Mae ysgol Babanod Rhydaman wedi bod yn brysur yn ddiweddar. Cafodd tim athletau yr Ysgol ddiwrnod llwyddiannus iawn yn y mabolgampau dan do yng Nghanolfan Ysgol Gyfun Rhydaman. Yn y llun gwelir nifer o’r plant gyda’i medalau. Wrth sôn am chwaraeon dathlwyd y diwrnod mabolgampau mewn steil. Fe wenodd yr heulwen ar y plant ar y diwrnod arbennig. P
encampwyr eleni oedd Steffan Williams a Nia Rees o'r ffrwd Gymraeg. Yn ogystal mae’r clwb garddio yr ysgol yn mynd o nerth i nerth. Yn ystod y tymor diwethaf meant wedi tyfu tatws, pys a maip yn ogystal a blodau. Rhoddwyd y maip i Mrs Barbara Hanner i’w berwi a cafodd pawb gyfle i’w blasu.
Mae’n siwr bod pawb ym mhob ysgol yn yr ardal yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau amrywiol tebyg i’r uchod. Cofiwch adael i ni yn Glo Mân wybod beth yr ydych wedi bod yn ei wneud er mwyn i ni adrodd yr hanes. e-bostiwch edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk
No comments:
Post a Comment