Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

4.7.14

Adroddiad yr Urdd Gorffennaf 2014 – Bro Glo Man


Mae’r Urdd wedi bod yn brysur iawn ers mis Medi yn cynnal amryw o weithgareddau i blant o bobol ifanc yr ardal.
Cynhelir sawl diwrnod o chwaraeon cynradd, gyda sawl ysgol o Gylch Aman yn cystadlu. Buont yn cystadlu mewn twrnamentau Pêl droed, Rygbi, Gymnasteg, Gala nofio a Phêl Rwyd dros dymor Hydref, gyda sawl unigolyn yn cynrychioli’r rhanbarth yn Genedlaethol. Braf oedd gweld sawl aelod o Ysgol Dyffryn Aman yn y Gala Nofio uwchradd, a diolch hefyd i’r disgyblion ddaeth i wirfoddoli ar y diwrnod.  
Braf oedd gweld cynifer yn cystadlu yn yr Eisteddfod gylch yn Ysgol Dyffryn Aman nôl ym mis Mawrth, gyda’r buddugwyr yn cynrychioli cylch Aman yn Eisteddfod Rhanbarth Dwyrain Myrddin. Yna yn y genedlaethol, teimlwyd balchder mawr wrth yr aelwyd ac ysgolion y cylch ar lwyfan y brifwyl! Gwelwyd Ysgol Gynradd Rhydaman yn cipio’r ddwy wobr gyntaf, dwy ail wobr ac un trydedd. Ysgol Dyffryn Aman yn cael ail wobr drwy Osian Clarke ar yr Unawd Bechgyn Bl.7-9 ac buodd Adran/Aelwyd Penrhyd, yn brysur iawn hefyd adeg Eisteddfodau  gyda’r grwpiau dawns ag  unigolion yn cipio pedwar gwobr gyntaf, dwy ail wobr ac un trydedd wobr. Unwaith eto, hoffem longyfarch pob un wnaeth gystadlu, a diolch i’r athrawon a hyfforddwyr am roi ei hamser i’w dysgu.
Cafwyd sawl taith i atyniadau amrywiol fel Alton Towers, Oakwood, Disney ac Abertawe gyda phlant a phobol ifanc yr ardal yn cael cyfle i fwynhau a phrofi pethau newydd. Fe aeth sawl ysgol gynradd ynghyd am gyfnodau preswyl yng Ngwersyll yr urdd Llangrannog a Chaerdydd,  a gobeithiwn yn fawr y dewch eto'r flwyddyn nesaf!
Os am ragor o wybodaeth am yr Urdd yn eich ardal, croeso i chi gysylltu â Lowri Morris (Swyddog Datblygu Uwchradd) ar 01267 676744 neu Sioned Fflur (Swyddog Datblygu Cynradd) ar 01267 676678.

No comments:

Help / Cymorth