Cynhaliwyd mabolgampau ym mharc Rhydaman ar Fai 24ain o dan nawdd Menter Aman ar gyfer Cylchoedd Meithrin ardal Rhydaman. Bu plant cylch y Betws yn hynod o lwyddiannus gan ennill nifer o fedalau a thystysgrifau. Bu’r tywydd hefyd yn garedig a chafwyd bore hwylus iawn. Mae'r Cylch wedi cau o ddydd Gwener, Gorffennaf 20fed dros gyfnod gwyliau’r haf.
No comments:
Post a Comment