criw ACT yn cyfarfod yn fisol yn Neuadd Gellimanwydd, sef criw o aelodau  ifanc Gellimanwydd, er does dim oedran penodol ar gyfer y criw.

Nos Iau diwethaf, 10 Mawrth, dan nawdd Criw ACT, cawsom noson arbennig yn y Neuadd. Daeth criw o bobl o Abertawe atom. Ceiwsyr lloches neu ffoaduriaid oedd y pobl a daethant atom i son am Abertawe fel dinas Noddfa "City of Sanctuary". Ein Cyn Weinidog  y Parchg Dewi Myrddin Hughes oedd wedi creu'r cyswllt hwn a braf oedd cael croesawu Dewi atom i'n plith.

 Yn ystod y noson cawsom gyngerdd anffurfiol gyda ein gwestwion yn cymryd rhan drwy ddarllen barddoniaeth, adrodd ychydig o hanes a chwarae Drymiau Affricanaidd. Yna daeth aelodau Gellimanwydd at eu gilydd i ganu ychydig o ganeuon traddodiadol Cymreig, a cawsom eitemau ar y piano gan Rhys Thomas.

Un o uchafbwyntiau'r noson oedd gweld plant Ysgol Sul Gellimanwydd, Mari, Elan a Dafydd yn chwarae'r drymiau gyda'r ymwelwyr.



Wedi'r adloniant cawsom gyfle i fwynhau pryd o fwyd blasus mewn ffurf bwffe bys a bawd oedd wedi ei baratoi gan aelodau Gellimanwydd.

Noson hyfryd gyda neges bwrpasol i ni gyd - mae Dinas Noddfa yn ymgyrch cenedlaethol o bobl lleol a grwpiau cymunedol yn gweithio gyfa'i gilyd di wneud eu trefi a dinasoedd yn lefydd croesawgar, saff ar gyfer pobl sy'n cwhilio am noddfa rhag rhyfel neu erledigaeth.

Yna ar fore Sul 20 Mawrth criw ACT oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth boreol. Ceiswyr Lloches oedd y thema. Hyfryd oedd gweld cymaint yn Neuadd Gellimanwydd ar gyfer yr oedfa.  Cawsom ein harwain drwy weddi, darlleniadau, emynau, caneuon, adroddiadau a sgetsus at yr angen am Noddfa arnom i gyd.

Diolch i bawb oedd yn gyfrifol am yr oedfa arbennig.

7.5.11

Mudiad Cenhadol y Chwiorydd - Rhydaman a Tycroes


Y llywydd newydd, Mrs. Carol Anne Lewis, Moreia ynghyd â’i rhagflaenydd Mrs. Mairwen Lloyd, Gellimanwydd

Mae’r mudiad uchod bellach yn drigain oed. Ar gais y diweddar annwyl Dr. D. Tegfan Davies, gweinidog Gellimanwydd ar y pryd, fe fu Mrs. Mary Elizabeth James, Gellimanwydd alw cyfarfod o chwiorydd y bedair eglwys a berthynai i gylch y Gymanfa Ganu Gwener y Groglith sef Gellimanwydd a’r Gwynfryn, Rhydaman, Moreia, Tycroes a Seion, Llandybïe i ffurfio Adran Genhadol y Chwiorydd. Daeth y llywydd cyntaf o Foreia, sef Mrs. S. A. Mathias; Mrs. Mary Elizabeth James, Gellimanwydd yn ysgrifennydd, Mrs. Stephens o Seion yn drysorydd a Mrs. Peggie Thomas, Y Gwynfryn yn is-lywydd. Penderfynwyd cwrdd yn fisol gyda the syml yn dilyn pob cyfarfod. Mi fyddai casgliad a thâl am y te a’r arian i gyd yn mynd at waith y Genhadaeth Dramor (London Missionary Society) bryd hynny.

Bu ganddynt ymgyrch i gasglu sylltau (5c) o gylch aelodau’r eglwysi na berthynai i’r adran. Bellach bore coffi a gynhelir er mwyn chwyddo’r coffrau. Mae’r adran wedi cyflwyno miloedd o bunnau at waith y genhadaeth (Council for World Mission) ac yn dal i wneud gan gynnwys cyfraniad at waith MIC – Mudiad Ieuenctid Cristnogol – yma yn ein hardal ni.

Mae’r adran yn dal i gyfarfod yn gyson ac yn mynd, fel yr awgrymwyd yn wreiddiol, o gapel i gapel o fis i fis er bod Seion, Llandybïe wedi tynnu allan o’r adran ers blynyddoedd bellach. Yn ystod eu bodolaeth mae nifer o genhadon o wledydd tramor wedi ymweld â’r adran, e.e. Miss Gwyneth Evans, Madagascar sy’n byw bellach mewn cartref preswyl yng Nghil-y-bebyll

Yn y cyfarfod blynyddol eleni a gynhaliwyd yn y Gwynfryn ym mis Mawrth urddwyd y llywydd newydd sef Mrs. Carol Anne Lewis ar ran Moreia. Mrs. Mairwen Lloyd, gwraig Wyn Lloyd o Dycroes gynt, ar rhan chwiorydd Gellimanwydd a drosglwyddodd Beibl y mudiad i Mrs. Lewis. Rhodd gan y Parch. D. Tegfan a Mrs. Sarah Davies yw’r Beibl ac ar y ddalen flaen gwelir gomisiwn i’r adran yn ysgrifen goeth arbennig Dr. Tegfan.

Yn Mis Ebrill cyflwynodd nifer o’r chwiorydd eitem ar lafar a chân yng nghyfarfod blynyddol Adran Chwiorydd Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog ym Mhontyberem. Ym mis Mehefin fe fydd Cyfarfod Blynyddol Adran Chwiorydd Talaith y De yn cael ei gynnal am y tro cyntaf erioed yng Ngellimanwydd a Mrs. Bethan Thomas, Tycroes yn derbyn Beibl y Mudiad a’i hurddo yn llywydd gan Mrs. Carys Williams, gweddw’r diweddar Barch. Meurwyn Williams, Brynaman.

5.5.11

Cor Meibion Llandybie

Dyma lun diweddaraf o gor Meibion Llandybie. Bydd y cor yn cynnal eu Cyngerdd Mawreddog Blynyddol yn Neuadd Goffa Llandybie ar Nos Wener 13 Mai. Dewch i gefnogi un o'r corau meibion hynaf yng Nghymru a sefydlwyd yn 1908 - cewch wledd o ganu. Harriett Webb y Mezzo-soprano yw'r gwestai.
Mae'r cor yn croesawu aelodau newydd yn gynnes iawn. Bob Nos Fawrth a nos Iau am 7 o'r gloch yn Neuadd y Pensiynwyr mae'r cor yn cyfarfod o dan arweiniad Mr Alun Bowen gyda Mr Jonathan Rio yn cyfeilio.

Dosbarth Beirdd y Mynydd Du - Cwmaman

Bu rhai o feirdd y Cwm yn brysur iawn yn ddiweddar yn cymeryd rhan yng ngwersi barddol Dafydd Wyn o dan nawdd yr Academi ac Awel Aman/Tawe yn y Llyfrgell yn Rhydaman.  Yr oedd y grŵp wrth ei bodd yn ymarfer y gwahanol fathau o’r Canu Rhydd.  Cafwyd hwyl yn cyfansoddi darnau ar thema “Cynhesu’r Hinsawdd’ ar gyfer cystadleuaeth a hysbyswyd ar y Rhyngrwyd.  Cafwyd ceisiadau di-ri o bob rhan o Gymru ac hefyd, yn wir, o’r byd yn yr Adran Saesneg gan ei fod dros y We.  Yr oedd y Noson Wobrwyo ym Mhontardawe ar ddiwedd mis Chwefror yn hyfryd gan bod dau feirniad o fri yn traddodi ar y cyfansoddiadau sef Menna Elfyn a Gillian Clarke.  Roedd yn bleser hefyd i wrando ar ddarlleniadau’r tiwtoriaid sef Susan Richardson a Dafydd Wyn fel enillydd Cymru o Wobr John Tripp. Hyfryd yw datgan bod dwy o’r dosbarth barddol wedi bod yn llwyddiannus sef  Mair Wyn, Glanaman â’i cherdd ar yr “Arth Wen” a Glenys Kim Protheroe, Brynaman gyda’i cherdd am “Y Broydd Hyn”.  Rhanodd y ddwy yma y drydedd wobr a chawsant flas ar ddarllen eu cerddi buddugol.  Hefyd, cafodd Mel Morgan, Brynaman ei waith wedi ei argraffu mewn Detholiad arbennig o’r cerddi gorau.  Yn y Categori Ieuenctid enillodd Adam Jones o Lanaman y Wobr Gyntaf.  Llongyfarchiadau mawr i’r beirdd ar eu cerddi ac hefyd i Gareth Jones y Llyfrgellydd am ei gefnogaeth i’r dosbarthiadau yma a fyddant yn ail-gychwyn yn y dyfodol agos.

4.5.11

Eisteddfod Ysgol Gwaun Cae Gurwen

Cynhaliwyd Eisteddfod Flynyddol yr ysgol eto eleni ar Ddydd Gwyl Dewi a chafwyd ddiwrnod arbennig. Roedd yna cystadlu brwd rhwng llysoedd yr ysgol a gwnaeth pawb berfformio’n arbennig o dda ar lwyfan yr ysgol. Prif lenor ac enillydd Cadair yr ysgol eleni oedd Hannah Leyshon o flwyddyn 6 ysgrifennodd stori greadigol yn deillio o chwedl Dwynwen. Diolchwn i bawb a gefnogodd y plant mewn unrhyw fodd ac yn enwedig i’n beirniaid am y diwrnod, Mrs Glenys Kim Protheroe (adrodd), Mr Wayne Pedrick (cerdd), Mrs Emma James (celf) a Mrs Ceri Jenkins (llenyddiaeth). Braf oedd gweld cymaint o rieni, perthnasau a ffrindiau’r ysgol wedi bwrw i mewn i fwynhau’r dathliadau gyda ni.

3.5.11

Clod i Cresci. Gwaun Cae Gurwen


“Cwbl annisgwyl”oedd ymateb Mr Dai Cresci pan gafodd dystysgrif yn enwi Parlwr Hufen îa Cresci yn un o ddeg atyniad gorau o dan ‘Gorau’r Cymoedd’, ‘Valley Essentials Top 10’.  Y nôd yw denu pobl i gael profiadau pleserus, a gwahanol yng nghymoedd y De.  Llongyfarchiadau mawr i Barlwr Hufen îa croesawus Cresci.

MASNACH DEG RHYDAMAN


Nos Wener 11 Mawrth, 2011 daeth criw da i'r Arcade i gymryd rhan yn y Banana Split Masnach Deg  enfawr. Dyma'r trydydd flwyddyn i ni gynnal y banana split ac roedd eleni yn well nag un y llynedd.

I ddechrau roedd angen gosod y byrddau ar hyd yr arcade, yna y cafnau. Roedd angen leinio'r cafn gyda ffoil aliminiwm.

Wedi hyn daeth pobl ifanc y capeli a clybiau ieuenctid cristnogol y dref i dorri'r bananas a'u gosod ar hyd y cafn. Y peth nesaf i wneud oedd rhoi'r hufen ia, hufen a saws siocled ar y banana split.

Erbyn 6.15 roedd popeth yn barod i'w fwyta. Cafodd pawb lwy ac ar ol i Paul Griffiths ddweud ewch dechreuodd pawb i fwyta.
Yn ogystal roedd stondin yn gwerthu nwyddau ar gyfer diwrnod Y Trwynau Coch sydd i'w gynnal nos Wenere nesaf
Help / Cymorth