Nos Wener 20 Chwefor cynhaliwyd Cwis Pwerdy Iaith Aman Isaf yng Nghlwb Rygbi Rhydaman. Daeth criw da ynghyd gan gynnwys dau dîm o ddysgwyr. Edwyn Williams oedd y cwisfeistr. Wedi cystadlu brwd gan gynnwys ateb cwestiynau ar newyddion, “antiques roadshow” a cherddoriaeth y tîm buddugol, allan o 10, oedd Gruffydd Jones, Amy Jones, Dewi Evans a Rhiannon Hammond. Cawsant docynnau ar gyfer Twrw Tywi yn wobr. Diolch i Sarah Jones, cydlynydd y Pwerdy Iaith am drefnu noson hwylus llawn hwyl.
Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk ar unrhyw bryd.
Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32 edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

8.3.12
Gwasanaethau’r Nadolig
Gwen, Alex, Sian, Gerallt, Carwyn a Mallt
Cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig y plant ar 18 Rhagfyr ac er bod y rhif yn fychan, roedd y cynnwys tu hwnt o fendithiol. Bu tri o ieuenctid yr eglwys yn cynorthwyo’r plant. Casglwyd £200 i’w anfon i elusen ‘Shelter Cymru’ ac yna bu cyfle i fwynhau sgwrs gyda paned a mins peis.
Yna, yn absenoldeb y Plygain llynedd, oherwydd y tywydd garw, braf oedd medru cyd-addoli ar fore’r Nadolig eleni am 7 y bore, yn enwedig yng nghwmni nifer o’r ‘ieuenctid’ oedd adref - Mallt or Unol Daleithiau, Sian o Lundain ac yna Gerallt a Carwyn o’r Betws. Cymerwyd rhan hefyd gan Loreen, Delyth a Jean a chafwyd neges pwrpasol gan y Parchg Morgan Llewellyn Jones. Roedd yn hyfryd hefyd i groesawu Gwen, merch fach deunaw mis yno, i wrando ar ei mam Sian yn canu unawd mor hyfryd.
Ymweliad Mr. Peter Hain MP ag Ysgol Fach y Waun
Yn
dilyn ymweliad y plant hyn i’r cynulliad i
weld Mrs Gwenda Thomas AM, fe ddaeth Mr Peter Hain i’r Ysgol ar Ddydd Gwener yr ugeinfed o Ionawr.
Aeth
o gwmpas yr ysgol i gwrdd a holl staff a phlant yr ysgol.
Cafodd
gyfarfod hefyd gyda’r cyngor ysgol lle cafodd y plant gyfle i
holi Mr Peter Hain am ei waith. Cafwyd gwasanaeth byr ar ddiwedd yr ymweliad
gyda holl blant yr ysgol yn canu “Calon Lan”
Emily Meek (ysgrifennyddes y cyngor ysgol) a Josef Davies (cadeirydd y cyngor ysgol) aeth fynd a Peter Hain o gwmpas yr ysgol a hefyd Miss Sunderland sy’n gyfrifol am cyngor yr ysgol.
Daeth
y Cynghorydd Mrs Linda Williams i ymuno a ni a gwnaeth y ddau fwynhau yn siarad
gyda,r plant a’r athrawon a chawsant gyfle i weld y plant wrth eu gwaith.
Mae’r plant yn edrych ‘mlaen at ymweld a Mr
Peter Hain yn LLundain yn ystod tymor yr haf yn
yn ei swyddfa yn y senedd.
7.3.12
Seren y Dyfodol
Mae Seren
Medi Morse wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar. Mae hi erioed wedi
mwynhau cerddoriaeth ac mae hi’n canu’r piano ac yn cael gwersi canu. Mae hi
wrth ei bodd hefyd yn perfformio ac wedi gwneud hynny ers yn ifanc iawn mewn
eisteddfodau lleol ac yn Eisteddfodau yr Urdd.Mae yn ddisgybl yn Ysgol Berfformio Mark Jermaine ac mae hi
wedi cymeryd rhan mewn nifer o sioeau yn cynnwys sioe “Annie” yn y Grand yn
Abertawe.
Cafodd Seren
wahoddiad i ganu ar ei phen ei hun ym Mhort Talbot pan oleuwyd y goleuadau Nadolig. Deg mlwydd oed yw Seren ac mae hi a’i
theulu yn byw yn Pil ger Port Talbot. Yn ddiweddar bu hi’n ffilmio gyda criw Casualty
ac mae hi hefyd yn y cynhyrchiad diweddaraf o “Upstairs, Downstairs” a fydd yn
ymddangos ar y teledu y flwyddyn yma.
Mae’n amlwg
fod Seren wrth ei bodd yn canu ac yn actio ac edrychwn ymlaen i’w gweld yn y
ddwy rhaglen.
Llun:
Seren(ar ydde) gyda’i chwaer fach Mali ac mae’r ddwy yn ddisgyblion yn Ysgol y
Ferch o’r Sger ym Mhorthcawl.
Mae Seren a
Mali yn wyresau i Glenda a Brian Harrison, Heol Brynaman a Mrs Maggie Morse Red
Roofs.
Pob dymuniad
da I Seren a Mali I’r dyfodol.
Merched y Wawr Gwaungors
Etholwyd y canlynol fel swyddogion y gangen am y flwyddyn 2011-12 – Llywydd: Mrs Bethan Williams; Trysorydd: Ms Emily Hirishelwood; Is-drysorydd: Mrs Mary Jones; Ysgrifennydd: Mrs Rita Morgan.
Cynhelir y cyfarfodydd am 7.00 y.h. ar y drydedd nos Lun o’r mis yn Neuadd Gymunedol Cwmgors.
Y tymor diwerthaf bu’r gangen dan gwmwl trist. Bu farw dwy o’n haelodau mwyaf ffyddlon a gweithgar sef Mrs Mary Walters a Mrs Doreen Evans. Buodd Mary yn ysgrifennydd y gangen am sawl blwyddyn a Doreen yn lywydd arni. Fel cangen estynnwn ein cydymdeimlad yn ddwys iawn â’u teuluoedd yn eu hiraeth a’u galar.
Ar nodyn ysgafnach roedd yn bleser ac yn fraint
croesawu dwy aelod newydd i’n plith sef Mrs Meirwen Marks a Mrs Maureen Butt - y ddwy yn byw bellach yng Nghwmgors.
I gychwyn y tymor bu un o’n haelodau mwyaf dawnus a diymhongar, sef Mrs Mary Jones, Cwmgors yn siarad am ac arddangos peth o’i gwaith llaw. Dros y blynyddoedd mae wedi ennill sawl gwobr celf a chrefft am ei gwaith cywrair a medrus. Prif westai mis Hydref a Thachwedd oedd Mr Dafydd Lewis a Band y Waun a fuodd yn ein diddanu gyda raglen amrywiol o gerddoriaeth o wahanol wledydd, a Ms Priscilla Jones o’r Garnant. Dathlu’r Nadolig yn yr Almaen oedd testun anerchiad Priscilla. Cafwyd nosweithiau hyfryd a diddorol ganddynt.
Ar nos Lun, 16 Ionawr daeth nifer o aelodau ynghyd i glywed Mr David C. Davies, Ynad Heddwch o’r Glais yn sôn am “Atgofion hen ysgolfeistr”. Bu’n cofio am ei fagwraeth ar fferm ger Aberteifi ac atgofion melys a doniol oedd ganddo o’i gyfnod fel athro Bywydeg yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr ac yna fel dirprwy brifathro yn Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn iddo ymddeol yn 2005. Diolchwyd iddo am noson difyr a hwylus dros ben gan ein llywydd Mrs Bethan Williams.
Mrs Glenys Kim Protheroe oedd y siaradwraig wadd y ym mis Chwefror.
Croeso cynnes i aelodau hen a newydd.

Subscribe to:
Posts (Atom)