Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

14.11.07

RAY GRAVELL, 1951 -2007

Cafodd Cymru gyfan ei hysgwyd gan y newydd am farwolaeth disymwth Ray Gravell tra roedd ar ei wyliau gyda’i deulu yn Sbaen. Rhyfedd meddwl i hyn ddigwydd ar 31 Hydref 2007, 35 o flynyddoedd i’r diwrnod y curodd crysau cochion Llanelli grysau duon Seland Newydd ar Barc y Strade. Y diwrnod canlynol ar 1 Tachwedd fe gafwyd teyrngede lu iddo fe. Roedd hi’n ddiwrnod dathlu penblwydd S4C yn 25 mlwydd oed. Cyfranodd Grav gymaint i fyd y bel hirgron ac i ddarlledu yng Nghymru, ac er iddo deithio i bellderoedd byd yn sgîl y ddeubeth yma, boi ei filltir sgwar oedd Ray. Siaradai byth a beunydd am Fynydd y Garreg ac o barch i’w bentref genedigol ewisiodd yr enw “Ray o’r Mynydd” fel ei enw yn yr Orsedd. Fe oedd Ceidwad y Cledd, diolch i weledigaeth y Prifardd Dafydd Rowlands. O safbwynt yr Eisteddfod Genedlaethol roedd yn ffigwr eiconig. Ym mhob gorymdaith gwnaeth ei waith gydag
urddas.
Roedd yn gymeriad llawn a lliwgar. Fe frwydrodd mor ddewr dros y chwe mis diwetha
wedi iddo dderbyn llawdriniaeth go eger o ganlyniad i glefyd y siwgr. Er iddo golli ei goes ni laddwyd ei agwedd bositif tuag at fywyd. Gwellodd yn ddigon da i ymweld ag Eisteddfod Gendlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin – y sir a garai gymaint, a braf oedd gweld ymateb y dorf i’w ymddangosiad. Roedd gan bawb air da am Grav.
Roedd yn Gymro o’i gorun i’w sawdl, yn wir roedd yn llawenhau yn ei Gymreictod ac yn rhannu hyn gydag eraill. Roedd yn gennad da i’r iaith Gymraeg ac yn Gymro cynhwysol a defnyddiol a ymhyfrydai yn niwylliant ein gwlad. Un o’i arwyr pennaf oedd Owain Glyndwr ond y gwir yw fod dylanwad Grav wedi ei wneud ef ei hun yn arwr i lawer.
Yn anterth ei yrfa fel chwaraewr rygbi roedd yn gawr o ganolwr ond o dan yr wyneb roedd yna berson sensitif a hynaws yn cuddio. Tra’n chwarae dros ei wlad roedd yn aelod hoffus o’r garfan. Fe hefyd oedd diddanwr y tîm gan wybod bob gair o bob cân a ’sgrifennodd Dafydd Iwan. Yn ddiweddarach fe ddaeth y ddau yn ffrindiau mawr, ac fe ysgrifennodd Dafydd englyn coffa iddo:

Canaf i Raymond Gravell – y corwynt
Cywiraf ei anel,
Diolch a wnaf yn dawel
I wir ffrind – a, Ray, ffarwél.

Roedd ei gartref a’i deulu’n bopeth iddo. Diolchai’n gyson am deyrngarwch Mari ei wraig tra bu’n wael yn yr ysbyty a phob tro y byddai’n cyfeirio at y merched, Manon a Gwennan, roedd gwên ar ei wyneb. Mae ein cydymdeimlad â nhw’n ddidwyll. Er ei hoffder o’i gartref roedd ganddo ail aelwyd – Parc y Strade. Yn Llywydd y Sgarlets
braf oedd clywed y tô ifanc yno’n sôn amdano fel ffrind da a’u hysbrydolodd i roi o’u gore. A fanno fydd y gwasanaeth angladdol. Yn wir ni fyddai’r un capel yn ddigon mawr i ddal y gynulleidfa.
Pan feddyliwn am Fynydd y Garreg fe wyddom mai fan hyn bu Ray yn chwarae’n blentyn ac roedd yn para i gerdded y llwybrau. Tristwch pellach felly oedd ei farw mewn gwlad estron. Mor briodol yw’r cwpled o un o englynion coffa Hedd Wyn:
Troedio wnest ei rhedyn hi,
Hunaist ymhell ohoni.
Coffa da amdano fe ond mi fyddwn yn para i glywed ei lais am flynyddoedd yn datgan West is Best.

No comments:

Help / Cymorth