29.7.11

PRIODAS CWMAMAN

Llongyfarchiadau mawr i Ffion Elin Powell a Ross Coughlan ar eu priodas ddiwedd mis Mai yng Nghapel Bethesda, Glanaman. Mae Ffion yn ferch i Richard a Derith Powell, Heol Grenig, Glanaman a Ross yw mab ieuengaf Mr a Mrs Coughlan o waelod Heol Tir-y-Coed, Glanaman.  Mynychodd y ddau Ysgol Gyfun Dyffryn Aman.  Yr oedd y gwasanaeth o dan ofal y Parchedig Eirian Wyn (cyn Weinidog Bethesda) a’r organydd oedd Christopher Davies.  Rhoddwyd y briodasferch i’w phriodi gan ei thad, Richard Powell ac yr oedd dau was priodas gan Ross sef Emyr Lewis ac Emyr Rees.  Y morwynion priodas oedd Mared Owen, Ffion Haf Mackey ac hefyd y merched bach sef Cadi Lois Owen a Lola Belle Coughlan Hall.  Y gwas bach oedd Dion Celt Owen. Tywyswyr y dydd oedd Toby Coughlan, Steffan Powell, Alun Owen, Gruffydd Sion Rees, Chris Rees, Rhodri Williams, Matt Challenger a Chris Glanville.
Yn ystod y gwasanaeth cafwyd darlleniad pwrpasol iawn gan famgu Ffion sef Mrs Sadie Rees a hefyd cafwyd ddarlleniad hyfryd iawn gan frawd Ross sef, Toby Coughlan.  Tra’r oedd y pâr priod yn arwyddo’r Cofrestr cafwyd perfformiadau hyfryd gan Llew Davies (llais) a Gethin Roberts (gitarydd).  Cerddorion y dydd oedd ffrindiau y pâr ifanc yn cynnwys Gruffydd Sion Rees, Richard Vaughan, Bethan Frieze ac Abigail Blackman,.
Cafwyd y wledd briodas mewn gwesty yn y Dryslwyn.  Dymunwn bob bendith i’r pâr priod a iechyd da i’r dyfodol.  Mae’r ddau wedi ymgartrefu yn Ninas Caerdydd.

24.7.11

Caersalem Tycroes - Blaenoriaid Newydd

Mrs. Gillian, Griffiths, Alun Wyn Griffiths a Mrs. Rhian Wyn Jones

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghapel Caersalem, Tycroes yn ddiweddar fe etholwyd Gillian Griffiths, Heol Tycroes (dosbarthwr ffyddlon ‘Glo Mân’) a’i mab, Alun Wyn Griffiths, ynghyd â Rhian Wyn Jones, Heol yr Hafod, yn Flaenoriaid. Dymunwn bob bendith arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.

19.7.11

Pwerdy Iaith


Daeth llu o drigolion Cymoedd Aman a Thawe ynghyd yng Nghanolfan y Mynydd Du Brynaman nos Lun 13 Mehefin er mwyn lansio a sefydlu pedwar Pwerdy Iaith yn yr ardal fel rhan o Gynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe.

Mae’r Cynllun newydd yma yn cael ei hyrwyddo a’i weithredu gan swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg a swyddogion Menter Bro Dinefwr, Menter Castell-nedd Port Talbot a Menter Brycheiniog a Maesyfed. Nod y Cynllun yw codi’r ymwybyddiaeth a’r defnydd o’r iaith Gymraeg yng nghymunedau  Aman Tawe ac i egnïo a bywiocau gweithgareddau ieithyddol a diwylliannol ar draws yr ardal.

Gan groesawu pobl i’r Lansiad dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

“Ardal y glo carreg, cartref chwaraewyr rygbi fel Gareth Edwards a Shane Williams a diddanwyr fel Ryan Davies a Huw Chiswell...ardal Aman Tawe yw un o ardaloedd mwyaf cyfoethog y Gymraeg. Ond erbyn hyn mae’r Gymraeg mewn perygl o golli tir yn sylweddol. Mae lansio’r Pwerdai Iaith lleol hyn yn gyfle i fynd ati a thrafod y camau ymarferol nesaf o ran sut gellid diogelu’r Gymraeg i genedlaethau’r dyfodol yn yr ardal arbennig hon”.

Cafwyd cyflwyniadau hefyd gan swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Sali Islwyn, (Cyfarwyddwr Datblygu Cymunedol); Dilwyn Jones, (Rheolwr Rhanbarth y De Orllewin); a Llew Davies, (Cydlynydd Prosiectau Cynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe).

Bydd y Pwerdai Iaith yn mynd ati dros yr wythnosau nesaf i weithio ar brosiect a elwir yn “Balchder Bro”. Bydd yn gyfle i bobl leol greu DVD yn hyrwyddo eu hardaloedd gyda’r nod o hybu brwdfrydedd a balchder yn y gymdogaeth ac yn yr iaith Gymraeg. Roedd yna ddigonedd o frwdfrydedd i weld yn ystod Lansiad y Pwerdai Iaith gyda phobl leol yn byrlymu gyda syniadau cyffrous ynglŷn â gweithgarwch i sicrhau dyfodol lewyrchus i’r Gymraeg yn ardal yr Aman Tawe.  

Bydd croeso cynnes i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol y Gymraeg o fewn yr ardal gyfrannu i’r Cynllun newydd cyffrous yma. Am fanylion pellach, cysylltwch â Rhys Davies, Swyddog Datblygu Cynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe, ar 01269 825790 / rhys.davies@byig-wlb.org.uk

15.7.11

BEICWYR O FRI

Huw

Emyr 

Guto, Tim a Rob

Mae yna nifer o ardal Glo Man wedi gorffen teithiau beiciau nodedig yn ddiweddar.  Mae Emyr Stephens, yn wreiddiol o Rhydaman  wedi beicio o John O’Groats i Lands End. Aeth Guto Evans, Tim Jones a Rob Collard cyd weithwyr yng nghwmni TRJ Betws o Ty Ddewi i Ddiben Ness yn Lowestoft. Ym Mhencampwriaeth Beiciau Mynydd Ewrop enillodd Huw Thomas sy’n enedigol o Lanedi bencampwriaeth “Rookie” Ewrop a’r D.U.

10.7.11

Cylch Cinio Tybie.

Llun - Arwel Davies, Caerfyrddin
Crybwyllwyd Arwel Davies, ein cadeirydd, mai cyfarfod mis Ebrill, efallai, oedd un o uchafbwyntiau'r tymor pan ymunodd cyfeillion Cylch Cinio Rhydaman gyda ni yn y Clwb Golff Glynhir. Wedi estyn croeso cynnes i'n ffrindiau gwahoddwyd Mr.Elfryn Thomas, ysgrifennydd Gylch Rhydaman gan Arwel i offrymu'r fendith cyn bwyd. Wedi bwyta roedd yn amlwg bod pawb wedi eu bodloni gyda safon uchel y lluniaeth.

Ein gwr gwadd am y noson oedd Mr.Elfan Bell. Brodor o Felindre, ger Abertawe oedd e'n wreiddiol ac yn awr yn gyfreithiwr yn Rhydaman ers blynyddoedd. Wedi ei groesawu a'i gyflwyno gan Arwel cymerodd Mr.Bell "Cyfreithiau Hywel Dda" fel pwnc ei sgwrs. Bu Hywel Dda fyw tua'r cyfnod 900 AD. Ef oedd brenin Deheubarth Cymru cyn iddo ehangu ei freniniaeth i gynnwys Gorllewin Cymru hefyd.. Am y tro cyntaf erioed, yn ystod ei deyrnasiad, cofrestrwyd ar bapur deddfau i ni'r Cymru, deddfau da a chyfiawn, deddfai yn llawn synnwyr cyffredin a thostiri. Cyfreithiau. er Iles y bobl oedd gan Hywel Dda tra yn Lloegr ar y pryd, cyfreithiau er Iles y brenin a'i rheolwyr oedd yno . Rhoddodd Elfan engreifftiau diddorol trwy gydol ei sgwrs yn cymharu deddfau Cymru a deddfau Lloegr.

Cynigodd Mr.Calvin Davies, Cadeirydd Cylch Rhydaman diolch didwyll i Elfan Bell, a gwnaeth y sylw bydde'n rhyfeddu dim pe bai deddfau Lloegr ac nid deddfau Hywel Dda oedd wrth wraidd y dywediad Saesneg, "the law's an ass". Ategodd Arwel at y diolchiadau gan fynegi hefyd ei foddhad o gael cwmni pleserus brodyr Rhydaman

9.7.11

Dychwelyd adre

Rhai o aelodau Ysgol Sul Moreia, Tycroes 1944-53 – Mrs. Eiry Davies, Dafydd Wyn, Geraint Roderick ac Elfryn Thomas
Da oedd cael y cyfle o groesawu i bulpud Moreia yn ddiweddar un o blant yr eglwys yn Dafydd Wyn, Glanaman. Brodor o Heol yr Hendre, Tycroes yw Dafydd yn fab i Joe ac Ethel Davies ac yn frawd i Tesni. Mynychodd ysgol y pentre, Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman a graddiodd yn y Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Bu yn athro ar hyd ei oes – yn Llundain, Ysgol Berwyn y Bala a phennaeth yr Adran Saesneg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera. Tra yno meithrinodd llawer tîm siarad cyhoeddus a fu yn hynod lwyddiannus mewn gornesu Prydeinig. Un a gyflwynod werthfawrogiad o Dafydd fel athro oedd Sian Lloyd sydd yn cyflwyno’r Tywydd ar ITV. Mae Dafydd yn lenor ac yn awdur. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mrynaman ac y mae wedi cyhoeddi nifer o nofelau yn enwedig i blant. Mae yn aelod o Gyngor Tref Cwmaman ac yn gyn-faer.

LLYWYDD NEWYDD

Ar ddiwrnod hyraf y flwyddyn, Mehefin 21ain, roedd capel Gellimanwydd, Rhydaman, am y tro cyntaf yn ei hanes, yn gyrchfan i chwiorydd yr Annibynwyr, Talaith y De, i’w cyfarfod blynyddol. Yn ystod y gwasanaeth cafodd Bethan Thomas, Tycroes yn cael ei hurddo yn Lywydd yr Adran gan olynu Mrs. Carys Williams, gweddw’r diweddar Barchedig Meurwyn Williams, Rhosaman.
Bu Bethan yn Ysgrifennydd Talaith y De am nifer fawr o flynyddoedd a chael cyfle i gwrdd a gweithio gyda chwiorydd o Gasnewydd i Aberdâr ac i Lambed. Hi yw Ysgrifennydd Gellimanwydd, yn athrawes Ysgol Sul ac yn gyfrifol am drefnu y Drws Agored a gynhelir yn Neuadd Gellimanwydd bob bore Iau. Y mae hefyd yn Drysorydd Cangen Rhydaman o Ferched y Wawr ac yn aelod o bwyllgor Pensiynwyr Tycroes.
Yn ystod y gwasanaeth yng Ngellimanwydd roedd grŵp o chwiorydd o’r Adran Genhadol, sef aelodau o Moreia, Tycroes, Y Gwynfryn a Gellimanwydd, Rhydaman yn cyflwyno eitem. Mrs. Hazel Charles Evans, Llandybïe oedd yn annerch.


Codi Arian


Miss Stephanie Davies
Mae sawl ffordd o godi arian at amrywiol elusennau a gan nad oes casglu o dŷ i dŷ bellach ym mhentref Tycroes yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol cafodd Stephanie Davies y syniad o greu Cwis Emynau. Bu wrthi’n ddygn yn paratoi cwis yn seiliedig ar ‘Caneuon Ffydd’, ‘Y Caniedydd’, ‘Caniedydd yr Ifanc’ a ‘Cydymaith Caneuon Ffydd’. Mae yna ôl llafur mawr arno ac fe edrychir ymlaen yn eiddgar i wybod pwy fydd yr enillydd.
Mae Stephanie yn gweithio yn y DVLA yn Nhreforys, yn Ysgrifennydd Cymanfa Ganu Gyd-enwadol yr Annibynwyr a’r Methodistiaid Ardal Rhydaman a’r Cylch ac yn Is-organydd capel Moreia, Tycroes.
Da iawn Stephanie. Mae llawer o bobl wedi cael crin hwyl a chrafu pen yr un pryd wrth geisio cwblhau’r cwis. Mae’r elw yn mynd tuag at ymgyrch Moreia i Wythnos Cymorth Cristnogol.

7.7.11

RAS TRAP - SHANE WILLIAMS YN DENU TYRFA

Bu Râs Hwyl Trap, y 24ain yn ei hanes yn llwyddiant ysgubol gyda 200 o bobol o bob oed ac o bob cwr o Dde a Gorllewin Cymru yn cymryd rhan. gan gynnwys nifer fawr o ardal y Glo Mân. Dechreuwyd y ddwy râs gan Shane Williams a chafwyd awyrgylch cyfeillgar braf yma eleni eto - mae hyn yn nodweddiadol iawn o'r digwyddiad hwn ac yn sicr mae'n un o'r rhesymau dros y llwyddiant mae wedi mwynhau ar hyd y blynyddoedd. Ennillydd y Râs agored (4.7 milltir) oedd Dewi Griffiths Llanfynydd (24 munud. 30 eiliad) tra y ferch cyntaf oedd Jade Williams, Rhydaman (29.48) - y ddau yn gwneud y cyfan i edrych mor rhwydd!. Cafwyd perfformiadau gwych yn y Râs Iau (2.8 milltir) gan Christian Lovatt, Rhydaman wrth iddo ennill mewn 16munud 48 eiliad am y bedwaredd tro yn olynnol. Aeth bron i dair munud heibio cyn i'r rhedwr nesa' gyrraedd, ond er syndod i bawb, merch 12 oed oedd y nesaf i groesi'r llinell, sef Amber Howell o Betws (19.23). Mae 'r ddau yn athletwyr disglair, mae'n amlwg.
Bydd elw'r râs eleni yn cael ei rannu rhwng y Sioe a 'Brainstrust', elusen Meg Jones at gancr yr ymennydd. Diolch i bawb a gymrodd rhan.

Cadeirydd Sioe Trap sef Randall Humphries, Forge House, Llandyfan yn cyflwyno llun i Shane Williams am ddod i ddechrau Râs Trap am y drydedd flwyddyn yn olynnol. Hefyd yn y llun mae Llywyddion a Noddwyr y Râs Simon Griffiths (SJ Griffiths a'i Fab) a Arwyn Williams (Gelli Plant). Yn y cefndir mae'r plant yn paratoi at ddechrau'r râs.


 Mae Darryll Gittins o Bancyfelin, Llandyfan (canol) yn gwybod yn iawn am y cymorth a'r gefnogaeth mae elusen 'Brainstrust' yn cynnig i bobol sy'n dioddef o gancr yr ymennydd. Rhedodd ei ddau fab Luke ac Adam (Ch-Dde rhes gefn) a'u ffrindiau Sam Carden, Llandyfan (rhif 6) a David Jenkins, Llandeilo (rhif 5) yn y râs yn arbennig i godi arian ac ymwybodaeth am yr elusen. Hefyd yn y llun mae Arwyn Williams (Gelli Plant), Simon Griffiths (SJ Griffiths a'i Fab), Randall Humphries, Cadeirydd y Sioe, a Jeff Phillips (Brecon Water).


Lisa Thomas, Derwen Fawr Llandybie a'i merched Charlotte a Olivia yn cael eu llongyfarch gan Jeff Phillips, Rheolwr Brecon Water.

Jeff Phillips Rheolwr Brecon Water yn llongyfarch y tim buddugol sef Ysgol Gyfun Rhydaman Chwith - dde Jacob Lylles, Kieran McKaye a Christian Lovatt





5.7.11

Genedigaeth


Llongyfarchiadau i Rhys a Julie Thomas, Ffinant, 32 Heol y Cyrnol, Betws ar enedigaeth eu plentyn cyntaf Efa Nel ar ddydd Iau,Ebrill 28ain. Mae Efa yn wyres i Harri a Wendy Thomas, Cymer House, Betws a Handel a Susan Davies, Aberlash, ac yn gyfneither fach newydd i Mari, Dafydd, Elen a Marged.

LLongyfarchiadau i Lowri (gynt o Brynffin y Betws) a James, ar enedigaeth mab, Iestyn. Mae'r teulu i gyd yn ymfalchio yn yr un bach a dymunwn bob hapusrwydd iddynt i'r dyfodol.

4.7.11

Bwrlwm Bro yr Ysgolion Sul


Dydd Sul 22Mai am 10.30 cynhaliwyd Bwrlwm Bro’r Ysgolion Sul  yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Daeth criw da ynghyd o gapeli Brynaman, Capel Hendre Llangennech Pontarddulais, a Rhydaman,

Mr Nigel Davies, Swyddog Swyddog Plant / Ieuenctid, Menter Ieuenctid Cristnogol Sir Gâr oedd yn gyfrifol am y bore. Drwy gyfrwng PowerPoint a fideo cawsom hanes iachau'r dynh dall.  Yna cafodd y plant gyfle I gymryd rhan mewn gweithgareddau a gemau yn seilidig ar yr hanes.

Prif bwrpas Bwrlwm Bro yw calonogi gwaith yr Ysgol Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant gymdeithasu a dysgu yng nghwmni ei gilydd. Roedd y sesiwn wedi ei gynllunio’n ofalus o gwmpas hanes “ iachau y dyn dall ger Pwll Siloam” ac yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau cyffrous.

Cafodd y plant brofiad llawn hwyl,  tra ar yr un pryd cyflawni amcan yr Ysgol Sul o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw.

Y gweithgaredd nesaf bydd Mabolgampau Dan Do ar gyfer Ysgolion Sul / clybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin Dwyrain Sir Gâr yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman ar  Nos Lun Gorffennaf 11eg.

2.7.11

BBC CYMRU - BWLETIN



Nos Iau, Mai 26ain, recordiwyd  rhifyn o'r rhaglen radio Bwletin yn Nhafarn y Tregib, Brynaman, ac fe'u darlledwyd Nos Wener Mai 27ain ar Radio Cymru, gydag ail-ddarllediad ar y Sadwrn, Mai 28ain. Er mai siomedig oedd y nifer  yn y gynulleidfa, cafwyd llawer o chwerthin yng nghwmni'r digrifwyr i gyd. Yn  y llun gwelir Arfon Haines Davies, Kevin Davies, Gary Slaymaker (cyflwynydd), Ifan Gruffudd a Phil Evans, ac o'u blaen, Jay Joseph, perchennog y Tregib.
Cafodd y criw groeso brwd gan Jay a'i wraig, Jacqui, sydd wedi gweithio'n galed  i roi gweddnewidiad i lolfa'r Tregib yn ddiweddar, a'i droi yn fwyty.Mae'n siwr y bydd  yr un croeso yn aros  holl drigolion yr ardal  os galwant  i mewn i'r Tafarn hanesyddol hwn yn y pentref.  
Help / Cymorth