Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

5.10.08

STEPHEN JENKINS


Llongyfarchiadau i Stephen Jenkins,53 Ffordd Wern Ddu,Rhydaman (mab i Dyfrig a Karen Jenkins) ar ennill gradd 2.1 mewn daearyddiaeth (B.A.Hons) yn ngholeg Yr Iesu,Rhydychen.
Cyn ddisgybl Ysgol Dyffryn Aman yw Stephen ac yn ystod ei dair mlynedd yn y Coleg mae wedi chwarae rhan flaenllaw mewn pob math o fabolgampau;yn enwedig Rygbi. Cafodd ei wneud yn gapten rygbi Coleg Iesu cyn ennill lle yn nhim Rygbi dan 21 Rhydychen. Yn ystod gém rhwng Rhydychen a Chaergrawnt ar y 6ed.Rhagfyr 2007 cafodd Stephen ei enwi fel seren y gém am chwarae rhan yn y cais buddugol.
Blwyddyn nesaf bydd Stephen yn dysgu daearyddiaeth a mabolgampau yn ysgol St.Edwards yn Rhydychen. Tros dro bydd hun gan mai ei fwriad yw mynd ymlaen i Lundain neu mynd yn ol i Rhydychen i wneud ei ddoethuriaeth.

No comments:

Help / Cymorth