Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

5.10.08

MAER CWMAMAN


Yng nghanol mis Mai, cafodd Dafydd Wyn, Heol Tirycoed, Glanaman ei urddo ar rhan y Gymuned yn Nyffryn Aman yn Faer Cwmaman am y flwyddyn 2008- 2009. Cafwyd noson arbennig yn Swyddfa’r Cyngor yng Nglanaman ac roedd Meiri’r ardaloedd cyfagos yn bresennol. Hyfryd hefyd oedd gweld Mair Wyn yn cael ei hurddo fel Maeres Cwmaman. Ers eu priodas, y mae’r ddau wedi byw yn Nhircoed am 33 o flynyddoedd ac wedi codi tri phlentyn, Jane, Gwydion a Meleri sydd bellach yn eu swyddi oddi cartref.Cafwyd gwledd yng Nghlwb Golff y Garnant ac yr oedd yn noson fendigedig o rhan y tywydd a’r olygfa fendigedig o’r adeilad hwn yn dwyn eich hanadl. Diolch o galon i Elaine a’r staff am fwyd rhagorol. Codwyd £200 yn ystod y noson a bydd yr elw yma yn mynd i Gronfa Ysbyty Dyffryn Aman.Ar y bore Sul canlynol cafwyd Gwasanaeth Ddinesig yng Nghapel Bethel Newydd ble mae Dafydd a Mair yn aelodau. Yr oedd y gwasnaeth dan ofal y Parchedig Gwyndaf Jones, Caplan y Maer, gyda Mrs Olwen Richards ar yr organ. Cafwyd darlleniad gan y Maer a gweddi hyfryd gan Mrs Bethan Williams, Dirprwy Gaplan y Maer. Darllenodd y Faeres y gerdd Sacheus gan Gwenallt a chafwyd pregeth bwrpasol iawn gan y gweinidog. Cyflwynwyd y casgliad i’r Wythnos Cymorth Cristionogol yn y Cwm.Dymunwn bob hwyl i Dafydd a Mair yn y flwyddyn brysur sydd o’u blaenau. Mwynhewch eich hunain.

No comments:

Help / Cymorth