Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

18.10.09

Aelwyd Amanw

Prynhawn Dydd Gwener, Gorffennaf 24, daeth criw da ynghyd i ddathlu agoriad Aelwyd Amanw ar ei newydd wedd. Roedd yno bobl yn cynrychioli’r noddwyr a chymdeithasau lleol a rhai oedd wedi teithio o bell - rhai oedd wedi cael pleser mawr yn yr Aelwyd yn ystod eu hieuenctid. Croesawyd pawb gan Mair Thomas, y cadeirydd, a chyflwynwyd cyfarchion ar ran yr Urdd
gan Mr Bob Roberts, Llanedi cyn cyhoeddi’r agoriad yn swyddogol gan Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru. Yna, rhannodd Y Parchg E.D. Morgan (Llanelli) ei atgofion ef am y dyddiau cynnar, a Glan Davies (Aberystwyth nawr), Glynog Davies (Brynaman) a Sarah Hopkin (Brynaman) eu hatgofion am eu dyddiau nhw yn yr Aelwyd - profiad diddorol ac adloniadol i’r gwrandawyr. Diolchwyd i’r noddwyr a wnaeth y prosiect “Ehangu ac Adnewyddu” yn bosibl, gan y Trysorydd, Brian Humphries.
Rhaid diolch hefyd i “Community Design Gwent” am yr Astudiaeth Dichonolrwydd, ac i Gemma, oedd ar staff Anturiaeth Dyffryn Aman, am gymorth gyda’r cais ar y dechrau.
Wedi’r diolchiadau, cafwyd gwledd o fwyd (a baratowyd gan wragedd pwyllgor Aelwyd Amanw), a chyfle i bawb oedd yn bresennol i rannu atgofion.
Mae cyfarfodydd Adran Amanw wedi ail ddechrau a bydd croeso i blant 7-11 oed yn yr Aelwyd ar Nos Fercher o 6 - 7.30. Mae’r plant oedd yn dod cyn yr haf wedi dod yn ôl am fwy o hwyl a sbri ond bydd digon o groeso i aelodau newydd hefyd.

No comments:

Help / Cymorth