Bu dros fil o bobl a sefydliadau lleol yn
gorymdeithio drwy dref Caerfyrddin dydd Sadwrn, 29 Mehefin, wrth i seremoni
Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr gael ei chynnal yn y dref. Daeth
cannoedd yn fwy o bobl i Gaerfyrddin i fwynhau’r seremoni a’r diwrnod o
adloniant i’r teulu, wrth i bawb ddathlu dyfodiad y Brifwyl i’r sir ym mis Awst
y flwyddyn nesaf.
Bu Gorsedd y Beirdd yn gorymdeithio drwy’r dref cyn
cynnal y seremoni Gyhoeddi ym mharc y dref ac roedd y seremoni eleni’n
arwyddocaol, wrth i Archdderwydd newydd gael ei hurddo i’r swydd. Dyma’r
tro cyntaf erioed i ferch ddal swydd yr Archdderwydd, gan dorri ar draddodiad
cannoedd o flynyddoedd, a bydd yr Archdderwydd Christine yn gyfrifol am
yr Orsedd a’i seremonïau am y tair blynedd nesaf.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ar y
Meysydd Gŵyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, o 1-9 Awst y flwyddyn
nesaf. Am fwy o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.org.uk.
No comments:
Post a Comment