Mae wastad diddordeb mawr yng nghystadleuaeth
Cwpan Denman, sef cystadleuaeth Undeb yr Annibynwyr ar gyfer ysgolion Sul
Cymru. Yr her eleni oedd creu baner ar y thema "Stori Fawr
Duw".
Ysgol Sul
Gellimanwydd, Rhydaman ddaeth yn fuddugol. Yn y llun mae rhai o blant yr ysgol
Sul yn arddangos y gwpan gyda'r faner yn y cefndir. Yn ogystal ac ennill y
cwpan derbyniwyd siec o £200 a fydd yn cael ei ddefnyddio at waith yr ysgol Sul.
Mae’r Ysgol Sul wedi ail ddechrau ac mae croeso i
bawb ymuno a ni ar fore Sul yn Neuadd Gellimanwydd
No comments:
Post a Comment