Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

9.3.14

Pwyllgor Apêl Cwmaman Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr


Mae’r Pwyllgor Apêl wedi ymgynnull i godi arian i’r uchod a disgwylir i Gwm Aman godi cyfanswm o £8,000.  Erbyn hyn maent wedi casglu yn agos i £3,000, ond mae angen £5,000 arall i gyrraedd y nôd.  Felly, maent yn brysur iawn yn trefnu gweithgareddau yn y dyfodol agos, gan obeithio y bydd trigolion Cwmaman yn gwneud eu gorau i gefnogi Eisteddfod Sir Gâr.  Felly, fe geir rhestr o’r gweithgareddau ychwanegol yn y Glo Mân yn y misoedd nesaf.

No comments:

Help / Cymorth