Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

Showing posts with label Y Betws. Show all posts
Showing posts with label Y Betws. Show all posts

14.1.14

Diolchgarwch Capel Newydd

Yn ôl yr arfer bu plant ac aelodau Capel Newydd yn casglu pasta i’w danfon allan at anffodusion Rwmania, drwy law Val Newton. Mae Val yn wraig anhygoel, yn teithio droeon mewn cerbyd yn ystod y flwyddyn, I ddosbarthu nwyddau i’r tlawd yn Rwmania a Kosovo.
Mae hi hefyd yn derbyn rhoddion ar gyfer codi tai I deuluoedd anghenus yno, ac erbyn hyn, wedi llwyddo i ariannu dros gant ohonynt. Trosglwyddwyd swm anrhydeddus oddiwrth y capel hefyd ar gyfer y fenter yma.

27.12.13

Crwt o’r Betws yn ennill ei gap cyntaf i Gymru


Noson i’w chofio oedd hi i Rhodri Williams, mab i Alan a Launa o’r Betws pan enillodd ei gap cyntaf yn erbyn  Tonga nos Wener 22ain o Dachwedd. Wedi ei eni a’i fagi yn Waun Gron ond bellach wedi ymgartrefi yn Ffordd y Glowyr gyda’i bartner Jamie. Dechreuodd chwarae yn yr ysgol dan hyfforddiant  Mr Toni Williams a’i gefnogodd drwy’r blynyddoedd cynnar, cyn symud ymlaen i chwarae i dimau Ysgol Dyffryn Aman a Thîm Ieuenctid Rhydaman. Cafodd ei dalent ei adnabod a chyn bo hir roedd yn cynrychiolu timau dan 16, dan 18 a dan 20 Cymru. Yna, symudodd ymlaen i chwarae i dîm Llanymddyfri ac yna'r Scarlets cyn cyrraedd y brig i unrhyw chwaraewr rygbi sef cynrychiol ei wlad. Un peth doedd Rhodri  methu credu oedd y nifer a ddymunodd pob lwc iddo a dderbyniodd cyn y gêm a bod llond bws o gefnogwyr o’r Betws wedi teithio i Gaerdydd ar nos Wener i rannu ei lwyddiant. 
Yna wythnos yn ddiweddarach death Rhodri arno fel eilydd yn y gem rhwng Cymru ac Awstralia - Gobeithio mae’r capiau cyntaf o nifer fydd rhain.

2.11.13

Hwyl a chyffro'r mabolgampau

Un o brif ddigwyddiadau cymdeithasol y flwyddyn I nifer o Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol Sir Gaerfyrddin yw’r mabolgampau blynyddol. Unwaith eto eleni daeth cannoedd ynghyd i gefnogi’r fenter.
Trefnwyd dwy noson ranbarthol gyda’r ddau gyntaf ym mhob cystadleuaeth yn ennill yr hawl i gymryd rhan yn rowndiau terfynol y Sir. Bu Ela, Sara a Tomos, Ysgol Sul Capel Newydd yn llwyddiannus yn y rownd derfynol a gwelir nhw yn y llun gyda’u tystysgrifau a medalau.

4.10.13

Gweithred da

Yn dilyn damwain, tra’n beicio o Langadog i Frynaman ar y Mynydd Du cafodd Guto Evans gymorth gan Ambiwlans Awyr Cymru. Wedi cyfnod byr iawn yn Ysbyty Treforys penderfynodd Guto, gynt o Heol Betws ac yn saer gyda chwmni T.R.J., Betws, fynd ar daith noddedig, er budd yr elusen. Y bwriad filltiroedd mewn 24 awr - y beiciwr cyntaf i gyflawni yr hyn a elwir y “Merlin Ride” a hynny mewn diwrnod.
Ym mis Mehefin 2011 bu’n beicio 400 milltir o Dyddewi i Lowestoft a chodi £3,000 i’r elusen, a do, cyflawnodd y “Merlin Ride” a chodi cannoedd yn ychwanegol i Ambiwlans Awyr Cymru. Erbyn hyn, mae Anita, gwraig Guto, hefyd yn cadw cwmni iddo ar deithiau llai uchelgeisiol: tua 50 milltir. Dymuniadau gorau i’r ddau ohonynt yn eu hymdreichion at achos mor deilwng
.

17.9.13

Bwrlwm Bro


Cynhaliwyd Bwrlwm Bro Ysgolion Sul cylch Dyffryn Aman  yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman ar Dydd Sul 23 Mehefin. Prif bwrpas yr achlysur oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.

 Trefnwyd gemau a gweithgareddau o gwmpas “Sacheus: Y Bos Bach.” Cafwyd llawer o hwyl yn dysgu am y lleidr diegwyddor hwn wnaeth newid yn llwyr ar ôl iddo gwrdd gyda Iesu. Dysgwyd bod Iesu Grist yn parhau i newid bywydau a’i fod am i ni, fel Sacheus, ei dderbyn fel ffrind i’n bywydau.

Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw. Hyfryd oedd gweld yr Ysgolion Sul yn dod at ei gilydd a’r neuadd yn llawn a’r plant yn cael cymaint o hwyl yng nghwmni eu gilydd.

13.8.13

Tri yn ymddeol

Yn ddiweddar cynhaliwyd achlysur hapus yn swyddfa TRJ Betws I ddathlu a diolch I dri oedd yn ymddeol. Rhwng y tri gewithiwr rhoesant bron can mlynedd o wasanaeth clodwiw i'r cwmni.
Daeth mrs Janice Thomas o Dycroes yn syth o'r ysgol I weithio yn y swyddfa ac yno y bu am 48 mlynedd. gwr a gwraig o'r Betws yw'r ddaua rall, sef Arwel a Dianne Rees. Bu Arwel am 26 o flynyddoed yn brynwr i'r cwmni a'i wraig Dianne yn cynorthwyo am chwarter canrif.
 Cyfwlwynwyd rhoddion a blodau iddynt fel gwerthfawrogiad am eu teyrngarwch dros cynfier o flynyddoed gyda dymuniadau da am ymddeoliad hir ac iach.

21.6.13

Cylch Meithrin Y Betws


Os byddwch am le i blentyn yn y cylch yma, mae bron yn angenrheidiol i chwi lenwi ffurflen cyn y geni, oherwydd mae yna restr aros parhaol!Dengys hwn lwyddiant y gofal a hyfforddiant arbennig a roddwyd yma dros y blynyddoedd. Ers y cychwyn cyntaf ym 1977 mae nifer o athrawon a gofalwyr o safon uchel wedi gwasanaethu’r mudiad a channoedd o blant wedi elwa yn fawr. Mae dwy o’r athrawon presennol, sef Rhian a Shân wedi troedio i’r festri am dros ugain mlynedd, a’r drydedd, Sharon, dros ddeng mlynedd.
Cawsoch hanes ambell i ddigwyddiad ar y wefan hon yn barod, un arall cofiadwy oedd dysgu hwiangerddi i ganu mewn bore coffi er mwyn codi arian i apêl gwlad Lesotho. Hefyd, bu Sali Mali yn cadw cwmni i’r plant wrth iddynt ddathlu penblwydd y cylch yn 25 oed. Bellach mae 36 o flynyddoedd wedi gwibio heibio ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i ddathliad y pedwar deg.

16.5.13

Byd y Teledu


Mae dau frawd o Heol y Cyrnol wedi bod yn brysur yn ddiweddar o flaen y camerau. Iestyn, mab ieuengaf Andrea a Dafydd Jones yw un o’r wynebau a welwyd ar hysbyseb “Western Power”, yn gwisgo cot a helmet ei “dad”. Roedd yn ddiddorol darllen yng nghylchgrawn y cwmni, sut y gwnaethpwyd yr hysbyseb.
Dechreuwyd ar y cynllun ym mis Ionawr 2012, adeiladwyd pentref dychmygol mewn stiwdio, trefnwyd cyfweliadau ar gyfer y “tad” a’r “mab” ac yna bu’r golygfeydd allanol yn ardal Caerffili – tipyn o broses technegol yn ôl yr erthygl. Gyda llaw, os am weld y pentref model, ewch i’r Sioe Amaethyddol, Llanelwedd - cewch weld y trên yn symud drwy’r twnel.

Mae Gruffudd, y brawd hyn, sy’n ddisgybl ym Maes yr Yrfa, hefyd wedi bod ym myd y teledu yn ystod y misoedd diwethaf yn “Casualty”, “Pobol y Cwm” ac yn y gyfres sydd newydd ddechrau, sef “Gwaith Cartref”. Dymuniadau gorau i’r ddau ohonynt.

Masnach Deg

Bu nifer o aelodau Capel Newydd yn dathlu’r pumed “Banana Split” yn yr Arcade. Daeth tua 200 i fwynhau yr arlwy ac i estyn croeso i ffermwraig bananas masnach deg o St Lucia. Diolch i bawb a fu’n gysylltiedig yn y trefnu ac i’r ffermwraig Sandra Joseph am egluro sut oedd masnach deg yn gweithio yn St Lucia. Gweler dau o blant yr Ysgol Sul, Joshua a Sara, yn mwynhau yng nghwmni Sandra.

13.5.13

Cylch meithrin Y Betws


Yn ddiweddar, daeth llyfryn i’m meddiant, trwy law caredig Shân Jones, yn olrhain hanes sefydlu’r cylch. Am beth amser, yn y saith degau, bu rhai o famau y pentref yn sôn am ddechrau Cylch Meithrin yn y Betws, yn hytrach na theithio i Rydaman neu Garnswllt. Felly, cynhaliwyd cyfarfod i drafod y syniad yng nghwmni Anne Roberts, swyddog datblygu Mudiad Ysgolion Meithrin. Roedd ganddi athrawes, sef Eirwen Stephens, yn barod i ymgymryd â’r gwaith, a dewiswyd swyddogion sef Cadeirydd - Bethan Davies, Ysgrifenyddes - Vicky James a Thrysorydd Joyce Wenfold. Penderfynwyd gofyn i flaenoriaid Capel Newydd am logi’r Festri, i gynnal y cylch a rhoddwyd caniatâd i’r cais. Bu’r pwyllgor yn brysur am wythnosau yn codi arian i brynu dodrefn, ac yn y blaen, ac ar fore Mawrth, 19 Ebrill 1977 am 9.30 y bore, agorwyd y cylch, sy’n dal i fynd o nerth i nerth.
Mae’r lluniau yn dangos y plant presennol, ac yna plant 1986 gyda’r athrawes Bethan Thomas, cynorthwywraig Dianne Rees a’r Cadeirydd Bethan Davies. Tybed, a wyddoch pwy yw y plant?

12.4.13

Byd y Ddrama


Cynhaliwyd Gwobrau Adolygwyr Theatr Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar - noson wobrwyo newydd i anrhydeddu unigolion a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru. Datblygodd y gwobrau drwy cynllun a gychwynnodd dair blynedd yn ôl i annog pobl ifanc rhwng 12 a 25 oed i adolygu’r celfyddydau yng Nghymru.
Enillydd gwobr yr Actor Gorau oedd Simon Watts, mab Philip a Non Watts, Parc Bwtri Mawr am ei ran amlwg yn y ddrama “Llwyth”. Bu’r ddrama ar daith drwy Gymru ac yna i Gaeredin
a gwyl yn Nhaiwan. Mae Simon hefyd yn actio’r cymeriad “Gethin” ar Pobol y Cwm ac yn llwyddo’n eithriadol yno hefyd. Llongyfarchiadau mawr iddo.
Rebecca Harries (Sali Mali) o Landybie gipiodd y wobr am yr Actores Orau (mewn cynhyrchiad Cymraeg) am ei pherfformiad cofiadwy yn y ddrama “Llanast”.

7.4.13

Merched y Wawr - Cwmni Caws Caerfyrddin

Cafwyd noson wahanol, ond tu hwnt o ddifyr yn ddiweddar. Yr ymwelwyr oedd perchnogion Cwmni Caws Caerfyrddin, sef Sian Elin, merch Hywel ac Enid Davies, Heol Pentwyn a’i gwr Stephen Pearce. Bu eu merch, Mia yn olrhain hanes y cwmni ac yna bu’r aelodau yn mwynhau blasu pob
math o gaws a sudd Schloer. Yn cynorthwyo gyda’r paratoadau oedd eu mab Joseph ynghyd â Betsan, chwaer Sian Elin.
Ym mis Hydref 2012 enillodd y cwmni’r wobr gyntaf am gaws gafr yng ngwobrau “Gwir Flas”.
Cynhaliwyd y seremoni yn y ganolfan fwyd newydd ar faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Gyda llaw, cwmni TRJ, y Betws adeiladodd y ganolfan. Dyma drydedd wobr “Gwir Flas” i Gwmni Caws Caerfyrddin dderbyn yn ystod y dair blynedd ddiwethaf.
Dymuniadau gorau iddynt am lwyddiant pellach yn y dyfodol.

3.11.12

Cor Merched Lleisiau'r Cwm - Ras am Fywyd


Rhai aelodau Lleisiau'r Cwm a’u mascot Guto a redodd y Ras am Fywyd yn Abertawe eleni. Codwyd swm o £300 i Ymchwil Cancr. Mae'r côr wedi bod yn brysur yn ystod y flwyddyn yn codi arian tuag at elusennau lleol, ac maent yn bwriadu parhau i wneud hynny yn ystod y flwyddyn. Diolch i bawb am eu cyfraniadau hael.

Derbyn i'r Orsedd

Llongyfarchiadau i Dyfed Cynan, mab Geraint a Lowri Cynan ac wyr John a Mavis Williams, Heol Pentwyn a urddwyd i’r Orsedd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Morgannwg. Mae Dyfed wedi graddio o’r Central School of Speech & Drama, Llundain. Gwelir ef gyda’i dadcu John yng ngwisgoedd yr Orsedd.
Dymuniadau gorau i’r dyfodol, Dyfed.

1.11.12

Betws yn ei Blodau

Er gwaetha’r hin eleni llwyddodd nifer o’r pentrefwyr feithrin gerddi o’r safon uchaf.  Cynhaliwyd noson wobrwyo a gwelir isod y rhai ddaeth i’r brig yn y gwahanol gategoriau.
  • Basgedi crog: Brian Lewis, Heol Maescwarre;
  • Gardd fach: John Williams, Heol Betws;
  • Gardd ganolig: Mrs O’Brien, Heol Waungron;
  • Gardd fawr: Anne White, Heol Maescwarre;
  • Gardd fusnes: Cartref Annwyl Fan;
  • Yr Ardd orau: Anne White.

Llongyfarchiadau iddynt oll.
 
 

31.8.12

Tiwtor a dysgwr yn ennill gwobrau!


Llongyfarchiadau i Helen Rees am ennill “Tiwtor y Flwyddyn” a Phil Jones am ennill “Dysgwr y Flwyddyn” yng nghategori Cymraeg i Oedolion gwobrau Wythnos Addysg Oedolion Sir Gâr.
Mae Helen Rees yn gweithio fel tiwtor ar gyrsiau Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru ac yn dysgu dosbarth ym Mrynaman. Mae Phil Jones yn byw yn Y Betws.
Mae’r ganolfan yn rhan o Academi Hywel Teifi, Coleg y Celfyddydau a Dyniaethau, Prifysgol Abertawe. Wrth gyflwyno’r wobr i Helen, soniwyd am ei chefnogaeth tuag at ei dysgwyr a’i pharodrwydd i’w helpu nid yn unig yn y dosbarth ond tu fa’s i’r dosbarthiadau yn ei hamser ei hunan.
Dechreuodd y noson wobrwyo ym Mharc y Scarlets gyda’r grŵp “Fiddlebox” yn perfformio cerddoriaeth gwerin o bob rhan o’r byd. Dilynwyd hyn gyda un o sêr y rhaglen “The Secret Millionaire” Kevin Green yn sôn am ei  fywyd ysgol a’i lwyddiant ers hynny. Rhoddodd darn o gyngor i bawb, sef “Gwnewch y gorau dych chi’n gallu bob tro”.
Cyflwynwyd gwobr “Dysgwr y flwyddyn” i Phil Jones gan Keith Davies a soniwyd am ba mor benderfynol mae Phil wedi bod wrth wireddu ei freuddwyd i fod yn rhugl yn y Gymraeg. Buodd Phil yn yr ysbyty’n ddiweddar a chael clun newydd ac ymddangos nôl yn ei ddosbarth wythnos yn gwmws ar ôl ei lawdriniaeth!
Llongyfarchiadau unwaith eto i Helen a Phil.

8.8.12

Elusen - Y Betws

Yn dilyn eu dathliad Priodas Aur diweddar wele Huw a Jean yn trosglwydo sieciau i’r brawd Alun Davies, cynrychiolydd Ambiwlans Awyr Cymru ac i Rowena Fowler, is-gadeirydd Ymgyrch Ymchwil Cancr.

4.8.12

Ysgol Feithrin y Betws

Cynhaliwyd mabolgampau ym mharc Rhydaman ar Fai 24ain o dan nawdd Menter Aman ar gyfer Cylchoedd Meithrin ardal Rhydaman. Bu plant cylch y Betws yn hynod o lwyddiannus gan ennill nifer o fedalau a thystysgrifau. Bu’r tywydd hefyd yn garedig a chafwyd bore hwylus iawn. Mae'r Cylch wedi cau o ddydd Gwener, Gorffennaf 20fed dros gyfnod gwyliau’r haf.

29.7.12

Râs Hwyl Trap - Rhydaman a Betws yn ennill


Ennillwyr y Râs Iau oedd Christian Lovatt o Rhydaman ac Amber Howell o Betws sy'n cael eu llongyfarch gan dau o'r noddwyr Simon Griffiths o gwmni cludiant SJ Griffiths a'i Fab, a Jeff Phillips, Brecon Water. Y noddwr arall oedd Arwyn Williams, Gelli Plant.

Bu’r bumed râs ar hugain yn hanes Râs Hwyl ag Elusen Sioe Trap yn ddiwrnod llwyddiannus iawn gyda 220 o bobol o bob oed ac o bob cwr o’r de a’r gorllewin yn cymryd rhan. Ar fore’r râs roedd y pentref yn llawn bwrlwm gyda llu o gefnogwyr wedi troi allan hefyd.  Mae’n amlwg fod hon yn ddigwyddiad boblogaidd dros ben.  Yn sicr, mae wedi bod yn feithrinfa i lawer i athletwr ifanc dawnus.  Bum yn ffodus iawn i gael tywydd perffaith ar gyfer rhedeg a phawb yn llawn cyffro wrth i Mefin Davies, y bachwr rhyngwladol sy’n enedigol o Nantgaredig a wedi ennill 39 cap dros Gymru, danio’r gwn i ddechrau’r Râs Iau (2.8 milltir) a’r Râs agored (4.7 milltir).

 Christian Lovatt o Rhydaman, athletwr ifanc addawol dros ben a groesodd y linell derfyn i ennill y Râs Iau am y bumed flwyddyn yn olynol mewn 15munud 49 eiliad.  Roedd yn fraint i fod yno i’w weld yn rhedeg ac yn ennill gyda pherfformiad mor arbennig. Ef oedd seren y dydd heb os.  Rhaid nodi hefyd y rhedwr ifanc ddaeth yn ail iddo, sef Iestyn Williams o Landdeusant a orffennodd gydag amser o 17mun.46, er ei fod dal yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llangadog.  Y ferch gyntaf adre oedd Amber Howell o Betws, gan ennill am yr ail flwyddyn o’r bron, gydag amser o 19mun.06. 

 Yn y Râs Agored, John Morris, o Glwb Rhedeg Dyffryn Aman, oedd yn fuddugol mewn 26mun.23  - cyfnod llwyddiannus iawn iddo ef ag yntau newydd ennill Râs y Maer Caerfyrddin a Râs yr Ardd Fotaneg yn ddiweddar.   Y wraig gyntaf i groesi’r llinell oedd Louise Jones Evans, o Landyfan mewn 33mun.57 – y tro cytaf iddi rhedeg yn Râs Trap.

 Roedd yn gwbwl amlwg bo pawb a gymrodd rhan wedi mwynhau’r diwrnod – nifer fawr ohonynt yn dod nôl yn selog bob blwyddyn, eraill wedi dod am y tro cyntaf, a braf oedd gweld pawb yn gwisgo’u crysau’T’

Brecon Carreg a’r ennillwyr yn gwisgo eu crysau polo Gelli Plant ac SJ Griffiths a’i Fab, ein nofddwyr eleni eto - rhaid diolch iddynt am eu cefnogaeth i’r Sioe ac i’r gymuned leol.  Bydd elw’r râs eleni yn cael ei rannu rhwng Sioe Trap, cangen leol Sant Ioan a Neuadd y Pentref Trap.  Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi eleni ac ar hyd y cwarter canrif diwetha.  Gyda chefnogaeth cadarn, cydweithio parod, awyrgylch gyfeillgar a’r brwdfrydedd heintus  sydd yn gymaint rhan o’r digwyddiad, mae’r dyfodol yn argoeli’n dda ar gyfer y cwarter canrif nesa’ eto.




26.6.12

Bwrlwm Bro Dyffryn Aman 2012


Yn ddiweddar fe wnaeth Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) gynnal  Bwrlwm Bro ar gyfer Ysgolion Sul Dyffryn Aman yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Prif bwrpas yr achlysur oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.

Trwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau a gemau daeth yr hanes am Naaman y Syriad  yn fyw ym mhrofiad y plant. Cafwyd llawer o hwyl wrth ddysgu am y ffordd bu’n rhaid i’r gŵr pwysig hwn ddarostwng ei hun gerbron Duw er mwyn cael iachâd o’r gwahanglwyf. Yn yr un modd, dysgodd y plant bod rhaid i ni hefyd ddarostwng ein hunain gerbron Duw gan ddweud “sori” am ein beiau er mwyn derbyn o’i  faddeuant rhad. Diweddwyd y gweithgaredd wrth i bob un o’r plant ysgrifennu gweddi fer ar bapur lliwgar cyn eu gludo ar groesbren.

 Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a pherthnasol ar gyfer heddiw. Pan ddaeth yn amser i ymadael roedd yn amlwg wrth wynebau llawen y plant eu bod wedi mwynhau`n fawr y profiad o gael uno gyda'i gilydd mewn dathliad  cyfoes o`r ffydd.

Help / Cymorth