30.6.11

Ym mlwyddyn y cofio - Parchg Gomer Roberts

Mae'r côf am Gomer Roberts yn dal yn fyw iawn yn meddyliau bobl "Y Pethe" yn yr ardal yma ac yn enwedig yng Ngosen Llandybie.  Yr ydym yn dal i ryfeddu sut gwnaeth plentyn a oedd yn un o unarddeg o blant ac o gefndir gweithiol cyffredin Iwyddo i'r fath raddau o gofio iddo adael yr ysgol yn 13 oed i weithio yn y gwaith glo Ileol (Pencae). Fe ddaeth yn brif hanesydd yr Enwad a chyhoeddodd tua 40 o lyfrau ac yntau ar yr un pryd yn weinidog prysur.
Mynychodd dosbarthiadau'r WEA ac fe sylweddolodd ei gyd ddisgyblion (a oedd yn cynnwys Amanwy) fod talent aruthrol ganddo ac fe aethant ati i godi arian trwy gyhoeddi a gwerthu Ilyfr o farddoniaeth eu hunain - 0 Lwch y Lofa. Gwnaed elw o £30 a chyda cefnogaeth ei gyd- weithwyr, bu'r arian yn gymorth iddo fynd i'r coleg.

Yr ydym yn Ngosen yn gwybod fod talentau eraill ganddo. Roedd yn un deche (i ddefnyddio gair Ileol) gyda'i ddwylo a chyn iddo farw fe roddodd Mrs. Dilys Dixon (nith Gomer) y gwaith rhyfeddol a welir yn y Ilun fel rhodd i’r eglwys er côf am Gomer. Fel y gwelwch mae Gweddi'r Arglwydd wedi ei cherfio o bren (fretwork) a'i fframio - gwaith Ilaw Gomer ei hun.

Mae'n ddiddorol dyfalu paham y gwnaeth hwn yn yr iaith fain and does na ddim ateb i hynny. Mewn sgwrs a gefais gyda Mrs. Mair Edwards Bala (merch Gomer) dywedodd mai cyn mynd i’r coleg y gwnaeth y gwaith ac yr oedd hyn felly cyn ei fod yn ugain oed! Cefais wybod ganddi hefyd ei fod wedi dysgu ei hunan y grefft o rwymo Ilyfrau. Mae côf gan rhai o'r blaenoriaid ohono yn chwarae'r organ a chadarnhaodd Mair ei fod wedi dysgu ei hunan i chwarae piano pan yn ifanc hefyd.

Gobeithio y bydd y llun a'r cefndir o ddiddordeb i ddarllenwyr Glo Mân gan ei fod yn ehangu ein gwybodaeth a'n gwerthfawrogiad o athrylith mawr -- y diweddar Parchedig Ddr Gomer M.Roberts.

Trefor Evans, Llandybie


28.6.11

Ysgol Gymraeg Gwaun Cae Gurwen - Beirdd o fri!

Ar ddechrau’r flwyddyn fe wnaeth disgyblion blwyddyn 5 a 6 cystadlu yng ngystadleuaeth barddoniaeth. Y dasg oedd i ysgrifennu cyfres o gerddi Saesneg gyda’r gobaith i gyhoeddi gwaith yr enillwyr.
Ar Dydd Iau, Mai 5ed, derbyniodd yr ysgol llythyr yn cyhoeddi bod 15 o ddisgyblion yr ysgol wedi bod yn lwyddiannus yn y gystadleuaeth. Edrychwn ymlaen at weld eu gwaith mewn llyfr cyhoeddedig erbyn mis Gorffennaf. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd!

Merched y Wawr Cangen GwaunGors

Yng nghyfarfod Mis Ebrill croesawodd ein Llywydd Bethan Williams ein gwraig wadd Mrs Mair Wyn atom yn gynnes. Mae hi’n wraig brysur iawn gyda llawer o ddiddordebau.  Un o Drimsaran yw hi a dylanwad ei theulu a’r diwylliant yn pentref yn drwm arni.  Dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau yn ifanc iawn ac yn dal i wneud.  Rhannodd rai o’i hoff gerddi gyda ni, gan amrywiaeth o feirdd.  Dechreuodd gyda ‘Y Border Bach’ gan Crwys, chloi gyda cherdd T. Llew Jones ‘Cwmalltcafan’.  Diolchwyd iddi am noson ddifyr a hwylus gan Bethan.

24.6.11

Penblwydd yn 80 oed


 Mefus y Gelli gyda Dai ei Gŵr yn Ne Affrig
Llongyfarchiadau mawr i Mrs Mefus Williams, Fferm y Gelli, Glanaman ar gyrraedd ei 80 oed yn ddiweddar.  Cafodd Mefus ei geni ym Maesybont gerllaw Carmel ac roedd ganddi ddau frawd.  Tyddyn bach oedd y cartref a’i thad yn lowr wrth ei alwedigaeth.  Mynychodd Mefus Ysgol Maesybont ac yna Ysgol Llandybie.  Gorffennodd ei dyddiau ysgol yn 1945 ac aeth i weithio yn Ysbyty Penlan, Caerfyrddin am chwe blynedd.  Yna bu gorfod iddi rhoi’r gorau i’w swydd a dychwelyd adre i helpu ei mam oherwydd salwch ar yr aelwyd.  Roedd Mefus yn hoffi mynd i glybiau’r Ffermwyr Ieuanc ac un noson aeth i ddawns oedd yn cael ei chynnal yn Neuadd y Pale yn y Garnant lle cyfarfu â Dai, ei gŵr.  Priododd â Dai yn 1955, diwrnod ar ôl cael ei 24 oed, yng Nghapel Milo ac ymgartrefodd y pâr ifanc yn Fferm y Gelli.  Roedd teulu Dai yn wreiddiol o Nantycrugle, ond erbyn hyn, mae fferm y Gelli wedi bod yn ei deulu am bedair cenhedlaeth.  Pan briodon nhw, roedd Dai yn ei waith dyddiol yn dreifio injin yn y gwaith Glo Brig gerllaw, a Mefus adref yn codi ei theulu.
          Mae ganddynt chwech o blant – Margaret Wyn, yr hynaf, yn Ofalwraig Yswiriant Antur yn Rhydaman, Irene yn Ohebydd Papur Newydd yn Ne Affrig ac wedi  rhoddi cyfweliad i Nelson Mandela.  Mae Lucie yn byw yn Llandeilo ac Enid yn Llandybie, mae Arwyn yn gweithio adref gyda pheiriannau y Gelli Plant, a Sarah yn cael ei chyflogi yn Yswiriant Antur gyda Margaret Wyn, ei chwaer.  Mae  Mefus a Dai bellach yn Famgu a Thatcu i un-ar-ddeg o wyrion, gyda’r hynaf, Sian, yn ddau ddeg pedwar oed a’r ieuengaf, Eirin Mai, ond yn chwech wythnos oed.
          Mae Capel y Tabernacl, Glanaman yn agos iawn at galon Mefus ac mae wrth ei bodd yn gweld ei theulu yn mynychu’r Ysgol Sul yno. 
Dymunwn bob hwyl i Mefus i’r dyfodol a iechyd da.  Gobeithio ichi fwynhau’r penblwydd arbennig hwn, Mefus, ac hefyd y dathliad o fod yn briod am 56 mlynedd.

22.6.11

CYLCH Y CHWIORYDD - GIRL GUIDES - TYCROES


Côr y ‘Guides’ a ‘Rangers’ Tycroes

Mewn cyfarfod yn ddiweddar o Gylch y Chwiorydd croesawodd y Cadeirydd, Jan Thomas, yr aelodau ynghyd â’r gwesteion, sef rhai o aelodau ‘Guides’ a ‘Rangers’ y pentre. Maent yn cyfarfod yn wythnosol yn Neuadd yr Eglwys o dan arweiniad Louise Jones. Merch Ann Robinson (gynt Trussler) yw Louise a daeth yn olynydd i’w mam fel arweinydd y grŵp.

            Cawsom amser hynod ddifyrus gyda pharti yn canu rhai o ganeuon poblogaidd Abba. Cymaint oedd y mwynhad fel bod rhai o’r gylch yn cyd-ganu gyda’r parti. Rhoddodd Jessica Ham ddwy unawd o ganeuon poblogaidd. Bu ei mam hithau, Rhian Ham, yn arweinydd y grŵp yn y gorffennol.

            Diolchwyd i Louise ynghyd â Nia Griffiths a Rhian Phillips – dwy chwaer fu’n cynorthwyo a talwyd teyrnged iddynt am eu gwaith gwirfoddol yn y pentre. Holwyd Louise ar weithgareddau’r ‘Guides’. Deallir eu bod yn brysur ac yn cyfarfod yn wythnosol yn ‘Fantasia’ yng Nghapel Hendre yn paratoi gogyfer â’r sioe ‘The Wizard of Oz’. Maent hefyd yn ymdrechu i godi arian er mwyn anfon tair merch anabl i wersyll yn Brisbane, Awstralia. Ar Sul, Mai 18fed, gwelwyd y merched yn yr Ardd Fotaneg yn gwerthu ‘doughnuts’ ar Ddydd Cenedlaethol y ‘Doughnut’. Pwrpas hyn oedd codi arian at amrywiol elusennau teilwng.
Y merched yn y Gerddi Botaneg yn codi arian i Hospis Cenedlaethol y Plant yn ystod Wythnos Cenedlaethol y ‘Doughnut’

Ar Fehefin 20fed mae’r grŵp yn estyn gwahoddiad i bentrefwyr dros yr hanner cant oed i Neuadd y Pentre, i fwynhau scons a the gyda chyngerdd ysgafn yn dilyn. Pwrpas hwn ydyw codi arian  i gwrdd â chostau teithio  i Eisteddfod yr Urdd yn Felindre, Abertawe. Bu’r Parti Cân Actol yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Sir ac maent yn edrych ymlaen yn eiddgar at gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Dymunwn bob llwyddiant i Louise, y ddwy ferch sy’n cynorthwyo a’r ‘Guides’ yn eu hymdrechion. Talwn deyrnged iddynt am eu cyfraniad amhrisiadwy i ddyfodol merched ieuainc y pentref.

12.6.11

ABERTAWE'N FFLAM

Gall neb amau – taw Abertawe oedd canolbwynt sylw Cymru a thu hwnt yn ystod wythnos gwyliau’r Sulgwyn. Gyda Mr Urdd yn troedio tir Tawe a’r sioe gerdd uwchradd yn cofio’r ddinas yn wenfflam yn ystod yr Ail Ryfel Byd – roedd yr alarch hefyd yn arnofio’n falch wrth i Abertawe ennill ei lle yn y prif Gynghrair pêl-droed!
Yn sicr – chwythodd fflamau llwyddiant dros Abertawe!

Y GYMANFA GANU UNDEBOL

Dydd Sul 17 Ebrill ar Sul y Blodau cynhaliwyd  Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a'r Cylch yng Nghapel Gellimanwydd. Daeth aelodau a ffrindiau o gapeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser ynghyd i gymryd rhan yn y Gymanfa.

Yr Arweinydd oedd Mr Eifion Thomas, Llanelli, Mae Mr Thomas yn adnabyddus drwy Gymru gyfan fel arweinydd Cor Meibion Llanelli ac yn denor dawnus. Cafodd Mr Thomas gefnogaeth broffesiynol medrus Mrs Gloria Lloyd yn ystod y ddwy oedfa.

Roedd Gymanfa'r plant yn y bore am 10.30 ac yna Gymanfa'r oedolion am 5.30 yr hwyr. Cawsom Gymanfa gwerth ei dathlu yng nghwmni Eifion Thomas ac roedd yntau yn cael y gorau allan o'r plant a'r oedolion.

10.6.11

Sefydliad y Merched Sir Gar


Nos Wener 16 Ebrill yn Neuadd y Dre Llanelli lasiwyd llyfr i ddathlu pen-blwydd Ffederasiwn Sefydliad y Merched Sir Gâr yn 85 oed, sef ail gasgliad o gerddi Aelodau Sefydliad y Merched Sir Gâr 'Sgwd yr Awen' gan gynnwys braslun o hanes y Ffederasiwn gan Megan Hopkin Thomas, SyM Garnant a Rhagair gan y Prifardd Mererid Hopwood.

Enillodd Mrs Marryl Bradley, Sefydliad y Merched y Betws, y gystadleuaeth am llun y clawr. 

Mae'r gyfrol yn cynnwys tua 85 o gerddi o waith 27 o aelodau SyM Sir Gâr, yn eu plith Siwla Virago a gangen Saron a pedair aelod o gangen Trap, megis Mave Alexander, Judith Howells, Cherie Williams a Beryl Owen

Yn y llun (chwith i'r dde) yn eistedd Zena Jenkins, SyM St Cynnwr (Cadeirydd y pwyllgor Ad Hoc a Golygydd); Marryl Bradley, SyM Betws Rhes gefn :Y Cynghorydd Meryl Gravell, Pat Thomas a Beryl Owen SyM Trap (Golygyddion), a Amaryllis Stock (Cadeirydd SyM Sir Gâr).

Ysgol y Blaenau


Ar Ddydd Gwener Ebrill 1af 2011 fe wnaeth ein tim rygbi blwyddyn 4 gymeryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol 7 bob ochr yn Bancyfelin. Fe chwaraeodd y tim yn arbennig o dda, gan golli yn y gem derfynol a gorffen yn ail yn yr holl gystadleuaeth. Bu dros 200 o blant yn cymeryd rhan, a choronwyd chwaraewr o Ysgol Blaenau, Joe Lewis, yn Chwaraewr y Gystadleuaeth gyfan.

Ar Ddydd Gwener Mai 6ed roedd tim rygbi Ysgol Blaenau yn cystadlu mewn gwyl rygbi ym Mharc y Scarlets cyn y gem Llanelli Scarlets yn erbyn Gleision Caerdydd.

7.6.11

CINIAWA AR-Y-CYD - Cylchoedd cinio Rhydaman a Tybie

Calvin Davies, Elfan Bell, Arwel Davies
Ers blynyddoedd bellach mae Cylchoedd Cinio Cymraeg Tybïe a Rhydaman wedi dod at ei gilydd i ginio ym mis Ebrill. Eleni tro Tybïe oedd gwahodd Rhydaman i ginio yng Nghlwb Golff Glynhir.
Roedd dros hanner cant yn bresennol. Cafwyd noson arbennig gyda bwyd blasus a’r prif westai, Elfan Bell, cyfreithiwr yn Rhydaman, yn hynod ddiddorol. Aeth â ni yn ôl i gyfnod Hywel Dda a hyd yn oed cyn hynny gan brofi faint oedd Cymru ar y blaen i Loegr mewn tegwch ym myd y gyfraith. Yn Lloegr y brenin fyddai yn penderfynu a oedd rhywun yn euog ai peidio ond yng Nghymru rhaid oedd cael nifer o dystion i brofi euogrwydd person. Yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, roedd y dynion a’r marched yn gyfartal yng ngolwg y gyfraith.
Lllywydd y noson oedd Arwel Davies, Cadeirydd Cylch Cinio Tybïe ac fe wnaed y diolchiadau gan Calvin Davies, Cadeirydd Rhydaman.

6.6.11

Penblwydd yn 90 oed

Bydd y 7fed o Fehefin yn ddiwrnod arbennig iawn i Mrs.Sadie Rees, Glanaman am ei bod yn dathlu ei phenblwydd yn 90 oed ar y diwrnod hwnnw.. Yn y llun, gwelir Sadie gyda’i hannwyl ddiweddar ŵr, Terry, a fu’n gefn cadarn iddi dros y blynyddoedd. Ganwyd Sadie ym mwthyn Llwyn Du ar Heol Tircoed, a phan oedd yn ifanc iawn symudodd y teulu lan i Benrhyncoch Uchaf ar y mynydd. Mynychodd SadieYsgoldy’r Mynydd Du gyda’i dwy chwaer am flynyddoedd a thra bu’r Ysgoldy ar agor, roedd hi byth yn colli Te Parti Blynyddol y Mynydd Du. Cafodd fagwraeth yn llawn dysg crefyddol ac y mae’n dyst i hyn hyd heddiw gan ei bod yn hyddysg yn ei Beibl o’r dechrau i’r diwedd ac mae’n gwybod sawl emyn ar ei chôf. Bu’n rhaid iddi adael y Cownti Sgŵl yn ifanc er mwyn helpu ei mam i garco’i brawd bach adre ar y fferm. Er hynny, aeth ymlaen i wneud gwaith clerigol yn Ysbyty Treforus a hoffai weithio yn yr adran ddamweiniau. Daeth yn amser i Sadie briodi ei hannwyl Terry a chawsant dri o blant, sef Eirian, Aelwyn a Derith. Buont yn byw ar y Twyn am gyfnod ac yna yn Rhif 8 Heol Grenig yng Nglanaman am flynyddoedd lawer. Erbyn hyn, mae wedi ymgartrefu yn Rhif 2 Bro Ryan. Mae ganddi deulu crand ac mae wrth ei bodd yng nghwmni’r wyron a’r gor-wyron.

Bu Sadie yn aelod ffyddlon yng nghapel Bethesda, Glanaman, ac yno cafodd y pleser o fod yn Athrawes dosbarth y bobl ifanc yn yr Ysgol Sul ac fe’i gwnaed yn Ddiacones pan oedd ond yn 35 oed. Teg felly oedd iddi gael ei hanrhydeddu gyda’r Fedal GEE am ei gwasanaeth i’w Chapel a chafodd hefyd y fraint o fod yn Llywydd Mudiad Chwiorydd Bedyddwyr Cymru. Mae ganddi stori hyfryd amdani yn mynd i Gaerdydd i fod ar y rhaglen ‘Adnabod y Gair’ gyda dwy o’r ffyddloniaid ym Methesda. Buont yn agos iawn i ennill y brif wobr ond cawsant wobr o £300 i’w Capel gyda chlod uchel gan y beirniaid. Diddorol iawn yw cael bod yng nghwmni Sadie a’i chlywed yn olrhain hanes hen gymeriadau’r ardal am fod ganddi gof aruthrol. Bydd wrth ei bodd gyda’i theulu ar achlysur arbennig ei phenblwydd yn 90 oed. Mwynewch eich diwrnod, Sadie, ac rydym ni, eich ffrindiau, yn dymuno pob bendith a iechyd da i chi i’r dyfodol.

Cymanfa’r Pasg

Cynhaliwyd Cymanfa Undebol Cwmaman yng Nghapel Bethesda, Glanaman ar fore Sul y Blodau eleni.  Y Llywydd oedd Mrs. Derith Powell, Capel Bethesda, ac fe groesawodd bawb i’r oedfa arbennig hon.  Rhoddodd gyflwyniad arbennig i’n Harweinyddes eleni sef Mrs.Janet Bowen-Jones, Castell Nedd, ac roedd yn ysbrydoliaeth unwaith yn rhagor i’w chael i’n harwain. Ein Horganyddes oedd Mrs.Olwen Richards, Rhydaman a gyflawnodd  ei swydd yn raenus fel arfer.  Darllenwyd rhan o’r Ysgrythur yn ystyrlon iawn gan Nyri Cynningham, Bethel Newydd, a chafwyd gweddi angerddol gan Rhian Jones, Bethesda,.  Ynghanol y Gymanfa, cafwyd eitem gan dair o chwiorydd Capel Bethel Newydd, sef Pat Davies, Carol Howells a Mair Wyn, a dewiswyd darlleniadau gwych ganddynt.  Diolchodd y Parchedig Peter Davies i bawb a gymrodd rhan a  rhoddodd glod arbennig i’n Harweinyddes am dynnu allan o bawb ohonom y canu gorau.  Cafwyd gweddi bwrpasol ganddo i gloi’r oedfa arbennig hon.  Dymuna’r Pwyllgor ddiolch i bawb a’n cefnogodd  eleni eto a gobeithiwn y bydd ein Cymanfa yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.

Ysgol Llandybie -Eisteddfod yr Urdd 2011

Bu'r brwdfrydedd yn Ysgol Llandybie yn fawr wrth baratoi am Eisteddfod Yr Urdd eleni eto.


Cynhaliwyd eisteddfod ysgol ar y cyntaf o Fawrth ac yna aeth llawer o gynrychiolwyr ymlaen 1'r eisteddfod gylch yn Rhydaman ar y pumed o Fawrth . Cawsom ddiwrnod llwyddiannus dros ben gyda'r cystadlaethau yma'n cipio'r wobr gyntaf.

1. Adrodd dan wyth - laf Cerys Bowen
2. Unawd 8-10 -1af Megan Jones
3. Unawd 10-12 - 1af Ceri- Ann Lewis
 4.Unawd ffidil 1af Melissa Dougan
5.Unawd prês - 1af Seren Lloyd
6.Ensemble dan 12   - I af. Sian James, Annis Wigley, Ceri- Ann Lewis, Bethany Evans

Roedd rhain wedyn yn cystadlu yn ysgol Tregib yn yr Eisteddfod Sir a dyma'r canlyniadau.

Cerys Bowen — 3ydd
Megan Jones — Ail
Ceri-Ann Lewis-Ail
Melissa Dougan- Trydydd Ensemble dan 12- Ail
Seren Lloyd- CYNTAF

Roedd  Seren Lloyd felly yn cynrhychioli Ysgol Llandybie a Sir Gaerfyrddin yn yr Eisteddfod yn Abertawe elem.
Help / Cymorth