Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

31.5.09

Cylchoedd Cinio Cymraeg Rhydaman a Tybie

Nos Fercher, Ebrill 8fed gwahoddwyd aelodau Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman i ginio gyda Cylch Cinio Tybïe a gynhaliwyd yn y Clwb Golff Glynhir. Llywyddwyd y noson gan Gareth Jones, Cadeirydd Cylch Cinio Tybïe a’r prif westai oedd Huw Evans, Llundain.

Er mai yn Cross Hands y ganwyd Huw fe ddaeth i fyw i Rhydaman yn gynnar iawn yn ei fywyd a mynychodd Ysgol Gynradd Rhydaman ac Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Graddiodd mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ennill gradd uwch ym Mhrifysgol Rhydychen. Symudodd i Lundain ac fe weithredodd fel Gwas Sifil i lywodraeth Ted Heath ac Harold Wilson. Ef oedd ymgynghorydd y llywodraethau hyn ar faterion yn ymwneud â’r Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsels a Strasbourg. Y mae yn awr yn athro Mathemateg yn Swydd Surrey.

Testun ei anerchiad oedd ‘Y Manteision o fod yn Gymro Cymraeg’ ac fe roddodd inni lawer enghraifft o’r manteision hyn. Diolchodd am y fagwraeth a gafodd yng Nghapel Bethani, Rhydaman ac yn Aelwyd yr Urdd yng Nghapel Newydd, Y Betws o dan arweiniad Mrs. Gwenith Davies a Mrs. Enid Davies.

Sylweddolodd yn fuan pan yn Llundain a Swydd Surrey na gafodd trigolion yr ardal honno y cyfleoedd a gafodd ef pan yn grwt yn Rhydaman. Soniodd hefyd am ganlyniad arolwg diddorol a wnaed gan griw o Fathemategwyr o Loegr. Daethont i’r casgliad fod plant a oedd yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg llawer ar y blaen ym Mathemateg na phlant a oedd yn uniaith Saesneg. Bu’r ffaith hefyd ei fod yn Gymro o fantais fawr iddo pan yn ceisio bargeinio gyda’r Ffrancwyr ar faterion yn gysylltiedig â’r Farchnad Gyffredin. Daeth yn hysbys iddo yn go fuan nad oedd gan y Ffrancwyr lawer o feddwl o’r Saeson – roedd yr elfen ‘Anglo Saxon’ yn eu cynhyrfu. Pan y pwyntiodd allan i’r Ffrancwyr mai Cymro oedd ac mae Cymraeg ac nid Saesneg oedd ei iaith gyntaf a bod yr elfen ‘Anglo Saxon’ wedi bod yn boen i ni hefyd fel Cymry fe’i ffeindiodd hi yn haws i ddod i ddealltwriaeth â hwy.

Cafwyd noson arbennig gan siaradwr oedd a Chymraeg gloyw a chyfoeth iaith er iddo dreulio blynyddoedd lawer yn Lloegr. Diolchwyd iddo gan Alun Richards, Llywydd Cylch Cinio Rhydaman.

No comments:

Help / Cymorth