Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

4.6.14

Clwb Drama newydd yn y Dyffryn!


Mae Partneriaith Aman Tawe mewn cydweithrediad ac Elin Wyn Murphy wedi dechrau Clwb canu, actio a dawnsio newydd sef ‘Serennu’. Mae’r Clwb yn cael ei redeg bob nos Fawrth yn Neuadd Drama Ysgol Dyffryn Aman.  Amseroedd Serennu yw, 4.45pm-5.00pm i flynyddoedd 1,2 a 3 a rhwng 6pm-7pm i flynyddoedd 4,5 a 6.

Croeso i fechgyn a merched i ddod i ymarfer a dysgu sgiliau newydd. Mi fydd Serennu yn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar 2014 yn Llanelli'r flwyddyn yma.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Sarah Jones ar 01558 825336 neu hoffwch ein tudalen ‘Facebook/ Serennu’.

No comments:

Help / Cymorth