16.8.11

Mabolgampau Dan Do Ysgolion Sul Sir Gaerfyrddin


Cwblhawyd blwyddyn o weithgareddau ar gyfer yr Ysgolion Sul yn sir Gaerfyrddin gyda mabolgampau dan do. Mae poblogrwydd y digwyddiad hwn wedi tyfu yn aruthrol ac eleni cynhaliwyd tair noson o gystadlaethau gyda thyrfa niferus iawn yn bresennol ar bob achlysur. Cynhaliwyd cystadlaethau rhanbarthol ar gyfer y dwyrain a’r gorllewin gyda rowndiau terfynol y sir yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin.
Trefnwyd cystadlaethau ar gyfer pob ystod oedran, o’r meithrin hyd at 18 oed, gyda chyfanswm o 59 o gystadlaethau. Roedd amrywiaeth eang yn y math o gystadlaethau er mwyn rhoi cyfle i gymaint â phosib i fedru cymryd rhan. Yn ogystal â gwahanol fathau o rasys, cafwyd hefyd gwahanol fathau o gystadlaethau maes megis, taflu pêl am nôl, taflu pwysau, neidio cyflym (“speed bounce”), naid hir, naid driphlyg a thynnu rhaff. Gwobrwywyd y tri cyntaf yn y rowndiau terfynol gyda medalau “aur”, “arian” neu “efydd.”
“Cyffro”, “llawenydd”, “hwyl”, “sgrechian”, “gwefr” yw’r geiriau sy’n llifo i’r meddwl wrth gofio am yr achlysur.  Roedd yr holl ddigwyddiad yn hysbyseb o’r math orau i’r Ysgol Sul ac i’r clwb Cristnogol.
Bydd M.I.C. eto yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau cyffrous y tymor nesaf ond yn y cyfamser os hoffech weld rhagor o luniau o’r mabolgampau ewch i www.micsirgar.org
(Mae M.I.C. yn gweithio’n  gyd enwadol ar draws sir Gaerfyrddin gyda’r nod o hybu tystiolaeth yr efengyl ymhlith plant a phobl ifanc ac mae croeso i unrhyw eglwys o fewn y sir i fod yn rhan o’r Fenter. Am fanylion pellach cysyllter â Nigel Davies ar (01994)230049 neu mic@uwclub).

3.8.11

Merched y Wawr - Cangen y Gwter Fawr.

Cynhaliwyd Cinio Blynyddol y Gangen ym Mwyty’r Mynydd Du ar nos Wener, 10 Mehefin. Cafodd pawb  bryd bwyd blasus iawn gyda digon ohonno.
    Wedi i bawb lenwi’u boliau daeth yr amser i glywed gair gan y gwr gwadd. O ddweud mai Sulwyn Thomas oedd y gwr gwadd bydd pawb yn sylweddoli mai nid ‘gair’ a gafwyd ond geiriau a’r rheinny’n rai difyr iawn fel y byddem yn ei ddisgwyl gan un sydd wedi hen arfer diddori a diddanu ei wrandawyr gyda’i ddawn eiriol.
    Da hefyd oedd gallu croesawu Glenys a ddaeth i ofalu bod ei gwr yn saff ynghanol yr holl fenywod.
   ‘Roedd Richard wedi dod nôl i ofalu am y coginio am y noson a dymunwn yn dda iddo ef a Maria pan symudan nhw i Hwngary o fewn ychydig wythnosau nawr.
    Bydd egwyl nawr dros fisoedd yr haf ond bydd y cyfarfodydd yn ail-ddechrau ym mis Medi – yr ail nos Wener o’r mis, am 7 o’r gloch yn Neuadd yr Henoed – pan fydd croeso mawr i aelodau hen a newydd
Help / Cymorth