Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

Showing posts with label Garnswllt. Show all posts
Showing posts with label Garnswllt. Show all posts

18.2.13

N ewid Byd

Fy enw yw Rachel Lewis ac rwy’n byw ym Mhontarddulais ac yn ferch i Bethan Lewis. Mae gennyf un chwaer Carys. Fy nhadcu a mamgu yw Marcus ac Ivy sy’n byw yng Ngarnswllt. Rwy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Morgannwg ac yn hyfforddi i fod yn Nyrs.

Cefais i a thri arall y cyfle i fod ar yr ail gyfres o ‘Newid Byd’ ac felly aethom i Uganda i wirfoddoli haf diwethaf. Yn gyntaf roedd rhaid i ni ddanfon cais a rhoi rhesymau pam taw ni dylai cael ein dewis ar gyfer y daith. Cynhaliwyd dau ddiwrnod dethol pan gawsom gyfle ddangos ein cymeriad a’n hymateb wrth gyd-weithio gydag eraill.

Roedd y daith i gyfandir Affrica yn brofiad gwych yn enwedig y cyfle i ddod i adnabod disgyblion ysgol ‘Child of Hope’, cynnal mabolgampau, adeiladu ystafell ymolchi, atgyweirio drysau rhai o’r cartrefi, coginio i 70 a dod i adnabod cymuned hollol wahanol i gartref.

Aethom ymlaen at elusen emosiynol iawn, sef ‘Pont’ ac fe gawsom gyfle i gwrdd a gwragedd sy’n dioddef o HIV a cheisio cynnig cymorth iddynt yn eu busnes creu gemwaith a mwclysau allan o bapur.

Yn ogystal cyflwynodd yr elusen ni i ysgol gynradd arall lle cawsom gyfle i greu llyfrgell newydd.
Roedd y gwaith yma’n hwyl wrth i ni baentio ac addurno’r ’stafell a chofio am ein plentyndod ein hunain wrth gyflwyno ein hoff lyfr iddynt.

Cawsom gyfnod anodd pan fu rhaid inni adeiladu sied enfawr i’r geifr a hynny mewn gwres annioddefol ar gyfer yr elusen ‘Dolen Ffermio’. Roedd yn waith corfforol ond gwerth yr aberth.
Rhaid oedd torchi llewys hefyd wrth blannu coed gydag elusen ‘Maint Cymru’ a chynaeafu coffi gydag elusen ‘Masnach Deg’ - dysgais gymaint wrth wneud hyn.

Ehangodd y daith fy ngorwelion. Roedd rolio papur i greu gemwaith, defnyddio morthwyl, casglu ffa coffi a phlannu coed yn gwneud i mi werthfawrogi ymdrech trigolion gwledydd y Trydydd Byd i wella eu byd.
Roedd y gyfres ar S4C yn ystod Ionawr  am 5.30 ac mae’n parhau bob wythnos ar nos Lun. Mae’r gyfres llawn sialensau, antur ac emosiwn. Gwyliwch!

6.12.12

Urdd y Seren Fore


Cynhaliwyd rihyrsal Cymanfa yr Urdd ar ddydd Sul, Hydref 14eg yn Noddfa. Yr arweinydd oedd Davina Evans, Organyddes Noddfa. Gillian Tancock fu’n cyfeilio i ni a’r Llywydd oedd Ivy Hopkins. Cymerwyd y rhannau arweiniol gan Elisha Rosser a Benjamin Mainwaring.

22.10.12

Taith Gerdded Cymorth Cristnogol Rhydaman


Dydd Sadwrn, 22 Medi cynhaliwyd taith gerdded Cymorth Cristnogol Rhydaman. Roedd criw da wedi dod ynghyd o nifer o gapeli ac eglwysi’r dref a phentrefi cyfagos.  Cawsom dywydd bendigedig a ‘r daith yn hynod bleserus gan ddilyn yr afon ar hyd y llwybr o Garnant i Rhydaman. Ar ol cyrraedd Rhydaman cawsom gwpanaid o de yn Neuadd Gellimanwydd.
Mae’r arian yn dal i ddod i mewn ond llwyddwyd i gasglu swm anrhydeddus tuag at Ymgyrch  Cymorth Cristnogol y dref. Mae’n bleser cyhoeddi bod Pwyllgor Cymorth Cristnogol Rhydaman yn cyfrannu dros £8,000 yn flynyddol tuag at yr elusen.

4.3.12

Eisteddfod Flynyddol Garnswllt

Cynhelir yr Eisteddfod eleni ar nos Wener, Mai 4ydd. Y beirniaid yw: Mair Wyn (adrodd), Davida Edwards, Betws (canu). Croeso i bawb i gystadlu. Cofiwch gefnogi’r hen draddodiad sydd wedi bod gyda ni yma yng Ngarnswllt ers dros 50 mlynedd (yng nghapeli
Gerazim a Noddfa). Y gyfeilyddes yw Gloria Lloyd.

19.4.11

Neuadd y Pentre, Garnswllt

Roedd Nos Wener 11 Mawrth yn Noson Agored yn y Neuadd. Rhoddodd y Cyng Alun Lewis fras-ddarlun o hanes codi'r neuadd. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn yr awyr agored yn 1947 ac wedyn yn Festri Capel Noddfa.

Y neuad dyn unig adeiladwyd ar y cychwyn, yna adeiladwyd cegin, ystafelloedd eraill a chawodfa. Roedd tim y Cathan Stars a chlybiau eraill yn ei ddefnyddio.

Hyfryd oedd gweld Emyr Davies yn bresennol, oherwydd bu ei dadcu yn un o'r bobl prysur a frwydrodd yn gryf i gael neuadd yn Garnswllt. Cofiwn hefyd am ein cyndadau a fu yn rHoi arian allan o'u cyflog yn y gwaith glo tuag at y neuadd. Ar y diwrnod yr agorwyd y neuadd claddwyd tadcu Emyr, felly roedd yn ddiwrnod cymysg o hapusrwydd a thristwch.

1.7.10

Anrhydeddu Mrs Rithia Davies

Yn ddiweddar arnhydeddwyd Mrs Rithia Davies am fod ar Bwyllgor y Neuadd o’r cychwyn a hynny am 50 o flynyddoedd. Yn y llun gwelir Mrs Davies yn cael ei anrhydeddu gan y cynghorydd Alun Lewis. Hefyd yn yr ail lun mae aelodau o’r Pwyllgor presennol.

3.6.10

Dathlu Hanner Can Mlynedd

Ar Sadwrn 10ed o Ebrill, cawsom barti yn y Neuadd i ddathlu hanner can mlynedd ers sefydlu y neuadd. Y gŵr gwadd oedd y Cyng Ioan Richards, Dirprwy Faer Dinas a Sir Abertawe.  Cyflwynodd y Cyng Alun lewis y gŵr gwadd. Roedd hefyd yn hyfryd cael cwmni Y Cyng. Dorian Williams.
Dywedodd Ioan Richards bod pobl y Garn yn hoffi parti, gan  fu na barti yn 1750 yn y fferm Gerdinen Fawr i ddathlu dechrau'r achos yn Capel Gerazim.
Cyflwynoddy Cyng Alun Lewis torch o flodau i Mrs Rithia Davies a oedd wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor cyntaf yn festri’r capel. Erbyn heddiw gwragedd yw y rhan fwyaf o'r Pwyllgor. Trefnwyd adloniant i'r plant gan “Sparky’s Parties”. Roedd pawb wedi mwynhau te ardderchog wedi ei baratoi gan Pat Foster. Da Iawn a diolch yn fawr Pat.

6.2.10

NODDFA GARNSWLLT

Ar Sul 6 Rhagfyr cafwyd oedfa amrywiol o dan ofal chwiorydd yr Ysgol Sul. Y Sul canlynol cafwyd oedfa fendithiol iawn wedi ei harwain gan y diaconiaid. Awena Lewis oedd wrth yr organ.
Cynhaliwyd oedfa’r Nadolig ar Sul 20 o Rhagfyr o dan ofal yr Ysgol Sul.
Cyflwynwyd Ddrama’r Geni. Diolch i bawb a gymerodd rhan a hyfryd oedd gweld pawb wedi gwisgo yn y ffordd draddodiadol ar gyfer y perfformiad. Diolch i Gillian Tancock am ganu'r organ.
Diolch hefyd i Sioned Rees am ganu'r piano yn gyfeiliant i blant y Festri.

9.1.10

Urdd y Seren Fore

Ar y Sul cyntaf o Dachwedd cynhaliwyd y Gymanfa Ganu yng ngofal Mrs Davinia Evans, Noddfa. Cafwyd eitem adrodd gan Noddfa a grŵp canu o Bethesda Glanaman. Diolch i Mrs Margaret Rees, Penybanc. Roedd yn brynhawn hyfryd.
Erbyn hyn rydym yn bedwar Capel tra pan ddechreuwyd y Gymanfa yn 1936 roedd deg o gapeli yn cyrmyd rhan.

21.11.09

Noddfa a Gerazim

Bore Dydd Sul cyntaf Mis Hydref cynhaliwyd cyrddau Diolchgarwch y Capel. Hyfryd oedd gweld a clywed y plant o dair blwydd oed i ddeuddeg yn cymryd rhan. Y plant oedd yna rwain drwy ddarllen, cyhoeddi’r emyn a gweddio. Wedi cyflwyno yr adnodau death y plant ymlaen gydai anrhegion diolchgarwch. Bendithiodd Ivy y ffrwythau a’r llysiau.
Roedd cymundeb yn yr hwyr yng ngofal y Parchg Lyn Rees, Saron. Ar Nos Lun cawsom y fraint i gael cyrddau Diolchgarwch o dan ofal y parchg Gwyndaf Jones. Diolchwyd i bawb a fuodd yn addurno’r Capel a’r rhai a ddosbarthodd y cynnyrch i hen bobl y pentref.

Y Parchg Vincent Watkins, Pontlliw oedd yn gyfrifol am gyrddau diolchgarwch Capel Gerazim. Diolch i Mr Eifion Squires am ei waith o sicrhau bod y fynwent yn edrych mor dda.

22.10.09

Noddfa

Nos Iau 3ydd Medi cynhaliwyd Cyrddau blynyddol y Cwrdd Sanana yng Nghapel Noddfa. Cawsom alwad i addoli gan y Parchg Mary Davies. Mrs Menna Jones oedd yn gyfrifol am y rhannau arweiniol. Rhoddwyd gair o groeso i bawb gan Mrs Ann Thomas. Darllennodd Miss Aerona Jones y cofnodion a rhestr yr eglwysi. Wedi adroddiad gan y trysorydd, Mrs Heulwen Rees, cawsom eitem gan Gôr y Chwiorydd. Y Parchg Mary Davies oedd yn coffau y galarwyr a Mrs Relda Edwards a Mrs Margaret Rees oedd yn gyfrifol am y casglyddion.
Galwodd y Llywydd, Y Parchg Mary Davies, ar y darpar Lywydd Mrs Ivy Hopkins i wisgo’r bathodyn a llofnodi’r Beibl. Adroddodd Mrs Ann Thomas ychydig o hanes Ivy ac offrymu’r Urdd Weddi.
Cawsom anerchiad pwpasol gan Y Parchg Mary Davies. Cyflwynwyd y diolchiadau ar ran Noddfa gan Mrs Mary Prescott. Yr Organyddes oedd Mrs Davina Evans.

4.8.09

PRIODASAU ARBENNIG

Llongyfarchiadau i Noa a Nansi Miles wrth iddynt ddathlu eu penblwydd priodas 65 o flynyddoedd yng Nghartre Preswyl Ael-y-Bryn. Mae Nansi yno am ychydig wythnosau.

Hoffai Marcus ac Ivy Hopkins ddiolch i bawb am gardiau, blodau ac anrhegion wrth iddynt ddathlu eu Priodas Aur ar Fehefin 27.

10.7.09

Eisteddfod Flynyddol Garnswllt

Cynhaliwyd yr Eisteddfod ar nos Wener, Mai 8 yn y Neuadd. Diolch i’r beirniaid am eu gwaith: Berian Lewis a Mair Wyn ac i Gloria Lloyd a fu’n cyfeilio.
Dim ond unwaith yn ystod yr 50 mlynedd ddiwethaf y methodd Gloria a chyfeilio, a hynny oherwydd tostrwydd. Diolch hefyd i’r Llywydd, y Cynghorydd Audrey Jones am ei rhodd hael ac i bawb a gyfrannodd.

PRIODASAU AUR

Mae eleni yn flwyddyn brysur iawn. Mae nifer yn dathlu eu priodasau aur: Eileen a Ryan a Pat a Glan ar yr un diwrnod. Rhannodd Eileen a Ryan y gacen gyda’r pensiynwyr eraill yn y Neuadd.
Ar Fai 16 dathlodd Janice a Gareth eu Priodas Aur ac unwaith eto rhannwyd y gacen gyda phensiynwyr lleol.
Mae'r Neuadd leol wedi bof yn boblogaidd iawn ar gyfer brecwast priodas a blwyddyn nesaf bydd yn dathlu 50 mlynedd ers ei chodi.

19.4.09

NODDFA GARNSWLLT

Diwrnod prysur iawn oedd Dydd Gwyl Dewi. Yn y bore cynhaliwyd Oedfa'r Bore gan aelodau'r Ysgol Sul. Diolch i'r arolygyddes Ruddwen Mainwaring am baratoi'r plant. Hyfryd oedd gweld y capel wedi ei addurno gyda blodau'r gwanwyn a hefyd y plant yn eu gwisgoedd Cymreig.
Yn y prynhawn aeth aelodau'r Ysgol Sul i ymweld a chartref Tegfan. Cafwyd croeso twymgalon yno. Gillian Tannock oedd wrth y piano a'r organ.
Aeth 16 o aelodau Noddfa i Tabernacl Llanelli i'r Gymanfa Ganu o dan ofal Catrin Hughes ar gyfer y rhaglen deledu Dechrau Canu Dechrau Canmol. Darlledwyd y rhaglen ar Nos Sul 19 Ebrill a 28 Mehefin
.

20.3.09

EISTEDDFOD GARNSWLLT

Wrth edrych ar y newyddion a gweld wynebau fel Gari Owen ag eraill fel Meinir ag Eirian o Gwmann, Elsie Mainwaring Nicholas, Tom ag Idris Daniels, Graham Williams, Gladys Davies, Alun a'i chwaer Bethan Cairns, Enfys Jenkins, Edgar Jones, Ieuan Evans, Jennifer Evans Clark a nifer eraill a chofio iddynt oll ddechrau llwyfannu mewn eisteddfodau bach ar hyd a lled y wlad beth am ddod a'ch plant i gystadlu yn Eisteddfod Gamswllt?
Bu eisteddfod yng Nghapel Gerazim ers tua 1847 a hefyd eisteddfod ieuenctid yn Noddfa ar nos Wener ac eisteddfod agored drwy'r dydd Sadwrn.
Cynhaliwyd yr eisteddfod yn y Neuadd ers 1959/60.
Bu Gloria Lloyd yn cyfeilio ers dros 48 mlynedd heb golli ond un eisteddfod yn ystod y blynyddoedd a hynny o anhwylder.
Cynhelir yr eisteddfod eleni ar nos Wener, yr 8fed o Fai. Y beirniaid fydd Mair Wyn o Lanaman a Berian Lewis B.Mus., A.L.C.M.. Dip.Ed. o Gross Hands. Y gyfeilyddes fydd Gloria Lloyd B.A., L.R.A.M., A.R.C.M., L.T.C.L., Rhydaman. Y Llywydd fydd y Cynghorydd Audrey Jones, Betws.

25.1.09

Dathlu 90 oed

Llongyfarchiadau i Mrs Sarah French ar ddathlu ei phenblwydd yn 90oed. Yn y llun mae Mr Wynallt Richards yn cyflwyno cloc i Mrs French ar ran aelodau Gerazim. Cyflwynwyd y cloc iddi ar gyrraedd ei phenblwydd yn 90 oed ac hefyd am ei ffyddlondeb i Capel Gerazim. Cafodd Mrs French ei bedyddio yn y bedydd agored yn 1937. Mae wedi mynychu Gerazim am 71 o flynyddoedd, pryd hynny yn cerdded nôl ac ymlaen dair gwaith yr wythnos, hefyd mae wedi mynd i
Noddfa am dros 54 o flynyddoedd.

13.12.08

Medal Gee

Aeth bws o Noddfa, Garnswllt i Alltwen, Pontardawe ar ddydd Mercher 4ydd o Dachwedd, i weld y brawd Edgar Jones yn cael ei anrhydeddu am y gwaith Capel, Ysgol Sul ac yn gyn-arweinydd côr y plant a’r oedolion am dros 40 o flynyddoedd. Roedd hefyd wedi bod yn arweinydd corau meibion. Mae yna nifer o bobl wedi bod yn lwcus iawn o gael hyfforddiant dysgu canu gyda Edgar. Mae’n mynychu Ysgol Sul ac
oedfaon Noddfa yn gyson, ond nid yw’n hwylus iawn ar hyn o bryd, gobeithiwn fydd ei iechyd yn well. Edgar fydd Arolygwr yr Ysgol Sul flwyddyn nesaf.

8.11.08

DIOLCHGARWCH GARNSWLLT

Ar fore Sul 5ed o Hydref bu yr Ysgol Sul a gofal am y Cwrdd Diolchgarwch. Roedd y plant wrth eu bodd yn dod a ffrwythau a llysiau ac yn cymeryd rhan. Bendithiwyd y rhoddion gan Ivy. Diolchodd i bawb a bu yn addurno’r capel. Yna ar y Nos Lun fe fu y Parchg Mary Davies, Llandeilo yn gwasanaethu. Mae’r Parchg Mary Davies yn weinidog ar Gapeli Llandeilo a’r cylch, mae hefyd yn Lywydd y Cwrdd Senana. Bu rhai o aelodau’r Ysgol Sul yn dosbarthu’r ffrwythau i hen oed y pentre, Ysbyty Dyffryn Aman a Cartref Annwylfan.

5.10.08

David Morgan

Nôl yn yr haf gwobrwywyd David Morgan, mab Ivor ac Elaine Morgan Lôn-y-Felin am chwarter canrif o wasanaeth i’r heddlu.
David oedd yr unig un o Gymru i gael ei wobrwyo eleni gyda medal y Frenhines.
Dechreuodd ei yrfa gyda’r heddlu yn Caerlyr. Yna ar ôl chwech mlynedd daeth yn ôl i Aberystwyth fel swyddog cyswllt yn y gymuned ac hefyd swyddog cysylltiadau cyhoeddus.
Yn 1995 buodd yn gweithio gyda pobl ifan o dan ymddiredolaeth Tywysog Cymru yn Llanelli ble dderbyniodd wobr swyddog y flwyddyn.Mae David nawr yn gweithio ym mhencadlys heddlu Dyfed Powys yng Nghaerfyrddin yn hyfforddi cenhedlaeth newydd o blismyn
Help / Cymorth