Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

25.2.13

Lleisiau'r Cwm yn codi arian i Elusen 'Fields'


Catrin Hughes(Arweinydd Lleisiau'r Cwm o Ddyffryn Aman) a Catherine a Kirsty Fields o Ysgol Gyfun y Strade. Dros y blynyddoedd mae Lleisiau'r Cwm wedi codi miloedd at achosion da, ac maent yn parhau i wneud. Yn ddiweddar fe godwyd £1,000 i elusen 'Fields' -elusen sy'n agos iawn at galon Catrin.
Mae Catherine a Kirsty, efeilliaid, o Ysgol y Strade yn dioddef o glefyd unigryw sy'n effeithio'r cyhyrau, ac erbyn hyn mae'r ddwy yn gaeth i gadeiriau olwyn, ac yn ddibynnol ar beiriannau cyfathrebu i sgwrsio. Nhw mae'n debyg yw'r unig rai yn y byd sy'n dioddef o'r clefyd, ac ychydig fisoedd yn ôl, dilynodd S4C y ddwy am gyfnod ar gyfer y rhaglen ‘O'r Galon’, ‘Fy chwaer a fi’ –rhaglen a oedd yn llawn emosiwn, hiwmor a thristwch. Maent yn ddeunaw oed erbyn hyn, ac er eu bod yn byw adref gyda'u rhieni, maent yn ymweld â Ty Hafan yn gyson.Mae'r clefyd erchyll yma'n effeithio ar gyhyrau yn y corff, sy'n golygu bod y ddwy wedi eu parlysu. Maent yn dioddef o hyd at 100 spasm poenus y dydd, ac o ganlyniad, mae eu cyhyrau yn symud yn afreolus.

Does neb yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig, ond mae gan y ddwy neges bwysig i bawb-

“Peidiwch â theimlo trueni drosom ni. Does neb yn byw am byth. Byddwch yn hapus a gwenwch”.

No comments:

Help / Cymorth