Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

13.10.07

Urddo yn yr Eisteddfod





Llongyfarchiadau i Aled Rhys Hughes, Rhydaman. Ar ei urddo i Urdd Derwydd er Anrhydedd am ennill y Fedal Aur Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Abertawe y llynedd.
Hefyd i Alun Morgan Lloyd (Alun), Heol Waunfarlais Llandybie ar gael ei ddyrchafu o Urdd Ofydd i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i'r Orsedd a’r Eisteddfod, ac i Eifion Price, Rhydaman ar ei dderbyn i'r Urdd Ofydd er Anrhydedd- Cerddor medrus y mae'r Urdd a'r Genedlaethol wedi elwa'n fawr ar ei gymorth yn hyfforddi a chyfeilio i genedlaethau o blant a ieuenctid. Mae Eifion yn rhan annatod o gwmni Jac-y-Do. LLongyfarchiadau i'r tri.

No comments:

Help / Cymorth