Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.2.12

THE IRON LADY

Mae sylw mawr wedi bod ym myd y ffilmiau yn ddiweddar at y ffilm fawr The Iron Lady gyda Meryl Streep yn serennu! Ond o ddyffryn y glo y daw yr actors sy’n portreadu’r Thatcher ifanc a hynny gan Alex Roach o Rydaman. Yn gynddisgybl o Ysgol Dyffryn Aman, cafodd Alex sylw cynnar ar Bobol y  Cwm gan ennill gwobr am yr actores ifanc ddrwg orau yn Adloniant pobl ifanc. Teithiodd gyda Theatr Ieuenctid Cenedlaethol  Cymru cyn dechrau yn RADA, lle graddiodd yn 2010. Ers  hynny, mae’i gyrfa fel actores wedi mynd o nerth i nerth.
Mae’n braf cael llawenhau yn llwyddiant merch hyfryd a phob lwc i ti Alex!

No comments:

Help / Cymorth