Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

10.1.08

CYNGERDD BANDIAU LLEOL

Yn dilyn damwain car pedwar mis yn ôl, cefais anaf difrifol i fy mraich dde a wnaeth bygwth fy ngallu i’w symud a’i defnyddio, mi roedd hyn yn amlwg yn ergyd drom yn enwedig i rhywun sydd yn ymfalchïo yng ngherddoriaeth drwy chwarae’r piano a’r ffliwt. Ond diolch i wyrthiau meddygon Ysbyty Treforys, a gofal arbennig staff y ward ac adran ffisiotherapi'r uned losg a llawfeddygaeth blastig dwi bellach wedi gwneud gwellhad llwyddiannus. O ganlyniad i hyn rwyf yn trefnu gig i godi arian i’r uned er mwyn rhoi diolch ac i helpu cynnal y safonau arbennig sydd ar gael yno.

Mi fydd y digwyddiad cerddorol, cyffrous lleol yma gan fandiau a’i wreiddiau yn Nyffryn Aman yn cymryd lle yng ngwesty a bwyty’r Mountain Gate yn Nhycroes, Rhydaman, ar yr 2ail o Chwefror 2008 am 19:00. Y bandiau fydd yn ymddangos bydd -

Eskimo, band newydd sydd eisoes wedi ymddangos ar raglenni Wedi 7 ac Uned 5 ar S4C, Starsci - band a ffurfiwyd yn 2006 sydd newydd orffen recordio ei albwm cyntaf yn stiwdio Fflach, Aberteifi, a fi fy hun sef Gruff Rees, yn perfformio set fydd yn cynnwys y sesiwn exclusive nes i recordio ar gyfer BBC Radio Cymru a chaneuon fydd yn ymddangos ar fy albwm newydd fel cerddor cyfansoddwr.

Yn cyflwyno’r noson bydd y gyflwynwraig BBC a S4C adnabyddus Alex Jones, a hefyd Matthew Johnson, mae’r ddau wedi ymddangos yn ddiweddar yn cyflwyno rhaglen lwyddiannus BBC Wales ‘Be…’.

Mae gan y 3 band a’r cyflwynwyr gysylltiad agos iawn i Rydaman sydd yn dod a naws lleol i’r noson, ac mae’r holl gyfranwyr yn edrych ymlaen at noson fydd llawn adloniant yn ogystal â chodi arian at achos teilwng iawn.

Yn ogystal â gofyn £5 y tocyn, rydym hefyd yn bwriadu cynnal raffl a hefyd ocsiwn o wahanol wobrau er mwyn codi arian. Rydym felly yn awyddus iawn i ofyn i fusnesau a chymdeithasau lleol am unrhyw gyfraniad tuag at wobrau i’r raffl a’r ocsiwn. Mi fyddwn yn hynod ddiolchgar am unrhyw beth fedrwch gynnig.

Os hoffech gyfrannu mewn unrhyw fodd, neu oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen gwybodaeth bellach, fedrwch gysylltu â mi ar y wybodaeth isod.

Mawr Ddiolch


Gruffydd Sion Rees

No comments:

Help / Cymorth