Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

2.4.14

Steffan Huw Watkins

Ers llawer blwyddyn bellach mae deg o eglwysi Annibynnol a Methodistaidd cylch Rhydaman wedi ymuno i gynnal Cymanfa Ganu Gyd-enwadol ar Sul y Blodau yng Ngellimanwydd, Rhydaman gan gynnwys Eglwysi Moreia a Chaersalem, Tycroes; Ebeneser, Llanedi a Chapel yr Hendre. Mae’r arweinydd eleni, Steffan Huw Watkins, a chysylltiadau agos â Thycroes. Magwyd Steffan yn y Fforest, Pontarddulais, yn fab i Huw a Menna, yn frawd i Sioned, ac yn ŵyr i Eilir a’r diweddar Eifion Watkins, Heol Pontarddulais, Tycroes. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Dewi Sant, Llanelli ac Ysgol Y Strade, cyn ennill gradd yn y Gymraeg a cherddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Steffan bellach wedi ymgartrefu yn y Brifddinas ac yn gweithio ym myd y cyfryngau yn adran gynhyrchu cwmni Boomerang. Mae’n ymddi-ddori’n fawr ym myd cerddoriaeth, ac yn ogystal â chanu’r piano a’r trwmped, mae wrth ei fodd â chanu corawl. Ers yn blentyn, bu’n ymwneud ag amrywiol fandiau a chorau. Mae’n gyn-aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn un o sylfaenwyr Côr Aelwyd y Waunddyfal, arweinydd Côr Bois y Waun a bellach yn aelod brwd o Gôrdydd.  Pan fod ganddo ychydig amser hamdden, mae wrth ei fodd yn cadw’n heini a chefnogi’r Sgarlets.
            Cynhaliwyd dwy ysgol gân undebol eisoes ac fe fydd yr olaf yn cael ei chynnal yng Ngellimanwydd, Nos Sul, Mawrth 23ain. Yna Nos Sul, Ebrill 6ed am 5.30 o’r gloch fe gynhelir rihyrsal i’r gymanfa gyda Steffan Huw Watkins yn arwain ac ar y Sul canlynol, Sul y Blodau fe gynhelir y Gymanfa yng Ngellimanwydd. Oedfa’r plant yn y bore am 10.30 a’r oedolion yn yr hwyr am 5.30 o’r gloch.

No comments:

Help / Cymorth