Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

28.2.11

“Y Dyn ۥNath ddwyn y ‘Dolig”


Yn ystod ail wythnos mis Tachwedd bu nifer o blant ardal Glo Mân sy’n ddisgyblion yn Ysgol Maes Yr Yrfa yn perfformio’r sioe gerdd “Y Dyn ۥNath ddwyn y ‘Dolig” gan Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones yn Neuadd Pontyberem. Cafwyd chwe pherfformiad i gyd a’r cynulleidfaoedd yn ymhyfrydu yn y wledd i’r glust a’r llygad ac yn ymuno yn yr hwyl.

Y gyfarwyddwraig a’r cynhyrchydd oedd Carys Edwards, Pennaeth y Gyfadran Greadigol, a’r cyfarwyddwr Cerdd oedd Nickola Roderick, Pennaeth yr Adran Gerdd. Y coreograffydd oedd Jane Walby, cynllunydd ac arlunydd y set Karen McRobbie a’r Cynorthwydd Cerdd a Gwaith ffilm Meredudd Jones.
Chwaraewyd rhan Mordecai ag arddeliad gan Cellan Evans Blwyddyn 10 a rhoddodd Gareth Thomas Blwyddyn 10 bortread annwyl ac argyhoeddiadol o Sam Crosby. Swynwyd y gynulleidfa gan leisiau swynol Sara Owen, Lowri Heseltine, Liam Bowen a Mirain Lewis a chwaraeai’r prif rannau eraill yn broffesiynol a disgybledig iawn. Roedd cyfraniad y cymeriadau a chwaraeai “Mafia” Mordecai yn rhoi adloniant doniol iawn.
Roedd y gwaith ffilm yn cynnig dimensiwn ychwanegol i’r hwyl a’r sbri a chyfraniad band yr ysgol, yn cynnwys staff a disgyblion, yn gaboledig.
Llongyfarchiadau mawr iawn i bob un a wnaeth y perfformiad yn ddifyr iawn a bythgofiadwy yn ogystal â phroffesiynol.

Llun – Cellan Evans
Llun – Mari Llywelyn ac Elan Daniels

No comments:

Help / Cymorth