Cynhaliwyd
Bwrlwm Bro Ysgolion Sul cylch Dyffryn Aman
yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman ar Dydd Sul 23 Mehefin. Prif bwrpas yr achlysur oedd calonogi a sbarduno gwaith yr Ysgolion Sul
trwy roi cyfle llawn hwyl i blant ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd.
Trefnwyd gemau a gweithgareddau o gwmpas
“Sacheus: Y Bos Bach.” Cafwyd llawer o hwyl yn dysgu am y lleidr diegwyddor hwn
wnaeth newid yn llwyr ar ôl iddo gwrdd gyda Iesu. Dysgwyd bod Iesu Grist yn
parhau i newid bywydau a’i fod am i ni, fel Sacheus, ei dderbyn fel ffrind i’n
bywydau.
Y nod oedd gwneud yr Ysgol Sul yn achlysur llawn hwyl, heb golli golwg
ar y prif bwrpas o gyflwyno efengyl Iesu Grist mewn ffordd syml, ddealladwy a
pherthnasol ar gyfer heddiw. Hyfryd oedd gweld yr Ysgolion Sul yn dod at ei
gilydd a’r neuadd yn llawn a’r plant yn cael cymaint o hwyl yng nghwmni eu
gilydd.
No comments:
Post a Comment