Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

28.5.09

Clwb Rygbi Tycroes -Cyfraniad Teulu y Defisiaid

Tïm dan 15 Clwb Rygbi Tycroes ym Mhorth Tywyn rhai blynyddoedd yn ôl gyda’u hyfforddwr Wayne Williams (chwith) a’u cadeirydd y pryd hynny, y diweddar Eurof Davies (dde)

Yn rhaglen gêm y Scarlets yn erbyn Caeredin ar Barc y Scarlets ar Sul, Mawrth 8fed rhoddwyd sylw arbennig i glwb Rygbi Tycroes
Ffurfiwyd y clwb yn 1911 ac er gorfod gwynebu sawl her y mae yn parhau yn ganolog yn y gymuned. Y mae gan y clwb chwe tîm plant a ieuenctid – o dan wyth i dân 16 – gyda mwy na 100 o chwaraewyr. Fe’u rheolir gan Gadeirydd yr Ieuenctid Beth Davies a’r Ysgrifennydd Sion Aled Higgins.
Yn y rhaglen cyfeiriodd Cadeirydd y clwb, Meirion Powell, at gyfraniad arbennig Mrs. Olwen Davies, Heol Penygarn a’i theulu. Mae Olwen wedi bod yn Drysorydd yr Ieuenctid am dros bedair blynedd ar ddeg a hi hefyd sy’n bwydo’r tîm bob wythnos gyda’i sglodion a selsig arbennig ac mae Olwen bob amser yn barod beth bynnag fo’r angen gyda gwên gynnes. Diolch yn fawr iddi am ei gwasanaeth.
Bu farw Eurof, priod Olwen, tua blwyddyn yn ôl a bu yntau yn gadeirydd y clwb am bron i ugain mlynedd. Gweithia yn gyson yn y clwb a hynny yn llawn brwdfrydedd. Pleser mawr iddo oedd gweld chwaraewyr ifanc yn datblygu i fyny’r rhengoedd i dîm yr ieuenctid ac yna i’r tîm cyntaf. Fe welir eisiau Eurof gan bawb sy’n gysylltiedig â’r clwb, medd y cadeirydd presennol, Meirion Powell.
Mae eraill o’r teulu hefyd yn ymroi i weithgareddau’r clwb. Mae Alun, mab Eurof ac Olwen, yn weithgar gyda’r tîm ieuenctid ac mae Bethan, eu merch, yn aelod brwd o’r pwyllgor cyffredinol. Mae gweithgaredd y teulu hwn yn esiampl o deuluoedd ymroddgar o weithwyr cydwybodol sydd mor bwysig i lwyddiant unrhyw glwb cymunedol ac mae’r ysbryd hyn yn cael ei adlewyrchu gan y chwaraewyr ar y cae.
Yn ychwanegol i’r timoedd presennol ceisir ail sefydlu tîm rygbi’r merched. Enillodd y merched rhai tymhorau yn ôl y gynghrair a’r cwpan. Bu Bethan Gwanas sydd yn cyflwyno y rhaglen ‘Yn yr Ardd’ ar S4C yn aelod o dîm merched y clwb.
Enghraifft arall o ysbryd anturus y clwb yw sefydlu pwyllgor i redeg y bar. Mae gan y clwb hefyd ystafell lle y gellir cynnal cyngherddau a sioeau ac sydd hefyd yn addas i gynnal gwledd briodas neu unrhyw fath o barti.Mae Mr. Powell yn sicr bod y noddi presennol gyda phwyllgor cyffredinol gweithgar sy’n cadw golwg barcud ar y costau y dont dros yr ansicrwydd economeg sy’n llethu’r byd ar hyn o bryd. Byddant mewn dwy flynedd mewn cyflwr arbennig i ddathlu eu canmlwyddiant. Yn y cyfamser ymhlith y gweithgaredd cymdeithasol am eleni fe gynhelir parti ar y cae rygbi ar Fehefin 20fed

No comments:

Help / Cymorth